1 / 50

Modiwl 10: Byd gwaith

Modiwl 10: Byd gwaith. Amcanion y modiwl.

krysta
Download Presentation

Modiwl 10: Byd gwaith

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Modiwl 10: Byd gwaith

  2. Amcanion y modiwl • Cyfle i edrych ar y deilliannau dysgu yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) a’r Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru i adnabod meysydd o’r cwricwlwm sy’n darparu cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth am ffyrdd o ennill arian, talu treth, cadw golwg ar eu harian drwy weithgaredd menter, a delio ag elw a cholled. • Cynnig syniadau trafod am ennill arian. • Rhannu syniadau ystafell ddosbarth y gellir eu defnyddio yng Nghyfnodau Allweddol 2, 3 a 4 i ddatblygu sgiliau rhifedd dysgwyr yng nghyd-destun ennill arian, treth incwm, a syniadau a gweithgareddau menter. • Darparu rhestr o wefannau defnyddiol ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 i 5. • Sylwch: Bydd gwahaniaethu, syniadau ymestyn a chwestiynu effeithiol yn cael eu hawgrymu’n aml yn y nodiadau o fewn y PowerPoint i athrawon/hyfforddwyr eu defnyddio yn ôl yr angen.

  3. Nodau’r dysgwyr • Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno ennill arian a menter. • Bydd dysgwyr yn gallu: • gwerthfawrogi bod arian yn cael ei ennill drwy weithio • deall y gwahaniaeth rhwng cyflog a phae • disgrifio rhai ffactorau sy’n effeithio ar yr arian y mae rhywun yn ei ennill • adnabod yr isafswm cyflog ar gyfer grwpiau oedran gwahanol • deall y derminoleg a’r didyniadau ar slip cyflog • cyfrifo cyflog wythnosol, misol a blynyddol • cyfrifo’r dreth incwm sy’n cael ei thalu yn seiliedig ar ddau gyflog • adnabod gweithgareddau menter addas i’w cwblhau yn yr ystafell ddosbarth. • Mae’r modiwl i’w ddefnyddio ar draws cyfnodau allweddol – ni fydd pob deilliant yn gymwys i bob dysgwr.

  4. Y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) • Mae’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) yn canolbwyntio ar bedwar llinyn rhifedd: • Llinyn 1: Datblygu ymresymu rhifyddol • Llinyn 2: Defnyddio sgiliau rhif • Llinyn 3: Defnyddio sgiliau mesur • Llinyn 4: Defnyddio sgiliau data.

  5. Cydran rhifedd y FfLlRh • Llinyn: Defnyddio sgiliau rhif • Elfennau: • Defnyddio ffeithiau rhif a’r berthynas rhwng rhifau • Ffracsiynau, degolion, canrannau a chymhareb • Cyfrifo gan ddefnyddio dulliau meddwl ac ysgrifenedig • Amcangyfrif a gwirio • Rheoli arian • Mae’r PowerPoint hwn yn canolbwyntio ar ennill arian ac mae’n cynnwys gwneud cyfrifiadau.

  6. Deilliannau dysgu’r FfLlRh Mae’r tabl canlynol yn dangos deilliannau dysgu Cyfnod Allweddol 3 fel y’u nodir yng nghydran rhifedd y FfLlRh. Mae’r PowerPoint hefyd yn cynnwys cyfle i rannu â’r dysgwyr sut i gyfrifo treth incwm. Mae’r teip trwm yn y tabl canlynol yn dangos ble mae’r amcan i’w weld yn y FfLlRh.

  7. Mae’r Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu dealltwriaeth yng nghyd-destun ennill arian a deall eu materion ariannol.Mae hyn wedi’i amlygu mewn teip trwmar y sleidiau canlynol.

  8. Ennill arian Gweithgaredd cychwynnol: Sut ydym ni’n ennill arian? Pa oedran yn eich bywyd ydych chi’n dechrau/gorffen ennill arian? Gyda dysgwyr iau, rhannwch y Daflen weithgaredd rheoli arian: Sut ydym ni’n cael ein harian?a’r Daflen weithgaredd rheoli arian: Tacsi Wendy.

  9. Ydych chi’n gwybod y gwahaniaeth? Pae Cyflog Fel rheol caiff pae ei dalu fesul awr. Efallai y bydd rhaid i chi ‘glocio i mewn’ a ‘chlocio allan’ o swydd sy’n talu pae i ddangos i’ch cyflogwr sawl awr rydych chi wedi gweithio. Nid ydych chi’n debygol o gael eich talu am amser o’r gwaith (salwch neu wyliau) ond efallai y byddwch chi’n gallu gweithio goramser am gyfradd uwch yr awr. Mae pobl sy’n ennill cyflog yn cael ei dalu yr un swm ar ddiwedd bob mis fel arfer, wedi’i gyfrifo o’r cyflog blynyddol. Fel arfer byddan nhw’n derbyn tâl gwyliau neu dâl salwch, ond nid ydyn nhw’n debygol o gael tâl goramser gan fod y cyflog ar gyfer yr un maint o waith y mae disgwyl i’r gweithiwr ei wneud.

  10. Senario trafod • Mae Paul Roberts yn rheolwr gyfarwyddwr FinRob Cyf., cwmni sy’n cynhyrchu cydrannau electronig ar gyfer y diwydiant telegyfathrebu. Mae Paul yn ennill cyflog o £65,000 ac mae dau o’i gyfarwyddwyr eraill yn ennill cyflog o £42,000 y flwyddyn. Mae ei staff gwerthu yn ennill cyflog o £16,000 gyda buddion. Mae’r buddion hyn yn cynnwys car cwmni, costau teithio a chomisiwn (canran o’r gwerthiannau). Mae’r gweithiwr gwerthu cyffredin yn ennill tua £25,000. Mae’r gweithwyr cynhyrchu yn ennill £6.60 yr awr ac yn gweithio wythnos waith safonol (40 awr). Weithiau gellir gofyn iddyn nhw weithio ar ddydd Sadwrn a byddan nhw’n cael goramser ar gyfradd o £9.90 yr awr ar gyfer hyn. • Cwestiynau • Faint fyddai gweithiwr cynhyrchu yn cael ei dalu mewn wythnos safonol gyda 5 awr o oramser? • Pe byddai gweithwyr cynhyrchu yn cael codiad tâl o 1%, beth fyddai eu cyfradd yr awr newydd? • Mae John (gweithiwr cynhyrchu) yn dweud ei fod yn cael ‘amser a hanner’ar gyfer gweithio goramser. Beth mae hynny’n ei olygu? Ydy e’n gywir? • Pa ran o’r gweithlu sy’n cael cyflog yn hytrach na phae? • Pam ydych chi’n meddwl bod y staff gwerthu yn cael comisiwn?

  11. Swyddi a’u cyflogau Syniadau trafod: Faint o arian fyddech chi’n hoffi ei ennill? Pa ffactorau sy’n effeithio ar swm yr arian y mae rhywun yn ei ennill?

  12. Ffactorau sy’n effeithio ar yr arian y mae rhywun yn ei ennill Oriau sy’n cael eu gweithio Bydd gweithwyr amser llawn yn yr un swydd â gweithwyr rhan-amser yn ennill mwy. Efallai y bydd rhai pobl am weithio goramser gyda chyfradd fwy yr awr. Sgiliau a/neu brofiad Mae swydd fedrus uwch yn debygol o dalu mwy o arian na swydd anfedrus. Gall rhywun sydd â mwy o flynyddoedd o brofiad yn gwneud swydd gael ei dalu mwy na rhywun sy’n newydd i’r swydd. Gall rhywun sy’n gwneud swydd yn Llundain gael ei dalu mwy na rhywun sy’n gwneud yr un swydd rhywle arall yn y DU, a all yn ei dro gael ei dalu mwy na rhywun sy’n gwneud swydd mewn ardaloedd gydag economi llai datblygedig mewn gwlad arall. Lleoliad Galw Gall swydd y mae galw mawr amdani neu lle mae prinder pobl sy’n gwneud y swydd arwain at rywun sy’n cael digon o waith neu sy’n ennill cyflog da.

  13. Y farchnad swyddi • Syniadau ystafell ddosbarth trawsgwricwlaidd: • Gwahoddwch oedolyn i’r ysgol sy’n barod i gael ei gyfweld gan y dysgwyr am y math o swydd y maen nhw’n ei gwneud. • Gofynnwch i’r dysgwyr ysgrifennu hysbyseb swydd ar gyfer cymeriad ffugiol, e.e. gwarchodwr ar gyfer yr Hugan Fach Goch. • Ceisiwch annog dysgwyr i ymchwilio i’r math o swyddi sydd wedi cael eu gwneud yn y gorffennol (yn eu hardal leol, yn y DU neu ar draws y byd). Ydyn nhw dal yn bodoli? Os nac ydyn nhw, pam? Oedden nhw’n swyddi â thâl teg? Pa mor hen oedd y gweithiwr ar gyfartaledd yn y swyddi hyn? Beth oedd yr amodau gwaith? Gallai dysgwyr gymharu eu hymchwiliadau â chostau byw nawr ac yn y gorffennol. • Gofynnwch i’r dysgwyr ymchwilio i swyddi y mae’n rhaid i bobl ifanc eu gwneud efallai mewn gwlad gydag economi llai datblygedig.

  14. Fy swydd yn y dyfodol Pa swydd ydych chi am ei gwneud pan fyddwch chi’n hŷn? Adnodd: Taflen weithgaredd rheoli arian: Fy swydd yn y dyfodol Mae dysgwyr yn meddwl am y swyddi posibl yr hoffen nhw eu gwneud pan fyddan nhw’n hŷn. Maen nhw’n datgan pam yr hoffen nhw wneud y swydd a beth y bydden nhw’n ei wneud gyda’r arian y maen nhw’n ei ennill.

  15. Isafswm cyflog Beth a olygir wrth ‘isafswm cyflog’? Faint yw’r isafswm cyflog cenedlaethol?

  16. Isafswm cyflog • Yr isafswm cyflog cenedlaethol yw’r isafswm sy’n cael ei dalu fesul awr y mae bron pob gweithiwr yn gallu ei hawlio yn ôl y gyfraith. (Cewch wybod pwy yw’r gweithwyr hyn yn www.gov.uk/national-minimum-wage/who-gets-the-minimum-wage (Saesneg yn unig). • Mae’r isafswm cyflog yn dibynnu ar oedran y gweithwyr ac a ydyn nhw’n gwneud prentisiaeth. • Rhaid i chi fod yn oedran gadael ysgol (16 oed fel arfer) neu’n hŷn i gael yr isafswm cyflog.

  17. Isafswm cyflog * Mae’r gyfradd hon ar gyfer prentisiaid o dan 19 oed neu’r rhai sydd ym mlwyddyn gyntaf eu prentisiaeth. Os ydych chi’n 19 oed neu’n hŷn ac wedi mynd heibio eich blwyddyn gyntaf cewch y gyfradd sy’n gymwys i’ch oedran. www.gov.uk/national-minimum-wage-rates

  18. Paru cyflogau Allwch chi baru’r cyflog â’r person cywir? Adnodd: Taflen weithgaredd rheoli arian: Paru cyflogau Mae’r dysgwyr yn darllen yr wybodaeth a roddir (megis cyfradd yr awr a nifer y diwrnodau sy’n cael eu gweithio) ac mae’n rhaid iddyn nhw ddefnyddio eu sgiliau rhifedd i baru’r wybodaeth gyda’r cyflog cywir.

  19. Diwrnod tâl Adnodd: Rheoli Arian, Gweithgaredd 8 ‘Diwrnod tâl’ (tudalennau 59–66) Lawrlwytho’r adnodd yn www.hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/_layouts/NGFLSolution/MaterialDescription.aspx?LearningMaterialId=44957&lang=cy Mae’r adnodd yn disgrifio’n llawn sut i gyflawni’r gweithgaredd yn ystod y wers.

  20. Diwrnod tâl Cyflwynir y gweithgaredd hwn mewn pedwar cam. Cam 1: Mae’r dysgwyr yn cael manylion pedwar cymeriad (cyfradd yr awr a nifer yr oriau sy’n cael eu gweithio yr wythnos). Mae’n rhaid iddyn nhw gyfrifo’r tâl wythnosol, misol a blynyddol. Rhoddir enghraifft ar y sleid nesaf (gweler nodiadau). Cam 2: Gweithgaredd trefnu cardiau. Mae’r dysgwyr yn cael terminoleg slip cyflog (e.e. TWE, tâl gros, tâl net) a’u diffiniadau perthnasol i’w paru. Gellir gwneud hyn gyda’r dysgwyr cyn (fel gweithgaredd cychwynnol) neu ar ôl (fel gweithgaredd atgyfnerthu) gan rannu’r wybodaeth ar sleidiau 26–42 o’r modiwl hwn. Cam 3: Mae’r dysgwyr yn cael tâl gros y pedwar cymeriad ac mae’n rhaid iddyn nhw weithio allan eu tâl net ar ôl didyniadau (TWE ac Yswiriant Gwladol). Gellir defnyddio cyfrifiadau cyflog rhyngweithiol ar-lein i gwblhau’r cyfrifiadau. Cam 4: Mae’r dysgwyr yn defnyddio slip cyflog ffug i gwblhau manylion perthnasol un o’r cymeriadau neu, fel tasg ymestyn, gallan nhw ymchwilio i gyflog swydd y maen nhw’n gweld eu hunain yn ei gwneud ymhen ychydig flynyddoedd.

  21. Slipiau cyflog Gweithgaredd trafod: Alla i gadw’r holl arian rydw i’n ei ennill? Meddyliwch am yr wybodaeth sy’n cael ei rhoi fel arfer ar slip cyflog.

  22. TWE Tâl gros Tâl net Cod treth Pensiynau Tâl sylfaenol Dyddiad tâl Goramser Yswiriant Gwladol Dull talu Rhif cyflogai Didyniadau

  23. Pos slip cyflog Adnodd:Taflen gweithgaredd rheoli arian: Pos slip cyflog Mae’r dysgwyr yn cael slip cyflog ffug. Maen nhw’n cael y derminoleg a ddefnyddir ar y slip cyflog ynghyd ag wyth diffiniad i’w paru. Maen nhw hefyd yn cael pum cwestiwn sy’n ymwneud â dehongli’r wybodaeth a roddir.

  24. Slip cyflog Dyddiad: 31/08/13 Cyf. cyflogres: 5552013 Enw’r gweithiwr: Ernie Lot Cwmni: Unrhyw Fusnes Cyf. Payment method: BACS Beth yw hwn? Cod treth: 944L Rhif Yswiriant Gwladol: AB 12 34 56 C Cod Yswiriant Gwladol: D Taliadau Didyniadau Cyflog sylfaenol 2867.00 Cyfrifoldeb rheolwr 472.50 Treth a dalwyd 467.53 Yswiriant Gwladol 271.21 Pensiwn 166.98 Cyfanswm taliadau gros 3339.50 Cyfanswm didyniadau 905.72 Tâl net 2433.78

  25. Cod treth • Bydd eich cod treth yn dangos faint o incwm mae hawl gennych i’w ennill cyn rydych chi’n dechrau talu treth (eich lwfans personol). • Cod treth yw tri rhif cyntaf eich lwfans personol wedi’i ddilyn gan lythyren. Mae gan y rhan fwyaf o bobl y llythyren ‘L’ sy’n dangos bod y lwfans treth sylfaenol ganddyn nhw. • Felly mae cod treth ‘944L’ yn golygu y gall rhywun ennill £9,440* cyn dechrau talu treth. • * Cofiwch gall codau treth a lwfans personol newid bob blwyddyn. I gael codau treth wedi’u diweddaru ewch i www.hmrc.gov.uk/rates/it.htm (Saesneg yn unig).

  26. Treth incwm • Mae pob gweithiwr sy’n ennill dros swm penodol bob blwyddyn yn talu treth incwm. Dyma’r swm sy’n cael ei dalu i’r llywodraeth sy’n helpu pawb yn y gymuned, megis ysgolion ac ysbytai. • Mae bron pawb sy’n gweithio yn y DU yn gallu ennill hyd at swm penodol a pheidio â thalu treth ar yr incwm hwnnw. Gelwir y swm hwnnw’n Lwfans Personol, e.e. £9,440 yn y flwyddyn dreth 2013/14. • Mae swm y dreth rydych chi’n ei dalu ar enillion dros £9,440 yn ganran o’r hyn rydych chi’n ei ennill (a ddangosir yn y tabl isod).

  27. Slip cyflog Dyddiad: 31/08/13 Cyf. cyflogres: 5552013 Enw’r gweithiwr: Ernie Lot Cwmni: Unrhyw Fusnes Cyf. Payment method: BACS Cod treth: 944L Rhif Yswiriant Gwladol: AB 12 34 56 C Cod Yswiriant Gwladol: D Taliadau Didyniadau Beth yw hwn? Cyflog sylfaenol 2867.00 Cyfrifoldeb rheolwr 472.50 Treth a dalwyd 467.53 Yswiriant Gwladol 271.21 Pensiwn 166.98 Cyfanswm taliadau gros 3339.50 Cyfanswm didyniadau 905.72 Tâl net 2433.78

  28. Yswiriant Gwladol • Mae pawb yn cael rhif Yswiriant Gwladol ychydig cyn eu pen-blwydd yn 16 oed. Bydd y rhif hwn yn aros gyda chi am oes. Mae’n gymysgedd o lythrennau a rhifau, e.e. AB 12 34 56 C. • Mae swm y cyfraniadau Yswiriant Gwladol rydych chi’n ei dalu yn dibynnu ar eich enillion a’ch math o gyflogaeth. • Mae Yswiriant Gwladol yn ganran o’ch cyflog. Dyma enghraifft o berson cyffredin sy’n cael ei gyflogi. I gael rhagor o wybodaeth am Yswiriant Gwladol ewch i www.hmrc.gov.uk/ni

  29. Slip cyflog Dyddiad: 31/08/13 Cyf. cyflogres: 5552013 Enw’r gweithiwr: Ernie Lot Beth yw hwn? Cwmni: Unrhyw Fusnes Cyf. Dull talu: BACS Cod treth: 944L Rhif Yswiriant Gwladol: AB 12 34 56 C Cod Yswiriant Gwladol: D Taliadau Didyniadau Cyflog sylfaenol 2867.00 Cyfrifoldeb rheolwr 472.50 Treth a dalwyd 467.53 Yswiriant Gwladol 271.21 Pensiwn 166.98 Cyfanswm taliadau gros 3339.50 Cyfanswm didyniadau 905.72 Tâl net 2433.78

  30. BACS Ystyr BACS yw’r System Glirio Awtomataidd y Bancwyr. Os yw cyflogwyr yn defnyddio BACS i’ch talu chi mae’n golygu y bydd eich cyflog yn mynd yn syth i’ch cyfrif banc ar ddyddiad penodol bob mis.

  31. Slip cyflog Dyddiad: 31/08/13 Cyf. cyflogres: 5552013 Enw’r gweithiwr: Ernie Lot Cwmni: Unrhyw Fusnes Cyf. Dull talu: BACS Cod treth: 944L Rhif Yswiriant Gwladol: AB 12 34 56 C Cod Yswiriant Gwladol: D Beth yw hwn? Taliadau Didyniadau Cyflog sylfaenol 2867.00 Cyfrifoldeb rheolwr 472.50 Treth a dalwyd 467.53 Yswiriant Gwladol 271.21 Pensiwn 166.98 Cyfanswm taliadau gros 3339.50 Cyfanswm didyniadau 905.72 Tâl net 2433.78

  32. Didyniadau Llenwch y lleoedd gwag gyda’r wybodaeth rydych chi wedi’i dysgu hyd yma. Mae………………….a …………. yn cael eu didynnu o’ch tâl. Mae’r rhain yn cael eu galw’n ddidyniadau gorfodol oherwydd mae’n rhaid i chi eu talu nhw. Mae pawb yn gallu ennill swm penodol o arian cyn i dreth gael ei thynnu. Gelwir hyn eich ……………………….. Ar gyfer y rhan fwyaf o bobl y swm hwn yw £………. ac mae eich cyflogwr yn defnyddio ...……… ar eich slip cyflog i ddangos hyn. Pan fydd eich incwm yn mynd yn uwch na’r swm hwn bydd rhaid i chi dalu treth ar y gyfradd sylfaenol o …..%. Mae hyn yn golygu bod …..c ym mhob punt yn cael ei dalu mewn treth incwm. Os ydych chi’n ennill dros £……………… mae’n rhaid i chi dalu’r gyfradd uwch sef …..% ar yr enillion ychwanegol. Y gyfradd treth incwm ychwanegol yw …..% ac mae hyn yn cael ei thalu gan bobl sy’n ennill dros £………………… Yswiriant Gwladol lwfans personol cod treth treth 9,440 40 45 20 150,000 32,010 20

  33. Didyniadau Llenwch y lleoedd gwag gyda’r wybodaeth rydych chi wedi’i dysgu hyd yma. Mae…………………. a yn cael eu didynnu o’ch tâl. Mae’r rhain yn cael eu galw’n ddidyniadau gorfodol oherwydd mae’n rhaid i chi eu talu nhw. Mae pawb yn gallu ennill swm penodol o arian cyn i dreth gael ei thynnu. Gelwir hyn eich . Ar gyfer y rhan fwyaf o bobl y swm hwn yw £………. ac mae eich cyflogwr yn defnyddio ...……… ar eich slip cyflog i ddangos hyn. Pan fydd eich incwm yn mynd yn uwch na’r swm hwn bydd rhaid i chi dalu treth ar y gyfradd sylfaenol o …. %. Mae hyn yn golygu bod ….. c ym mhob punt yn cael ei dalu mewn treth incwm. Os ydych chi’n ennill dros £……… mae’n rhaid i chi dalu’r gyfradd uwch sef ….. % ar yr enillion ychwanegol. Y gyfradd treth incwm ychwanegol yw ….. % ac mae hyn yn cael ei thalu gan bobl sy’n ennill dros £…………… . Yswiriant Gwladol treth lwfans personol cod treth 9,440 20 20 32,010 40 45 150,000

  34. Slip cyflog Dyddiad: 31/08/13 Cyf. cyflogres: 5552013 Enw’r gweithiwr: Ernie Lot Cwmni: Unrhyw Fusnes Cyf. Dull talu: BACS Cod treth: 944L Rhif Yswiriant Gwladol: AB 12 34 56 C Cod Yswiriant Gwladol: D Taliadau Didyniadau Cyflog sylfaenol 2867.00 Cyfrifoldeb rheolwr 472.50 Treth a dalwyd 467.53 Yswiriant Gwladol 271.21 Pensiwn 166.98 Beth yw hwn? Cyfanswm taliadau gros 3339.50 Cyfanswm didyniadau 905.72 Tâl net 2433.78

  35. Pensiwn gwaith Mae pensiwn gwaith yn ffordd o gynilo ar gyfer eich ymddeoliad sy’n cael ei drefnu gan eich cyflogwr. Mae termau eraill ar gyfer pensiynau gwaith yn cynnwys: pensiynau ‘gweithle’, ‘cwmni’, ‘seiliedig ar waith’ a ‘galwedigaethol’. Sut maen nhw’n gweithio? Mae canran o’ch tâl yn cael ei roi mewn cynllun pensiwn yn awtomatig bob diwrnod tâl. Fe welwch y swm ar eich slip cyflog. Yn y rhan fwyaf o achosion mae’ch cyflogwr a’r llywodraeth hefyd yn ychwanegu arian at y cynllun pensiwn. Mae’r arian pensiwn yn adeiladu ac yn rhoi incwm i chi pan fyddwch chi wedi cyrraedd yr oedran mewn bywyd i ddechrau ei dderbyn. I gael rhagor o wybodaeth ewch iwww.gov.uk/workplace-pensions/about-workplace-pensions

  36. Pensiynau gwaith • Cofrestru awtomatig • Mae cyfraith newydd yn golygu bod rhaid i bob cyflogwr gofrestru gweithwyr yn awtomatig ar gynllun pensiwn gwaith os ydyn nhw: • rhwng 22 oed ac oedran pensiwn y wladwriaeth • yn ennill mwy na £9,440 y flwyddyn • yn gweithio yn y DU. • Mae’n cael ei alw’n ‘gofrestru awtomatig’. • I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.gov.uk/workplace-pensions/about-workplace-pensions

  37. Slip cyflog Dyddiad: 31/08/13 Cyf. cyflogres 5552013 Enw’r gweithiwr: Ernie Lot Cwmni: Unrhyw Fusnes Cyf. Dull talu: BACS Cod treth: 944L Rhif Yswiriant Gwladol: AB 12 34 56 C Cod Yswiriant Gwladol: D Taliadau Didyniadau Cyflog sylfaenol 2867.00 Cyfrifoldeb rheolwr 472.50 Treth a dalwyd 467.53 Yswiriant Gwladol 271.21 Pensiwn 166.98 Beth yw hwn? Cyfanswm taliadau gros 3339.50 Cyfanswm didyniadau 905.72 Tâl net 2433.78

  38. Tâl gros Tâl gros yw’r swm rydych chi wedi’i ennill mewn cyfnod arbennig. Yn yr enghraifft hon, mae Ernie Lot yn cael slip cyflog misol, felly ei dâl gros yw’r swm y mae wedi’i ennill y mis hwnnw yn seiliedig ar ei gyflog am y gwaith y mae’n ei wneud. Mae dau daliad yn cael eu gwneud oherwydd mae ganddo swyddi gyda chyfrifoldeb ychwanegol y caiff ei dalu amdano.

  39. Slip cyflog Dyddiad: 31/08/13 Cyf. cyflogres: 5552013 Enw’r gweithiwr: Ernie Lot Cwmni: Unrhyw Fusnes Cyf. Dull talu: BACS Cod treth: 944L Rhif Yswiriant Gwladol: AB 12 34 56 C Cod Yswiriant Gwladol: D Taliadau Didyniadau Cyflog sylfaenol 2867.00 Cyfrifoldeb rheolwr 472.50 Treth a dalwyd 467.53 Yswiriant Gwladol 271.21 Pensiwn 166.98 Cyfanswm taliadau gros 3339.50 Cyfanswm didyniadau 905.72 Beth yw hwn? Tâl net 2433.78

  40. Tâl net Tâl net yw’r swm a gaiff ei dalu i chi mewn cyfnod arbennig. Yn yr enghraifft hon, mae Ernie Lot yn cael slip cyflog misol, felly ei dâl net yw’r swm yr aeth adref ag ef am fis o waith. Dyma’r swm a dderbyniodd ar ôl i’w ddidyniadau gael eu tynnu. Mae tâl net yn cael ei alw eich ‘tâl mynd adref’ weithiau.

  41. Cyfrifo treth incwm • Mae treth incwm yn dreth ar incwm. • Mae rhai enghreifftiau o’r hyn sy’n cael ei gyfrif fel incwm trethadwy yn cynnwys: • incwm cyflogaeth: incwm o gyflogaeth amser llawn, rhan-amser, dros dro neu bartneriaeth/hunangyflogaeth • incwm rhent: arian rydych chi’n ei ennill o rentu ail eiddo. • Cewch eith trethu ar ‘incwm trethadwy’ yn unig yn uwch na lefel arbennig. Gelwir y swm hwn yn Lwfans Personol, e.e. £9,440 yn y flwyddyn dreth 2013/14. • Mae treth incwm yn daladwy ar incwm trethadwy sy’n fwy na’ch lwfansau di-dreth yn unig. • I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.hmrc.gov.uk/incometax/taxable-income.htm

  42. Cyfrifo treth incwm Rydych chi’n talu treth incwm ar enillion sy’n fwy na £9,440 a chaiff ei gyfrifo fel canran o’r hyn rydych chi’n ei ennill. Cyflwynir y canrannau hyn mewn tabl sylfaenol isod (fel y gwelwyd yn gynharach ar sleid 28). Defnyddiwch y tabl a’r wybodaeth a roddwyd i gyfrifo’r dreth incwm a dalwyd gan bobl ar y sleidiau canlynol.

  43. Cyfrifo treth incwm Mae Sara yn ennill £24,000 y flwyddyn. Cyfrifwch faint o dreth incwm y mae hi’n ei thalu. 20% yw 0.2 20% o 14,560 yn cael ei roi drwy 0.2 x 14560 = 2912 Mae Sara yn talu £2,912 o dreth incwm y flwyddyn. Faint yw hwn bob mis?

  44. Mae Evan yn ennill £45,000 y flwyddyn. Cyfrifwch faint o dreth incwm y mae’n ei dalu mewn blwyddyn. Incwm gros £45,000 20% yw 0.20 20% o £32,010 yn cael ei roi drwy 0.20 x 32010 = £6,402 £45,000 – £9,440 = £35,560 Lwfans personol £9,440 Incwm trethadwy £35,560 Cyfradd treth sylfaenol 20% o’r £32,010 cyntaf o’r incwm trethadwy = £6,402 40% o’r incwm trethadwy sy’n weddill (35,560 – 32,010 = £3,550) 40% o £3,550 = £1,420 Cyfradd treth uwch 40% o 3550 yn cael ei roi drwy 0.40 x 3550 = £1,420 Cyfanswm treth incwm £6,402 + £1,420 = £7,822 Mae Evan yn talu £7,822 o dreth incwm bob blwyddyn, £652 y mis a £150 yr wythnos.

  45. Ydy hi’n iawn? Mae’r gweithgaredd hwn yn ymwneud â moeseg derbyn arian ar gyfer rhai gweithgareddau sy’n gysylltiedig â byd gwaith sy’n anghyfreithlon neu ar ffin cyfreithlondeb. Adnodd:Rheoli Arian, Gweithgaredd 10 ‘Ydy hi’n iawn?’ (tudalennau 79–83) Lawrlwytho’r adnodd yn http://learning.wales.gov.uk/docs/learningwales/publications/131017-spending-sense-cy.pdf Mae’r adnodd yn disgrifio’n llawn sut i gyflwyno’r gweithgaredd yn ystod y wers.

  46. Adding up to a lifetime Adnodd ar-lein rhad ac am ddim yw hwn sy’n dilyn pedwar cymeriad a sut maen nhw’n delio â sefyllfaoedd ariannol. Mae’n addas ar gyfer Cyfnodau Allweddol 3 i Gyfnod Allweddol 5. Mae’r pecyn yn cynnwys tua 25 awr o weithgareddau dysgu y gall dysgwyr eu cwblhau ar-lein. Caiff ei gyflwyno fel pum modiwl: • Bywyd fel myfyriwr (14 oed a hŷn) • Bywyd gwaith • Perthnasoedd • Bywyd newydd • Ymddeoliad egnïol. Mae’r modiwlau’n cynnig yr ystod lawn o bynciau rheoli arian gan gynnwys ennill arian, ewch i www.addinguptoalifetime.org.uk Mae tiwtorial sain gyda phob modiwl y gallwch wrando arno yn Gymraeg neu yn Saesneg.

  47. Gwefannau ac adnoddau • www.pfeg.org Mae pfeg (Personal Finance Education Group) yn elusen annibynnol sy’n darparu cyfoeth o adnoddau i gefnogi addysg ariannol mewn ysgolion. Gweler ‘Learning about Money in the Primary Classroom’ a ‘My Money Mathematics Resources’. • www.barclaysmoneyskills.com/en/Information/resource-centre.aspx Amrywiaeth o becynnau adnoddau i ddysgwyr 4–25 oed. • www.nationwideeducation.co.uk > Sgiliau Cyflogadwyedd Adrannau ar gyfer dysgwyr ac athrawon o’r enw ‘Working Life’, ‘Working Skills’ a ‘Working World’ i ddysgwyr 4 i 18 oed a hŷn (adnoddau i’w hargraffu a gemau ar-lein). • www.Addinguptoalifetime.org.ukEdrychwch ar y modiwl ‘Working Life’ (sain Cymraeg ar gael). • www.moneyadviceservice.org.uk/cy/categories/young-people-and-money Gwybodaeth am reoli eich arian fel myfyriwr. • http://rbsmoneysense.co.uk/schools/resources Rhaglen ar-lein ryngweithiol am ddim gydag adnoddau i helpu dysgwyr i reoli eu harian. • www.hmrc.gov.uk/incometax/taxable-income.htm Gwybodaeth ar gael am dreth incwm. • www.gov.uk/national-minimum-wage/who-gets-the-minimum-wage Gwybodaeth am yr isafswm cyflog. • www.gov.uk/workplace-pensions Gwybodaeth am bensiynau. • www.hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/atebol/maths/cym/index.htmlAdnodd Rheoli Arian gan gynnwys 18 o weithgareddau rheoli arian.

More Related