90 likes | 251 Views
At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC Uned 1 ac Uned 3 Tasg 1. Technoleg Cerdd Materion Technegol. Tasg 1 – Ymgyfarwyddo â’r meddalwedd. Mae’n hanfodol ichi ymgyfarwyddo ag unrhyw becynnau meddalwedd newydd cyn perfformio neu ddechrau recordio.
E N D
At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBACUned 1 ac Uned 3 Tasg 1 Technoleg Cerdd Materion Technegol
Tasg 1 – Ymgyfarwyddo â’r meddalwedd • Mae’n hanfodol ichi ymgyfarwyddo ag unrhyw becynnau meddalwedd newydd cyn perfformio neu ddechrau recordio. • Gan weithio’n unigol neu gyda phartner, dewiswch becyn meddalwedd ac ymgyfarwyddwch â swyddogaethau sylfaenol y meddalwedd. • Ceisiwch recordio cerddoriaeth mewnbwn. • Ceisiwch drin synau/ newid offerynnau. • Mewnfudwch ddolenni, samplau neu synau.
Tasg 2 – Iechyd a Diogelwch • Cyn dechrau, mae’n hanfodol gwirio Iechyd a Diogelwch: • Gwiriwch bob cebl am arwyddion o draul/ difrod. • Gwiriwch fod pob offer yn gweithio. • Gofalwch am bob darn offer. • Gwnewch lòg o faterion ‘Iechyd a Diogelwch’ posibl wrth ddefnyddio Adnoddau Technoleg Cerddoriaeth. • Lluniwch set o reolau i chi’ch hun ac eraill wrth ddefnyddio offer.
Tasg 3 – Ffeil MIDI • Chwiliwch am ffeil MIDI o ddarn o’ch dewis ar y we. • Mewnfudwch y ffeil MIDI i’r pecyn meddalwedd sydd gennych. • Wedi ei hagor, edrychwch ar sgôr o’r darn. • Gwnewch newidiadau i’r sgôr drwy newid traw offerynnau, dynameg, tempo’r darn.
Tasg 4 – Fformatau sain • Ymchwiliwch ar y we i wahanol fformatau ffeiliau sain, e.e. • MIDI • Mp3 • Wav • mpeg • Rhestrwch fanteision ac anfanteision defnyddio gwahanol fformatau sain. • Gallai’r rhain gynnwys ansawdd, maint, a pha bryd y defnyddir pob fformat.
Tasg 5 - Effeithiau • Arbrofwch gydag effeithiau datseinedd, hafalu (eq), panio, oedi a chorws ar eich cyfansoddiad/ trefniant. • Gallech wneud hyn ar offerynnau byw neu synau wedi’u creu gan gyfrifiadur. • Pwyswch a mesurwch fanteision ac anfanteision defnyddio effeithiau penodol i gyfoethogi eich recordiadau.
Tasg 6 - Microffonau • Ymchwiliwch i wahanol fathau o ficroffonau. • Defnyddiwch wahanol fathau o ficroffonau i recordio offeryn acwstig a cheisiwch glywed y gwahaniaeth rhwng ansawdd pob recordiad. • Ymchwiliwch i wahanol fathau o ficroffonau a thechnegau recordio a ddefnyddir mewn sefyllfaoedd byw.
Tasg 7 – Cymysgu a Meistroli • Recordiwch ddarn byw mewn tri chynnig a phenderfynwch ba adrannau sydd orau ar ba recordiad / cynnig cyn mynd ati i dorri a gludo’r cynigion at ei gilydd. • Cymysgwch a meistrolwch y trac terfynol. • Trafodwch sut mae datblygiadau meddalwedd a chaledwedd diweddar wedi gwneud y broses hon yn haws a rhatach nag a fu yn holl hanes creu cerddoriaeth.
Tasg 8 – Samplau a Dolenni • Defnyddiwch neu datblygwch eich set eich hun o samplau i’w defnyddio fel rhan o gyfansoddiad / wrth recordio. • Defnyddiwch ddolenni fel rhan o’ch cyfansoddiad/ recordiad a gwerthuswch yr effaith gyffredinol ar y darn o gymharu â chreu eich synau eich hun. • Beth yw manteision ac anfanteision defnyddio offerynnau electronig o gymharu ag offerynnau traddodiadol / acwstig fel rhan o broses recordio?