170 likes | 454 Views
Diwrnodau olaf yr Iesu. Iesu’n mynd mewn i Jeriwsalem. Roedd Iesu wedi myned i Jeriwsalem ar gefn asyn i ddangos taw un o’r bobl ydoedd, dim Brenin ar geffyl ond dyn syml ar asyn. Fe ddanfonodd ei ddisgyblion i gael hyd iddo ac fe’i cafwyd yn union lle dywedodd y byddai. Sul y blodau.
E N D
Iesu’n mynd mewn i Jeriwsalem • Roedd Iesu wedi myned i Jeriwsalem ar gefn asyn i ddangos taw un o’r bobl ydoedd, dim Brenin ar geffyl ond dyn syml ar asyn. Fe ddanfonodd ei ddisgyblion i gael hyd iddo ac fe’i cafwyd yn union lle dywedodd y byddai.
Sul y blodau • Wrth i’r Iesu farchogaeth heibio i’r bobl yn y dyrfa, roeddynt yn chwifio canghennau palmwydd tuag ato ac yn eu gosod ger ei draed. Rydym yn galw y diwrnod yma yn “Sul y blodau.”
Ogof Lladron • Aeth Iesu i mewn i’r Deml a gweld pobl yn prynnu a gwerthu nwyddau yn dwyllodrus. • Gwrth droiodd y byrddau gan weiddi “Dyma dŷ fy Nuw ond gwnaethoch chwi ef yn ogof lladron.”
Geiriau’r Iesu • Eisteddodd Iesu gyda’i ddisgyblion yn yr Oruwch ystafell gan ddathlu y swper olaf gyda nhw. • Fe gyhoeddodd mai “ei gorff” oedd y bara ac “ei waed” oedd y gwin. • Dywedodd wrth y lleill y basai un ohonynt yn ei wadu 3 gwaith a basai un ohonynt yn ei fradychu gyda cusan.
Gardd Gethsemane • Aeth Iesu i weddio yng ngardd Gethsemane. • Gofynnodd i’w Dad, “Pam yr wyt ti’n gwneud hyn i mi?” • Wedyn cusannodd Jwdas yr Iesu ac fe gafodd ei arestio gan y milwyr.
Ar brawf • Daethant â’r Iesu o flaen Pilat a ddywedodd ei fod yn golchi ei ddwylo o’r mater ac yn gadael i’r bobl benderfynnu. Roedd y dyrfa wedi pleidleisio i Barabas – lleidr – fynd yn rhydd a dedfrydu Iesu i farwolaeth.
Gorfodwyd yr Iesu i gario ei groes ei hun i galfari. Cerddodd ar hyd y ‘Via Dolorosa’ ar ôl stopio sawl gwaith. Cynnigodd rhai pobl i’w helpu ond fe stopiodd y milwyr Rhufeinig nhw. Roeddynt eisiau gweld yr Iesu yn dioddef achos ei honiad taw Fe oedd Brenin yr Iddewon.
Ar y Groes • Cafodd Iesu ei hoelio i’r groes trwy ei arddyrnau a’i draed. • Gwisgodd Goron ddrain ar ei ben a wnaeth iddo waedu. Casglodd y bobl o gwmpas. • Cafodd ei groeshoelio gyda dau leidr.
Mae’r Diwedd yn Agos • Fe drywanodd milwr Rhufeinig yr Iesu yn ei ochr a phan ofynnodd am ddŵr, fe gafodd sbwng wedi ei ymdrochi mewn finegar. • Gwnaeth hyn ef yn fwy sychedus ac roedd yn beth creulon I wneud.
Dydd Gwener y Groglith • Ar unwaith fe droiodd yr awyr yn ddu ac roedd pawb yn gwybod bod Iesu wedi marw. • Troiodd Un milwr Rhufeinig at ei ffrind a dweud, “Hwn oedd mab Duw”. Roedd nawr yn credu. • Cymerwyd yr Iesu i lawr o’r groes a’i gario i ogof o fedd dinesydd cyfoethog a gredai yn Iesu, mab Duw.
At yr Ogof • Cafodd yr Iesu ei rwymo mewn dillad-claddu a’i eneinio â pheraroglau fel ‘sandalwood’. Gosodwyd ei gorff wedyn mewn bedd. • Roedd y bedd wedi ei orchuddio â maen trwchus a gafodd ei dreiglo dros y fynedfa.
Atgyfodiad • Ar y dydd Sul ar ôl marwolaeth yr Iesu, aeth ei fam i lawr i’r bedd ond cafodd y maen wedi ei symud a doedd y corff ddim yno. • Pengliniodd Mair ac wylo. • Clywodd lais tu ôl iddi’n gofyn beth oedd yn bod…
Mae’r Iesu yn Fyw • …Iesu oedd yn siarad gyda Mair. • Roedd wedi dod nôl yn fyw a dywedodd wrth Mair am fynd i ddweud wrth y disgyblion. • Roedd Mair mewn syndod ond gwnaeth fel yr oedd Iesu’n dymuno. • Cychwynnodd ei thaith i’w darganfod.
Esgyniad • Siaradodd Iesu â’r disgyblion ac yna esgynnodd i’r Nef i eistedd ar ddeheulaw Duw, ei Dad.