280 likes | 393 Views
Yr Eglwys ar Waith yn y Gymuned. Gweithio mewn T imau. Rhaglen Genhadol EBC / Agape a’r Coleg Gwyn. Pwrpas yr Hyfforddiant . Yn ystod yr hyfforddiant mi fyddwn yn edrych ar: Y syniad o fod yn rhan o eglwys Sut y gallwn ddatblygu’n ffydd Syniadau a all roi pwyslais newydd ar ein gwaith
E N D
Yr Eglwys ar Waith yn y Gymuned Gweithio mewn Timau Rhaglen Genhadol EBC / Agape a’r Coleg Gwyn
Pwrpas yr Hyfforddiant • Yn ystod yr hyfforddiant mi fyddwn yn edrych ar: • Y syniad o fod yn rhan o eglwys • Sut y gallwn ddatblygu’n ffydd • Syniadau a all roi pwyslais newydd ar ein gwaith • Yr angen i gerdded gyda Iesu, gan ddatblygu ein gweledigaeth o’r eglwys yn ein bro
Gweithio mewn Timau • Gall tîm gael ei ddiffinio fel: “… dau neu fwy o bobl yn symud ar hyd yr un llwybr, gan gyd-weithio, tuag at yr un bwriad …” Allweddeiriau: • Un llwybr • Cyd-weithio • Un bwriad
UN LLWYBR • Dim ond UN llwybr sydd tuag at y Deyrnas, rhaid cerdded gyda Iesu • Fel pobl rydym yn tueddu mynd a’r goll!! Gweddïwch gyda’ch gilydd, pan fydd pethau’n ansicr, neu’n aneglur. • Mewn tîm, mae’n bosib i bob un ohonom ni gyfrannu tuag at waith y Deyrnas – a helpu’n gilydd pan fyddwn yn dechrau mynd ar goll • Cadwch y tîm gyda’i gilydd, peidiwch a gadael i unrhyw un lithro, neu gael ei anghofio ar y daith
CYD WEITHIO • Cadwch mewn golwg bob amser beth yw PWRPAS y tîm: Peidiwch ei anghofio!! • Gyda’ch gilydd mi ellwch beri i bethau ddigwydd. A’r wahan, bydd pethau’n cael eu hanghofio. Peidiwch dweud “Roeddwn i’n meddwl bod rhywun arall wedi gwneud hynny.” • Os ydych wedi CYTUNO i wneud rhywbeth mae’n bwysig ei wneud. Os na ellwch, dywedwch wrth rywun, er mwyn i eraill gymryd y cyfrifoldeb o wneud yn siwr bod y dasg yn cael ei chyflawni. Does dim pwynt cael ‘Bore Goffi’, a neb yn dod a choffi!
UN BWRIAD • Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn gwybod BETH YW’R DASG MEWN GOLWG; a’n bod i GYD yn gweithio i’w chyflawni. • Dim ‘agendas gwahanol’ os gwelwch yn dda! • Dewisiwch arweinwyr sy’n gallu gwneud y gwaith yn iawn; ond peidiwch ag ymyrryd yn eu swyddogaeth y tu nôl i’w cefn – bydd hynny’n gwneud pethau’n anodd i bawb yn y tîm. • Os oes gennych syniad(au) gwych, rhannwch hwy gyda’r aelodau eraill.
Gweithio mewn Timau • Gweithio ar un prosiect – os na fydd aelodau’r tîm yn cyfathrebu, ni bydd yn bosib i’r tîm fod yn effeithiol. • I gael tîm effeithiol rhaid i’r aelodau gyfathrebu â’i gilydd, a gweithio tuag at yr un bwriad (drwy’r amser)
Pwrpas Tîm • Mae creu tîm yn gallu cynorthwyo pobl i gyflawni mwy nag y byddai’n bosib efo pawb yn gweithio fel unigolion • “… Y mae dau yn well nag un, oherwydd y maent yn cael tâl da am eu llafur; os bydd y naill ym syrthio, y mae’r llall yn gallu ei godi, ond gwae’r un sydd ar ei ben ei hun; pan yw ef yn syrthio, nid oes ganddo gyfaill i’w godi…” (Llyfr y Pregethwyr 4: 9-10). • Mae maint ac ansawdd y gwaith yn gwella wrth i’r tîm fod yn fwy effeithiol
Pwrpas Tîm • Roedd Iesu’n ymwybodol o sut i gael tîm i weithio’n effeithiol. • Dewisodd Iesu dîm o 12 a hyfforddodd hwy ar sut i barhau ei waith Ef, ar ôl iddo fynd yn ôl i’r nefoedd • Mae Marc (6:7-13) yn disgrifio sut y rhannodd y 12 i fod yn chwe tîm o ddau
Pwrpas Tîm • Hyfforddodd Iesu ei ddisgyblion i gyd-weithio’n effeithiol, er mwyn iddynt gyflawni eu gwaith • Mae creu tîm yn galluogi’r aelodau i ddefnyddio’u doniau,eu sgiliau, a’u talentau yn fwy effeithiol a chael rhan yn y gwaith y mae Iesu am i ni ei wneud.
Mesur Meintiol(Quantitative Measurement) • Mae rhai timau wedi eu creu i wneud llawer o bethau yn sydyn - h.y. cannoedd o frechdanau i borthi’r ymwelwyr yn y Cyfarfod Blynyddol [Llawer o bethau] • Mae rhai tîmau’n gorfod gweithio mewn amser byr - e.e. mae angen cwblhau peintio’r Mans oherwydd bod y gweinidog newydd a’i deulu yn cyrraedd mewn pythefnos [Amser yn brin]
Mesur Ansawdd(Qualitative Measurement) • Datblygu’r tîm i fod yn un arbennig - lle mae pawb yn teimlo’u bod yn rhan allweddol o’r gweithgareddau. • e.e. Tîm newydd yn cael ei sefydlu i baratoi adroddiad ar sut y gall tair neu bedair eglwys o ddau enwad gwahanol (heb weinidog) ddod at ei gilydd i greu ‘Gweinidogaeth Bro’ - ER LLES Y DEYRNAS, WRTH GANLYN IESU
Ansawdd • Pan fydd pethau’n mynd o le cofiwch eiriau’r Salmydd: • “… Y mae Duw yn noddfa ac yn nerth i ni, yn gymorth parod mewn cyfyngder. Felly nid ofnwn …” (Salm 46:1-2)
Datblygu Tri Synnwyr • Cyfeiriad • Perthynas • Hunaniaeth
Synnwyr Cyfeiriad • Gweledigaeth o pwrpas ‘strategol’ y tîm (h.y. os na fydd y tîm yn gweithio’n gywir, bydd y posiect neu’r gwaith yn methu; a bydd hynny’n tanseilio pwrpas ein hymdrech) • Sut mae’r tîm yn rhan o’r EGLWYS; a ydym ni’n mynd tuag at Y Deyrnas gyda’n gilydd?
Ymdeimlad o Berthyn • Nid yw cael ffocws ar y pethau ‘strategol’ yn ddigon • Mae’n rhaid cael ymdeimlad o berthynas – fel bod aelodau’r tîm yn teimlo’u bod yn rhan bwysig o’r prosiect ac yn cael eu gwerthfawrogi • Mae’n angenrheidiol i aelodau’r tîm fod yn: • Gwybod beth sydd angen ei wneud • Gyda’r hunan-hyder yn ei gilydd ac ynddynt eu hunain i gyflawni’r gwaith yn iawn • Yn mwynhau gweithio gyda’i gilydd
Ymdeimlad o Hunaniaeth • Bydd anghenion bob unigolion yn wahanol, ond bydd tîm da yn creu awyrgylch lle bydd pobl, ac nid yn unig eu sgiliau a’u gwybodaeth, yn cael eu gwerthfawrogi • Mae angen cael tîm sy’n agored a chefnogol lle gall pawb ymddiried yn ei gilydd • Drwy hyn bydd hunan-hyder yn tyfu
Munud i Feddwl Rhaid gofyn TRI chwestiwn; • A ydym ni yn rhan o dîm ? • Oes angen tîm? • A yw ein tîm ni yn barod AC yn fodlon i ddarparu yr AWYRGYLCH, y DIWYLLIANT a’r GEFNOGAETH sy’n angenrheidiol i greu tîm effeithiol ?
Pwrpas Tîm Danfonodd hwy allan i: • Bregethu’r efengyl • Iachau’r cleifion • Fwrw allan gythreuliaid Roedd yr Iesu yn deall egwyddor dynamig timau yn Llyfr y Pregethwyr (4:9) – byddwn yn fwy effeithiol gyda’n gilydd
Rhan 2 I bob tîm, bydd Synnwyr Cyfeiriad, Perthynas, a Hunaniaeth yn GANOLOG
Y Tîm - Undod yng Nghrist • Bydd y TÎM yn bobl i Dduw, yn cael ei arfogi i wneud ei waith yn well; yn adeiladu’r EGLWYS, corff Crist, i sefyllfa o gryfder ac aeddfedrwydd: • “… A dyma’i roddion; rhai i fod yn apostolion, rhai yn broffwydi, rhai yn efengylwyr, rhai yn fugeiliaid ac athrawon, i gymhwyso’r saint i waith gweinidogaeth, i adeiladu corff Crist …” (Effesiaid 4: 11-12)
GWAITH YMARFEROL – 15-20 Minud (Byddwch yn hyblyg)(i’r tîm hyfforddi yn unig) • Mewn grwpiau bychan (2 - 5 o bobl) edrychwch ar anghenion HANFODOL i dîm newydd yn eich eglwys a fyddai wedi ei sefydlu i edrych ar UN o’r prosiectau canlynnol: • (a). Nos Fawrth ar ôl y storm, bu difrod i do’r eglwys. Mae’r amcangyfrif cyntaf yn rhoi pris o £64,000 ond mae eich cwmni Yswiriant yn dweud bod raid i chi dalu’r £8,000 cyntaf (oherwydd yr ‘Excess’) • (b). Mae S4C wedi gofyn i’ch Ysgrifennydd a fyddai’n bosib cynnal ‘Dechrau Canu Dechrau Canmol’ yn eich eglwys yn ystod yr ail wythnos ym mis Mehefin 2005. Yn anffodus mae’r Parchg Iwan ap Gronw eich gweinidog wedi cael gwahoddiad i feirniadu yn Eisteddfod Y Wladfa. • (c). Dydd Gwener diwethaf cafodd Mrs Mair Angharad Ffransis (un o’ch haelodau) ei dewis i fod yn Llywydd Mudiad Merched Crefyddol Cymru. Bydd yn cael ei apwyntio i’r swydd mewn gwasanaeth arbennig ar y dydd Llun cyntaf ym mis Gorffennaf. (Yn arferol, mae’r seremoni a’r gwasanaeth yn cael ei gynnal yn eglwys y Llywydd).
Ymarfer: Y Tîm a’r Waith • Rhai o’r pethau HANFODOL: • Pwy yw aelodau’r tîm (digon, ond dim gormod!!!)? • Sut ydych yn trefnu/dewis arweinydd? • Faint o amser ? – gweithiwch yn ôl i heddiw • Cost? – Lle gallwch chi gael cymorth?? (Oes angen?) • Peidiwch a dechrau gyda “Dydi ddim yn bosib …” ond gyda “Sut gallwn weithredu os ydym AM wneud hyn?” • Pwy arall all roi cymorth i’r tîm yma? • A ydych yn barod i ddirprwyo tasgau (‘delegate’)? • Beth yw eich BLAENORIAETHAU? • Pa bryd fyddai raid i chi gyfarfod eto? A phaham?? • Erbyn pa bryd ydych chi’n meddwl y byddech wedi gallu gwneud pob peth?
ADBORTH • Sut fydda chi’n disgrifio’r cyflwyniad? • A oedd y cynnwys yn addas? • Sut y gallai’r sesiwn fod wedi ateb eich gofynion yn well? • A gawsoch ddigon o gyfle i drafod a holi? • A ydych am gymryd rhan yn y rhaglen hyfforddi (neu rannau ohoni)? • Pa hyfforddiant pellach fyddai o gymorth i chi fel unigolun?
CRYNHOI • Y tîm hyfforddi i grynhoi • Diolchiadau • Edrych ymlaen at y sesiwn nesaf • Dyddiadau a lleoliad yr hyfforddiant