140 likes | 316 Views
Yn yr uned hon byddwn yn edrych ar bwysigrwydd manyleb ddylunio. Manylebau Dylunio. Byddwn : yn edrych ar bwrpas manylebau dylunio. yn edrych ar gynnwys manyleb ddylunio. yn penderfynu pa bwyntiau manyleb sy’n bwysig.
E N D
Yn yr uned hon byddwn yn edrych ar bwysigrwydd manyleb ddylunio. Manylebau Dylunio • Byddwn : • yn edrych ar bwrpas manylebau dylunio.. • yn edrych ar gynnwys manyleb ddylunio. • yn penderfynu pa bwyntiau manyleb sy’n bwysig.
Yn yr uned hon rydym wedi cyfuno arbenigedd tri unigolyn gwahanol er mwyn dangos sut maen nhw’n defnyddio manylebau dylunio. Gan fy mod wedi gweithio fel dylunydd graffeg rwyf wedi cyfuno rhai o’r dulliau roedden ni’n eu defnyddio yno gyda’r rhai rydym yn eu defnyddio yn yr adran. Dwi wedi dysgu disgyblion sut i ddylunio ers nifer o flynyddoedd ac wedi profi nifer o strategau. Mae gen i fy nghwmni dylunio fy hun ac mi fydda i’n dangos i chi sut mae dylunwyr masnachol yn gweithio.
Tasg Mae cwmni dodrefn KIAE wedi gofyn i chi ddylunio desg ar gyfer ystafell wely plentyn. Gweithiwch mewn parau i ddylunio syniad y gallwch ei gyflwyno i’r cwmni. Mae gennych chi 10 munud.
Dyluniad y ddesg Dyluniad y ddesg Dyluniad y ddesg Syniad dylunio 1 Syniad Dylunio 2 Syniad Dylunio 3 Syniad dylunio 2 Faint o’ch syniadau chi oedd yn debyg i’r rhain?
Barn y dylunwyr am y syniadau dylunio. O’r gorau, ystod o syniadau diddorol, ond doedd eich athro ddim wedi rhoi rhai manylion pwysig roedd angen i chi eu gwybod wrth ddylunio – unrhyw syniadau? Oedd y dasg yn eglur? Gall plant amrywio mewn oed rhwng 3 a 12 oed. Roedd yn rhaid i chi ddyfalu at ba ystod oed i anelu’r cynnyrch. Gall dyfalu arwain at gamgymeriadau.
Fel rydych chi wedi sylwi mae “Dyluniwch ddesg ar gyfer ystafell wely plentyn” mor amhendant fel ei bod hi’n anodd gwybod beth yn union sydd ei angen, a sut i ymateb yn gywir i ofynion y cwsmer. I oresgyn y broblem hon mae dylunwyr yn defnyddio manyleb ddylunio sy’n disgrifio mewn manylder beth fydd yn rhaid i’r cynnrych gorffenedig ei wneud i fod yn llwyddiannus.
Cyn i chi fynd yn ôl at ddylunio’r ddesg i blentyn 5 oed, (Do, wnes i gofio dweud yr oed wrthoch chi’r tro hwn), gallai fod o help i chi roi cynnig ar y tasgau hyn: Ar gyfer pob un o’r cynhyrchion dewiswch pa ddatganiad sy’n agwedd bwysig o’r cynnyrch hwnnw a pha ddatganiad sydd ddim yn bwysig. Rhowch gynnig arni.
Ateb Beiro 1. Rhad i’w gynhyrchu a’i werthu 2. Mae’n ffitio’n gyfforddus yn y llaw 3. Gellir ei defnyddio i droi paned 4. Mae’n ysgrifennu’n dda 5. Gellir cynhyrchu nifer sylweddol yr un pryd. 6. Defnyddiol at grafu pen 7. Dibynnol
Ateb Styffylwr 1. Mae’n rhad i’w gynhyrchu a’i werthu 2. Mae’n ffitio’n gyfforddus yn y llaw 3. Dibynnol 5. Mae’n dal dŵr 4. Lliw dymunol 6. Hyblyg 7. Gall styffylu nifer o dudalennau gyda’i gilydd.
Esgidiau hyfforddi Ateb 1. Rhad i’w cynhyrchu 2. Ffitio’n gyfforddus 3. Gellir cynhyrchu nifer sylweddol yr un pryd. 4. Maen nhw’n edrych yn dda 5. Maen nhw’n dal dŵr. 6. Defnydd hyblyg 7. Rhad i’w prynu 8. Pwysau ysgafn
Felly pa wybodaeth sydd ei angen arnom i gynllunio’r ddesg hon? Oedran y plentyn? Ai ar gyfer bachgen neu ferch? Beth maen nhw’n hoffi? – oed, rhyw, edrychiad. At ba bwrpas byddan nhw’n defnyddio’r ddesg? Peintio, ysgrifennu, storio llyfrau – pwrpas. Beth fydd maint y plentyn? – mesuriadau. Pam mor ddiogel fydd y ddesg iddynt i’w defnyddio? Ochrau miniog – diogelwch.
Manyleb:- (Desg i blentyn 5 oed)) • Edrychiad • Gallu denu sylw plentyn 5 oed. • Defnydd effeithiol o liwiau. • Yn seiliedig ar gymeriadau sy’n addas i blentyn 5 oed. Rydym wedi defnyddio’r cwestiynau blaenorol wnaethon ni eu gofyn i ni’n hunain i greu canllawiau ddylai sicrhau y bydd y cynnyrch yn cael ei gynllunio’n llwyddiannus • 2. Pwrpas. • Ymarferol – ysgrifennu, lliwio, peintio. • Storio offer lliwio – creons, pensiliau lliw, llyfrau lliwio. • 3. Cynaladwyedd • Defnyddiau crai sy’n cael effaith isel ar yr amgylchedd. • Wedi ei chynllunio’n dda, wedi ei hadeiladu’n dda fel y gellir ei phasio ymlaen i blentyn arall. • 4. Diogelwch • Diogel i’w defnyddio, dim corneli miniog. • Gorffeniad di-wenwyn. • 5. Mesuriadau. • Maint sy’n addas i blentyn 5 oed.
Edrychiad Maint Diogelwch Pris Pwrpas Cynaladwyedd Gwydnwch Pwysau Rydym wedi gweld pwysigrwydd manyleb eglur. Dylai’r wybodaeth fod yn ddigonol i’r dylunydd allu gwybod yn union beth sy’n rhaid i’r cynnyrch ei wneud (pwrpas) a sut y dylai edrych (edrychiad). Mae angen ystyriaeth bellach i nifer o’r manylion yn y fanyleb – unrhyw awgrymiadau? Gadewch i ni roi mwy o sylw i’r rhain yn yr uned nesaf.