50 likes | 247 Views
TASG LAFAR BYDDWCH YN CAEL LEFEL AR DDIWEDD Y DASG HON. BETH YW EICH BARN CHI AM Y FRENHINIAETH ?. Beth fydd yn rhaid i mi ddefnyddio i drafod y dasg hon: Bydd angen defnyddio y daflen ‘Y Frenhiniaeth.’ A chyfeirio tuag at y ffeithiau ar y daflen.
E N D
TASG LAFAR BYDDWCH YN CAEL LEFEL AR DDIWEDD Y DASG HON BETH YW EICH BARN CHI AM Y FRENHINIAETH?
Beth fydd yn rhaid i mi ddefnyddio i drafod y dasg hon: • Bydd angen defnyddio y daflen ‘Y Frenhiniaeth.’ A chyfeirio tuag at y ffeithiau ar y daflen. • Bydd angen cyfeirio at y gerdd ‘Fy Ngwlad’ gan Gerallt Lloyd Owen, drwy gyfeirio at y cynnwys a hefyd rhai o’r nodweddion arddull er mwyn pwysleisio y pwyntiau byddwch yn eu gwneud. • Bydd angen cyfeirio at y lluniau y byddwch fel grwp yn eu cael i’w trafod. Beth ydych yn ei ddysgu am y lluniau? • Y wybodaeth rydych chi wedi ei gasglu yn waith cartref am yr arwisgo. • - Cofiwch, mae’n rhaid i chi fynegi eich barn a chofiwch gyflwyno tystiolaeth i gyfiawnhau eich barn.
TASG LAFAR: • Beth yw eich barn chi? Y FRENHINIAETH • Trafodwch y pwyntiau hyn: • A oes rhaid i ni gael brenin neu frenhines? • Mae’r Frenhiniaeth yn cadw’r deyrnas yn unedig! • Rydyn ni’n falch o gael tywysog yng Nghymru! • Cofiwch gyfeirio at y lluniau, y daflen hon a’r gerdd. Rhaid i chi ddefnyddio rhain fel tystiolaeth i gyfiawnhau beth rydych chi’n ei ddweud. Mae’n bwysig eich bod yn rhoi rhesymau dros yr hyn rydych chi’n ei ddweud. • Cofiwch y medrwch gyfeirio at bethau perthnasol eraill rydych chi wedi ei ddysgu. • Cofiwch ofyn cwestiynau, ymateb i aelodau eraill y grwp. Gallwch gytuno neu anghytuno gyda’ch gilydd. • Ystyriwch safbwyntiau gwahanol.
PA SGILIAU FYDDA I EU HANGEN AR GYFER GWNEUD YR UNED HON O WAITH? (EDRYCHWCH YN EICH LLYFR GWAITH AM RESTR O’R SGILIAU.)