120 likes | 280 Views
Uned 3: Rheolaeth Ariannol. Gwers 1: Costau Busnes. Un o brif bwrpasau busnes yw gwneud elw. Fodd bynnag, mae pob gweithgaredd busnes yn costio arian. Mae costau busnes yn cynnwys: Defnyddiau crai a chydrannau Cyflogau Trydan a ph ŵer Costau ffatri a swyddfa gan gynnwys rhent
E N D
Uned 3: RheolaethAriannol Gwers 1: CostauBusnes
Un o brif bwrpasau busnes yw gwneud elw. Fodd bynnag, mae pob gweithgaredd busnes yn costio arian. • Mae costau busnes yn cynnwys: • Defnyddiau crai a chydrannau • Cyflogau • Trydan a phŵer • Costau ffatri a swyddfa gan gynnwys rhent • Eraill h.y. ymchwil marchnata, hysbysebu, ayb
£ Yr arian y mae busnes yn ei dderbyn yn gyfnewid am y gwasanaethau y mae’n eu gwerthu yw ei dderbyniadau. Os ydy derbyniadau busnes yn fwy na’i gostau, mae wedi gwneud elw. Os ydy derbyniadau busnes yn llai na’i gostau, mae wedi gwneud colled. £
Mae costau busnes yn perthyn i ddau faes: COSTAU CYCHWYNNOL – sef y costau y mae’n rhaid i’r busnes gwrdd â nhw cyn iddo ddechrau cynhyrchu a gwerthu ei gynhyrchion. COSTAU GWEITHREDU – sef y costau y mae’n rhaid i’r busnes gwrdd â nhw yn ystod y broses feunyddiol o gynhyrchu a gwerthu ei gynhyrchion.
COSTAU COSTAU CYCHWYNNOL COSTAU GWEITHREDU • Ymchwil Marchnata • Adeilad • Peiriannau • Gosodion a Ffitiadau • Hysbysebu • Rhent ac ardrethi • Pŵer • Defnyddiau crai • Cyflogau
Ymchwil Marchnata • Mae’n darganfod yr hyn y mae cwsmeriaid ei eisiau • Gellir ei gynnal gan y busnes ei hun neu gan gwmni ymchwil marchnata allanol. • Adeilad • Mae’n dibynnu ar y math o fusnes h.y. siop, ffatri, ayb • Rhentu neu brynu Costau cychwynnol • Gosodion a Ffitiadau • Golau • Socedi trydan • Pwyntiau nwy ar gyfer gwres • Ffonau a socedi ffôn • Dodrefn swyddfa • Peiriannau • Mae’n dibynnu ar y math o fusnes h.y. mae angen llif ar saer, mae angen siswrn ar berson trin gwallt
Hysbysebu • Fe’i gwneir gan y busnes neu gan asiantaeth allanol • Penderfynu ym mha le i hysbysebu h.y. teledu, cylchgronau, ayb. • Gall fod yn ddrud • Rhent ac Ardrethi • Fel arfer caiff rhent ei dalu yn fisol • Caiff ardrethi eu talu i’r cyngor lleol • Defnyddiau Crai a Phŵer • Cydrannau sylfaenol a ddefnyddir yn y broses gynhyrchu • Mae’n dibynnu ar y math o fusnes – ffatri neu siop • Mae angen pŵer ar gyfer golau, gwres, defnyddio peiriannau Costau Gweithredu Costau eraill yn cynnwys: Trethi Llywodraeth Yswiriant Trwyddedau Dŵr Ffôn Post • Cyflogau • Rhaid talu gweithwyr am y gwaith a wnânt • Fel arfer yn cael eu talu yn fisol
Costau sy’n newid yn ol y nifer o unedau sy’n cael eu gwerthu Costau Newidiol Costau sydd ddim yn newid yn ol y nifer o unedau sy’n cael eu gwerthu Costau Sefydlog
Uned 3 Aseiniad 1 • Rydych chi wedirhestrueichcostauigyd. Yn Publisher, defnyddiwch y wybodaethigreuerthyglargyfercylchgrawn ‘LlygadBusnes’ sy’nesboniobethywcostaucychwyn, newidiol a sefydlogeichbusnes (rhanP1).
Uned 3 Aseiniad 1 • Rydych chi wedigweithioallanmai 4,000 o pizzas allwch chi greupobwythnos. Ganddefnyddio’rwybodaethhon, gweithiwchallanbethfyddaicyfanswmeichcostaunewidiol.(Dangoswcheichgweithioallan - Excel) (Rhan P1).
Uned 3 Aseiniad 1 • Ganddefnyddio’rprisgwerthurydychchi’nmyndiofyn am pob pizza, gweithiwchallangyfanswmeichrefeniw. (Dangoswcheichgweithioallan) (Rhan P1). • Gyda’rhollwybodaethuchod, esboniwchsutallwch chi weithioallanelwcrynswth ac elw net y busnesosyw 4,000 o pizzas yncaeleucynhyrchua’ugwerthu. (Dangoswcheichgweithioallan) (Rhan P1).
Uned 3 Aseiniad 1 • Rydych chi wedigweithioallanmai 4,000 o pizzas allwch chi greupobwythnos. Ganddefnyddio’rwybodaethhon, gweithiwchallanbethfyddaicyfanswmeichcostaunewidiol.(Dangoswcheichgweithioallan - Excel) (Rhan P1).