30 likes | 505 Views
Coedwigoedd Glaw Trofannol - Beth fyddech chi'n ei wneud?. Lleoliad:. Gaiana Cyfandir: De America Poblogaeth: 1,182,000 Prif ddinas: Georgetown. Maes gorchwyl:.
E N D
Coedwigoedd Glaw Trofannol - Beth fyddech chi'n ei wneud? Lleoliad: Gaiana Cyfandir: De America Poblogaeth: 1,182,000 Prif ddinas: Georgetown Maes gorchwyl: • Mae coedwigoedd glaw Gaiana, hyd yma, heb gael eu cyffwrdd gan mwyaf ond mae’r pwysau’n cynyddu ar yr arlywydd i ddefnyddio’r adnoddau o’r coedwigoedd glaw i wella economi’r Wlad a’i chryfder yn y farchnad fyd-eang. • Chi yw ymgynghorwyr arlywydd Gaiana. • Beth yw’r dadleuon o blaid achub ardal y goedwig law? • Beth yw’r dadleuon o blaid datblygu ardal y goedwig law? • Pa benderfyniadau fyddech chi’n eu gwneud? • Defnyddiwch y sleid nesaf i gymharu dadleuon ac i benderfynu drosoch eich hun …
Coedwigoedd Glaw Trofannol - Beth fyddech chi'n ei wneud? Gwarchod Datblygu Cryf Dadl Mae’r dodrefn pren o wledydd fel Gaiana yn rhad, o ansawdd da ac yn boblogaidd iawn gyda’n cwsmeriaid ni.Cwmni Cadwyn sy’n gwerthu Dodrefn yn y DU Rydyn ni’n gallu defnyddio’r pren o’r coed i wneud dodrefn a phapur. Rydyn ni’n gallu rhoi gwaith i drigolion lleol. Cwmni Torri Coed Os byddwn ni’n dymchwel y coedwigoedd, mae’n bosib na chawn ni nhw fyth yn ôl. Beth fyddwn ni’n ei ddefnyddio wedyn?Gwleidydd Y goedwig law yw ein bywyd – mae’n darparu pren, bwyd a meddyginiaeth ar gyfer fy mhobl. Arweinydd Llwyth Mae’r goedwig law yn gartref i’r Jagwar. Heb y goedwig, mae’n bosib y bydd yr anifail yn marw o’r tir! Cadwraethwr Mae gwledydd fel y DU wedi defnyddio eu hadnoddau i ddatblygu eu heconomi. Pam na allwn ni? Gwleidydd Sut arall allwn ni godi arian i’n pobl? Gwleidydd Gwan Cliciwch yma i weld beth benderfynodd Arlywydd Gaiana ei wneud yn 2007…
Coedwigoedd Glaw Trofannol - Beth fyddech chi'n ei wneud? Dyma'r hyn benderfynodd Arlywydd Gaiana ei wneud ... • Cynigiodd ddiogelu holl goedwigoedd glaw y wlad – 50 miliwn o erwau i gyd – yn gyfnewid am gronfeydd datblygiad cynaladwy gan y gwledydd mwy datblygedig. • Mae hyn yn golygu y gall Gaiana gynllunio ar gyfer datblygiad a diwydiant mwy gofalus ac amgylcheddol-gyfeillgar. • Mae sefydliad rhyngwladol (sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Brydain) yn awyddus i gefnogi Gaiana wrth iddyn nhw ddatblygu economi gwyrddach, mwy cynaladwy. • Mae hon yn enghraifft berffaith o wahanol wledydd yn gweithio gyda’i gilydd ar draws y Byd er mwyn lleihau’r effaith ar yr amgylchedd!