100 likes | 226 Views
Comedi yng ngwaith Chaucer – pa ffynonellau gwybodaeth?. Llyfrau mae’ch darlithwyr wedi’ch cyfeirnio atynt. Gellir dod o hyd i lyfrau ar eich rhestr ddarllen drwy chwilio’r catalog llyfrgell.
E N D
Llyfrau mae’ch darlithwyr wedi’ch cyfeirnio atynt Gellir dod o hyd i lyfrau ar eich rhestr ddarllen drwy chwilio’r catalog llyfrgell. Cliciwch ar y llun i gael gwybod sut i ddehongli’r wybodaeth ar eich rhestr ddarllen ac gwneud chwiliad llwyddiannus.
Llyfrau ar gomedi Saesneg Drwy chwilio’r catalog llyfrgell, gellir dod o hyd i lyfrau sy ddim ar eich rhestr ddarllen. Cofiwch bydd llyfrau ar gomedi yn cyffredinol yn cynnwys gwybodaeth ar gomedi yng ngwaith Chaucer o bosibl, fel yn yr enghraifft isod. Fe wneith safon eich canlyniadau ddibynnu ar eich sgilio chwilio. Fe wneith chwiliad pwnc weithio’n well na chwiliad allweddair o bosibl – cliciwch ar y marc cwestiwn glas i gael gwybod pam….
Llyfrau ar Chaucer Yn ogystal â chwilio am lyfrau ar gomedi, gellir chwilio am lyfrau ar Chaucer yn gyffredinol, a dewis y rhai, fel yr enghraifft isod, sy’n ymdrîn â chomedi yng ngwaith Chaucer. (A ydych yn gweld y pennod ar gomedi?) Neu drwy wneud chwiliad allweddair sy’n cyfuno’r dau syniad “comedy” a “Chaucer”, gellir chwlio am lyfrau sy’n ymdrîn â chomedi a Chaucer ar yr un pryd. Cliciwch ar y marc cwestiwn gwyrdd i gael gwybod sut i wneud chwiliad allweddair.
“Oxford Companion to English Literature” Llyfr cyfeiriol yw’r “Oxford Companion to English Literature”. Gellir chwlio’r “Oxford Companion” ar-lein o wefan y llyfrgell. Cliciwch ar y llun o Chaucer i gael gweld sut i ddod o hyd iddo a gwneud chwiliad. Edrychwch ar y llun isod i weld y rhan o’r “Oxford Companion” sy’n ymdrîn â Chaucer ac asesu sut mae’n cymharu gyda’r wybodaeth sydd ar gael mewn llyfrau.
Erthyglau mewn cyfnodolion mae’ch darlithwyr wedi eich cyfeirio atynt Gellir dod o hyd i erthyglau sydd ar eich rhestr ddarllen drwy chwilio’r rhan “E-gyfnodolion A-Z” o wefan y llyfrgell. Cliciwch ar y llun i gael gwybod os mai erthyglau mewn cyfnodolion yw’r eitemau ar eich rhestr ddarllen, ac os felly, sut i chwilio amdanynt yn llwyddiannus.
Dod o hyd i erthyglau mewn cyfnodolion sy’n ymdrîn â chomedi yng ngwaith Chaucer Os nad yw’ch darlithwyr wedi’ch cyfeirio at erthyglau ar eich pwnc, mae’n bosibl defnyddio cronfeydd data ar-lein fel Project Muse i ddod o hyd iddynt dros eich hunan. Cliciwch ar eicon “Project Muse” i weld y math o wybodaeth sydd ar gael drwy chwilio yna Cliciwch ar y llun o Chaucer i weld sut i chwilio Project Muse am erthyglau ar gomedi yng ngwaith Chaucer
Gwefannau Mae gwybodaeth o safon ar bynciauacademaidd ar gael ar wefannauweithiau – ond nid bob tro!! Cliciwch ar y llun o Chaucer i weld sutmae gwefan Luminarium.orgyn ymdrîn a’i waith.
Wicipedia (gyddoniadur ar-lein)Cliciwch ar y llun o Chaucer i weld sut mae’r Wicipedia yn ymdrîn ag ef
Angelfire (gwefan) Beth ydych yn feddwl o safon y wybodaeth ar y wefan isod?