60 likes | 238 Views
Beth yw fy sgìl?. Eglurwch ar y sleid hwn beth yw gwaith dylunydd goleuo. Am beth mae’r perfformiad ?. Eglurwch gefndir y perfformiad. Beth oedd eich syniadau cyntaf? Ble cawsoch chi’r syniadau hyn? Beth oedd ar y grŵp ei eisiau?
E N D
Beth yw fy sgìl? • Eglurwch ar y sleid hwn beth yw gwaith dylunydd goleuo.
Am beth mae’r perfformiad? • Eglurwch gefndir y perfformiad. • Beth oedd eich syniadau cyntaf? • Ble cawsoch chi’r syniadau hyn? • Beth oedd ar y grŵp ei eisiau? • Defnyddiwch luniau i helpu egluro’r hyn sydd raid i chi ei wneud. Gallai hyn gymryd mwy nag un sleid.
Lampau y gallwch eu defnyddio • Eglurwch ba lampau sydd gennych a beth maen nhw’n ei wneud. • Eglurwch ba fath o ddec goleuo y byddwch chi’n ei ddefnyddio. • Gwnewch luniad wrth raddfa o’r gofod perfformio a’r rig goleuo. • Cynlluniwch ble i roi pob lamp yn y rig. • Cynlluniwch o ba sianel y caiff pob lamp ei gweithio. • Eglurwch ba fath o ddesg sydd gennych a sut mae’n gweithio. • Does dim rhaid i chi rigio’r goleuadau ond mae angen ichi ddweud wrth rywun ymhle rydych chi eisiau’r goleuadau. Gallai hyn gymryd mwy nag un sleid.
Dangos eich dyluniadau terfynol • Mae angen 4 cyfuniad lliw gwahanol. • Mae angen o leiaf 8 ciw gwahanol. • Gwnewch luniad o’r bwrdd jaciau. • Ysgrifennwch daflen plot a pha lampau sy’n mynd ar ba sianeli a pha jaciau. • Ysgrifennwch y ciwiau ar y daflen giwiau. • Ysgrifennwch y ciwiau ar y sgript – trefn y perfformiad. Gallai hyn gymryd mwy nag un sleid.
Defnyddio taflen giwiau • Ar gyfer pob ciw gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod lefel pob graddolydd. • Gwnewch yn siŵr fod y daflen yn eich ffolder. • Am ba hyd mae pob ciw goleuo’n para? A ydyw’n traws-raddoli â chiw arall? Oes yna ddiffodd y golau’n gyfangwbl? Am ba hyd y dylai bara? • Pa liwiau rydych chi wedi’u dewis, a pham, ar gyfer pob ciw. Gallai hyn gymryd mwy nag un sleid.
Pethau i’w cofio cyn eich cyflwyniad • Ychwanegwch luniau i’r templed hwn i wneud eich cyflwyniad yn ddiddorol. • Dylai’r templed hwn eich helpu i gynllunio eich cyflwyniad ond bydd angen ffolder arnoch hefyd i ddangos proses eich dyluniadau. Cofiwch ddangos hwn i’r athro/athrawes / arholwr. • Gwnewch yn siŵr fod eich perfformwyr yn teimlo’n gyfforddus a hyderus yn yr effeithiau goleuo rydych chi wedi’u creu.