780 likes | 949 Views
Cyflwyniad i gydraddoldeb ac amrywiaeth. Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gyfer Myfyrwyr. Catrin Morgan, Rheolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Yr Uned Cydraddoldeb Adran Llywodraethu a Chydymffurfio E-bost: morganca5@caerdydd.ac.uk , Ffôn: 02920 87023. Dalier sylw:. 2.
E N D
Cyflwyniad i gydraddoldeb ac amrywiaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gyfer Myfyrwyr Catrin Morgan, Rheolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Yr Uned Cydraddoldeb Adran Llywodraethu a Chydymffurfio E-bost: morganca5@caerdydd.ac.uk, Ffôn: 02920 87023
Dalier sylw: 2 Cyflwyniad yw hwn i rai egwyddorion a gofynion cyfreithiol allweddol ar gyfer myfyrwyr Dylai’r cyflwyniad hwn gymryd tua 30 munud i’w gwblhau yn ogystal â chwis sy’n cymryd 10 munud Am fwy o wybodaeth neu adborth ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth, cysylltwch â: Catrin Morgan, Rheolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, E-bost: morganCA5@caerdydd.ac.uk, Ffôn: 02920 870230
Os oes arnoch chi angen copi o’r wybodaeth hon mewn fformat arall, cysylltwch â Catrin Morgan: MorganCA5@caerdydd.ac.uk, 02920 870230 3
Amlinelliad o’r Drafodaeth 4 • Cyflwyniad i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth • Achosion Cyfreithiol, Moesol a Busnes • Deddf Cydraddoldeb 2010 • Diwylliant Cydraddoldeb Prifysgol Caerdydd • Gwahaniaethu • Stereoteipio a Rhagfarnu • Iaith Amrywiaeth • Cwis Cydraddoldeb (10 cwestiwn)
Beth yw Cyfleoedd Cyfartal ac Amrywiaeth? Cyfleoedd Cyfartal: yn gysylltiedig â dileu gwahaniaethu anghyfreithlon ac annheg yn erbyn grwpiau penodol. Cydraddoldeb = cyflwr o fod yn gyfartal. Amrywiaeth: yn seiliedig ar y cysyniad o gydnabod, parchu a gwerthfawrogi gwahaniaeth. Mae cydraddoldeb yn diogelu pawb ohonom… Mae amrywiaeth yn adlewyrchu pawb ohonom… 6
“Nid oes cydraddoldeb mewn ystyried bod pethau gwahanol yn debyg, mae cydraddoldeb mewn ystyried bod pethau gwahanol yn wahanol.”Tom Robbins
Yr achos cyfreithiol, moesol a busnes dros amrywiaeth a chydraddoldeb 8
Ein Diwylliant Nod Prifysgol Caerdydd yw: • Datblygu a hyrwyddo diwylliant o gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac urddas, cwrteisi a pharch ledled y Brifysgol • Cefnogi’r holl fyfyrwyr a staff, gan gynnwys darparu cefnogaeth berthnasol mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig • Gweithio i atal mathau o wahaniaethu anghyfreithlon a delio â phob mathau o wahaniaethau’n gyson ac effeithiol • Sicrhau bod ei holl bolisïau a chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth yn dylanwadu ar ddiwylliant y Brifysgol ac yn ei hysbysu. 9
Pam fod arnom angen cydraddoldeb ac amrywiaeth • Yr Achos Cyfreithiol: • Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhoi amddiffyniad a hawliau i bobl gan gynnwys myfyrwyr a staff mewn perthynas â gwahaniaethu (triniaeth llai ffafriol), aflonyddwch ac erledigaeth • Mae deddfwriaeth hawliau dynol yn rhoi cyfres o hawliau a rhyddid sylfaenol y mae gan bob unigolyn hawl iddynt yn seiliedig ar egwyddorion craidd sy’n cynnwys urddas, cydraddoldeb a pharch. • Mae gan bawb ohonom hawliau a chyfrifoldebau mewn perthynas â’r gyfraith ar gydraddoldeb. 10
Pam fod arnom angen cydraddoldeb ac amrywiaeth • Yr Achos Busnes: • Denu a chadw myfyrwyr a staff • Gwneud defnydd llawn o dalentau a dysgu pobl o ystod eang o wybodaeth a phrofiad • Gwella perfformiad a galluogi pobl i berfformio hyd at eu potensial llawn • Yr Achos Moesol: • Trin pobl yn deg • Creu amgylchedd cynhwysol 11
“Un o bedwar prif bwrpas addysg uwch yw chwarae rhan fawr mewn ffurfio cymdeithas ddemocrataidd, wâr, gynhwysol.” Syr Ron Dearing Pwyllgor ymchiliad y DU i addysg uwch, 1997
Pwy mae’r gyfraith yn eu hamddiffyn? ‘Nodweddion Gwarchodedig’ 13
Nodweddion Gwarchodedig Oedran Mae hyn yn cyfeirio at berson yn perthyn i oedran penodol (e.e. 50 mlwydd oed) neu ystod o oedrannau (e.e. 18 i 30 mlwydd oed). Mae oedran yn cynnwys trin rhywun yn llai ffafriol am resymau’n ymwneud â’u hoedran (boed ifanc neu hen). Anabledd Mae gan berson anabledd os oes ganddo nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu’r person hwnnw i ymgymryd â gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. 14
Nodweddion Gwarchodedig Ailbennu RhyweddSef y broses o newid o un rhyw i’r llall. Mae Hunaniaeth o ran Rhywedd yn cyfeirio at y ffordd y mae unigolyn yn uniaethu â’u rhyw eu hunain, e.e. bod yn ddyn neu’n fenyw, neu nid y naill na’r llall mewn rhai achosion, sy’n gallu bod yn wahanol i ryw biolegol. Priodas a Phartneriaeth Sifil Diffinir priodas fel ‘uniad rhwng dyn a menyw’. Yn gyfreithiol, gellir cydnabod perthnasau rhwng cyplau o’r un rhyw fel ‘partneriaethau sifil’. Mae’n rhaid i bartneriaid sifil gael eu trin yn yr un modd â chyplau priod o ran ystod eang o faterion cyfreithiol. 15
Nodweddion Gwarchodedig Beichiogrwydd a Mamolaeth Cyflwr o fod yn feichiog neu’n disgwyl babi yw beichiogrwydd. Cyfeiria mamolaeth at y cyfnod ar ôl y geni, ac mae diogelwch cyfreithiol am 26 wythnos ar ôl y geni. Mae hyn yn cynnwys ymdrin â menyw yn anffafriol oherwydd ei bod yn bwydo ar y fron. Hil Cyfeiria hil at grŵp o bobl a ddiffinnir gan eu hil, lliw a chenedligrwydd (gan gynnwys dinasyddiaeth) a gwreiddiau ethnig neu genedlaethol. 16
Nodweddion Gwarchodedig Crefydd a Chredo Ystyrir crefydd yn ôl ei ystyr arferol, ond mae credo’n cynnwys argyhoeddiadau a chredoau crefyddol gan gynnwys credo athronyddol a diffyg cred. Yn gyffredinol, mae’n rhaid i gredo effeithio ar eich dewisiadau bywyd neu eich ffordd o fyw er mwyn ei gynnwys yn y diffiniad hwn. Rhyw Dyn neu fenyw. Trin dyn neu fenyw’n llai ffafriol am resymau sy’n perthyn i’w rhyw. Cyfeiriadedd Rhywiol Atyniad rhywiol person tuag at eu rhyw eu hunain, y rhyw arall neu’r ddau ryw (e.e. lesbiaidd, hoyw, deurywiol, heterorywiol ac ati). 17
“Cydraddoldeb yw enaid rhyddid; mewn gwirionedd, hebddo, nid oes rhyddid.”Frances Wright
Beth yw rhai o’r buddion ar gyfer Myfyrwyr? • Peidio â bod o dan anfantais neu brofi ymddygiad negyddol am reswm yn ymwneud â’ch nodwedd warchodedig • Astudio/byw mewn amgylchedd sy’n eich galluogi i fod ‘yn chi’ch hun’ a bod yn agored am eich hunaniaeth ac anghenion • Cael profiad myfyriwr mwy ‘byd-eang’ ac amrywiol a fydd yn eich helpu i gael ystod ehangach o wybodaeth a phrofiad • Cael dealltwriaeth well o anghenion pobl mewn perthynas â deunydd pwnc, e.e. myfyrwyr meddygaeth yn deall anghenion cleifion anabl, y gellir defnyddio hyn yn ddiweddarach mewn gwaith ymchwil neu gyflogaeth • Bod wedi’ch paratoi’n well ar gyfer cyflogaeth (polisïau amrywiaeth a chydraddoldeb cyflogwr) • Deall tegwch a chynhwysoldeb yn arferion y Brifysgol • Deall gweithdrefnau ar gyfer mynd i’r afael ag aflonyddwch / bwlio 19
Mae’n bwysig nodi: • Nid yw’r Brifysgol yn goddef aflonyddwch a bwlio gan gynnwys iaith dramgwyddus • Mae rhyddid i lefaru ac eithrio o’r cwricwlwm yn caniatáu beirniadaeth gyfreithiol, gyfreithlon, neu ddadl at ddibenion academaidd yn ymwneud â materion, syniadau a deunyddiau. Fodd bynnag, ni ddylai’r rhai sy’n ymarfer rhyddid i lefaru dorri cyfreithiau eraill, er enghraifft yn ymwneud ag aflonyddwch ac annog casineb, yn y ffordd y caiff syniadau eu cyfleu • Mae gan yr holl fyfyrwyr â staff gyfrifoldeb i gydymffurfio â deddfwriaeth a pholisïau cydraddoldeb • Mae gan fyfyrwyr a staff gyfrifoldeb i weithredu mewn ffordd nad yw’n gwahaniaethu’n anghyfreithlon (gweler diffiniadau mewn sleidiau i ddod) • Er mwyn nodi unrhyw anghenion am gymorth, dylai myfyrwyr drafod eu hanghenion penodol gyda’r Brifysgol 20
“Y pwynt yw bod byw gyda’n gilydd yn raslon yn gwneud ein bywydau’n fwy cyfoethog, diogel a hapus. Mae anghydraddoldeb yn gwneud bywyd yn fwy anodd, gwael ac annifyr.”Syr Trevor Phillips
Deddf Cydraddoldeb 2010 • Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) yn cynnig ymagwedd wedi’i chysoni tuag at gydraddoldeb ac amrywiaeth (mae’n dod â’r holl ‘nodweddion gwarchodedig’ o dan un gyfraith) • O dan y Ddeddf, mae dyletswyddau ‘Cyffredinol’ a ‘Phenodol’ gan ‘Gyrff Cyhoeddus’ (e.e. prifysgolion, ysbytai ac ati) sy’n ddyletswyddau ychwanegol i ddileu gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb ar gyfer y cyrff hyn • Dalier sylw: nid yw popeth wedi’i gynnwys o dan y ddeddf cydraddoldeb, e.e. cefndir cymdeithasol-economaidd, materion ‘tegwch’ nad ydynt yn ymwneud â nodwedd warchodedig ac ati. 23
Y Dyletswyddau ‘Cyffredinol’ • Dileu gwahaniaethu, aflonyddwch, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall sydd wedi’i wahardd gan neu o dan y Ddeddf • Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu, a • Meithrin perthynas da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu. 24
Dyletswyddau ‘Penodol’ (Cymru) Mae gennym nifer o ddyletswyddau penodol ar waith yng Nghymru sydd â’r nod o sicrhau ein bod yn gweithio’n effeithiol i gwrdd â’r dyletswyddau cyffredinol. Mae’r dyletswyddau hyn yn cynnwys: 1. Datblygu a gweithredu Cynllun Cydraddoldeb Strategol ac Amcanion Cydraddoldeb 2. Ymgysylltu â phobl o grwpiau cydraddoldeb gwahanol 25
Dyletswyddau ‘Penodol’ (Cymru) 3. Monitro data cydraddoldeb 4. Edrych ar y ffordd y mae ein polisïau a gweithdrefnau’n effeithio ar grwpiau gwahanol 5. Cynnal archwiliadau cyflog cyfartal i sicrhau cyflog cyfartal am waith cyfartal rhwng dynion a menywod 6. Adrodd yn flynyddol ar gynnydd a chyhoeddi’r wybodaeth hon. 26
Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Caerdydd • Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl ymarferion a gweithgareddau, gyda’r nod o sefydlu diwylliant cynhwysol yn rhydd o wahaniaethu ac yn seiliedig ar werthoedd urddas, cwrteisi a pharch. 29
Y Cynllun Cydraddoldeb Strategol • Mae’r Brifysgol wedi datblygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) • Mae’r cynllun yn dangos sut y byddwn yn cydymffurfio â’r ddeddf ac yn amlinellu ymrwymiad y Brifysgol i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth ar sail Oedran, Ailbennu Rhywedd, Priodas a Phartneriaeth Sifil, Beichiogrwydd a Mamolaeth, Crefydd neu Gredo, a Chyfeiriadedd Rhywiol • Cafodd yr Iaith Gymraeg ei chynnwys yn ein CCS hefyd i ddangos ein hymrwymiad (mae gan y Brifysgol Gynllun Iaith Gymraeg hefyd sy’n cynnwys ymrwymiadau mwy manwl) 30
Chwe Amcan Cydraddoldeb EIN DIWYLLIANT: Diwylliant yn seiliedig ar urddas, cwrteisi a pharch Amcan 1: Sefydlu cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy hyfforddiant, ymwybyddiaeth a chyfathrebu Amcan2: Gwella’r broses o fonitro a datgelu nodweddion gwarchodedig EIN MYFYRWYR A STAFF: Profiad addysgol a phrofiad o weithio sy’n ysbrydoli a chyfoethogi myfyrwyr a staff Amcan3: Adolygu, datblygu a gweithredu polisïau, gweithdrefnau, cwricwlwm ac amgylchedd ffisegol sy’n gefnogol a chynhwysol Amcan4: Adolygu a mynd i’r afael â thangynrychiolaeth mewn recriwtio, cadw a datblygiad/cyrhaeddiad staff a myfyrwyr Amcan5: Adolygu a mynd i’r afael â chydraddoldeb o ran cyflog staff a strwythurau cysylltiedig EIN CYMUNEDAU: Annog a chefnogi cydlyniant cymunedol Amcan6: Hyrwyddo cydweithio allanol, ehangu mynediad a chyfathrebu, meithrin perthnasoedd da a chynnal ymgysylltiad yn fewnol ac allanol 31
Y Siarter Myfyrwyr • Cyflwynodd y Brifysgol ei Siarter Myfyrwyr ym mis Awst 2012 a mae’n amlinellu disgwyliadau’r Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr a Myfyrwyr am gymuned urddasol ac egwyddorol, sy’n cysylltu’n uniongyrchol â’r wybodaeth a deddfwriaeth o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth a roddir yn y pecyn hwn. • Mae’r Siarter yn diffinio cymuned urddasol ac egwyddorol fel un lle hybir cydraddoldeb, lle gwerthfawrogir amrywiaeth a chynwysoldeb a lle perchir unigolion; lle mae ymddygiad yn cael ei lywio gan godau’n ymwneud ag uniondeb academaidd, moeseg ac ymddygiad da; lle mae pawb yn derbyn cyfrifoldeb tuag at ei gilydd; a lle mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal.
Y Siarter Myfyrwyr Yng Nghaerdydd, gallwch ddisgwyl i’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr: - eich trin ag urddas, cwrteisi a pharch bob amser; - meithrin a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, a chyhoeddi gwybodaeth am ein cynnydd bob blwyddyn; • gweithredu’n brydlon ac effeithiol i fynd i’r afael â chwynion yn ymwneud â gwahaniaethu neu aflonyddwch; • fod wedi’u hymrwymo i gydraddoldeb rhwng y Gymraeg a’r Saesneg; • fod wedi’u hymrwymo i wella hygyrchedd ein cwricwlwm, cyfleusterau a gwasanaethau, i gwrdd â gofynion pob defnyddiwr posibl.
Y Siarter Myfyrwyr Mae’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn disgwyl i chi: • ymddwyn yn briodol, gan drin cyd-fyfyrwyr, staff a’r gymuned leol ag urddas, cwrteisi a pharch bob amser; • rhoi gwybod i ni os yw eich profiad yng Nghaerdydd yn cael ei effeithio’n andwyol gan ymddygiad cyd-fyfyrwyr neu staff; • datblygu eich dealltwriaeth o broffesiynoldeb ac uniondeb academaidd yn gynnar a rhoi hyn ar waith trwy gydol eich cyfnod yma a thu hwnt. Mae’r Siarter Myfyrwyr llawn ar gael yma – www.caerdydd.ac.uk/studentcharter
Ein Swyddogaethau a Chyfrifoldebau Swyddogaeth Myfyrwyr a Staff • Annog yn weithredol arferion anwahaniaethol ac adrodd ar unrhyw achosion o ymddygiad sy’n methu â chydymffurfio â pholisïau cydraddoldeb • Cefnogi nodau polisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth y Brifysgol • Bod yn ymwybodol o ac ymgymryd (yn achos staff) â hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth priodol 35
Rhai Ffeithiau/Gwybodaeth am Brifysgol Caerdydd • Gellir dod o hyd i Wybodaeth Cydraddoldeb am staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ar ein poster ‘Ffeithiau a Ffigyrau’ 36
“Mae ein bywydau’n dechrau dod i ben panfyddwn yn cadw’n dawel am bethau sydd o bwys.”Martin Luther King
Mathau o Wahaniaethu Gwahaniaethu Uniongyrchol: lle mae rhywun yn cael eu trin yn llai ffafriol na pherson arall oherwydd eu nodwedd warchodedig, e.e. gwrthod caniatáu i berson anabl fynychu diwrnod agored oherwydd eu hanabledd. Gwahaniaethu Anuniongyrchol: lle mae rheol neu ddarpariaeth yn berthnasol i bawb ond mae’n anfanteisio pobl â nodwedd warchodedig, e.e. mae Prifysgol yn cynnig aelodaeth llyfrgell am ddim i wŷr a gwragedd priod ond nid yw’n ymestyn hyn i bartneriaid sifil. Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn berthnasol heblaw y gellir cyfiawnhau hyn fel ffordd gymesur o gyflawni nod dilys, e.e. mae’n bosibl y gellir cyfiawnhau gofyniad i fyfyrwyr berfformio tasgau neilltuol gyda’u breichiau/wyneb heb eu gorchuddio os oes rheswm gwirioneddol yn ymwneud ag iechyd a diogelwch, er y byddai hyn yn anfanteisio rhai myfyrwyr Mwslimaidd. 39
Mathau o Wahaniaethu • Gwahaniaethu drwy Ganfyddiad: gwahaniaethu uniongyrchol yn erbyn rhywun oherwydd bod pobl eraill yn meddwl bod ganddynt nodwedd warchodedig • e.e. credu bod gan rywun gredo penodol, neu eu bod wedi newid eu hunaniaeth o ran rhyw – hyd yn oed pan nad yw hyn yn wir • Gwahaniaethu drwy Gysylltiad: gwahaniaethu uniongyrchol yn erbyn rhywun oherwydd eu bod yn gysylltiedig â pherson arall sydd â nodwedd warchodedig • e.e. rhywun sy’n perthyn i/gofalu am berson anabl neu gyfaill i rywun sy’n hoyw Dalier sylw: Nid yw gwahaniaethu drwy ganfyddiad a chysylltiad yn berthnasol yn achos nodweddion gwarchodedig Beichiogrwydd a Mamolaeth neu Briodas a Phartneriaeth Sifil 40
Mathau o Wahaniaethu 41 Aflonyddwch: ymddygiad di-groeso (yn ymwneud â nodwedd warchodedig) sy’n tarfu ar urddas pobl neu’n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol neu ymosodol. Mae hyn yn cynnwys ymddygiad y mae unigolyn yn ei gael yn ymosodol hyd yn oed os nad yw’r ymddygiad wedi’i gyfeirio atyn nhw (gweler Polisi Urddas yn y Gwaith ac wrth Astudio’r Brifysgol) Erledigaeth: trin pobl yn llai ffafriol oherwydd camau gweithredu a gymerwyd ganddynt mewn perthynas â gwahaniaethu gan gynnwys eu bod wedi rhoi tystiolaeth mewn achos gwahaniaethu
Anabledd – Amddiffyniad Ychwanegol • Mae dyletswydd gadarnhaol o dan y Ddeddf Cydraddoldeb i roi ar waith bob ‘addasiad rhesymol’ i bobl anabl gael mynediad i gyflogaeth, addysg, gwasanaethau ac ati. Mae hyn yn cynnwys cael gwared ar rwystrau ffisegol neu eraill a darparu cymorth ychwanegol lle mae angen hynny. • Mae’n gyfreithlon i roi addasiadau rhesymol yn eu lle ar gyfer pobl anabl hyd yn oed os bydd hyn yn arwain at driniaeth ‘fwy ffafriol’ • Mae’n anghyfreithlon i drin person anabl yn llai ffafriol am reswm yn ymwneud â’u hanabledd, e.e. diswyddo gweithiwr sydd ag arthritis oherwydd eu bod yn teipio’n rhy araf. Gelwir hyn yn ‘wahaniaethu sy’n deillio o anabledd’. Dalier sylw: Nid yw’n ofynnol i’r Brifysgol wneud ‘addasiadau rhesymol’ wrth osod safon cymhwysedd (sef safon academaidd, feddygol neu arall i benderfynu a oes gan berson lefel benodol o gymhwysedd neu allu) 42
Gweithredu Cadarnhaol • Mae’n bosibl y bydd cymryd camau gweithredu cadarnhaol yn gyfreithlon lle mae grwpiau penodol wedi’u tangynrychioli mewn cyflogaeth neu wasanaethau, e.e. trefnu diwrnod agored wedi’i anelu at ddynion i annog mwy o ddynion i astudio nyrsio. • Fodd bynnag, nid yw gwahaniaethu cadarnhaol yn gyfreithlon, e.e. cynnig lleoedd i ddynion ar sail eu rhyw (lle nad y nhw yw’r ymgeiswyr gorau) 43
Stereoteipiau a Rhagfarn • Stereoteipio: cyffredinoli rhagfarnllyd ynghylch grŵp cymdeithasol – tybio neu briodoli nodweddion gor-gyffredinol i grŵp • Rhagfarn: "syniad rhagdybiedig sy‘n seiliedig ar ychydig iawn o ffeithiau neu ddim" • Yn aml rydym yn tybio ynghylch pobl eraill, a’u galluoedd, sgiliau a phriodweddau, heb wybod llawer amdanynt • Mae tueddiad i weld gwahaniaethau fel gwendidau. 45
Yr hyn rydym yn ei weld: • Ymddangosiad, rhyw, lliw croen, oedran... • Yr hyn nad ydym yn ei weld: • Gwerthoedd / Credoau • Profiadau / hanes • Cyfeiriadedd Rhywiol • Crefydd / Ffydd • Anableddau nad ydynt yn amlwg... 46
Peryglon Stereoteipio Atgyfnerthu rhagfarnau a chanfyddiadau negyddol am rai grwpiau penodol Mae‘n gallu arwain at allgáu a/neu wahaniaethu Mae coleddu rhagdybiaethau ynghylch anghenion unigolyn yn gallu arwain at fethiant i fynd i’r afael ag anghenion pobl mewn modd priodol ac effeithiol. 47
“Ni yw’r holl bobl sydd fel ni a Nhw yw pawb arall.” Rudyard Kipling, 1865-1936 48
Ffyrdd o osgoi stereoteipio • Cwestiynwch eich rhagfarnau, normau, arferion a ffyrdd o ryngweithio ag eraill • Gwnewch ymrwymiad i gadw meddwl agored a pharchu "eraill" • Peidiwch byth â goddef gwahaniaethu, allgáu, ymddygiad nawddoglyd neu ymddygiad rhagfarnllyd arall • Peidiwch â thrin pobl yn y ffordd yr hoffech chi gael eich trin ond yn hytrach yn y ffordd yr hoffen nhw gael eu trin • Datblygwch werthoedd personol i wrthsefyll stereoteipio a mynd i’r afael â gwahaniaethu mewn dysgu. 49
Enghreifftiau o Rwystrau i Gynhwysiant 50 Agweddau negyddol Diffyg dealltwriaeth Ffyrdd gwael (ac amhriodol) o roi gwybodaeth/ cyfathrebu gwael Dim prosesau ymgynghori Diffyg cyfleoedd wrth astudio ac mewn gwaith Mynediad ffisegol gwael Amgylchedd astudio gwael