130 likes | 306 Views
Ffigurau a Ffurfiau wedi’u hailgylchu. Amcan Dysgu: Cynhyrchu Clawr Blaen. Rwyf eisiau gweld enw’r ymgeisydd yr wyf yn marcio ei lyfr. (Yn glir!). Gwnewch glawr blaen sy’n gydnaws â thema’r project.
E N D
Amcan Dysgu: Cynhyrchu Clawr Blaen Rwyf eisiau gweld enw’r ymgeisydd yr wyf yn marcio ei lyfr. (Yn glir!) Gwnewch glawr blaen sy’n gydnaws â thema’r project. Efallai y penderfynwch ddefnyddio papur newydd fel clawr blaen neu ffurfiau eraill o ddeunyddiau pacio sydd wedi’u hailgylchu. (Papurau losin/cartonau diodydd)
Amcan Dysgu: Cynhyrchu Map Meddwl • Casglwch bob syniad sy’n ymwneud â thema’r project ar ffurf map meddwl. Ychwanegwch Eiriau Allweddol Arlunwyr Technegau Mae’n rhaid i hwn fod yn gyffrous yn weledol. Cofiwch mai dyma’r darn cyntaf o waith ar gyfer eich project!
Arlunwyr a Chyfeirio Beirniadol Elizabeth Birrien Giacometti Pitt Rivers – Ailgylchu Arddangosfa Ailgylchu Affricanaidd Defnyddiau Tuniau alwminiwm Gwifren gopr Haearn meddal Gwifren Wasieri sgrap ac ati Sisyrnau Torwyr gwifrau Gefeiliau Tâp Masgio Morthwyl bach Pwnsh Bloc pren Papur gwydrog Ffigurau & Ffurfiau wedi'u hailgylchu FfigurauDynol Pobl enwog, cerfluniau, cofadeiladau Anifeiliaid- Anifeiliaid anwes, cŵn,cathod a chwningod Pryfed - Chwilod Trafnidiaeth – Awyrennau, Ceir a Rocedi Chwaraeon – Pêl-droed, Rygbi a Beicio Technegau Lluniadu Peintio Torri Uno Cerflunwaith Rhowch yr wybodaeth hon ar ffurf map meddwl
Tudalen ffynonellau -Cynhyrchwch dudalen sy’n cynnwys delweddau o gylchgronau / llyfrau neu luniau gwrthrychau sy’n ymwneud â’r thema Ffigurau a Ffurfiau Ceisiwch gynnwys eich lluniau eich hun
Lluniadau Ffynonellau Gwreiddiol – Mae’n rhaid i chi gael y rhain! (Rhwng 5-10) Lluniadau arsylwadol yw’r rhain, felly ar gyfer eich thema Ffigurau a Ffurfiau wedi’u hailgylchu gallai’r rhain gynnwys: Pobl a theulu – Ffrindiau, Anifeiliaid anwes Gwrthrychau Personol – dillad, gemwaith, offer chwaraeon – peli rygbi, esgidiau bale…
Enghreifftiau o luniadau ffynonellau gwreiddiol mewn pensil a phen. Lluniadwch mewn cyfryngau gwahanol, pensiliau lliw, pasteli olew ac ati…
Collage o lygad Astudiaeth bensil
Lluniadau Ffynonellau Eilaidd – Mae’n rhaid i chi gael y rhain! (Rhwng 5-10) Lluniadau a gymerwyd o’ch tudalen ffynonellau, eich lluniau, llyfrau a’ch dychymyg yw’r rhain. Felly ar gyfer eich thema Ffigurau a Ffurf gallai’r rhain gynnwys: Pobl enwog, awyrennau, anifeiliaid gwyllt
Gwnewch eich project yn un personol! • Ceisiwch gynnwys rhai nodiadau ar bob tudalen. Disgrifiwch eich proses o feddwl drwy ysgrifennu eich syniadau wrth i chi fynd yn eich blaen. • Llenwch eich llyfr ag astudiaethau arsylwadol o wrthrychau real. Defnyddiwch bensiliau lliw, siarcol, paent, pensil, pasteli – unrhyw beth a phopeth! • Gludwch eich lluniau eich hun yn eich llyfr, fel tystiolaeth o’ch ymchwil gwreiddiol. Cofiwch nodi’r manylion pwysig wrth bob delwedd. • Os byddwch yn dod o hyd i lun neu ddelwedd sy’n ddiddorol a pherthnasol mewn cylchgrawn neu ar y rhyngrwyd, gludwch y llun neu’r ddelwedd yn eich llyfr. Eto, cofiwch nodi’r manylion pwysig wrth bob delwedd. • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymharu ac yn cyferbynnu eich astudiaethau a’ch syniadau chi eich hun gyda gweithiau pobl eraill. • Arbrofwch. Felly, er enghraifft, os ydych wedi peintio portread diddorol, cymerwch ddarn a’i helaethu. Ail-wnewch y darn hwn mewn cyfrwng neu liw gwahanol. Cofiwch gael hwyl – byddwch yn greadigol.
Lluniadau Gwreiddiol ac Eilaidd Gall y rhain gael eu gwneud mewn amrywiaeth o gyfryngau gwahanol: Pensil/Pen Pensil lliw/ Pen blaen ffelt Sialc /Pastel olew Bwrdd crafu Llinellu cain/water wash/dyfrliw/golchlun??? …ar amrywiaeth o gefndiroedd gwahanol: Inc Papur lliw Papur newydd Staen Te/Coffi
Unwaith y byddwch wedi gorffen eich ymchwil cychwynnol, byddwch yn ymchwilio i arlunwyr/diwylliannau sydd wedi gwneud gwrthrychau gan ddefnyddio gwrthrychau a ailgylchwyd.