160 likes | 338 Views
Ymchwil Prifysgol Caerdydd. Dr Adrian Price. Eitem 1: Cwrs CiO Newydd. tri amrywiad ieithyddol rhanbarthol sef Gogledd, De-Orllewin, a De-Ddwyrain; amrywiad ac amrywiaeth leol i fod yn fater i’r canolfannau CiO yn lleol;
E N D
Ymchwil Prifysgol Caerdydd Dr Adrian Price
Eitem 1: Cwrs CiO Newydd • tri amrywiad ieithyddol rhanbarthol sef Gogledd, De-Orllewin, a De-Ddwyrain; • amrywiad ac amrywiaeth leol i fod yn fater i’r canolfannau CiO yn lleol; • canllawiau i diwtoriaid ar y defnydd o’r iaith darged yn y dosbarth a’r tu hwnt, a hynny mewn perthynas â gweithgareddau cysylltiedig amrywiol. Dylai’r canllawiau hyn gynnwys cyngor ar gynyddu’r defnydd o’r iaith darged hyd at y pwynt lle y defnyddir yr iaith darged yn unig â dysgwyr; • canllawiau i ddysgwyr ar amcanion, gwerthoedd a dulliau cyflwyno’r cwrs; • darnau drilio byr, cyd-destunol; • tasgau cyfathrebol ar wahanol lefelau er mwyn ymateb i wahaniaethau ymhlith dysgwyr
Eitem 2: Canllaw Gramadeg i Ddysgwyr • Dylid gwneud defnydd o nifer o lyfrau safonol a phoblogaidd ym maes TEFL tra’n datblygu’r canllaw hwn, er enghraifft: • Raymond Murphy gyda Williams R. Smalzer ‘BasicGrammarinUseAnswerKey: ReferenceandPracticeforStudents of English’ (Cambridge University Press, 2002); • Raymond Murphy ‘EssentialGrammarinUsewithAnswers: A Self-StudyReferenceandPracticeBookforElementaryStudents of English’ (Cambridge University Press, 2007); • Raymond Murphy gyda Williams R. Smalzer ‘EnglishGrammarinUsewithAnswers: A Self-StudyReferenceandPracticeBookforIntermediateStudents of English’ (Cambridge University Press, 2002); • Michael Swan a Catherine Walter ‘HowEnglish Works: A GrammarPracticeBookWithAnswers’ (Oxford University Press, 1997); • Martin Hewings ‘Advanced GrammarinUse: A Self-StudyReferenceandPracticeBookfor Advanced Students of English’ (Cambridge University Press, 2005).
Eitem 3: Canllaw Gramadeg i Diwtoriaid • Yr argymhelliad yw i’r Adran Addysg a Sgiliau gomisiynu canllaw gramadeg yn benodol ar gyfer tiwtoriaid CiO sy’n ymgorffori’n neilltuol canllawiau i diwtoriaid ar sut i gyfathrebu ac egluro gramadeg i ddysgwyr. • Dylid defnyddio a thynnu at ei gilydd yn y canllaw hwn deunydd CiO cyfredol, perthnasol, yn unol ag awgrymiadau ymarferwyr CiO • Dylid gwneud defnydd o nifer o lyfrau safonol a phoblogaidd ym maes TEFL tra’n datblygu’r canllaw hwn, er enghraifft: • A. J. Thomson a A. V. Martinet ‘A PracticalEnglishGrammar’ (Oxford University Press, 1986); • Michael Swan ‘PracticalEnglishUsage’ (Oxford University Press, 2005).
Eitem 4: App Gramadeg i Ddysgwyr • Dylai’r App hwn ymgorffori esboniadauyn Saesneg a thynnu ar yr arfer da canlynol ym maes TEFL: • Cambridge University PressEnglishGrammarinUseActivitiesAppforiPhone (<http://www.cambridge.org/other_files/wasp_video_player/inUse/EGUMobileActivities.html>); • Cambridge University PressEnglishGrammarUseTestsApp (http://www.cambridge.org/other_files/wasp_video_player/inUse/EGUMobileTests.html). Reviewedby EFL practitionershere (http://www.englishblog.com/2010/03/essential-apps-for-english-learners-grammar.html); • University College London InteractiveGrammar of English [iGE]
Eitem 5: Corpws CiO • Yr argymhelliad yw i’r Adran Addysg a Sgiliau gomisiynu corpws electronig yn benodol ar gyfer CiO ac yn seiliedig ar Gymraeg llafar cyfoes. • Dylai’r Adran Addysg a Sgiliau weithio ag arbenigwyr ym maes corpora ieithyddol ynghyd ag arbenigwyr o blith ymarferwyr CiO ac arbenigwyr mewn Cymraeg llafar cyfoes er mwyn datblygu corpws priodol. • Cyfanswm goblygiadau cost: lleiafswm £150,000 • Mae’r ffigwr hwn yn seiliedig ar gostau corpora tebyg eraill. • Nid yw hyn o reidrwydd yn gost i AdAS. Mae cynghorau cyllido ymchwil y DU a chyrff cyllido ymchwil eraill e.e. AHRC, ESRC, Ymddiriedolaeth Leverhulme, a’r Academi Brydeinig wedi arfer â chefnogi gwaith o’r math hwn.
Eitem 6: Darllenwyr Graddedig (Prosiect Cwmpasu) • Yr argymhelliad yw i’r corff arweiniolyn y sector CiO ymgymryd â’rdasg o ystyried ymha ffyrdd y gellir datblygu casgliad newydd o ddarllenwyr graddedig. • Dylai’r testunau fod yn gysylltiedig â lefelau a nodweddion penodol o’r cwrs newydd. Yn neilltuol, dylai’r testunau fod yn seiliedig ar ddealltwriaeth wyddonol o’r patrymau geirfaolac ieithyddol fel y maent yn codi trwy’r cwrs. Hefyd, dylai’r testunau fod yn ailgylchu’n fwriadol y patrymau geirfaol ac ieithyddol hyn. Yn ogystal â hyn, dylid datblygu canllawiau i diwtoriaid ynghylch defnyddio’r darllenwyr graddedig, gan cynnwys mewn Clybiau Darllen. Yn ddelfrydol, bydd ystod o adnoddau cefnogol clywedol yn gysylltiedig â’r darllenwyr graddedig hyn. Byddai modd defnyddio darllenwyr o’r math hwn i bontio’r gagendor rhwng cyrsiau.
Eitem 7: Gweithgareddau DysguLled-ffurfiol • Dylid ymgorffori’r nodweddion canlynol i’r gwaith hwn: • dealltwriaeth eglur a phendant o’r gwahaniaethau rhwng dysgu ffurfiol, lled-ffurfiol ac anffurfiol; • gweithgareddau lled-ffurfiol penodol, yn cynnwys cywair a thocynnauymateb rhyngweithiol, sy’n gysylltiedig â gwahanol lefelau ac agweddau o’r cwricwlwm CiO; • monitro a gwerthuso gweithgareddau lled-ffurfiol trwy ddefnyddio ‘Toolkit’ NIACE / RARPA; • bod gan bob canolfan CiO aelod penodol o staff â chyfrifoldeb penodol am ddatblygu a gweithredu rhaglen o weithgareddau dysgu lled-ffurfiol; • bod pob canolfan CiO yn gweithio yn agos â’r Mentrau Iaith sy’n lleol iddynt ar ddatblygu a gweithredu cynlluniau a gweithgareddau yn y maes hwn.
Eitem 8: Hyfforddiant i Awduron • Yr argymhelliad yw i’r Adran Addysg a Sgiliau gefnogi’r corff arweiniol ar hyfforddiant ym maes CiO i ddatblygu rhaglen hyfforddiant i gyw awduron yn y maes. • Dylid anelu rhan gyntaf yr hyfforddiant at ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o awduron CiO a dylid ei arwain gan awduron cyfredol CiO. Dylai ail ran yr hyfforddiant gynnwys ‘dosbarth meistr’ ar gyfer awduron profiadol ym maes CiO, a hwnnw i’w gynnal gan arbenigwr rhyngwladol. Dylid ei gynnal yn flynyddol. Mae’r ffigwr isod yn adlewyrchu’r goblygiadau cost ar gyfer un flwyddyn yn unig. Yn amlwg, byddai hyfforddiant i awduron ar sail barhaus â goblygiadau cost wrth drefnu a darparu gweithgareddau a digwyddiadau. • Cyfanswm goblygiadau cost yn fras: £3,500
Eitem 9: Hyfforddiant i Diwtoriaid • Dylai’r hyfforddiant fod â’r nodweddion canlynol: • Drilio – hyfforddiant yn y gwahanol ffyrdd o gyflwyno drilio a’r gwahanol arddulliau drilio, er mwyn osgoi gorlwytho semantig / syrffed ystyregol [Saesneg - semanticsatiation]; • Gramadeg – hyfforddiant ar y defnydd o derminoleg priodol a dulliau o gyflwyno esboniadau gramadegol, er mwyn osgoi cysoni / gorgyffredinol [Saesneg – overgeneralisation]; • Adborth – hyfforddiant ar adborth sy’n benodol i gynnydd ieithyddol, yn unol ag ymagweddau asesu ar gyfer dysgu. Hefyd, arweiniad ar weithio gyda thempledi / ffurflenni adborth i ddysgwyr a ‘gwaith cartref’ fel cyfleon i ddarparu adborth; • Geirfa – hyfforddiant yn y dull ‘adolygu strwythuredig’ [Saesneg - structuredreviewing]; • Gweithgareddau gwahaniaethol – hyfforddiant ar y defnydd priodol o weithgareddau gwahaniaethol o safbwynt gwahaniaethau mewn gallu ymhlith dysgwyr.
Eitem 10: Hyfforddiant i Ddysgwyr • Dylai nodweddion allweddol hyn fod yn cynnwys y canlynol: • gosod targedau synhwyrol, • rheoli amser (amser cyfeiriol yn cynnwys amser cyswllt / amser yn y dosbarth a gweithgareddau amser cyfeiriol eraill), • derbyn a deall adborth.
Eitem 11: Rhannu Arfer Da • Yr argymhelliad yw i CiO fel sector wneud gwell ddefnydd o’r ‘Moodle’ cenedlaethol CiO na’r defnydd a wnaed o’r mecanweithiau blaenorol yn y sector, sef y porth CiOar y we a’r cyhoeddiad sectorol ‘Y Tiwtor’<http://www.ytiwtor.org/rhifyn19/newyddion/y-bont.html>, er mwyn sicrhau bod arfer da yn y sector CiO ac o feysydd perthnasol eraill yn cael ei adnabod a’i raeadru’n eang. • Mae’r ymchwil wedi adnabod technoleg a DDD fel meysydd sydd o flaenoriaeth yn y cyd-destun hwn. • Dim goblygiadau cost newydd
Eitem 12: Ymchwil Weithredol • Mae’r ymchwil wedi adnabod y meysydd canlynol fel blaenoriaethau: • defnydd cyfredol dysgwyr o gefnogaeth dechnoleg-seiliedig; • gwahaniaethau rhwng dysgwyr; • syrffed ystyregol wrth ddrilio; • patrymau mewn cysoni / gorgyffredinoli.
Eitem 13: Ymchwil Bellach • Yr argymhelliad yw i’r Adran Addysg a Sgiliau ystyried ymchwilio ymhellach i fater y continwwm ieithyddol I2 [Saesneg - L2] yn y Gymraeg. • Yn yr ymchwil, daeth y maes hwn i’r amlwg fel mater sylweddol a chymhleth. Mae ‘Cymraeg i’r Teulu’, dyfeisiadnewydd yn y sector CiO, wedi uwcholeuo’r mater ac yn neilltuol natur problemus y continwwm I2 [Saesneg - L2] yn y Gymraeg. Hefyd, mae lleiafrif sylweddol (o leiaf) o ddysgwyr CiO yn nodi iddynt ddod i gysylltiad â’r Gymraeg fel ail iaith, am y t ro cyntaf, yn y sector addysg statudol. Er enghraifft, dim ond 13.2% o ddysgwyr oedd heb astudio’r Gymraeg o’r blaen yn ôl un arolwg o Ogledd Cymru ac roedd 31.3% ohonynt wedi dysgu o leiaif peth Cymraeg yn yr ysgol gynradd (Baker etal, 2011: 49). • Dim goblygiadau cost newydd heblaw y cymerir penderfyniad i gomisiynu ymchwil.
Eitem 14: Meincnodi • Yr argymhelliad yw i’r Adran Addysg a Sgiliau ystyried annog y Canolfannau CiO i ehangu meincnodi er mwyn cynnwys cymaryddion rhyngwladol. • Mae’r arfer hwn wedi’i ddatblygu gan unedau tebyg i Ganolfannau CiO mewn gwledydd eraill (e.e. National University of Ireland, Cork: 2011: 9). • Dim goblygiadau cost newydd.