100 likes | 357 Views
Am oleuni a chysgodion. BYD. Defnyddiau tryloyw, tryleu a di-draidd 1. Gelwir defnyddiau mae goleuni gallu mynd drwyddynt yn ddefnyddiau _____________. Mae defnyddiau tryloyw yn cynnwys ________________________________.
E N D
Defnyddiau tryloyw, tryleu a di-draidd • 1. Gelwir defnyddiau mae goleuni gallu mynd drwyddynt yn ddefnyddiau _____________. Mae defnyddiau tryloyw yn cynnwys ________________________________. • 2. Gelwir defnyddiau sy’n gadael ychydig o oleuni drwyddynt yn ddefnyddiau _______________, ond na allwch weld drwyddynt yn glir. Enghreifftiau ydy __________________________. • 3. Gelwir defnyddiau sydd ddim yn gadael goleuni drwyddynt yn ddefnyddiau_________. Mae defnyddiau di-draidd yn cynnwys ______________________________. Mae gwydr yn ddefnydd tryloyw
Cysgodion • Cawn gysgod pan fydd goleuni o ffynhonnell yn cael ei atal, ac mae’n ymddangos ar ochr pellaf y gwrthrych – i ffwrdd o’r goleuni. • Ni all wrthrych tryloyw greu cysgod, am fod y golau’n pasio trwyddo. Rhaid i wrthrych fod yn dryleu neu’n ddi-draidd i greu cysgod. • Mae gwrthrychau di-draidd yn creu cysgodion tywyll. Mae gwrthrychau tryleu yn creu cysgodion gwan. • Po agosaf yw ffynhonnell goleuni i wrthrych, y mwyaf ydy’r cysgod.
Sut ydy golau’n ffurfio cysgodion? Ffynhonnell golau Ffynhonnell golau • Mae goleuni’n teithio o ffynhonnell golau mewn llinellau syth. • Os ydy’r golau’n cael ei stopio gan wrthrych didraidd, mae cysgod yn ffurfio ble na all y golau ymestyn. • Beth sydd yn digwydd os ydyn ni’n symud y gwrthrych yn agosach at y ffynhonnell golau?
Cysgodion a wnaed gan yr haul • Mae’r haul yn ffynhonnell olau llachar, naturiol. Mae’n ymddangos fel petai’n symud ar draws yr awyr yn ystod y dydd (er mai’r ddaear sydd yn troi o amgylch yr haul mewn gwirionedd). • Mae’r haul yn taflu (creu) y cysgodion hiraf ar ddechrau a diwedd y dydd, pan mae’r haul isaf yn yr awyr. • Mae’r haul yn taflu'r cysgodion byrraf ganol dydd, pan mae’r haul ar ei bwynt uchaf yn yr awyr. Bore cynnar Canol dydd
Sut ydy’r haul yn ffurfio cysgodion? 12yh Wrth edrych i’r gogledd, mae’n ymddangos bod yr haul yn codi yn y dwyrain…. 2yh 10yb Mae safle’r haul yn effeithio ar safle a hyd y cysgodion a gynhyrchwyd. 9am 3yh 8yb 4yh 6yb 7yh Oherwydd y ffenomen naturiol yma, gall ddeial haul dweud yr amser – pan ddaw’r haul allan! ...ac yn teithio ar draws yr awyr tan iddo fachlud yn y gorllewin.
Mae safle’r haul yn effeithio ar safle a hyd y cysgodion a gynhyrchwyd. Wrth edrych i’r gogledd, mae’n ymddangos bod yr haul yn codi yn y dwyrain ac yn teithio ar draws yr awyr tan iddo fachlud yn y gorllewin. Oherwydd y ffenomen naturiol yma, gall ddeial haul dweud yr amser – pan ddaw’r haul allan! Sut ydy’r haul yn ffurfio cysgodion? 12yh 2yh 10yb 9am 3yh 8yb 4yh 6yb 7yh Po uchaf uwch eich pen yw ffynhonnell goleuni i wrthrych, y byrraf ydy’r cysgod.
Nawr trafodwch gyda’ch partner: Pam ydy’r haul yn codi yn y dwyrain, ond yn machlud yn y gorllewin? Beth yw’r wahaniaeth rhwng goleuni o’r haul a goleuni o’r lleuad? Pam na allwn weld unrhyw beth heb ffynhonnell olau? Sut ydy perisgop yn gweithio?
1. Pryd ydy cysgod yn cael ei greu?Pan bod golau wedi ei ddiffodd Pan mae pelydrau golau wedi eu hatal gan wrthrych Pan mae gwrthrych yn disgyn i’r llawr 2. Pan mae gwrthrych yn atal llwybr golau, pa siâp o gysgod sydd yn ffurfio? Siâp tebyg i siâp y gwrthrych Blob tywyll Nid oes cysgod yn ffurfio 3. Pan bod gwrthrych yn symud yn nes at ffynhonnell olau, mae ei gysgod yn...cynyddu lleihau aros yr un maint 4. P’un sy’n gwneud y cysgod orau? Golau’n adlewyrchu ar..... ddarn tenau o bapur tŷ bach ffenest wydr bwrdd torri (bwyd) pren 5. Yr enw ar ddefnyddiau mae golau’n medru pasio trwyddo yw... tryleu tryloyw di-draidd
6. Yr enw ar ddefnyddiau sydd yn atal goleuni rhag pasio trwyddo yw.....tryloyw tryleu di-draidd 7. Mae’n ddiwrnod braf iawn. Ble fyddai lle da i gysgodi?yn y môr o dan goeden yng nghanol cae rygbi 8. Pam ydy cysgodion a wnaed gan yr haul yn symud yn ystod y dydd?am fod y tywydd yn newid am fod y gwrthrychau’n symud am fod yr haul yn ymddangos fel petai’n symud ar draws yr awyr yn ystod y dydd 9. Pan mae’r haul y tu ôl i chi, mae eich cysgod.... tu ôl i chi uwch eich pen o’ch blaen 10. Mae cysgodion a wnaed gan yr haul ar eu byrraf.... yn y bore, ar godiad yr haul ganol dydd, pan mae’r haul yn syth uwch ein pennau yn y nos, ar fachlud yr haul