80 likes | 298 Views
At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC Uned 1 ac Uned 3 Tasg 1. Cerddoriaeth - Offerynnol Cywirdeb y Perfformiad. Tasg 1 – Gwrando ar eraill. Cyn neu ar ôl dysgu darn o gerddoriaeth, dylech bob amser wrando ar eraill yn perfformio’r darn (yn fyw neu ar record).
E N D
At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBACUned 1 ac Uned 3 Tasg 1 Cerddoriaeth - Offerynnol Cywirdeb y Perfformiad
Tasg 1 – Gwrando ar eraill • Cyn neu ar ôl dysgu darn o gerddoriaeth, dylech bob amser wrando ar eraill yn perfformio’r darn (yn fyw neu ar record). • Gwrandewch ar gyd-ddisgyblion, athro/athrawes neu recordiad ar CD ac ati. • Canolbwyntiwch ar y modd y defnyddir: • Dynameg • Tempo • Techneg • Brawddegu • Traw a rhythm (cywir)
Tasg 2 – Clywed eich hun • Perfformiwch ddarn o’ch dewis gydag eraill (yn unsain neu gan ddilyn sgôr). • Dylid rhoi cyfle i bawb yn y grŵp yn ei dro chwarae’n uchel tra bod pob aelod arall yn chwarae’n dawel. • Wedyn dylai pawb chwarae ar yr un lefel; os mai dim ond pobl eraill a glywch chi ac nid chi’ch hun dylech chwarae’n uwch; os mai dim ond chi’ch hun a glywch chi ac nid y lleill, mae angen ichi chwarae’n dawelach.
Tasg 3 – Clapio’r rhythm • Fel dosbarth, dysgwch rythm darn newydd. • Gwrandewch ar rywun arall yn clapio’r rhythm. • Clapiwch bob patrwm rhythmig ychydig o weithiau gan hoelio’ch sylw ar adleisio’r rhythm yn gywir drwy’r amser. • Efallai yr hoffech ymgymryd â rôl cyflwyno rhythm darn arall i’r lleill. • Ydych chi’n ei chael hi’n haws neu’n anoddach ymgyfarwyddo â’r rhythm?
Tasg 4 – Chwarae adleisiol • Dysgwch ddarn newydd drwy wrando arno fesul cymal. • Fel dosbarth, dysgwch alaw darn. • Gwrandewch ar rywun arall yn chwarae’r alaw a dilynwch y sgôr. • Adleisiwch bob patrwm melodig ychydig o weithiau gan hoelio’ch sylw ar adleisio’r traw yn gywir drwy’r amser. • Hwyrach yr hoffech ymgymryd â rôl cyflwyno alaw darn arall i’r lleill.
Tasg 5 – Chwarae cywir • Ceisiwch berfformio eich darn mor gywir ag sy’n bosibl o ran traw a rhythm. • Dylech bob amser dderbyn cyngor gan eich tiwtor offerynnol a’ch chyd-ddysgwyr. • Gosodwch dargedau realistig i chi eich hun bob wythnos wrth ymarfer, gan roi sylw arbennig i draw a rhythm cywir. • Ymarferwch adrannau penodol i’w gwella. • Amrywiwch eich technegau ymarfer.
Tasg 6 – Astudio’r sgôr • Os ydych yn chwarae o sgôr mae’n hanfodol ei dilyn a chanolbwyntio ar y gofynion. • Astudiwch y sgôr a defnyddiwch bensel neu amlygydd i nodi unrhyw newidiadau o ran: • Dynameg • Tempo • Techneg • Brawddegu • Arddull perfformiad • Wrth ymarfer, canolbwyntiwch ar yr elfennau hyn i gyd fesul un.
Tasg 7 – Gêm y cof • Pan fyddwch yn gyfarwydd ag un o’ch darnau, ceisiwch ei berfformio heb y copi. • Wedi mynd i helynt ac anghofio, edrychwch ar y copi am 5 munud heb chwarae ac astudiwch y sgôr yn fanwl. • Rhowch gynnig arall arni i weld a ydych chi’n cofio. • Os cewch drafferth yn yr un lle eto, edrychwch ar y copi ac ymarferwch y bar neu’r adran am 5 munud, cyn rhoi cynnig arall ar berfformio heb gopi. • Yn raddol, dros gyfnod o amser, ceisiwch ddysgu’r darn cyfan ar eich cof.