70 likes | 278 Views
Am onglau a lliw goleuni, a mwy am y llygad. BYD. Sut ydy goleuni’n teithio?. Mae pelydrau goleuni’n teithio mewn llinellau syth oddi wrth y ffynhonnell golau. Pan mae’n bwrw gwrthrych di-draidd , mae’r gwrthrych yn amsugno ychydig bach o olau, ac adlewyrchwyd y gweddill.
E N D
Sut ydy goleuni’n teithio? • Mae pelydrau goleuni’n teithio mewn llinellau syth oddi wrth y ffynhonnell golau. • Pan mae’n bwrw gwrthrych di-draidd, mae’r gwrthrych yn amsugno ychydig bach o olau, ac adlewyrchwyd y gweddill. • Os ydy gwrthrych yn dryloyw, mae pelydrau golau’n pasio trwyddo’n hawdd. • Os ydy gwrthrych yn dryleu, gall rhywfaint o olau pasio trwyddo, ond caiff y gweddill ei hadlewyrchu. ffynhonnell
on off Sut ydy goleuni’n adlewyrchu? Ongl drawiad Ongl adlewyrchiad Mae ongl yr adlewyrchiad bob tro yn hafal i ongl y trawiad.
on off Mae goleuni’n adlewyrchu mewn llinellau syth yn unig!
Mae goleuni’n adlewyrchu oddi ar wrthrychau ac yn mynd mewn i’n llygaid trwy’r cornia, i gannwyll y llygad. Mae’r lens yn ffocysu’r goleuni’n glir ar y retina. Mae celloedd y retina’n sensitif. Maent yn casglu gwybodaeth am batrymau goleuni a thywyllwch, lliw a symudiad, ac yn anfon y wybodaeth yma trwy’r nerf optig, i’r ymennydd. Tu fewn yr ymennydd, mae nerfau’n creu llwybrau i’r cortecs gweledol. Yma mae’r patrymau goleuni a thywyllwch, lliw a symudiad yn cael eu dehongli. Dyma sut mae’r ymennydd, yn seiliedig ar brofiad blaenorol, yn gallu deall beth mae’n ei “weld”. Sut ydym yn gweld?
Er bod goleuni o ffynonellau’n ymddangos yn wyn, y mae’n cynnwys pob lliw y sbectrwm - mewn geiriau eraill, yrenfys. Os ydy gwrthrych yn ymddangos yn las, y mae’n amsugno pob lliw ar wahân i glas, sydd yn adlewyrchu oddi wrtho, mewn i’ch llygad. Os ydy gwrthrych yn ymddangos yn oren, y mae’n amsugno pob lliw ar wahân i oren, sydd yn adlewyrchu oddi wrtho, mewn i’ch llygad. Os ydy gwrthrych yn edrych yn goch... (Chi’n cael y syniad!) Sut ydym ni’n gweld lliw? ffynhonnell