80 likes | 219 Views
Cerbydau Modur Lefel 3. Adnodd 5. Gosodiadau System Brecio Gwrth-gloi. Cerbydau Modur Lefel 3 Adnodd 5. Gosodiadau System Brecio Gwrth-gloi. Nod. Adnabod y gwahanol osodiadau sianel sydd ar gael ar gyfer cerbydau sydd â System Brecio Gwrth-gloi. Cerbydau Modur Lefel 3 Adnodd 5.
E N D
Cerbydau Modur Lefel 3 Adnodd 5 Gosodiadau System Brecio Gwrth-gloi
Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 5 Gosodiadau System Brecio Gwrth-gloi Nod Adnabod y gwahanol osodiadau sianel sydd ar gael ar gyfer cerbydau sydd â System Brecio Gwrth-gloi
Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 5 Gosodiadau System Brecio Gwrth-gloi Amcanion Erbyn diwedd y sesiwn dylech allu: • Enwi’r gwahanol fathau o osodiadau sianel. • Tynnu llun o’r gosodiadau sianel. • Egluro sut mae’r gosodiad sianel yn effeithio ar berfformiad y system. • Egluro sut mae signalau’n cael eu hanfon o’r sensorau i’r Uned Rheolaeth Electronig.
Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 5 Gosodiadau System Brecio Gwrth-gloi Pedair Sianel System Brecio Gwrth-gloi bedair sianel, bedwar sensor. • Hwn ydi’r cynllun gorau oherwydd mae sensor cyflymder wedi ei leoli ar bob olwyn unigol. • Mae falf i bob un o’r pedair olwyn. • Mae’r rheolydd yn monitro pob olwyn unigol er mwyn sicrhau na fydd yn llithro.
Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 5 Gosodiadau System Brecio Gwrth-gloi Tair Sianel • Mae sensor cyflymder a falf ar wahân i bob un o’r ddwy olwyn flaen. • Dim ond un falf ac un sensor sydd ar gyfer y ddwy olwyn ôl. • Mae’r sensor cyflymder ar gyfer y ddwy olwyn ôl wedi ei leoli yn yr echel ôl. • Mae’r system hon yn rhoi rheolaeth ar wahân i’r ddwy olwyn flaen. • Fodd bynnag, mae’r olwynion ôl yn cael eu monitro gyda’i gilydd; rhaid i’r ddwy gychwyn cloi cyn y bydd y System Brecio Gwrth-gloi yn gweithredu ar yr olwynion ôl. • Felly, o gymharu’r ddwy system, mae’r system tair sianel yn llai effeithiol na’r system pedair sianel.
Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 5 Gosodiadau System Brecio Gwrth-gloi Un Sianel • Mae gan y system hon un falf, sy’n rheoli’r ddwy olwyn ôl, ac un sensor cyflymder sydd wedi ei leoli yn yr echel ôl. • Yr olwynion ôl yn unig sy’n cael eu monitro gyda’i gilydd, ac mae’n rhaid i’r ddwy cychwyn cloi cyn y bydd y System Brecio Gwrth-gloi yn dod yn weithredol. • Yn arferol, bydd y system hon yn cynnwys un beipen frêc gyffordd T i’r olwynion ôl, gyda sensor cyflymder olwyn wedi ei leoli ar y differyn.
Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 5 Gosodidau System Brecio Gwrth-gloi Crynodeb Mewn grwpiau o dri eglurwch bob gosodiad. Dylech egluro:- • Eu heffeithiolrwydd. • Eu cymhwysiad (pa gerbydau). • Sut mae’r signalau cyflymder olwyn yn cael eu hanfon i’r Uned Rheolaeth Electronig, a sut mae hynny yn atal llithro. A wnewch chi adrodd eich canfyddiadau yn ôl i’r dosbarth, os gwelwch chi’n dda.
Cerbydau Modur Lefel 3Adnodd 5 Gosodiadau System Brecio Gwrth-gloi Crynodeb A ydyn ni wedi:- • Enwi’r gwahanol fathau o osodiadau sianel. • Tynnu llun o’r gosodiadau sianel. • Egluro sut mae gosodiad sianel yn effeithio ar berfformiad y system. • Egluro sut mae signalau’n cael eu hanfon o’r sensorau i’r Uned Rheolaeth Electronig.