100 likes | 307 Views
Portreadau. Beth yw portread?. Delwedd sy’n cael ei chreu gan arlunydd ac sy’n cynrychioli person, gr ŵp o bobl neu anifail hyd yn oed yw portread. Ydy o’n gyfoethog neu’n dlawd?. Pryd oedd o’n byw?. Bydd arlunwyr yn paentio lluniau o bobl (ac anifeiliaid, weithiau).
E N D
Portreadau Beth yw portread? Delwedd sy’n cael ei chreu gan arlunydd ac sy’n cynrychioli person, grŵp o bobl neu anifail hyd yn oed yw portread.
Ydy o’n gyfoethog neu’n dlawd? Pryd oedd o’n byw? Bydd arlunwyr yn paentio lluniau o bobl (ac anifeiliaid, weithiau). Pan fyddwch chi’n edrych ar bortreadau, byddwch yn dysgu llawer am y bobl sydd yn y lluniau hynny. Faint yw ei oed? O ble mae o’n dod?
Gallwn anrhydeddu pobl bwysig drwy greu portread ohonynt. Pam y bydd arlunwyr yn paentio portreadau? Cyn bod camerâu gan bobl, roedd darlun portreadol yn ffordd dda o gofio sut roedd rhywun yn edrych. Heddiw, bydd y rhan fwyaf o bobl yn tynnu lluniau i’w hatgoffa o bobl. Mae arlunwyr yn dal i baentio portreadau, a hynny am nifer o resymau. Gallwn gyfleu awyrgylch neu ddal personoliaeth mewn portread.
Bydd portreadau yn aml yn dangos un person. Dyma lun o wraig ifanc. Gall portreadau hefyd ddangos grwpiau o bobl, e.e. teuluoedd. Weithiau, bydd arlunwyr yn paentio portreadau o anifeiliaid.
Weithiau, bydd arlunwyr yn paentio llun ohonynt eu hunain. Hunanbortreadau yw’r enw ar y lluniau hyn. Byddan nhw’n defnyddio drych i greu portread ohonynt eu hunain!
Mae llawer o arlunwyr yn ceisio gwneud i bethau edrych yn real. Maen nhw eisiau i’r portread edrych yn union fel y model. Weithiau, gall arlunwyr hyd yn oed ddelfrydu neu beri i’r llun edrych yn llawer gwell na golwg go iawn y person dan sylw. Bydd arlunwyr eraill yn creu portreadau sy’n haniaethol (dydyn nhw ddim yn edrych yn real).
Camera a ffilm Paent olew Sbwriel Pinnau Ffelt Teracota Bydd y mwyafrif o bobl yn meddwl am baentiadau pan fyddwn yn meddwl am bortread. Ond gallwch lunio portread allan o unrhyw beth! Pan fyddwch am lunio portread, rhaid i chi wneud y penderfyniadau canlynol– Faint o’r person i’w ddangos? Wyneb llawn, hyd ¾, corff i gyd …. Beth ddylai’r person ei wisgo? Pa argraff sydd i’w chyfleu? Beth am yr ystum? Sefyll, eistedd, ffurfiol … Mynegiant yr wyneb? Y cefndir? Defnyddiau? Offer? Technegau?
Chwilio am gliwiau mewn llun – bod yn dditectif! Gallwch edrych ar – • Y dillad sy’n cael eu gwisgo • Steil gwallt • Ystum corff • Cefndir • Unrhyw wrthrychau • Mynegiant wyneb y sawl sydd yn y llun • Lliwiau yn y portread Bydd y wybodaeth y byddwch yn ei gasglu fel hyn yn dweud cryn dipyn wrthych am destun y llun. Hefyd, ceisiwch feddwl pam, o bosibl, y cafodd y llun ei baentio.
Beth ydych chi'n ei gofio am bortreadau? Agorwch y ffeil Smart Notebook: DosbarthuPortreadau (trefnu_portreadau.notebook) a gosodwch y darnau o arlunwaith yn eu dosbarthiadau cywir. Pob hwyl! trefnu_portreadau.notebook