150 likes | 314 Views
Rhaglen Asesu Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch. 2014 – 2015. Rhaglen Asesu CALU. NID yw’n rhaglen hyfforddi. Rhaglen ASESU ydyw Diben asesu yw galluogi’r ymgeiswyr i ddangos eu bod yn bodloni’r Safonau Cenedlaethol a nodwyd ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch
E N D
RhaglenAsesuCynorthwywyrAddysguLefelUwch 2014 – 2015
RhaglenAsesu CALU • NID yw’n rhaglen hyfforddi. Rhaglen ASESU ydyw • Diben asesu yw galluogi’r ymgeiswyr i ddangos eu bod yn bodloni’r Safonau Cenedlaethol a nodwyd ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch • Mae’n seiliedig ar yr hyn y mae Cynorthwywyr Addysgu’n ei wneud fel arfer yn yr ystafell ddosbarth ac yn yr ysgol • Mae angen lefel uchel o ymrwymiad gan yr ymgeisydd i gwblhau a chyflwyno’r tasgau yn amserlen tri mis y rhaglen. • Nid y bwriad yw gofyn rhagor gan Benaethiaid a chydweithwyr eraill na’r trefniadau rheoli ac adolygu perfformiad arferol
Elfennau’r Rhaglen Asesu Cwblhau tasgau a gwaith darllen cyn Diwrnod Gwybodaeth 1 Bod yn bresennol mewn Tri Diwrnod Gwybodaeth Cwblhau pedwar tasg ysgrifenedig Ymweliad gan aseswr i ysgol yr ymgeisydd
Y Broses Asesu – DiwrnodauGwybodaeth • Mae’n ofynnol i’r ymgeiswyr fod yn bresennol mewn tri Diwrnod Gwybodaeth a fydd yn cael eu cynnal yng Nghanolfan yr Halliwell yng Nghaerfyrddin • Amcan y tri Diwrnod Gwybodaeth yw cefnogi ymgeiswyr i: • Ddeall y Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch • Cwblhau’r pedwar tasg ysgrifenedig • Casglu tystiolaeth ddogfennol i gefnogi’u tasgau ysgrifenedig • Paratoi ar gyfer yr ymweliad ysgol
Y Broses Asesu – Tasgau Tasg 1: Datganiad am weithio gyda disgybl unigol Tasg 2: Datganiad am weithio gyda grŵp o ddisgyblion Tasg 3: Datganiad am weithio gyda grŵp dosbarth cyfan Tasg 4: Pum senario o dasgau a gyflawnir gan gynorthwywyr addysgu Casgliad o dystiolaeth ddogfennol i gefnogi’r pedair tasg
Y Broses Asesu – YrYmweliadYsgol Bydd yr ymweliad ysgol yn para am dair awr, ac yn ystod y cyfnod hwn bydd yr asesydd yn cyfarfod â’r canlynol:- Yr ymgeisydd Yr athro dosbarth Y pennaeth Bydd gan yr asesydd hefyd gyfnod astudio lle bydd yn craffu ar y dystiolaeth ddogfennol a baratowyd gan yr ymgeisydd ac yn ei dilysu.
Y Broses Asesu – YmrwymiadyrYsgol Mae’n ofynnol i ysgolion gefnogi’r broses asesu trwy:- • Ryddhau ymgeiswyr i’w galluogi i fynd i’r tair sesiwn wybodaeth • Meddu ar ddealltwriaeth o’r Safonau CALU a’r broses asesu • Cefnogi’r ymgeiswyr i gwblhau’r tasgau yn yr ysgol • Hwyluso ymweliad yr asesydd â’r ysgol
2014 Hydref / Tachwedd Sesiynau codi ymwybyddiaeth yn cael eu cynnal ar draws y rhanbarth Wythnos sy’n Dechrau ar 6 Hydref Y Pecynnau Ymgeisio ar gael o’r wefan Ranbarthol 21 Tachwedd Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Wythnos sy’n Dechrau ar 8 Rhagfyr Rhoi gwybod i’r ymgeiswyr am ganlyniad y broses ddethol AmserlenyrAsesiad 2015 • Sesiynau Gwybodaeth yng Nghanolfan yr Halliwell, Caerfyrddin: 19 Ionawr 3 Chwefror 25 Mawrth • 27 Mawrth Dyddiad cau derbyn tasgau’r Ymgeiswyr • Ebrill / Mai Ymweliadau Ysgol • Wythnos sy’n dechrau ar 7 Gorffennaf Rhoddir llythyrau canlyniad i’r ymgeiswyr
GofynionYmgeisio • Mae’n ofynnol bod yr ymgeiswyr wedi:- • Cwblhau cymhwyster lefel 2 Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf/Llythrennedd a Mathemateg/rhifedd y fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol sydd gyfwerth â TGAU A-C neu uwch ac mae’n rhaid iddynt allu darparu prawf o fanylion y cymwysterau hynny • Meddu ar brofiad digonol i ddarparu tystiolaeth eu bod yn cyflawni’r safonau mewn perthynas â’r Statws CALU • Wedi cael profiad o arwain dysgu dosbarth cyfan heb fod athro’n bresennol • Cymeradwyaeth a chymorth y Pennaeth
Y Broses Ymgeisio Ceir mynediad i’r rhaglen trwy broses ddethol Dylai ceisiadau gynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol i alluogi aelodau o’r panel dethol i wneud dyfarniad gwybodus o ran a ydych yn barod i gael eich asesu yn erbyn y Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch Mae angen i’r ceisiadau fod wedi cyrraedd swyddfa ERW erbyn 21 Tachwedd
Y Broses Ymgeisio – yrWybodaethOfynnol • Manylion yr ymgeisydd • Cymwysterau gofynnol • Cymwysterau eraill • Profiadau datblygiad proffesiynol • Rolau presennol a blaenorol • Manylion ynghylch sut y mae’r ymgeisydd yn gweithio gyda • phlentyn unigol • grŵp o ddisgyblion • dosbarth cyfan heb fod athro’n bresennol • Cymeradwyaeth y Pennaeth o gais yr ymgeisydd
Gofynion Ymgeisio – Tystysgrifau Rhifedd a Llythrennedd Dylai ymgeiswyr ddarparu copïau o’u tystysgrifau llythrennedd a rhifedd â’u cais. Os yw’r ymgeiswyr yn aros am eu tystysgrifau, dylid darparu llythyr canlyniad. Mae’n RHAID cyflwyno copïau gwreiddiol o’r tystysgrifau llythrennedd a rhifedd i’w craffu yn ystod Diwrnod Gwybodaeth 1. Os na chyflwynir copïau gwreiddiol o’r tystysgrifau llythrennedd a rhifedd, caiff yr ymgeisydd ei ddileu o’r broses asesu.
PecynYmgeisio CALU 2014 – 2015 www.erw.org.uk • Canllaw Llythrennedd a Rhifedd CALU • Papur Gwybodaeth ar gyfer y Pennaeth • Ffurflen Gais Ymgeisydd CALU
Manylion Cyswllt Consortiwm De-orllewin a Chanolbarth Cymru Ffôn - 01267 676840 E-bost - hlta@erw.org.uk Gwefan - www.erw.org