130 likes | 323 Views
Dŵr: Gwers 1. Canlyniadau Dysgu Codi ymwybyddiaeth o’r ffaith nad yw dŵr bob amser yn hygyrch i bobl. Gwybod sut i osgoi gwastraffu dŵr Bod yn ymwybodol o’r ffaith bod plant mewn rhai rhannau o’r byd yn marw gan nad oes ganddyn nhw fynediad at ddŵr glân.
E N D
Dŵr: Gwers 1 • Canlyniadau Dysgu • Codi ymwybyddiaeth o’r ffaith nad yw dŵr bob amser yn hygyrch i bobl. • Gwybod sut i osgoi gwastraffu dŵr • Bod yn ymwybodol o’r ffaith bod plant mewn rhai rhannau o’r byd yn marw gan nad oes ganddyn nhw fynediad at ddŵr glân. MarilynWebster
Dŵr, dŵr ym mhob man, neu a ydyw e? • Bob dydd, rydym yn cymryd yn ganiataol ein bod ni’n gallu troi’r ymlaen • Bob dydd, rydym yn cymryd yn ganiataol y bydd gennym ddŵr glân i’w • Bob dydd, rydym yn cymryd yn ganiataol ein bod ni’n gallu cael MarilynWebster
Ond, nid yw pawb yn gallu! Mae dŵr glân yn hanfodol i fywyd, ond mae dros biliwn o bobl yn y byd hebddo. Mewn nifer o rannau o’r byd, nid oes gan bobl fynediad at ddŵr hyd yn oed. Ffaith: mae dros ddau filiwn o bobl yn marw o glefydau sy’n gysylltiedig â dŵr bob blwyddyn. Mae cyfanswm poblogaeth Cymru bron yn 3 miliwn (cyfrifiad 2001) MarilynWebster
Yn y cartref: Golchi Coginio Glanhau Ymolchi Dyfrhau’r ardd Golchi car Pyllau pysgod Yfed Tu allan i’r cartref: Gwneud dur Gorsafoedd pŵer Pŵer trydan dŵr Dyfrhau cnydau Mewn ysbytai Mewn swyddfeydd Mewn ffatrïoedd Pyllau nofio cyhoeddus Ar gyfer beth ydym ni’n defnyddio dŵr? MarilynWebster
Faint o ddŵr ydym ni’n ei ddefnyddio? Defnyddiwch y gyfrifiannell ddŵr i gyfrifo faint o ddŵr rydych chi’n ei ddefnyddio bob dydd. A oes yna bethau rydych chi’n defnyddio dŵr ar eu cyfer nad ydynt ar y rhestr isod? Eraill Glanhau dannedd 13L Bath 80L Potel o ddŵr ½ L Bwced o ddŵr 20L Peiriant golchi llestri 54L MarilynWebster
Fy nefnydd dyddiol o ddŵr. Lluniwch y tabl hwn yn eich llyfr. O dan defnydd, nodwch y pethau rydych yn defnyddio dŵr ar ei gyfer. Mae’r tabl yn cynnwys rhai enghreifftiau. MarilynWebster
Defnydd dyddiol fy nheulu o ddŵr. Gwaith cartref Gofynnwch i’ch teulu faint o ddŵr y maen nhw’n ei ddefnyddio mewn diwrnod nodweddiadol. MarilynWebster
Felly, faint o ddŵr ydych chi’n ei ddefnyddio? • Mwy na 1,200 litr; rydych yn GWASTRAFFU dŵr • Ceisiwch beidio â gwastraffu dŵr, peidiwch â gadael tapiau’n rhedeg • 750 – 1.200 litr; rydych yn ddefnyddiwr CYFEILLGAR. • Da, ond efallai y gallwch ddod o hyd i ffyrdd i arbed dŵr. • Llai na 750 litr; rydych yn BENCAMPWR. • Gwnewch yn siwr eich bod chi’n yfed digon o ddŵr a’ch bod chi ddim yn peidio â chael cawodydd! MarilynWebster
Felly, rydych chi’n……..? PENCAMPWR GWYLIO DŴR MarilynWebster
Sut allwn ni ddefnyddio llai o ddŵr? MarilynWebster
Sut allwn ni ddefnyddio llai o ddŵr? Troi tapiau i ffwrdd Llenwi’r peiriant golchi dillad i’r eithaf Llenwi’r peiriant golchi llestri i’r eithaf Casglu dŵr glaw Llenwi’r tegell i’w ddefnyddio ar unwaith yn unig Rhoi bricsen yn y seston Trwsio peipiau sy’n gollwng Peidio â defnyddio’r tŷ bach fel bin gwastraff ??????? MarilynWebster
Allech chi fod yn un o’r rhain? • Os bydd y defnydd o ddŵr yn parhau fel y mae ar hyn o bryd, erbyn 2025, ni fydd gan ddau o bob tri unigolyn ddigon o ddŵr ar gyfer eu hanghenion sylfaenol. • Ar hyn o bryd, nid oes gan bawb yn y byd fynediad at ddŵr glân a diogel. MarilynWebster
Beth ydych chi wedi’i ddysgu? • Faint o ddŵr rydw i’n ei ddefnyddio ar gyfartaledd bob dydd. • Ffyrdd y gallaf arbed dŵr. • Nid oes gan bawb yn y byd fynediad at ddŵr glân. • Heb ddŵr glân, bydd llawer o bobl yn marw. • Ni ddylem gymryd dŵr ffres yn ganiataol. MarilynWebster