220 likes | 411 Views
Cerbydau Modur Lefel 3. Adnodd 6. Diagnosteg System Brecio Gwrth-gloi. Cerbydau Modur Lefel 3 Adnodd 6. Diagnosteg System Brecio Gwrth-gloi. Nod. Adnabod gweithdrefnau diagnosteg o fewn Systemau Brecio Gwrth-gloi. Cerbydau Modur Lefel 3 Adnodd 6. Diagnosteg System Brecio Gwrth-gloi.
E N D
Cerbydau Modur Lefel 3 Adnodd 6 Diagnosteg System Brecio Gwrth-gloi
Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 6 Diagnosteg System Brecio Gwrth-gloi Nod Adnabod gweithdrefnau diagnosteg o fewn Systemau Brecio Gwrth-gloi
Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 6 Diagnosteg System Brecio Gwrth-gloi Amcanion Erbyn diwedd y sesiwn dylech allu: 1) Adnabod yr offeryn a ddefnyddir i wneud diagnosis o ddiffygion o fewn Systemau Brecio Gwrth-gloi. 2) Rhestru camau gweithdrefn ddiagnostig ar gyfer gwneud diagnosis o ddiffyg o fewn Systemau Brecio Gwrth-gloi. 3) Adnabod y gwahanol fathau o systemau diagnostig.
Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 6 Diagnosteg System Brecio Gwrth-gloi Diagnosteg ar y bwrdd ac oddi ar y bwrdd • Mae diagnosteg AR y bwrdd yn cyfeirio ar weithdrefn ddiagnostig y mae’r cerbyd ei hun yn ei pherfformio wrth danio. • Mae diagnosteg ODDI AR y bwrdd yn cyfeirio at ddiagnosteg a gyflawnir gan dechnegydd trwy ddefnyddio offeryn sganio.
Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 6 Diagnosteg System Brecio Gwrth-gloi Offer Gwaith Diagnostig Aml-fesurydd • Defnyddir aml-fesurydd i ddarllen folteddau (AC a DC), cerrynt a gwrthiant trwy gylched. • Gellir ei ddefnyddio hefyd i fesur didoriant trwy gylched. • Gellir newid y raddfa yn ôl maint y foltedd ac ati rydych yn ei fesur.
Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 6 Diagnosteg System Brecio Gwrth-gloi Offer Gwaith Diagnostig Gall offer gwaith diagnostig gynnwys y canlynol:- • Aml-fesurydd. • Offeryn sganio â llaw. • System diagnostig seiliedig ar beiriant/cyfrifiadur diagnostig Sun.
Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 6 Diagnosteg System Brecio Gwrth-gloi Offer Gwaith Diagnostig Bydd offeryn sganio â llaw • Yn cael ei blygio i’r cerbyd trwy borth OBDII • Yn dangos codau trafferthon er mwyn cynorthwyo gwneud diagnosis o ddiffyg mewn system. • Hwn ydi’r dull mwyaf cyffredin.
Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 6 Diagnosteg System Brecio Gwrth-gloi Offer Gwaith Diagnostig Meddalwedd diagnostig seiliedig ar beiriant/cyfrifiadur diagnostig Sun. • Fel gydag offeryn sganio, mae’n cael ei ddefnyddio i ddangos codau diagnostig. Fodd bynnag, mae hefyd yn gallu dangos patrymau tonffurfiau. • Gellir llwytho’r meddalwedd i fyny i liniadur y technegydd.
Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 6 Diagnosteg System Brecio Gwrth-gloi Swyddogaeth Ddiagnostig • Pan fydd diffyg o fewn system cerbyd bydd GDD (Golau Dangosydd Diffyg) yn goleuo i ddangos i’r gyrrwr bod diffyg.
Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 6 Diagnosteg System Brecio Gwrth-gloi Swyddogaeth Ddiagnostig • Bydd y cerbyd wedyn yn storio cod o fewn Uned Rheolaeth Electronig y cerbyd fel bod y technegydd yn gallu ei gael trwy offeryn sganio (sganiwr llaw neu beiriant diagostig Sun). • Bydd y technegydd nawr yn gallu dechrau datrys y broblem/problemau o fewn y system honno.
Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 6 Diagnosteg System Brecio Gwrth-gloi Sut i gael at y codau trafferthion Mae gwahanol ddulliau y gall y technegydd eu defnyddio i gael at y cod. Gallai’r dulliau gynnwys • Porth OBD II • Codau Fflachio
Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 6 Diagnosteg System Brecio Gwrth-gloi Sut i gael at y codau trafferthion Codau Fflachio • Unwaith y bydd yr offeryn sganio wedi ei gysylltu, bydd LED yn goleuo am amser pur faith. • Wedyn bydd y LED yn dechrau fflachio cod (yn debyg i god Morse) a bydd y technegydd yn gwneud cofnod ohono. • Bydd y technegydd wedyn yn gallu canfod lle mae’r broblem trwy edrych ar y cod yn nogfennaeth y fanyleb. • Bydd yr LED yn goleuo am amser hir i ddangos bod y cod wedi gorffen cael ei drosglwyddo.
Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 6 Diagnosteg System Brecio Gwrth-gloi Sut i gael at y codau trafferthion Porth OBD • Y ffordd fwyaf cyffredin o gael at y cod diffyg ydi trwy’r porth diagnostig. • Ran amlaf bydd hwn wedi ei leoli yn lle traed y teithiwr. • Dyma’r lleoliad o fewn cerbydau ar ôl y flwyddyn 2000 (EOBD). • Ar gyfer cerbydau cyn y flwyddyn honno – edrychwch ar fanyleb y gwneuthurwr.
Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 6 Diagnosteg System Brecio Gwrth-gloi Sut i gael at y codau trafferthion • Unwaith y bydd yr offeryn sganio wedi cael ei gysylltu i’r cerbyd, bydd y technegydd yn gallu sganio’r Uned Rheolaeth Electronig am god trafferth. • Bydd yn cael ei ddangos ar yr offeryn ei hun. • Bydd y technegydd wedyn yn gallu edrych yn nogfennaeth y fanyleb er mwyn datrys y diffyg yn y system. • Bydd rhai offer gwaith sganio EOBD hefyd yn gallu dangos data byw a thonffurfiau.
Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 6 Diagnosteg System Brecio Gwrth-gloi Sut i gael at y codau trafferthion • Mae offer gwaith sganio yn dod gyda set o getris. • Mae gan bob cetrisen wybodaeth ddiagnostig ynglŷn â phob gwneuthuriad. • Bydd y rhain yn cael eu diweddaru wrth i gerbydau newid neu pan fydd modelau newydd y cael eu cynhyrchu.
Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 6 Diagnosteg System Brecio Gwrth-gloi Codau trafferthion • Mae gan OBD (cyn 2000) god tri i bum digid. • Mae gan EOBD (wedi 2000) god safonedig. • Ar ôl i ddiffyg gael ei gywiro mae’n bwysig bod y cod yn cael ei glirio trwy ddefnyddio’r offeryn sganio.
Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 6 Diagnosteg System Brecio Gwrth-gloi Sut i gael at y codau trafferthion Gweithgaredd • Mewn grwpiau o dri trafodwch fanteision ac anfanteision pob system unigol.
Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 6 Diagnosteg System Brecio Gwrth-gloi Gweithrefn ddiagnostig nodweddiadol Mae cwsmer wedi dod i’ch gweithdy a dweud bod golau’r System Brecio Gwrth-gloi ymlaen • Ar eich pen eich hun ysgrifennwch weithdrefn ddiagnostig a gyfer y dilyniant y byddech yn ei gyflawni er mwyn datrys y broblem.
Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 6 Diagnosteg System Brecio Gwrth-gloi Gweithdrefn ddiagnostig nodweddiadol • Cadarnhau i’r cwsmer (gwasanaeth cwsmer) beth ydi’r diffyg a’r symptomau (os ydi hi’n bosibl, ewch â’r cerbyd ar y ffordd gyda’r cwsmer) • Sicrhau bod y getrisen/allwedd gywir yn yr offeryn sganio. • Ei gysylltu i’r porth OBD. • Tanio’r injian.
Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 6 Diagnosteg System Brecio Gwrth-gloi Gweithdrefn ddiagnostig nodweddiadol • Rhoi manylion y cerbyd i mewn (rhif VIN). • Cael y cod o’r Uned Rheolaeth Electronig (edrychwch yn y llawlyfr offer gwaith). • Edrych yn y llawlyfr ynglŷn â chod y cerbyd. • Cywiro’r diffyg. • Sicrhau bod yr holl godau yn cael eu clirio o’r Uned Rheolaeth Electronig. • Tynnu’r offeryn sganio allan.
Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 6 Diagnosteg System Brecio Gwrth-gloi Gweithdrefn ddiagnostig nodweddiadol • Ewch â’r cerbyd ar y ffordd er mwyn sicrhau bod y ddiffyg wedi ei gywiro.
Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 6 Diagnosteg System Brecio Gwrth-gloi Crynodeb A ydyn ni wedi:- • 1) Adnabod yr offer gwaith i wneud diagnosis o ddiffygion o fewn System Brecio Gwrth-gloi. • 2) Rhestru’r camau mewn gweithrefn ddiagnostig i wneud diagnosis o ddiffyg mewn Systemau Brecio Gwrth-gloi. • 3) Adnabod y gwahanol fathau o systemau diagnostig.