190 likes | 368 Views
Rhagarweiniad fideo i newid hinsawdd a lliniaru Cymreig a Byd Eang. http://www.youtube.com/watch?v=zzjOcOcQ90U (fideo newid hinsawdd llywodraeth y DG - dim byd gan y Cynulliad???) http://www.youtube.com/watch?v=mmheyHD3eQc (trawiadau cymreig – mae yna fersiwn Gymraeg ar
E N D
Rhagarweiniad fideo i newid hinsawdd a lliniaru Cymreig a Byd Eang • http://www.youtube.com/watch?v=zzjOcOcQ90U (fideo newid hinsawdd llywodraeth y DG - dim byd gan y Cynulliad???) • http://www.youtube.com/watch?v=mmheyHD3eQc (trawiadau cymreig – • mae yna fersiwn Gymraeg ar gael nas lwythwyd i’r we) BBC News, 2007.www.bbc.co.uk/media/images
Cywaith Newid Hinsawdd i Bobol Ifanc BEACONS Gethin While, Prifysgol Caerdydd ENWAU eraill
Trefn y gweithdy • Gwyddoniaeth newid hinsawdd • Trawiadau newidd hinsawdd yng Nghymru - esiampl(au) • Gweithgaredd 1- “Gwe eitha’ syml” • Gweithgaredd 2- “ Bywyd ac Amseroedd Scott o Abernewydd” • Adborth
Ydy gwyddonwyr yn sicr o beth fydd yn digwydd yn y dyfodol? Gwyddoniaeth Newid Hinsawdd… • Mae’r cyflwyniad byr hwn yn amnlinellu rhagamcaniadau newid hinsawdd yng Ngymru: • Tymheredd, dyddodiad (glaw, eira ayyb), stormusrwydd a codiad yn lefel y môr • Bydd hefyd yn egluro rhai o achosion ansicrwydd wrth ystyried hinsawdd y dyfodol
Tymheredd yn y 2050au • Ar gyfartaledd fydd Cymru’n • 2.5°C yn gynhesach yn yr Hâf • 2°C yn gynhesach yn y Gaeaf Newid mewn tymheredd gymedrig flynyddol Newid mewn tymheredd hafol Gallech chi ddychmygu ‘r newidiadau i’ch bywyd petai hafau’n gynhesach? www.climateprojections.defra.gov.uk
Dyddodiad yn y 2050au • Ar gyfartaledd fydd Cymru’n Wales : • 17% mwy sych yn yr Hâf • 14% yn glwypach yn y Gaeaf Newid mewn dyddodiad hafol Newid mewn dyddodiad gaeafol Buasai hafau mwy sych yn eich effeithio? www.climateprojections.defra.gov.uk
Stormusrwydd Stormydd llym fesul degawd • Negeseuon allweddol: • Nifer cynyddol o stormydd ond nid mwy na lefelau yr 1920au • Ychydig iawn o brawf am drawiad dynol • Ychydig iawn o brawf ynghylch cynydd mewn dwysedd (pa mor gryf yw’r storm) neu amlder (pa mor aml mae stormydd yn digwydd) stormydd dros Brydain yn y dyfodol www.climateprojections.defra.gov.uk
Afon Menai (Dwyrain) 20cm Bae Ceredigion 20cm Môr Hafren 25cm Caerdydd 22cm Lefel y Môr • Neges allweddol: • Codiad yn lefel y môr o 25 – 35cm yn ystod 2060-80
Ansicrwydd • Mae yna lawer o ansicrwydd ynghylch rhagfynegi newid hinsawdd – nid ydym yn gwybod digon am y wyddoniaeth sy’n peri newidiadau i'r system hinsoddol • Nid yw’r modelau cyfrifiadurol hinsawdd byd eang (GCMs) yn 100% gywir eto –y rhain sy’n cael eu defnyddio i ragfynegi posibiliadau newid hinsawdd yn y dyfodol • Mae'r hinsawdd hefyd yn newid yn naturiol felly mae yna gryn ddadl dros y trawiad y mae dynoliaeth yn ei chael • Allyriadau nwyon tŷ gwydr yn anodd eu rhagfynegi
Crynodeb • Yn y dyfodol mae’n bur debyg fydd Cymru’n gynhesach yn ystod misoedd yr hâf a’r gaeaf • Mae’n debyg y bydd hafau’n fwy sych a gaeafau’n wlypach, gyda mwy o ddyddodiad yn ystod cawodydd trymion. • Mae’n ansicr iawn os bydd stormusrwydd yn newid dros Gymru • Mae lefel y môr yn debyg o godi 35cm yn ystod 2060-80 • Os bydd codiad yn lefel y môr yn cyd-ddigwydd â storm arw gall y trawiadau fod yn llym iawn • Cymerir y data o ragamcaniadau UKCP09 • Gweler www.climateprojections.defra.gov.uk am ragor o fanylion
Esiampl o Drawiad Newid Hinsawdd ar yr ardal leol ac opsiynau ymaddasu
Gweithgaredd 1…Gwe eitha’ syml • Ffurfiwch grwpiau o 7. Gwnewch gylch. • Gofynnwch y person talaf i enwi'r peth mwyaf gwerthfawr sydd yn ei feddiant e.e. gliniadur, bwrdd sgrialu, ffôn symudol • Clyma Person 1 pen y cortyn i’w fys. Gan ddefnyddio cysylltiadau geiriol /“word association”, taflwch y belen wlân at rywun arall yn y grŵp • Bydd y person hwn yn clymu’r cortyn o gwmpas ei fys . E.e. gliniadur…. allweddi… plastig…. clic…clap… bang… taranau….mellt ayyb. • Cadwch fynd nes bod pawb â chwlwm ar fys ar y ddwy law. • Pan fydd pobun â dau gwlwm, tynnwch ar un pen y cortyn i weld beth sy’n digwydd.... Beth yw eich canlyniadau?
Canlyniad??? Mae popeth yn gysylltiedig â phopeth arall !!! sef….effeithiau datblygiad dynol ar yr amgylchedd naturiol ac effaith yr amgylchedd naturiol ar ddatblygiad dynol
Gan weithio mewn grwpiau, dychmygwch eich bod chi’n “Scott” , llanc 16 oed sy’n byw yn Abernewydd • Gadewch i ni archwilio dyfodol Scott……
Gweithgaredd 2... “Bywyd ac amseroedd Scott o Abernewydd” Croeso i Abernewydd, dref wledig ar arfordir De Cymru • intro to abernewydd film.MOD
Beth oedd opsiynau Scott yn 2010, 2040 a 2060? • Darllenwch y deunydd esboniadol a cwblhewch y matrics. Meddyliwch pam mae Scott yn gwneud y dewisiadau hyn: 1. Sut mae Scott yn teithio o Abernewydd i Cwtch? 2. Oes angen i Scott addasu ei gartref? 3. O ble mae ynni Scott yn dod? + Cyfeirio at ddalenni gwybodaeth ychwanegol
Cwestiynau i’w hystyried: • Cyfrifoldeb pwy yw hi i ddylanwadu ar ymddygiad unigolyn – nhw eu hunain neu’r llywodraeth? • Cyfrifoldeb pwy ddyliai fod i dalu am fesurau addasu tai yn 2060 – unigolion, cymunedau neu’r llywodraeth? • Sut gallwch chi gymryd rhan mewn penderfyniadau ar drafnidaeth, yn lleol ac yn genedlaethol? • Dylem ni adleoli pentrefi ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol neu eu gadael nhw i ddatrys eu problemau nhw eu hunain pan ddaw’r angen?
Beth rydym ni wedi ei ddysgu? • Rhai ffeithiau ynghylch newid hinsawdd • Yr ansicrwydd sydd yn gysylltiedig â’r wyddoniaeth • Cysylltiad popeth â phopeth • Esiamplau o opsiynau ymaddasu ar gyfer newid hawdd • Archwilio opsiynau Scott ar gyfer y dyfodol
Diolch yn fawr! Helpwch ni drwy gwblhau a dychwelyd yr holiadur Am ragor o wybodaeth cliciwch ar http://www.severnestuary.net/yocco/index.html