410 likes | 646 Views
Beth yw hanes?. Pwrpas yr adnodd hwn yw esbonio beth yw hanes, beth yw ei werth, sut mae haneswyr yn gweithio a beth yw cryfderau a gwendidau gwahanol fathau o dystiolaeth. Cliciwch ar y cysylltiadau isod i dderbyn mynediad i’r amryw dudalennau. 1. Beth yw hanes?. 2. Tystiolaeth.
E N D
Beth yw hanes? Pwrpas yr adnodd hwn yw esbonio beth yw hanes, beth yw ei werth, sut mae haneswyr yn gweithio a beth yw cryfderau a gwendidau gwahanol fathau o dystiolaeth. Cliciwch ar y cysylltiadau isod i dderbyn mynediad i’r amryw dudalennau. 1. Beth yw hanes? 2. Tystiolaeth 3. Dadansoddi tystiolaeth wreiddiol 4. Dadansoddi tystiolaeth eilaidd 5. Gwahanol fathau o dystiolaeth eilaidd 6. Pam mae haneswyr yn anghytuno? 7. Pam mae dadlau’n bwysig? 8. Prif ddiddordebau’r hanesydd 9. Gwahanol fathau o dystiolaeth wreiddiol. 10. Rhoi blaenoriaeth i ffynonellau. 11. Ymchwil a Tuedd 12. Cryfderau a gwendidau gwahanol fathau o dystiolaeth.
Beth yw hanes? • Mae dau ystyr i’r gair hanes: • I’r rhan fwyaf o bobl hanes yw’r gorffennol, sef popeth sydd wedi digwydd yn • hanes y byd. • Ond mae ail ystyr hefyd: • Ymdrech yr hanesydd, drwy ganfod ffeithiau a dehongli tystiolaeth wreiddiol ac • eilaidd, i ailadeiladu’r gorffennol. Drwy astudio ffynonellau mae haneswyr yn • dehongli’r [ceisio gwneud synnwyr o’r] gorffennol. • Felly gwaith yr hanesydd yw darganfod gwybodaeth am y gorffennol, esbonio a dadansoddi beth ddigwyddodd a chyrraedd casgliadau. Mae’n gwneud hyn drwy • astudio tystiolaeth wreiddiol ac eilaidd ac yn penderfynu pa ffynonellau sydd fwyaf defnyddiol a beth yw gwerth pob ffynhonnell.
Tystiolaeth Mae haneswyr yn astudio pob mathau o ffynonellau er mwyn dehongli’r gorffennol. Tystiolaeth wreiddiol: Tystiolaeth gan lygad dystion i ddigwyddiad neu ddigwyddiadau yn y gorffennol. Ffynonellau yw’r rhain sydd wedi goroesi. Maent yn cynnwys tystiolaeth fel: Llythyrau Lluniau Dillad Papurau newydd Ffilm Dyddiaduron Tystiolaeth eilaidd: Hanes digwyddiad neu ddigwyddiadau wedi ei greu gan bobl yn byw wedi’r digwyddiad. Fel arfer rydym yn son yma am lyfrau neu erthyglau gan: Haneswyr proffesiynol Haneswyr amatur.
Dadansoddi tystiolaeth wreiddiol • Dyma rai o’r pwyntiau y mae haneswyr yn eu hystyried wrth farnu safon ffynonellau gwreiddiol. • Pwy? • Pwy luniodd y ffynhonnell? Beth ydym yn ei wybod amdano/amdani? • Beth oedd yn dylanwadu ar yr awdur? [Oedd o neu hi yn ddiduedd neu oedd • ganddo/ganddi ddiddordebau arbennig fyddai’n dylanwadu ar yr hyn a • recordiwyd?] • Pam? • Oedd y ffynhonnell wedi ei llunio ar y pryd ac ar frys, neu a oedd y ffynhonnell • wedi ei llunio wedi meddwl a chynllunio gofalus? • Oedd y ffynhonnell yn un preifat neu a oedd hi wedi ei bwriadu ar gyfer • cynulleidfa ehangach? • Ai bwriad yr awdur oedd cyflwyno gwybodaeth yn unig? Neu ai’r bwriad oedd perswadio • eraill? Oes lle i amau fod yr awdur yn dweud celwydd neu’n fwriadol yn ceisio • camarwain?
Dadansoddi tystiolaeth wreiddiol Pryd a lle? Oedd y disgrifiad o’r digwyddiad wedi ei lunio ar y pryd gan rywun oedd yn rhan o’r digwyddiad neu a welodd y digwyddiad? Oedd y disgrifiad o’r digwyddiad wedi ei lunio gan rywun oedd yn rhan o’r digwyddiad neu a welodd y digwyddiad - ond bod y disgrifiad wedi ei lunio wedyn? Disgrifiad o’r digwyddiad gan rywun oedd ddim yno yn ystod y digwyddiad ei hun ond a oedd wedi siarad efo pobl oedd wedi bod yno. Faint o amser oedd wedi mynd heibio rhwng y digwyddiad a’r amser pan ysgrifennwyd y disgrifiad ?
Dadansoddi tystiolaeth wreiddiol • Fedra i ymddiried yn y ffynhonnell? • Mae haneswyr yn gorfod bod yn feirniadol wrth astudio ffynonellau. Dyma rai pwyntiau ychwanegol i chi eu hystyried wrth drafod tystiolaeth. • Ai awdur y ffynhonnell oedd yr awdur mewn gwirionedd? Pwy greodd y ffynhonnell a beth oedd ei rhan yn y gymdeithas? • A oedd y ffynhonnell wedi ei chynhyrchu'r adeg y mae’r awdur yn honni • iddi gael ei chynhyrchu? Efallai ei bod yn gopi neu’n gopi printiedig y gellid ei golygu. • Ydi’r ffynhonnell yn wrth ddweud ei hun mewn unrhyw ffordd? • Ydi’r ffynhonnell yn cytuno neu’n anghytuno efo ffynonellau eraill? • Y cyd-destun hanesyddol. Sut mae’r ffynhonnell hon yn rhan o’r ‘darlun mawr’ h.y. pryd, pam, sut, lle y cafodd ei gynhyrchu a gan bwy? Beth oedd credoau, mathau o lywodraeth, natur cymdeithas, system economaidd y cyfnod?
Dadansoddi tystiolaeth wreiddiol • Ffeithiau. Pa ffeithiau sydd i’w cael yn y ddogfen? • Darllen rhwng y llinellau. Mae haneswyr yn astudio cyfnod y ffynhonnell yn ofalus ac yn dadansoddi’r dystiolaeth yn ofalus. Felly mae haneswyr yn gallu casglu gwybodaeth o’r ffynhonnell. OND, efallai bod y wybodaeth sydd ar gael mewn dogfen ddim yn hollol amlwg. Dyma pryd mae’r hanesydd yn darllen rhwng y llinellau ac yn defnyddio ei sgiliau i gynnig awgrymiadau am ystyr neu bwysigrwydd neu arwyddocâd y ffynhonnell neu ran ohoni. • A ydwyf i yn deall y ffynhonnell fel yr oedd cyfoeswyr yn ei deall hi?
Dadansoddi tystiolaeth wreiddiol • Dylai’r hanesydd geisio defnyddio tystiolaeth wreiddiol sy’n cael ei gefnogi gan dystiolaeth arall. Os yw’r dystiolaeth yn unochrog yna dylai geisio cael tystiolaeth sy’n rhoi safbwynt i’r gwrthwyneb hefyd. • Wedi i’r hanesydd sefydlu pa mor ddilys a dibynadwy yw’r ffynhonnell yna mae’n barod i symud at y ddau gwestiwn pwysicaf: • Pa fath o wybodaeth y gallaf ddisgwyl i’r dystiolaeth neilltuol hon ei rhoi i mi? • Y cwestiwn mawr - pa wybodaeth y mae’r dystiolaeth hon yn ei rhoi i mi?
Dadansoddi tystiolaeth eilaidd • Bod yn oddrychol a gwrthrychol: • Mae haneswyr yn dehongli’r gorffennol h.y. mae pob hanesydd yn ysgrifennu hanes yn seiliedig ar ei ymchwil a’r rhagfarnau ei hun. Cofiwch: • Nid yw haneswyr yn wrthrychol h.y. nid yw’n bosibl iddynt fod yn ddiduedd wrth ysgrifennu hanes. • Hyd yn oed os yw hanesydd yn ceisio bod yn ddiduedd [yn ceisio bod yn wrthrychol] y gwir yw bod ei hanes yn oddrychol. • Un rheswm pam mae haneswyr yn oddrychol yw oherwydd mae pob hanesydd yn cael ei ddylanwadu gan ei oes ei hun. Er enghraifft, yn yr 19eg ganrif roedd pwyslais mawr ar hanes gwleidyddiaeth yng ngorllewin Ewrop. Erbyn ail hanner yr 20fed ganrif roedd mwy o hanesywr yn cymryd diddordeb yn hanes economaidd oherwydd bod ein hoes ni efo mwy o ddiddordeb mewn materion economaidd.
Dadansoddi tystiolaeth eilaidd Cyfnodau: Mae rhai haneswyr yn arbenigo ar wahanol gyfnodau e.e. oesoedd canol, y cyfnod wedi’r Ail Ryfel Byd. Mae hyn gallu bod yn beryglus oherwydd nid yw’r gorffennol yn ddi-dor. Rhaid bod yn ofalus felly os yw hanesydd yn datgan fod rhyw oes newydd wedi dechrau.
Gwahanol fathau o dystiolaeth eilaidd Gwerslyfr: fel arfer mae gwerslyfr yn ceisio cyflwyno’r hanes mewn modd dealladwy. Bydd elfen o ddadansoddi mewn gwerslyfr fel arfer. Mae gwerslyfrau fel arfer yn seiliedig bron yn gyfan gwbl ar astudiaeth o ffynonellau eilaidd. Traethawd ymchwil: Myfyrwyr sy’n dilyn gradd uwch mewn prifysgol sydd fel arfer yn ysgrifennu traethawd ymchwil. Mae traethawd ymchwil yn seiliedig bron yn gyfan gwbl ar dystiolaeth wreiddiol. Llyfr ysgolheigaidd: Mae’r math yma o lyfr hanes yn debyg i draethawd ymchwil ond wedi ei gyhoeddi fel llyfr. Er ei fod yn fanwl mae’n tueddu i astudio’r pwnc yn ehangach na thraethawd ymchwil. Haneswyr academaidd sy’n ysgrifennu llyfrau ysgolheigaidd gan amlaf. Erthygl: Fel arfer astudiaeth fanwl o bwnc ac, fel arfer, gan hanesydd academaidd. Mae erthyglau fel arfer yn ymddangos mewn cylchgronau hanesyddol e.e. Cylchgrawn Hanes Cymru, The American Historical Review.
Gwahanol fathau o dystiolaeth eilaidd Gwaith dadansoddol: sef pob prif fath o ysgrifennu hanesyddol, fel arfer gan haneswyr academaidd. Mae ymchwil i dystiolaeth wreiddiol yn rhan allweddol ohono ond mae o hefyd yn dadansoddi a chrynhoi gwaith haneswyr eraill. Hanes poblogaidd: Mae hanes poblogaidd yn anelu at gyfleu gwybodaeth y mae haneswyr eraill wedi cael hyd iddi mewn ffordd boblogaidd. Mae rhaglenni teledu a radio sy’n ymwneud ag amryw bynciau hanesyddol yn enghraifft o hanes poblogaidd - ond rhaid cofio bod rhaglenni teledu a radio yn gallu cynnig yr hanes yn fanwl, gydag elfen gref o ddadansoddi a hynny’n seiliedig ar ymchwil gwreiddiol ac eilaidd. Y nofel hanesyddol: Mae nofel hanesyddol yn gallu ail greu awyrgylch cyfnod i ni a rhoi syniad i ni o deimladau pobl y cyfnod mewn sefyllfa arbennig.
Pam mae haneswyr yn anghytuno? Mae gan bob un ohonom ein barn ein hunain ac felly rhaid disgwyl y bydd haneswyr yn anghytuno ar adegau. Mae pob hanesydd dan ddylanwad ei oes ei hun, ac yn ysgrifennu hanes o safbwynt ei oes ei hun. Heddiw, bydd hanesydd sy’n ysgrifennu llyfr ‘Hanes yr Oesoedd Canol’ yn gweld pethau’n wahanol i hanesydd fyddai’n ysgrifennu llyfr ‘Hanes yr Oesoedd Canol’ yn y flwyddyn 1850. Mae haneswyr yn astudio tystiolaeth wreiddiol i gyrraedd eu casgliadau. Ond mae gwahanol fathau o dystiolaeth wreiddiol efo’u problemau arbennig. Nid oes unrhyw dystiolaeth wreiddiol yn berffaith nac yn gyflawn. Mae tystiolaeth wreiddiol yn gallu gwrth ddweud ei gilydd. O ganlyniad, er i haneswyr ddefnyddio’r un dystiolaeth maent yn gallu cyrraedd casgliadau gwahanol. Yn y cyfnod modern mae gormod o dystiolaeth ar gael. O ganlyniad mae haneswyr yn cyrraedd casgliadau gwahanol yn dibynnu ar ba dystiolaeth a astudiwyd ganddynt.
Pam mae haneswyr yn anghytuno? Mae rhai haneswyr yn ceisio gweld patrwm mewn hanes - yr enghraifftfwyaf amlwg mae’n debyg yw’r Marcswyr. Mae haneswyr eraill o’r farn bod hanes yn digwydd oherwydd ei fod yn digwydd ac felly maen nhw’n edrych ar hanes yn wahanol. I rhai haneswyr y cwestiwn pwysicaf yw achos, sef pam mae pethau wedi digwydd. Mae rhai haneswyr yn gweld unigolion a’u gweithredoedd yn bwysig o fewn hanes. Mae dulliau newydd o astudio hanes yn golygu bod y ffordd y mae haneswyr yn edrych ar hanes yn newid. Mae diddordeb mewn ystadegaeth wedi arwain at gasgliadau gwbl newydd. Yn yr un modd mae datblygiadau ym myd cyfrifiadurol yn golygu, er enghraifft, ei bod hi’n bosibl archwilio llawer mwy o ddata yn llawer cyflymach.
Pam mae haneswyr yn anghytuno? Mae gan haneswyr eu diddordebau a’u harbenigedd neilltuol sy’n golygu eu bod yn cyrraedd casgliadau gwahanol. Mae rhai haneswyr efo diddordeb mewn hanes economaidd neu wleidyddol, eraill efo diddordeb mewn hanes merched neu hanes celf. Mae rhai yn arbenigwyr ar ffotograffau, eraill yn arbenigo ym maes enwau lleoedd, eraill mewn archaeoleg ddiwydiannol. Cofiwch fod haneswyr hefyd dan bwysau e.e. i gyhoeddi eu casgliadau, angen economaidd, pwysau gwleidyddol ac mae rhai wedi eu gorfodi i gyrraedd casgliadau arbennig e.e. mewn gwledydd totalitaraidd.
Pam mae dadlau’n bwysig? • Mae haneswyr efo diddordeb mewn darganfod gwirionedd hanesyddol - hynny yw, beth ddigwyddodd go iawn! Er bod haneswyr yn anghytuno - yn gryf iawn ar adegau - mae’r math yma o ddadlau yn hollbwysig oherwydd: • Mae’n gallu arwain at syniadau newydd am ddigwyddiad arbennig • Mae’n gallu profi rhyw syniad neu ddadl • Mae’n gallu arwain at ddadl neu syniad hollol newydd.
Prif ddiddordebau’r hanesydd 1] Mae haneswyr efo diddordeb neilltuol yn hanes ‘dyn’ yn ei gymdeithas 2] Mae haneswyr efo diddordeb penodol yn yr elfen o newid gydag amser, sef sut y mae cymdeithasau wedi newid a datblygu gydag amser. 3] Mae haneswyr efo diddordeb mewn profiadau ‘dyn’ mewn cymdeithas yn y gorffennol mewn gwirionedd. 4] Mae haneswyr yn ymwybodol bod y gorffennol yn hollol unigryw.
Gwahanol fathau o dystiolaeth wreiddiol. Ffynonellau ysgrifenedig cyhoeddus: Ffynonellau sydd wedi eu cynhyrchu ar gyfer cynulleidfa eang ac, fel arfer, wedi eu lledaenu. Mae’r rhain yn cynnwys: Cyfreithiau, papurau swyddogol y llywodraeth, papurau newydd, cylchgronau, arolygon, mapiau, siarteri brenhinol, penderfyniadau’r llys, deddfau seneddol, pamffledi, llyfrau a.y.b. Cofiwch! Gallai ffynhonnell ysgrifenedig cyhoeddus fod yn cynnwys celwydd, yn cynnwys camgymeriadau a bod yn annibynadwy. Ffynonellau ysgrifenedig preifat: Ffynonellau sydd wedi eu cynhyrchu ar gyfer defnydd preifat [unigolyn neu unigolion neu garfan arbennig]. Mae’r rhain yn cynnwys: Llythyrau personol, dyddiaduron, cytundebau, cofnodion ystadau, papurau cyflog, ewyllysiau, adroddiadau ysgol, Beibl teulu, llyfrau cownt, cyfrifiadau, adroddiadau adrannau’r llywodraeth. Cofiwch! Gan fod y rhain yn ffynonellau preifat mae’n bosibl eu bod yn brin iawn ac yn aml nid oedd neb yn meddwl y byddai pobl eraill yn eu darllen.
Gwahanol fathau o dystiolaeth wreiddiol. Tystiolaeth archeolegol: Nid yw tystiolaeth archeolegol wedi ei gyfyngu i’r gorffennol pell, mae tystiolaeth archaeoleg ddiwydiannol hefyd yn bod: Archeoleg - arysgrifau, olion (e.e. adeiladau, muriau), crochenwaith, darnau arian, arfau, murluniau. Archeoleg ddiwydiannol: gweddillion ffatrïoedd, hen beirianwaith, tai’r gweithwyr, olion systemau trafnidiaeth. Ffynonellau eraill: Mae’r rhain yn gallu bod yn amrywiol iawn ac yn cynnwys: Hanes llafar, enwau llefydd, ffilm, paentiadau, barddoniaeth, pensaernïaeth, ffotograffau o’r awyr, mapiau, ffotograffau, caneuon gwerin, cerflunwaith.
Rhoi blaenoriaeth i ffynonellau. O ran ffynonellau llawysgrif yn fras dylid dilyn y drefn: Llawysgrif cyn brintiedig: NID yw hi’n wir bod ffynonellau printiedig yn llai gwreiddiol na rhai sydd wedi eu hysgrifennu. OND mae’n rhesymol i ddyn/ddynes deimlo fod rhywbeth sydd wedi ei ysgrifennu yn llaw dyn/dynes arall yn agosach at fod yn hanes go iawn na rhywbeth sydd mewn print. Gwreiddiol cyn copi: Mae haneswyr yn amlwg eisiau astudio’r ddogfen wreiddiol. OND - gallai hyd yn oed dogfen sydd wedi ei hysgrifennu fod yn gopi - yn gopi llawer diweddarach a heb ddilyn y gwreiddiol gair am air. Gwreiddiol cyn eilaidd: Er bod tystiolaeth wreiddiol wael iawn ar gael dylent gael blaenoriaeth dros dystiolaeth eilaidd, sef dehongliad haneswyr. Swyddogol cyn breifat: Dylai dogfennau swyddogol fel adroddiadau’r llywodraeth gael blaenoriaeth dros ddyddiaduron fel enghraifft.
Ymchwil a Tuedd Ymchwil I’r hanesydd mae ymchwil yn golygu: Archwilio ffynonellau gwreiddiol mewn ffordd ddiwyd ac ysgolheigaidd Astudio ffynonellau eilaidd yn yr un modd. Ni ddylai’r un hanesydd gychwyn astudio unrhyw bwnc heb yn gyntaf ddarllen beth mae ei gyd-haneswyr, ddoe a heddiw, wedi ysgrifennu ar y pwnc. Nid pwrpas yr ymchwil yw ysgrifennu llyfr yn unig – ei bwrpas yw ehangu gwybodaeth dyn am faes arbennig.
Ymchwil a Tuedd Tuedd Ystyr tuedd i’r hanesydd yw bod rhywun yn edrych ar ddigwyddiad neu unigolyn o un safbwynt ac yn anwybyddu’r ochr arall i’r hanes: Gallai tuedd fod yn fwriadol neu’n anfwriadol Rhaid i hanesydd fod yn ymwybodol o duedd mewn tystiolaeth wreiddiol ac eilaidd. Rhaid i’r hanesydd geisio osgoi tuedd yn ei waith ei hun. Mae tuedd yn gallu codi oherwydd methiant i ddadansoddi’n gywir yr holl dystiolaeth sydd ar gael. Gallai tuedd godi oherwydd rhagfarn lwyr gan awdur.
Cryfderau a gwendidau gwahanol fathau o dystiolaeth. Ffotograffau Mae ffotograff yn adlewyrchu’r oes e.e. yn y 19eg ganrif roedd llawer o ffotograffwyr wedi bod yn arlunwyr, felly roeddynt yn tynnu ‘llun’ efo camera fel pe baent yn gwneud llun go iawn. Fel yr hanesydd ei hun, mae ffotograffwyr dan ddylanwad yr oes y maent yn rhan ohoni. Roedd ffug-ffotograffau yn bod o’r cychwyn cynnar. Roedd ffotograffau cynnar, a llawer hyd heddiw, yn gofnod o ddigwyddiad arbennig. Yn yr un modd mae pobl yn hoffi i ffotograffydd dynnu llun ohonynt sy’n eu dangos mewn golwg arbennig. Pan mae rhywun yn gwybod bod rhywun yn tynnu llun ohonynt yna maent yn tueddu i ymddwyn ychydig yn wahanol. Llun yn unig yw ffotograff - yn apelio at y llygaid yn unig - ac nid yw’n datgelu dim am arogl, blas a.y.b. Beth bynnag yw cyfyngiadau ffotograff - mae’n ddarlun cyflym o un sefyllfa sydd ond yn cofnodi'r hyn yr oedd y camera yn ei weld - y gwir plaen yw bod llun yn well na geiriau i ddangos y gwahaniaeth rhwng ddoe a heddiw. Ni ddylid defnyddio ffotograff fel tystiolaeth ar ei ben ei hun – yn hytrach rhaid ei ddefnyddio gyda thystiolaeth eraill.
Cryfderau a gwendidau gwahanol fathau o dystiolaeth. Ffilm Mae ffilm yn cwmpasu ystod eang – riliau-newyddion, ffilm, teledu, rhaglenni dogfen. Gan mai ‘dyn’ sy’n creu ffilm mae’n hawdd i’w olygu, newid neu fod yn hollol ffug. Mae’n bosibl bod y ffilm derfynol yn dra gwahanol i’r un y dechreuwyd arni. Mae pobl yn ymddwyn yn wahanol o flaen camera, felly gallai ffilmio digwyddiad effeithio ar y digwyddiad hwnnw. Mae’r ffyrdd y mae ffilm wedi datblygu dros y degawdau hefyd yn dweud llawer wrthym am yr oes y gwnaed y ffilm. Wrth astudio ffilm mae angen i’r hanesydd fod yn ymwybodol o fwriad y ffilm a pha neges oedd y ffilm am gyfleu. Mae haneswyr yn gallu astudio ffilm fel rhan o ddatblygiad technolegol, fel diwydiant, fel rhan o ddiwylliant gwlad ac fel ffurf ar bropaganda. Yn llawer pwysicach mae ffilm wedi chwarae rhan bwysig yn y broses o lywio barn y cyhoedd.
Cryfderau a gwendidau gwahanol fathau o dystiolaeth. Cofiant a hunangofiant. Er ei bod hi’n anodd gwahaniaethu rhwng y ddau heddiw: Cofiant – cofnod o ddigwyddiad neu fudiad arbennig a rhan yr unigolyn ynddo. Hunangofiant – hanes bywyd yr unigolyn a’i ysgrifennodd. Mae cofnod o hanes unigolyn yn sicr yn gallu ychwanegu at ein dealltwriaeth o ddigwyddiad. Ar un adeg, wrth gwrs, arweinwyr a phwysigion yn unig oedd yn ysgrifennu hunangofiant. Mae hunangofiant neu gofiant fel arfer yn cael ei ysgrifennu ymhell wedi’r digwyddiad. Mae hyn yn gallu bod yn fantais - mae’r darlun yn un mwy llawn ac mae’r unigolyn wedi cael amser i fyfyrio. Ar y llaw arall, gan fod yr unigolyn wedi cael amser i feddwl efallai ei fod wedi anghofio sut yn union yr oedd yn teimlo ar y pryd a pam yr oedd yn teimlo felly. Mae ambell hunangofiant yn llwyddo i osod hanes yr unigolyn yn ei chyd-destun ehangach - ond nid yw hynny’n wir bob tro. Os felly, darlun unochrog o fywyd yr unigolyn sydd i’w gael. Mae hunangofiant yn gallu helpu’r hanesydd i ddeall y rheswm dros weithred unigolyn. Drwy hunangofiant gallwn weld beth oedd yn gyrru’r unigolyn hwnnw/honno.
Cryfderau a gwendidau gwahanol fathau o dystiolaeth. Mae sawl hunangofiant yn gallu bod yn ddifyr i’w darllen efo straeon bach doniol neu ffraeth ynddynt – ond heb ychwanegu dim at yr hyn yr ydym yn ei wybod yn barod. Rhaid cadw mewn cof bwriad yr unigolyn sy’n ysgrifennu ei hunangofiant. Efallai bod yr unigolyn eisiau pwysleisio ei rhan yn y digwyddiad, efallai bod o neu hi eisiau cywiro cam. Hefyd os yw’r hunangofiant yn cael ei ysgrifennu gan unigolyn sydd mewn oed, efallai y bydd wedi anghofio ffeithiau pwysig neu wedi gosod digwyddiadau yn eu trefn anghywir. Pa mor onest fedrith rhywun fod? Os yw'n cyfeirio at gyfeillion a chydweithwyr mewn hunangofiant a yw hi’n bosibl bod yn hollol onest ac/neu wrthrychol? Pa dystiolaeth arall sydd ar gael? Mae haneswyr diplomyddol efo toreth o ffynonellau swyddogol i’w helpu - felly nid yw hunangofiant o gymorth mawr. Mae haneswyr cymdeithasol ar y llaw arall efo diddordeb yn agweddau pobl, eu harferion a’u hymddygiad felly mae hunangofiant yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn iddynt hwy. Byddai hanes yn sych iawn heb gael gwybod beth oedd teimladau pobl ar y pryd - ac mae hunangofiant yn rhoi hynny i ni.
Cryfderau a gwendidau gwahanol fathau o dystiolaeth. Dyddiaduron Tan yn eithaf diweddar arweinwyr cymdeithas - gwleidyddion, arweinwyr milwrol, gwyddonwyr - oedd yn cadw dyddiaduron. Gallai’r rhain ysgrifennu a fforddio papur ac inc! Mae dyddiaduron yn gallu ein cyflwyno i feddwl ac agweddau pwysigion gwledydd a hefyd y bobl gyffredin. Dros yr hanner canrif ddiwethaf mae llai a llai o bobl yn cadw dyddiadur - er bod datblygiadau fel y recordydd tâp a’r cyfrifiadur o ddefnydd mawr i’r rhai sy’n cadw dyddiaduron. Y rheswm dros gadw dyddiadur fel arfer oedd cadw cofnod ac i helpu i gofio, yr awydd i gadw record ar gyfer y dyfodol ar gyfer haneswyr, gwneud arian, hunan bwysigrwydd, i gyfiawnhau bodolaeth a phenderfyniadau ein hunain. Mae’n allweddol bwysig i’r hanesydd felly ystyried beth oedd rheswm yr unigolyn dros gadw’r dyddiadur. Nid yw’r ffaith bod unigolyn eisiau gwneud pres o’u dyddiadur neu eisiau ymosod ar rywun arall yn golygu bod y dyddiadur yn ddi-werth ond mae’n golygu bod rhaid i’r hanesydd fod yn fwy beirniadol o’r dyddiadur hwnnw. Os yw rhywun yn cadw dyddiadur er mwyn haneswyr y dyfodol yna mae’n bosibl hefyd fod yr unigolyn hwnnw/honno yn gorbwysleisio pwysigrwydd digwyddiad er mwyn iddo edrych yn bwysicach.
Cryfderau a gwendidau gwahanol fathau o dystiolaeth. Gallai dyddiaduron fod yn gwbl ddi-werth oherwydd mai cofnod yn unig sydd ynddynt. Os yw rhywun yn cadw dyddiadur dros amser maith yna mae’r hanesydd mewn sefyllfa well i weld cryfderau a gwendidau’r dyddiadur hwnnw. Mae dyddiaduron yn gallu ychwanegu at awyrgylch y cyfnod a rhoi darlun i ni o sut fath o berson oedd yr unigolyn hwnnw/honno. Mae dyddiaduron hefyd yn gallu cynnwys llawer o wybodaeth a manylion sydd ddim ar gael mewn llefydd eraill. A yw’r unigolyn sy’n ysgrifennu ei ddyddiadur yn gorbwysleisio ei bwysigrwydd ei hun? Os yw dyddiadur yn cael ei gadw bob dydd a yw’r unigolyn yn rhy agos i’r digwyddiad fel ei bod yn ysgrifennu dan deimlad. Ar y llaw arall, mae dyddiadur sydd wedi ei ysgrifennu ychydig wedi’r digwyddiad yn golygu ein bod yn colli gwir deimladau’r unigolyn ar y pryd. Cofnod gan un unigolyn ar y pryd yw dyddiadur, fel arfer wedi eu cofnodi ar frys.
Cryfderau a gwendidau gwahanol fathau o dystiolaeth. Cartwnau mewn papurau newydd. Mae cartwnau yn cynnig sylw cyfoes unionsyth ar ddigwyddiad. Mae cartwnau fel arfer yn adlewyrchu barn a’r newyddion sydd yn ymddangos yn y papur newydd. Rhaid cofio mai barn bersonol y cartwnydd ei hun sydd i’w gael mewn cartŵn. Mae’n bosibl nad oes dim geiriau o gwbl mewn cartŵn - felly rhaid i’r darllenydd dynnu ei gasgliadau ei hun am neges y cartŵn. Hyd yn oed hefo geiriau rhaid i’r darllenydd benderfynu dros ei hun beth yw’r neges. Mae cartwnydd fel arfer yn ceisio darganfod delwedd arbennig ar gyfer y cartŵn - fel bod y darllenydd yn cysylltu delwedd efo unigolyn neu ddigwyddiad arbennig. Mae cartwnau yn rhoi syniad i ni o ymateb pobl i ddigwyddiad ar y pryd. Gan fod rhaid i’r darllenydd gyrraedd ei gasgliadau ei hun yn amlwg rhaid derbyn y bydd pobl yn camddeall cartwnau yn aml.
Cryfderau a gwendidau gwahanol fathau o dystiolaeth. Gan mai un llun yw cartŵn gan amlaf, rhaid i’r cartwnydd gynnig darlun syml i gyfleu ei neges. Yn aml gallai’r darlun fod yn or-syml. Fel arfer maent yn canolbwyntio ar unigolion heb roi sylw i’r amryw agweddau eraill a allai effeithio ar y digwyddiad y mae’r cartŵn yn cyfeirio ato. Mae cartwnau yn defnyddio hiwmor yn aml - ond mae llawer yn dibynnu wedyn ar natur hiwmor y darllenydd a’i oes. Mae llawer o hen gartwnau'r 19eg ganrif, er enghraifft, yn anealladwy i ni heddiw. Mae cartŵn fel llun, mae’n gallu cyfleu llawer mewn ffordd syml a bod yn llawer mwy effeithiol na dogfen ysgrifenedig.
Cryfderau a gwendidau gwahanol fathau o dystiolaeth. Papurau diplomyddol Diplomyddiaeth – beth oedd un wladwriaeth yn ei ddweud wrth wladwriaeth arall. Mae cymaint o bapurau diplomyddol ar gael fel bod adrannau llywodraethau sy’n ymwneud â’r agweddau hyn yn cyhoeddi cyfrolau o bapurau diplomyddol at ddefnydd yr hanesydd. Fel arfer mae’r cyfrolau hyn yn cynnwys toreth o ddogfennau amrywiol ar y testun. Mae nifer o’r adrannau hyn hefyd yn cyflogi haneswyr i weithio iddynt gan gyhoeddi llyfrau hanes ‘swyddogol’ ar ryw agwedd ar bolisi tramor. Manteision hyn yw bod llawer o’r gwaith dethol a dewis eisoes wedi ei gyflawni. Anfantais amlwg yw bod llywodraethau yn aml eisiau cyfleu eu hochr hwy i’r hanes. Mae papurau diplomyddol yn gallu bod yn ddiflas iawn, dim llai na chofnodion rhai cyfarfodydd digon di-nod. Nid yw pob papur diplomyddol wedi ei gyhoeddi – felly rhaid i’r hanesydd ymchwilio mewn Swyddfa Cofnodion a mynd drwy’r amryw bapurau sydd ar gael.
Cryfderau a gwendidau gwahanol fathau o dystiolaeth. Nid yw llywodraethau yn rhyddhau pob un papur diplomyddol oherwydd yr effaith posibl ar eu perthynas efo gwlad arall neu oherwydd y byddai’n datgelu barn nad yw’r llywodraeth am i’r byd ei wybod. Hyd yn oed wedi sawl degawd mae llawer o bapurau diplomyddol sydd ddim ar gael i’r hanesydd. Rhaid cofio hefyd bod llawer o bapurau wedi eu colli – nid yw pob cyfarfod pwysig wedi ei gofnodi er enghraifft ac mae rhai unigolion pwysig iawn heb adael unrhyw bapurau ar eu hôl.
Cryfderau a gwendidau gwahanol fathau o dystiolaeth. Nofelau Stori ddychmygol yw nofel. Gallai nofel fod yn hanesyddol h.y. mae’r nofel yn fwriadol yn ceisio cynnig teimlad ac awyrgylch a deall cyfnod arbennig. Gallai’r nofel fod wedi ei osod yn y gorffennol ac nid yn amser y nofelydd sy’n ei ysgrifennu. Wrth gwrs mae nofel yn hanesyddol yn yr ystyr bod y nofel wedi cael ei ysgrifennu yn ystod cyfnod arbennig. Mae nofel yn gallu bod yn wreiddiol oherwydd mae nofel yn datgelu llawer am oes y nofelydd, yn arbennig os yw’r nofel wedi ei gosod yng nghyfnod y nofelydd ei hun. Mae nofelwyr hefyd yn rhoi cefndir ‘gwir’ i’w stori ac mae’n bosibl bod y nofelydd eisiau datgelu pethau am ei oes wrth ei gynulleidfa. Nid yw nofel yn dystiolaeth eilaidd achos nid yw’r gwaith ymchwil yn dilyn y canllawiau y byddai hanesydd yn eu dilyn. Mae hanes yn golygu adrodd stori - mae’r nofel hefyd ond mae nofel yn dibynnu’n fawr iawn ar y dychymyg ac, i bob pwrpas, yn stori ddychmygus. Ond mae nofel yn gallu bod o fudd i’r hanesydd - mae nofel yn delio efo cymeriadau, eu teimladau, ofnau, emosiynau ac yn eu gosod mewn cyd-destun hanesyddol. Drwy eu darllen rydym yn gallu cael ‘teimlad’ o gyfnod.
Cryfderau a gwendidau gwahanol fathau o dystiolaeth. Mae nofel yn gallu cyfrannu at drafodaeth drwy dynnu sylw at agweddau pwysig yr oes. Mae haneswyr yn defnyddio nofelau weithiau i adlewyrchu’r oes ond nid i brofi un rhywbeth. Rhaid cadw mewn cof fod ffuglen sydd wedi ei seilio ar ddigwyddiadau go iawn yn parhau’n stori ddychmygus. Ond mae nofel yn gallu bod o fudd i’r hanesydd - mae nofel yn delio efo cymeriadau, eu teimladau, ofnau, emosiynau ac yn eu gosod mewn cyd-destun hanesyddol. Drwy eu darllen rydym yn gallu cael ‘teimlad’ o gyfnod. Mae nofel yn gallu cyfrannu at drafodaeth drwy dynnu sylw at agweddau pwysig yr oes. Mae haneswyr yn defnyddio nofelau weithiau i adlewyrchu’r oes ond nid i brofi un rhywbeth. Rhaid cadw mewn cof fod ffuglen sydd wedi ei seilio ar ddigwyddiadau go iawn yn parhau’n stori ddychmygus.
Cryfderau a gwendidau gwahanol fathau o dystiolaeth. Mapiau Mae mapiau yn ddefnyddiol wrth esbonio ac egluro mewn hanes e.e. map o ymgyrch milwrol, a hynny fel tystiolaeth wreiddiol neu eilaidd. Mae mapiau gwreiddiol yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn fel ffynhonnell wybodaeth ac fel record o sut newidiodd ardaloedd. Nid yw haneswyr yn eu defnyddio’n aml fel ffordd o esbonio neu gyflwyno dadl hanesyddol. Dylid holi pam a sut y cynhyrchwyd y map arbennig yma. Pryd y cynhyrchwyd y map? Fel arfer roedd bwlch [sylweddol ar adegau] rhwng y dyddiad y lluniwyd y map a’r dyddiad iddo gael ei gyhoeddi.
Cryfderau a gwendidau gwahanol fathau o dystiolaeth. Roedd cynhyrchu mapiau yn fusnes costus felly roedd llawer o gopïo a ffugio. Roedd nifer o fapiau’r 19eg ganrif yn rhan o waith ymchwilwyr cymdeithasol ac yn cael eu defnyddio i gyflwyno a dadansoddi data e.e. i ddangos pa ardaloedd oedd yn dioddef fwyaf o dlodi mewn trefi a dinasoedd. Mae mapiau yn gallu bod yn arf bwysig i’r hanesydd – ond mae llawer yn dibynnu ar y testun a’r cwestiynau y mae’r hanesydd yn eu gofyn. Fel yn achos ffotograffau mae mapiau yn ffynonellau gweledol ac yn cynnig persbectif sydd ddim yn amlwg mewn ysgrifen.
Cryfderau a gwendidau gwahanol fathau o dystiolaeth. Posteri Datblygiad y chwyldro diwydiannol oedd yn gyfrifol am gyflwyno’r poster fel ffordd o berswadio neu annog pobl – y mwyafrif ohonynt yn anllythrennog – i gefnogi rhyw farn neu achos arbennig neu i ledaenu gwybodaeth. Mae posteri yn tueddu i fod yn syml ac felly’n effeithiol gyda neges glir fel arfer. Mae penderfynu pa mor effeithiol yw poster yn dibynnu ar faint o ddefnydd oedd yn cael ei wneud ohono ar y pryd. Roedd datblygiad posteri yn dangos fod llywodraethau yn poeni am farn y cyhoedd, yn arbennig yn yr oes fodern wedi datblygiad diwydiannu. Felly mae poster yn gallu datgelu llawer am amcanion, blaenoriaethau a phryderon llywodraeth. Yn yr un modd mae neges y poster yn gallu datgelu beth oedd natur y gymdeithas a’i blaenoriaethau hi a’r bobl ar y pryd.
Cryfderau a gwendidau gwahanol fathau o dystiolaeth. Lluniau, darluniau a phaentiadau. Mae’r rhain yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn i’r hanesydd ac yn sicr yn ffordd o ddod â’r gorffennol yn fyw. Maent yn ddefnyddiol o safbwynt rhoi gwybodaeth i ni am wisg, adeiladau, dulliau teithio, a sawl agwedd arall ar fywyd y cyfnod. Rhaid i’r hanesydd ofyn a yw’r artist wedi gwneud llun cywir o’r hyn a welodd - neu a yw o/hi wedi dehongli’r hyn a welodd yn ei ffordd ei hun. Oedd yr artist yn bresennol yn y digwyddiad - neu ai llun hollol ddychmygol ydyw? Gallai artist roi’r hyn y mae o neu hi eisiau i ni ei weld yn y llun – ac osgoi rhoi pethau hollol amlwg ynddo. A yw’r llun yn seiliedig ar ddisgrifiad diweddarach gan rywun arall neu a yw’n seiliedig ar sgets gyflym a wnaed ar y pryd? A gafodd yr artist ei gomisiynu i wneud y llun? Pwy oedd wedi gofyn iddo/iddi wneud y llun? Beth oedd y rheswm dros wneud y llun?
Cryfderau a gwendidau gwahanol fathau o dystiolaeth. Y Rhyngrwyd Mae dyfodiad y rhyngrwyd yn golygu fod llawer mwy o wybodaeth ar gael i’r hanesydd, yn llawer cyflymach ac mae cyfathrebu rhwng haneswyr yn llawer cynt. Ar y llaw arall rhaid cofio mai un ffynhonnell ychwanegol i’r hanesydd yw’r rhyngrwyd ac, fel efo pob ffynhonnell, rhaid i’r hanesydd fod yn ofalus. Rhaid gofyn a yw’r wybodaeth ar y wefan yn gywir. Gallai unrhyw un greu gwefan felly nid oes rheidrwydd bod y wybodaeth yn ddibynadwy. Gan fod unrhyw un yn gallu creu gwefan, rhaid ceisio manylion am awdur y wefan, pwy sydd wedi ei gyhoeddi, beth yw cymwysterau’r awdur? A yw’r wefan yn cynnwys nodiadau sy’n dangos o ble y cafodd y wefan ei wybodaeth? Mae gwefan sydd wedi ei ddatblygu gan brifysgol neu lyfrgell neu goleg yn llawer mwy tebygol o fod yn ddibynadwy na gwefan gan amatur brwdfrydig.
Cryfderau a gwendidau gwahanol fathau o dystiolaeth. A yw’r wefan yn dangos tuedd mewn unrhyw ffordd h.y. ydi’r wefan yn ceisio eich perswadio i ddilyn rhyw safbwynt gwleidyddol neu hiliol? Gallai’r cysylltiadau sydd ar y wefan ddatgelu llawer am dueddiadau awdur y wefan. Ydi’r wybodaeth sydd ar wefan yn gyfredol - a yw dyddiadau creu’r wefan neu ddiweddaru gwybodaeth yn eglur? Ydi’r wefan yn rhoi sylw teg i’r pynciau sydd wedi eu rhestru? Efallai mai’r oll sydd ynddo yw cysylltiadau efo gwefannau eraill. Cofiwch nid yw’r ffaith fod gwefan yn edrych yn ddeniadol ac yn broffesiynol efo teitl crand yn golygu ei bod yn ddibynadwy.
Cryfderau a gwendidau gwahanol fathau o dystiolaeth. Ystadegau a Graffiau Rhaid i’r hanesydd fod yn ymwybodol o faint o wybodaeth ystadegol sydd ar gael a sut fath o wybodaeth ystadegol sydd ar gael. Mae tablau, graffiau ac allbrint cyfrifiadurol i gyd yn enghreifftiau o wybodaeth ystadegol. Rhaid eu gosod yn eu cyd-destun a rhaid sicrhau bod ffynonellau eraill yn cadarnhau’r wybodaeth ystadegol. Rhaid ystyried os yw’r hanesydd a luniodd tabl, er enghraifft, wedi ei labelu’n glir efo allwedd addas? Ydi’r un math o unedau safonol yn cael eu defnyddio drwy’r tabl? Os yw’r tabl yn cynnwys dyddiadau a oes unrhyw reswm dros ddewis y dyddiadau arbennig sydd yn y tabl? Mae graffiau a thablau yn gallu cyflwyno gwybodaeth a chasgliadau mewn modd gweledol dealladwy. Cofiwch efo graff gellir newid ei effaith drwy newid graddfa’r graff. Felly mae rhai graffiau yn gallu edrych yn drawiadol ac effeithiol ond, wedi crafu’r wyneb, nid ydynt mor ddefnyddiol mewn gwirionedd.