160 likes | 351 Views
Dogfen Bolisi: Pryderon Pobl Ifanc a’u Hargymhellion ar gyfer Addasu at Newid Hinsawdd yng Nghymru. Eric W Pritchard Jeanette Reis Tara Thrupp Mai 2011. Crynodeb Gweithredol
E N D
Dogfen Bolisi: Pryderon Pobl Ifanc a’u Hargymhellion ar gyfer Addasu at Newid Hinsawdd yng Nghymru Eric W Pritchard Jeanette Reis Tara Thrupp Mai 2011
Crynodeb Gweithredol • Pobl ifanc heddiw yw gwneuthurwyr polisi yfory ac felly mae’n holl-bwysig eu bod yn wybodus a’u bod yn cael cyfle i gyfrannu at brosesau penderfynu a fydd yn effeithio’n uniongyrchol ar eu dyfodol. • Mae’r ddogfen hon yn crynhoi’r casgliadau a gafwyd mewn cyfres o weithdai ledled Cymru, a oedd yn cynnwys pobl ifanc 15-16 oed. Yn benodol, mae’r ddogfen yn pwysleisio ymatebion y bobl ifanc i dri senario realistig ynglŷn â newid hinsawdd, ar sail gwaith ymchwil gan Brifysgol Caerdydd. Bu aelodau’r gweithdai yn edrych ar faterion cludiant, materion seilwaith hanfodol a materion anheddu sy’n gysylltiedig â newidiadau mewn tymheredd, glawiad a lefel y môr heddiw, yn y flwyddyn 2040 ac yn y flwyddyn 2060. Yn ogystal ag enwi risgiau, gofynnwyd i’r bobl ifanc ystyried opsiynau ar gyfer addasu a thrafod materion ynglŷn â chyfrifoldeb. • Y PWYNTIAU ALLWEDDOL: • Mae’r materion y gofynnwyd i’r bobl ifanc eu hystyried yn arbennig o berthnasol i’r gronfa o dystiolaeth ac i Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd. • Cydnabyddir yn eang mai cymryd rhan yn gynnar a deialog gynnar yw’r cyfle gorau i sicrhau llwyddiant wrth addasu. Mae’r ddogfen hon yn gam cyntaf tuag at gynnwys pobl ifanc mewn gwaith i lunio polisi Cymru ar addasu at newid hinsawdd. • Mae ar bobl ifanc angen gwybodaeth glir, gywir, gytbwys. Ond mae yna ansicrwydd o hyd ynghylch amcanestyniadau enghreifftiol. • Barn y bobl ifanc yw y dylai’r cyfrifoldeb dros addasu at y risgiau y mae newid yn yr hinsawdd yn eu creu gael ei rannu rhwng unigolion, cymunedau a’r llywodraeth. • Bernir mai llifogydd ar yr arfordir ac ar y tir yw’r risg fwyaf arwyddocaol i systemau cludiant Cymru, yn ôl y bobl ifanc. • Mae tarfu ar y cyflenwad pŵer yn peri pryder penodol i bobl ifanc. • Mae pobl ifanc o’r farn y gallai anawsterau anheddu yn 2040 gael eu datrys gan dechnoleg sydd eisoes yn bod. Er hynny, maen nhw’n awgrymu bod angen dulliau mwy dyfeisgar erbyn 2060. • Mae angen rhoi mwy o bwyslais ar addysgu pobl ifanc a’u paratoi nhw i addasu at hinsawdd sy’n newid. • Mae gan bobl ifanc lawer i’w gyfrannu o ran syniadau a mynd ati i’w rhoi ar waith. Mater i Lywodraeth Cymru bellach yw gwrando ar eu neges, ymwneud â nhw ac ymateb gan eu cynnwys nhw ymhellach i benderfynu ar eu dyfodol.
Pryderon disgyblion Ysgol y Brenin Henry VIII ac Ysgol Gyfun Blaen-gwawr am newid yn yr hinsawdd, Mawrth 2011. Bwriadau disgyblion Ysgol y Brenin Henry VIII ac Ysgol Gyfun Blaen-gwawr at y dyfodol, Mawrth 2011.
Cynnwys Crynodeb Gweithredol 2 Cynnwys 4 Cydnabod 5 1. Rhagymadrodd 6 2. Y sefyllfa gyfoes: Beth wyddon ni am wyddor newid hinsawdd yng Nghymru, a beth yw’r materion rydyn ni’n eu rhag-weld? 8 3. Pam mae angen safbwyntiau pobl ifanc mewn polisïau ar addasu at newid yn yr hinsawdd? 10 4. Y Farn am Gludiant 11 5. Y Farn am Seilwaith Hanfodol 12 6. Y Farn am Anheddu 13 7. Y Farn am Gyfrifoldeb 14 8. Casgliadau 15
Cydnabod Mae’r ddogfen hon wedi’i chynhyrchu gan Brosiect yr Oleufa ar Newid Hinsawdd a Phobl Ifanc (YoCCo). Hoffem ddiolch i’n harianwyr, sef Rhaglen Goleufa Cymru,1 Cyngor Cefn Gwlad Cymru2 a phrosiect IMCORE3 INTERREG IVb am gefnogi’r gwaith. Hoffem ddiolch hefyd i athrawon a disgyblion yr ysgolion am eu syniadau a’u brwdfrydedd. Dyma’r ysgolion a fu’n cymryd rhan yn y gwaith: Ysgol Gyfun y Barri Ysgol Gyfun Penglais, Aberystwyth Ysgol Tryfan, Bangor Ysgol Gyfun Tre-gŵyr, Abertawe Ysgol y Brenin Henry VIII, Y Fenni Ysgol Gyfun Blaen-gwawr, Aberdâr. 1 http://www.engagingwales.org/ 2 www.ccw.gov.uk/ 3Rheolaeth Arloesol ar gyfer Adnoddau Arfordirol Newidiol Ewrop (IMCORE): http://www.severnestuary.net/sep/imcore/index.html
1. Rhagymadrodd • Mae’r dystiolaeth wyddonol sy’n ategu dadleuon bod yr hinsawdd yn newid yn cryfhau ac mae’n edrych yn fwyfwy tebyg y bydd pobl ifanc heddiw yn gorfod gwneud newidiadau mawr yn eu ffordd o fyw yn y dyfodol. Pobl ifanc heddiw yw gwneuthurwyr polisi yfory hefyd ac felly mae’n holl-bwysig eu bod yn wybodus a’u bod yn cael cyfle i gyfrannu at brosesau penderfynu a fydd yn effeithio’n uniongyrchol ar eu dyfodol. • Mae’r ddogfen hon wedi’i pharatoi i gyflwyno barn pobl ifanc yng Nghymru i wneuthurwyr polisïau a gwleidyddion sy’n rhan o’r ddadl ar newid yn yr hinsawdd. Mae’n crynhoi’r ymatebion a gafodd eu casglu mewn cyfres o weithdai i ysgolion a gafodd eu cynnal yn 2010 a 2011, wedi’u trefnu gan Brifysgol Caerdydd, Fforwm Ieuenctid Cymru ar Ddatblygu Cynaliadwy a Phartneriaeth Môr Hafren. • Yn ystod y gweithdai, gofynnwyd i 160 o bobl ifanc 15-16 oed ystyried nifer o senarios yn y dyfodol ar gyfer Scott, cymeriad dychmygol sy’n byw mewn anheddiad isel ar yr arfordir, sef un sy’n nodweddiadol o lawer o drefi bach Cymru. Yn ystod ei oes, mae’n gorfod nodi ac ystyried opsiynau ar gyfer addasu cludiant, seilwaith hanfodol ac aneddiadau, gan gymryd y newid yn yr hinsawdd i ystyriaeth. Cafodd senarios eu datblygu a oedd yn cymryd i ystyriaeth y tymheredd, y glawiad a lefel y môr yng Nghymru heddiw, yn y flwyddyn 2040 ac yn y flwyddyn 2060. • Cafodd gweithgareddau’r prosiect eu datblygu’n unswydd mewn ymateb i dystiolaeth a strategaethau ar y newid yn yr hinsawdd yng Nghymru. Er enghraifft, daeth ymchwil gan Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru4 a gyhoeddwyd yn 2009 i’r casgliad: • bod 220,000 o adeiladau yng Nghymru mewn perygl o lifogydd, gan effeithio ar un ym mhob naw o’r boblogaeth • bod 33% o reilffyrdd Cymru ac 11% o brif ffyrdd Cymru mewn perygl o lifogydd • bod seilwaith sy’n bwysig yn genedlaethol megis purfeydd olew (Aberdaugleddau) a gorsafoedd pŵer (Wylfa, Aberddawan, Aber-wysg a Phenfro) wedi’u lleoli ar yr arfordir, yn ogystal â chyfleusterau cyflenwi a thrin dŵr, safleoedd cyflenwi trydan a safleoedd dosbarthu trydan. • 4 Llifogydd yng Nghymru: Asesiad Bygythiad Llifogydd Cenedlaethol, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru 2009
Yn ychwanegol, mae dogfen Llywodraeth Cymru “Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd: Ymgynghoriad ar Raglen Weithredu”5 yn cydnabod: ‘O ganlyniad i’r allyriadau tŷ gwydr sydd eisoes wedi’u rhyddhau, ni allwn osgoi effeithiau’r newid yn yr hinsawdd yn gyfan gwbl. Mae angen i ni addasu i’r newidiadau na allwn mo’u hosgoi, ond mae’n rhaid i ni barhau i leihau allyriadau ar yr un pryd neu bydd yr effeithiau yn waeth byth.’ Mae hefyd yn argymell: ‘Gorau po gyntaf y mae Cymru’n dechrau paratoi – drwy ddeall pa mor agored ydyw i effeithiau newid yn yr hinsawdd, cynyddu gallu i wrthsefyll a datblygu gallu – er mwyn i ni allu ymdopi’n well ag effeithiau newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.’ Y PWYNT ALLWEDDOL: Mae’r materion y gofynnwyd i’r bobl ifanc eu hystyried yn arbennig o berthnasol i’r gronfa o dystiolaeth ac i Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd. 5Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd: Ymgynghoriad ar Raglen Weithredu, Dogfen Gryno, Gorffennaf 2009 http://wales.gov.uk/docs/desh/consultation/090625climateactionsummarycy.pdf Pobl ifanc yn ymateb i’r gronfa o dystiolaeth
2. Y sefyllfa gyfoes: Beth wyddon ni am wyddor newid hinsawdd yng Nghymru, a beth yw’r materion rydyn ni’n eu rhag-weld? Os yw pobl ifanc heddiw am baratoi at y dyfodol, mae arnyn nhw angen gwybodaeth glir, gywir, gytbwys. O gofio rhychwant eang a dilysrwydd amheus yr wybodaeth sydd eisoes ar gael, dechreuodd y gweithdy drwy roi’r cefndir, cyflwyno’r wyddoniaeth orau sydd ar gael ynghylch newid yn yr hinsawdd a’r hyn y gallai newid yn yr hinsawdd ei olygu i bobl sy’n byw yng Nghymru. Cafodd yr wybodaeth a gyflwynwyd yn y gweithdai ei chasglu yn wreiddiol gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd ar sail Rhagfynegiadau Hinsawdd y Deyrnas Unedig.6 Ym mhob achos, senario allyriadau canolig a ragdybiwyd (hynny yw lle mae lefelau’r nwyon tŷ gwydr a ollyngir yn y dyfodol drwy weithgareddau pobl yn dal i godi yn ôl y cyflymder presennol). Gofalwyd trafod lle mae ansicrwydd yn bodoli. Er enghraifft, anodd iawn yw darogan lefelau’r nwyon tŷ gwydr a fydd yn cael eu gollwng yn y dyfodol: mae’r wyddoniaeth yn dal i ddatblygu ac mae amrywiadau naturiol yn digwydd hefyd ochr yn ochr â’r newid hinsawdd sy’n cael ei greu gan bobl. Y PWYNTIAU ALLWEDDOL: Mae ar bobl ifanc angen gwybodaeth glir, gywir, gytbwys. Ond mae yna ansicrwydd o hyd ynghylch amcanestyniadau enghreifftiol. 6 http://ukclimateprojections.defra.gov.uk/ Faint? Os byddwn yn parhau i ollwng nwyon tŷ gwydr ar y cyflymder presennol, erbyn y flwyddyn 2095 mae’r gwyddonwyr yn amcangyfrif y gallai lefel y môr yng Nghymru fod wedi codi 35cm yn y Gogledd a 50cm yn y De.
Newid Tymheredd Cymru 2020au-2080au Faint? Erbyn y 2080au gallai tymheredd cyfartalog Cymru gynyddu hyd at 4 ˚C. Mae’r cynnydd yn debyg o fod ar ei fwyaf ym misoedd yr haf. 2020s 2050s 2080s Ffynhonnell: http://ukclimateprojections.defra.gov.uk/content/view/1492/499/ Data based on medium emissions scenario > 3 - 4 ˚C > 2-3 ˚C > 1-2 ˚C Faint? Erbyn y 2080au gallai glawiad yr haf ostwng hyd at 30% mewn rhannau o’r Canolbarth a’r De a hyd at 40% mewn rhannau o’r Gorllewin. Faint? Erbyn y 2080au gallai glawiad y gaeaf fod wedi cynyddu hyd at 30% yn y De a’r Gorllewin, yn enwedig ar hyd yr arfordir.
3. Pam mae angen persbectif pobl ifanc mewn polisïau ar addasu at newid yn yr hinsawdd? • “Nid etifeddu’r ddaear gan ein hynafiaid wnawn ni, ond ei fenthyg oddi wrth ein plant” • - Hen Ddihareb gan Frodorion America • Mae’n debyg y bydd y genhedlaeth sydd ar fin troi’n oedolion yn gweld newid mawr yng Nghymru yn sgil newid hinsawdd, yn enwedig ar yr arfordir, ac mae’n bosibl y bydd rhaid iddyn nhw addasu’n sylweddol i ymdopi â newid mewn tymheredd, glawiad a lefel y môr. Mae pwysigrwydd cynnwys safbwyntiau pobl ifanc wrth i bolisi gael ei lunio wedi’i gydnabod eisoes ar lefel y Deyrnas Unedig. • Ym mis Rhagfyr 2010, cyhoeddodd Panel Ieuenctid Ymgynghorol yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd eu hadroddiad cyntaf7 yn hoelio sylw ar eu gwaith ac yn ystyried y llwybrau egni posibl hyd at 2050, ar sail Prosiect Llwybrau DECC. Cafodd yr adroddiad hwn ar bolisïau egni’r Deyrnas Unedig ei gynhyrchu gan bobl rhwng 16 a 25 oed, a’i ysgrifennu o safbwynt y rhai a fydd yn gorfod byw â phenderfyniadau’r presennol drwy gydol eu bywyd fel oedolion. Mae’r adroddiad yn galw ar y Llywodraeth i wneud y canlynol: • Sicrhau bargen deg i bobl ifanc yn y broses o wneud penderfyniadau; • Gweithio’n galed i sicrhau nad yw’r Llywodraeth yn cloi’r genhedlaeth ifanc a chenedlaethau’r dyfodol mewn dyled ecolegol; • Parhau i gynnal deialog â phobl ifanc a rhanddeiliaid ifanc i sicrhau bod safbwynt yr ifanc yn cael ei glywed gan y Llywodraeth a bod y Llywodraeth yn ymateb iddo. • Y PWYNT ALLWEDDOL: • Cydnabyddir yn eang mai cymryd rhan yn gynnar a deialog gynnar yw’r cyfle gorau i sicrhau llwyddiant wrth addasu. Mae’r ddogfen hon yn gam cyntaf tuag at gynnwys pobl ifanc mewn gwaith i lunio polisi Cymru ar addasu at newid hinsawdd. • 7Energy: How fair is it anyway? Panel Ieuenctid Ymgynghorol yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd. Rhagfyr 2010: Diwrnod Confensiwn Fframwaith y CU ar Newid Hinsawdd, Cenedlaethau Ifanc a Chenedlaethau’r Dyfodol, Llundain, Brwsel, Cancun, ar gael ar http://www.decc.gov.uk/en/content/cms/about/youth_panel/youth_panel.aspx
4. Y Farn am Gludiant Ffactorau Risg Bu’r bobl ifanc yn trafod y risg uwch y bydd cynnydd mewn tymheredd, glawiad a lefel y môr yn ei chreu ar gyfer y seilwaith ffyrdd, rheilffyrdd a llongau. Bernid mai llifogydd oedd y risg fwyaf arwyddocaol i systemau cludiant Cymru. Roedd hyn yn cynnwys llifogydd mewndirol a llifogydd ar yr arfordir. Opsiynau ar gyfer Addasu Cynigiwyd y gallai fod angen codi neu symud cysylltiadau ar y ffyrdd a’r rheilffyrdd ac adeiladu argloddiau neu bontydd. Credid bod rheilffyrdd a systemau cludiant torfol fel monorail yn systemau ymarferol at gymudo yn y dyfodol, er bod y bobl ifanc yn cyfaddef hefyd y gallai cerdded, beicio a gweithio gartref er mwyn osgoi cymudo fod yn opsiynau poblogaidd hefyd. Roedd yna ddiddordeb mewn teithio ar y dŵr mewn hofrenfadau, tacsis dŵr, badau a cherbydau amffibiaidd, gan ddangos bod cynnydd yn lefel y môr yn gyfle yn hytrach nag yn broblem i rai! Wrth gwrs, os bydd llifogydd yn taro ardal mae yna dri opsiwn, teithio o amgylch y dŵr, drwy’r dŵr a thros y dŵr. Yn achos yr opsiwn olaf, roedd rhai o’r aelodau’n disgwyl gweld awyrennau personol yn cael eu defnyddio’n helaeth erbyn 2060. Y PWYNT ALLWEDDOL: Bernir mai llifogydd ar yr arfordir ac ar y tir yw’r risg fwyaf arwyddocaol i systemau cludiant Cymru.
5. Y Farn am Seilwaith Hanfodol Ffactorau Risg Bernid bod yna risg benodol i seilwaith hanfodol, megis llinellau cyflenwi egni, gorsafoedd pŵer a systemau cyfathrebu, yn sgil llifogydd ar yr arfordir ac ar y tir, yn ogystal ag yn sgil cynnydd mewn tymheredd. Yn benodol, roedd y bobl ifanc yn ofidus y gall aneddiadau sydd ag ardaloedd sy’n tueddu i ddioddef llifogydd rhyngddyn nhw a’r canolfannau dosbarthu orfod dysgu byw gyda thoriadau pŵer. Opsiynau ar gyfer Addasu Bernid y gall fod angen symud llinellau pŵer, hyd yn oed cyn 2040, er mwyn osgoi toriadau yn y cyflenwad egni yn sgil llifogydd lleol. Egni adnewyddadwy (gwynt, llanw, trydan dŵr) ac egni niwclear oedd y prif gynigion ar gyfer cynhyrchu egni ar raddfa fawr, gyda meicro-gynhyrchu i ategu hynny, megis paneli haul ffotofoltäig a thyrbinau gwynt domestig. Roedd systemau cymunedol yn cael eu ffafrio hefyd, gan gynnwys cynhyrchu pŵer geothermol, ffermydd gwynt lleol a biomas. Awgrymwyd cysylltu generadur â’r gampfa leol fel un ffordd i sicrhau egni i’r gymuned leol wrth i bobl gadw’n heini! Y PWYNT ALLWEDDOL: Mae tarfu ar y cyflenwad pŵer yn peri pryder penodol.
6. Y Farn am Anheddu Ffactorau Risg Bernid bod tai unigol, pentrefi, trefi a dinasoedd yng Nghymru mewn perygl, yn enwedig yn sgil llifogydd ar y tir ac ar yr arfordir. Bernid hefyd y gallai amodau byw yn y dyfodol fod yn anghysurus neu hyd yn oed yn beryglus i’r oedrannus neu i gleifion hirdymor, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf. Rhagwelid y gallai problemau 2040 gael eu datrys drwy addasiadau rhesymol, ond y byddai angen dulliau mwy dyfeisgar erbyn 2060. Opsiynau ar gyfer Addasu Roedd y bobl ifanc o’r farn bod angen addasu at y risg uwch o lifogydd drwy gadw cyflenwad lleol o fagiau tywod, gwella’r systemau traenio, diddosi tai rhag gwlybaniaeth, gosod falfiau i atal adlif drwy draeniau, codi lefel socedi trydan, ac weithiau codi tai uwchlaw lefelau’r dŵr. Ar ben mesurau ar gyfer anheddau unigol, bu rhai yn trafod posibilrwydd amddiffyn aneddiadau â strwythurau atal llifogydd neu symud pentrefi cyfan i dir uwch. Awgrymodd un aelod o weithdy y byddai’n bosibl datblygu “pentrefi o gychod preswyl”. Roedd yr opsiynau a drafodwyd ynglŷn ag addasu at gynnydd mewn tymheredd yn cynnwys peintio tai mewn lliwiau golau adlewyrchol, plannu coed i roi cysgod naturiol ac, o dan rai amgylchiadau, gosod systemau tymheru. Y PWYNT ALLWEDDOL: Gallai anawsterau anheddu yn 2040 gael eu datrys gan dechnoleg sydd eisoes yn bod. Er hynny, gall fod angen dulliau mwy dyfeisgar erbyn 2060.
7. Y Farn am Gyfrifoldeb Roedd y bobl ifanc yn ymwybodol o risgiau byw ar yr arfordir ac o’r angen i addasu, ond roedden nhw o’r farn bod y llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol wedi rhoi caniatâd i gartrefi gael eu codi mewn mannau sy’n agored i risg, ac felly y dylen nhw dderbyn rhan o’r cyfrifoldeb a rhoi cymorth ar ffurf ariannol a thechnegol i helpu cymunedau unigol i addasu. Gan fod addasu at effeithiau newid yn yr hinsawdd yn cael ei weld fel problem genedlaethol, awgrymodd rhai o’r bobl ifanc sefydlu cronfa ganolog a allai gael eu dyrannu i gynghorau lleol i ddatblygu adnoddau ymarferol a rhaglenni addysg. Pobl Ifanc yn Trafod Opsiynau ar gyfer Anheddu yn 2080 Y PWYNT ALLWEDDOL: Barn y bobl ifanc yw y dylai’r cyfrifoldeb dros addasu at y risgiau y mae newid yn yr hinsawdd yn eu creu gael ei rannu rhwng unigolion, cymunedau a’r llywodraeth.
8. Casgliadau • Mae’r gweithdai a gynhaliwyd fel rhan o brosiect YoCCo yr Oleufa wedi bod yn gyfle gwerthfawr i gasglu safbwyntiau rhychwant eang o bobl ifanc yng Nghymru am newid yn yr hinsawdd ac addasu ato. Cipolwg o’r safbwyntiau hynny sydd yn y ddogfen hon. Yn benodol: • Barn y bobl ifanc yw y dylai’r cyfrifoldeb dros addasu at y risgiau y mae newid yn yr hinsawdd yn eu creu gael ei rannu rhwng unigolion, cymunedau a’r llywodraeth. • Bernir mai llifogydd ar yr arfordir ac ar y tir yw’r risg fwyaf arwyddocaol i systemau cludiant Cymru. • Mae tarfu ar y cyflenwad pŵer yn peri pryder penodol. • Gallai anawsterau anheddu yn 2040 gael eu datrys gan dechnoleg sydd eisoes yn bod. Er hynny, mae’n debyg y bydd angen dulliau mwy dyfeisgar erbyn 2060. • Roedd y bobl ifanc a fu’n cymryd rhan yn y gweithdai yn frwdfrydig ac yn rhoi ymatebion pwyllog. Yn ddiddorol iawn, doedd yr ymatebion i “Beth wnewch chi’n wahanol yn y dyfodol?” ddim yn canolbwyntio ar opsiynau ar gyfer addasu, fel y bwriadwyd, ond yn hytrach ar ymdrechion lliniaru megis defnyddio llai o egni, ailgylchu ac ati. Mae angen rhoi pwyslais ychwanegol ar addysgu pobl ifanc a’u paratoi i addasu at hinsawdd sy’n newid. • Y casgliad yw bod gan bobl ifanc lawer i’w gyfrannu o ran syniadau a mynd ati i’w rhoi ar waith. Mater i Lywodraeth Cymru bellach yw gwrando ar eu neges a’u cynnwys nhw ymhellach wrth benderfynu ar eu dyfodol. • Y PWYNTIAU ALLWEDDOL: • - Mae angen rhoi mwy o bwyslais ar addysgu pobl ifanc a’u paratoi nhw i addasu at hinsawdd sy’n newid. • Mae gan bobl ifanc lawer i’w gyfrannu o ran syniadau a mynd ati i’w rhoi ar waith. Mater i Lywodraeth Cymru bellach yw gwrando ar eu neges, ymwneud â nhw ac ymateb gan eu cynnwys nhw ymhellach wrth benderfynu ar eu dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Y Dr Rhoda Ballinger (BallingerRC@caerdydd.ac.uk) Y Dr Jeanette Reis (ReisJ@caerdydd.ac.uk) Tara Thrupp (ThruppT@caerdydd.ac.uk) Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr, Prifysgol Caerdydd, Y Prif Adeilad, Plas y Parc, Caerdydd CF10 3YE. Gwefan y prosiect http://www.severnestuary.net/yocco/index.html