1 / 13

Yr Argyfwng Ynni

Yr Argyfwng Ynni. Mae ein cyflenwadau ynni’n dod i ben. Rhaid i ni feddwl sut i wneud ynni yn y dyfodol. Mae pob un ohonom yn defnyddio ynni drwy’r dydd, bob dydd!. Daw’r rhan fwyaf o’n ynni drwy losgi tanwydd ffosiledig, megis glo, nwy ac olew.

keisha
Download Presentation

Yr Argyfwng Ynni

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Yr Argyfwng Ynni Mae ein cyflenwadau ynni’n dod i ben. Rhaid i ni feddwl sut i wneud ynni yn y dyfodol.

  2. Mae pob un ohonom yn defnyddio ynni drwy’r dydd, bob dydd!

  3. Daw’r rhan fwyaf o’n ynni drwy losgi tanwydd ffosiledig, megis glo, nwy ac olew.

  4. Mae tanwydd ffosiledig yn dod i ben ac yn llygru ein byd. Byddwn angen bron i 60% yn fwy o ynni mewn 30 mlynedd. Mae arbenigwyr olew yn amcangyfrif y byddwn yn defnyddio ein olew i gyd o fewn y 40 mlynedd nesaf!

  5. Dychmygwch mai chi sy’n rhedeg y wlad. Pa fathau o ynni fyddech chi’n ei ddefnyddio? Gwynt, môr, niwclear, haul, glo? Edrychwch ar y gwahanol fathau o ynni, wedyn trafodwch eich dewisiadau.

  6. Glo, nwy ac olew. Mae arbenigwyr olew yn amcangyfrif y byddwn yn defnyddio ein olew i gyd o fewn y 40 mlynedd nesaf! Dywed eraill y byddwn yn dod o hyd i fwy.

  7. Ynni gwynt Gall ynni gwynt ar y tir ddarparu incwm gwerthfawr i gefn gwlad Cymru, yn arbennig i gymunedau ffermio mewn ardaloedd o dir uchel.

  8. Ynni môr Mae gan y môr o amgylch arfordir Cymru botensial i gynhyrchu digonedd o drydan drwy harnesu pŵer y llanw, cerrynt a thonnau. Mae gan Gymru gerhyntau cryfion yn y môr a rhai o’r amrediadau llanw uchaf yn y byd. Mae cynlluniau yn cael eu trafod ar gyfer Bae Abertawe, Moryd Hafren a Bae Lerpwl.

  9. Ynni niwclear Mae 16 pwerdy niwclear ym Mhrydain ar hyn o bryd – bydd bob un yn cau erbyn 2023. Y syniad yw y bydd ffynonellau ynni adnewyddol eraill yn cymryd lle pŵer niwclear ac yn esmwythau dibyniaeth Prydain ar danwydd ffosiledig. Er hynny, mae’r llywodraeth ar hyn o bryd yn cael eu cynghori i adeiladu mwy o bwerdai niwclear os ydynt i gwrdd â thargedau rhyddhad nwyon tŷ gwydr. Dengys y llun hwn bwerdy niwclear Trawsfynydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Cafodd ei gau yn 1993. Cedwir yr adweithyddion niwclear o fewn yr adeilad o hyd.

  10. Gwahanol fath o Niwclear Mae pŵer niwclear heddiw yn cael ei greu drwy hollti atomau (ymholltiad niwclear). Mae gwyddonwyr yn datblygu math newydd o bŵer niwclear sydd yn ddiogel iawn ac yn cyfuno atomau (ymasiad niwclear). Mae digon o danwydd ymasiad ar gael ac nid yw’n cynhyrchu gollyngiad tŷ gwydr pan yw’n cael ei “losgi”. Mae yn ddiogel oherwydd ei fod yn diffodd os yw’n camweithio; ac er bod deunyddiau ymbelydrol yn cael eu cynhyrchu, nid ydynt o lefel uchel nac yn para am flynyddoedd maith. Ymasiad sy’n rhoi egni i’r Haul Bydd angen 30 mlynedd arall i ddatblygu ymasiad niwclear.

  11. Ynni Solar Mae teils to solar yn defnyddio golau’r haul i greu trydan neu ddŵr poeth. Gall tai sydd â llawer o deils gynhyrchu mwy o drydan nag y maent yn ei ddefnyddio – gellid gwerthu hyn yn ôl i gwmniau trydan lleol.

  12. Tiwbiau Haul Mae tiwbiau haul yn adlewyrchu golau ddydd naturiol lawr drwy diwb i mewn i gartref neu swyddfa. Maent yn ffordd dda o arbed ynni yn ystod y dydd.

  13. Golau naturiol ‘Tŷ Gwyrdd’ Sain Ffagan Mae wyneb ddeheuol y tŷ yn wydrog er mwyn manteisio’n llawn ar ynni solar.

More Related