110 likes | 276 Views
Llyfr Gwaith Myfyriwr 2014/15. Cynnwys/Faint ydych yn ei wybod? . Rhan 1: Cyllid i Fyfyrwyr 2014/15 Beth yw Cyllid Myfyrwyr Cymru? Pa gyllid sydd ar gael? Rhan 2: Ceisiadau a Thu Hwnt Sut a phryd i ymgeisio Rheoli eich arian Sut fyddwch yn ad-dalu benthyciad i fyfyrwyr?. i.
E N D
Cynnwys/Faint ydych yn ei wybod? Rhan 1: Cyllid i Fyfyrwyr 2014/15 Beth yw Cyllid Myfyrwyr Cymru? Pa gyllid sydd ar gael? Rhan 2:Ceisiadau a Thu Hwnt Sut a phryd i ymgeisio Rheoli eich arian Sut fyddwch yn ad-dalu benthyciad i fyfyrwyr? i C1 Pa rai o'r rhain sydd ar gael gan Gyllid Myfyrwyr Cymru? a) Nawdd ac ysgoloriaethau b) Benthyciadau a grantiau i helpu talu ffioedd dysgu a chostau byw c) Tocynnau bws a bocs o siocledi Pryd ddylech chi ymgeisio am eich cyllid i fyfyrwyr? a) Ar ôl cychwyn ar eich cwrs b) Ar ôl cael cynnig lle gan brifysgol neu goleg c) Cyn gynted ag y bo modd Ar beth fydd eich ad-daliadau benthyciad myfyriwr yn seiliedig? a) Eich incwm yn y dyfodol b) Y swm wnaethoch chi ei fenthyca c) Dim un o'r rhain, byddwch yn talu swm penodedig Faint fydd angen i chi fod yn ennill cyn i chi ddechrau ad-dalu? a) £16,000 y flwyddyn b) £21,000 y flwyddyn c) Dim gwahaniaeth, bydd ad-daliadau’n cael eu casglu waeth beth yw’r swm fyddwch yn ennill Gallwch ddefnyddio'r wybodaeth a'r gweithgareddau yn y canllaw hwn i ddysgu mwy am gyllid i fyfyrwyr. Ond cyn i chi ddechrau, dylech ateb y cwestiynau isod i weld faint ydych chi’n wybod yn barod am gyllid i fyfyrwyr, yna dewch yn ôl i adolygu'ch atebion i weld pa mor dda y gwnaethoch chi.
Beth yw Cyllid Myfyrwyr Cymru? Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn wasanaeth a ddarparir gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr. Rydym yn darparu cymorth ariannol ar ran Llywodraeth Cymru i fyfyrwyr o Gymru sy'n cychwyn ar gwrs addysg uwch yn y DU. Rydym yma i helpu a gallwn gynnig cymorth ariannol i chi pan fyddwch ei angen fwyaf – tra byddwch yn astudio. Yn ddibynnol ar eich amgylchiadau, eich cwrs, a ble byddwch yn astudio, gallech gael amrediad o help a chymorth ariannol. Gallech gael grantiau a bwrsariaethau (na fydd yn rhaid i chi eu talu'n ôl) a benthyciadau (y bydd rhaid i chi eu talu'n ôl). Mae hyn yn cynnwys Grant Ffioedd. Ni fydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr dalu unrhyw ffioedd dysgu ymlaen llaw. Y ddau brif gost fydd gan fyfyrwyr amser llawn pan fyddant yn astudio fydd ffioedd dysgu a chostau byw. Mae cyllid i fyfyrwyr ar gael i'ch helpu i dalu'r ddau. Benthyciad Ffioedd Dysgu a Grant Ffioedd Ni fydd yn rhaid i unrhyw fyfyriwr newydd, cymwys dalu ffioedd dysgu ymlaen llaw. Gallwch gael Benthyciad Ffioedd Dysgu o hyd at £3,685 i dalu eich ffioedd, na fydd yn rhaid ei ad-dalu nes bydd eich incwm dros £21,000 y flwyddyn. Gallech gael Grant Ffioedd o hyd at £5,315 hefyd i dalu'r gwahaniaeth rhwng uchafswm y Benthyciad Ffioedd Dysgu sydd ar gael a swm y ffioedd dysgu a godir gan eich prifysgol neu goleg. Nid yw'r Benthyciad Ffioedd Dysgu yn gysylltiedig â lefel incwm y cartref a bydd CMC yn talu'r benthyciad hwn yn uniongyrchol i'ch prifysgol neu goleg, felly fydd dim rhaid i chi boeni am orfod gwneud y taliadau eich hun!! Cymorth gan GIG Os ydych yn bwriadu astudio am radd ar gwrs hyfforddiant iechyd proffesiynol cyn cofrestru, megis gradd mewn nyrsio, bydwreigiaeth, seicotherapi, therapi iaith a lleferydd, deintyddiaeth* neu feddygaeth*, gallech fod gymwys i gael cyllid trwy gyfrwng Bwrsariaeth Myfyriwr GIG**. Mae modd i Fwrsariaeth GIG helpu i dalu eich ffioedd dysgu a'ch costau byw ac mae cymorth ychwanegol ar gael hefyd gan Gyllid Myfyrwyr Cymru yn ôl y gofyn. Am ragor o wybodaeth am Fwrsariaethau GIG, cymhwystra a sut/pryd i ymgeisio, trowch at www.nhsbsa.nhs.uk/Students *O'r 2il flwyddyn astudio ar gyfer rhaglenni mynediad graddedig neu'r 5ed flwyddyn astudio ar gyfer rhaglenni israddedig. **Gallai cymorth ychwanegol fod ar gael hefyd i fyfyrwyr sy'n astudio gradd mewn Gwaith Cymdeithasol. Pa gyllid sydd ar gael? Gallwch weld gwybodaeth bellach ynghylch cymhwystra i gael cyllid i fyfyrwyr ar-lein trwy droi at www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk i
Prifysgolion a cholegau preifat Mae rhai prifysgolion a cholegau preifat hefyd yn cynnig cyrsiau a gymeradwywyd ar gyfer cyllid i fyfyrwyr gan y llywodraeth. Ni osodir uchafswm ar lefel y ffioedd dysgu y gall y darparwyr hyn godi. Os ydych yn ystyried astudio cwrs cymeradwy (un a ddynodwyd yn benodol gan Lywodraeth Cymru) mewn prifysgol neu goleg preifat, gallwch wneud cais am fenthyciad ffioedd dysgu o hyd at £6,000 y flwyddyn, ond os bydd y ffioedd dysgu yn uwch na'r swm hwn, bydd angen i chi dalu'r costau ychwanegol, oni bai bod unrhyw gymorth ar gael. Costau Byw Bydd gennych ystod eang o gostau byw yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol neu'r coleg. Bydd hyn yn cynnwys pethau yr ydych chi wedi meddwl amdanynt fel llyfrau, bwyd a llety, i bethau nad ydych wedi eu hystyried eto efallai fel trwydded deledu neu yswiriant. Y prif fathau o gymorth sydd ar gael gan Gyllid Myfyrwyr Cymru i helpu talu'r costau hyn yw'r Benthyciad Cynhaliaeth a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru. Benthyciad Cynhaliaeth Bydd y swm y gallwch ei gael yn dibynnu ar incwm eich cartref ble byddwch yn astudio. Rhaid talu'r Benthyciad Cynhaliaeth yn ôl, ond nid nes bydd eich incwm dros £21,000. Gallech gael Grant Dysgu Llywodraeth Cymru, ac os felly, byddwn yn gostwng swm y Benthyciad Cynhaliaeth y gallwch ei gael. Byddwn yn talu eich Benthyciad Cynhaliaeth yn syth i'ch cyfrif banc, ar ffurf tri rhandaliad fel arfer, un ar ddechau bob tymor. Rhaid i chi fod dan 60 oed ar ddechrau'ch cwrs er mwyn cael Benthyciad Cynhaliaeth. Pa gyllid sydd ar gael? i Gallwch gael gwybodaeth am gyrsiau a ffioedd dysgu yn ystod diwrnodau agored, ar wefannau prifysgolion neu golegau ac ar wefannau defnyddiol eraill fel unistats
Pa gyllid sydd ar gael? Grant Dysgu Llywodraeth Cymru Gallech gael hyd at £5,161 i’ch helpu i dalu’ch costau byw. Ni fydd yn rhaid ad-dalu hwn. Bydd faint fydd modd i chi ei gael yn dibynnu ar incwm eich cartref. Fel arfer, byddwn yn talu’ch Grant Dysgu Llywodraeth Cymru mewn tri rhandaliad; un ar ddechrau pob tymor, gydag unrhyw Fenthyciad Cynhaliaeth. Grant Cymorth Arbennig Mae'r Grant Cymorth Arbennig yn disodli Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer rhai myfyrwyr mewn amgylchiadau arbennig. Gallech gael hyd at £5,161 yn ddibynnol ar incwm eich cartref. Ni fydd y Grant Cymorth Arbennig yn effeithio ar swm y Benthyciad Cynhaliaeth y gallwch gael. Byddwn yn cyfrifo'ch hawl i gael y Grant Cymorth Arbennig yn yr un modd â Grant Dysgu Llywodraeth Cymru. Beth yw incwm y cartref? Yn gyffredinol, asesir incwm* eich rhieni os ydych dan 25 oed ac yn dibynnu arnynt yn ariannol. Asesir incwm* eich partner os ydych dros 25 oed ac yn byw gyda nhw. *Incwm wedi ei ennill a heb ei ennill (e.e. cyflog, budd-daliadau, pensiwn neu fuddsoddiadau) Am ragor o wybodaeth am asesiadau incwm, ewch i: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk Gan ddefnyddio'r cyfleuster cyfrifo ar www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk, gallwch gael amcangyfrif o'r cyllid i fyfyrwyr allai fod ar gael i chi, a gwneud nodyn o'r canlyniadau:
Cymorth Ychwanegol Lwfansau i Fyfyrwyr Anabl (DSAs) Mae DSAs ar gael i fyfyrwyr y mae ganddynt gostau ychwanegol oherwydd anabledd, cyflwr iechyd hirdymor, cyflwr iechyd meddwl neu anhawster dysgu penodol. Nid yw DSAs yn dibynnu ar incwm y cartref ac ni fydd yn rhaid eu talu'n ôl. Bydd y swm y bydd modd i chi ei gael yn dibynnu'n llwyr ar eich amgylchiadau, a gellir defnyddio’r cymorth a ddarparir gan DSAs i dalu am gostau helpwyr anfeddygol, offer neu gostau teithio. Grant Gofal Plant Mae'r Grant Gofal Plant yn helpu gyda chostau gofal plant os bydd gennych chi blant dibynnol dan 15 oed (dan 17 oed os oes gan y plentyn anghenion addysgol arbennig) mewn gofal plant cofrestredig neu gymeradwy. Lwfans Dysgu i Rieni Diben y Lwfans Dysgu i Rieni yw i helpu talu'r costau sy'n gysylltiedig â chwrs os oes gennych chi blant dibynnol. Grant Oedolion Dibynnol Mae Grant Oedolion Dibynnol yn helpu myfyrwyr y mae ganddynt oedolyn sy'n dibynnu arnynt yn ariannol. Am ragor o wybodaeth am DSAs a grantiau dibynyddion, trowch at www.gov.uk/student-finance/extra-help Bwrsariaethau ac ysgoloriaethau Mae nifer o brifysgolion a cholegau yn cynnig cymorth ariannol ychwanegol trwy gyfrwng bwrsariaethau ac ysgoloriaethau. Gall y rhain fod yn gysylltiedig â phethau fel incwm y cartref, cyflawniad academaidd, eich cwrs neu os ydych yn chwarae offeryn cerddorol neu os yw'ch perfformiad ym maes chwaraeon o safon uchel. Mae'n bwysig ystyried beth allai fod ar gael gan brifysgolion a cholegau yr ydych yn gwneud cais iddynt. Gellir gweld yr wybodaeth ar eu gwefan neu ar wefannau megis scholarship search. Chwiliwch am fanylion bwrsariaethau neu ysgoloriaethau a gynigir gan ddwy brifysgol neu ddau goleg o’ch dewis, a chofnodwch yr wybodaeth isod.
Rhan 2 – Ceisiadau a Thu Hwnt Sut a phryd i ymgeisio Dim ond un cais fydd angen i chi wneud er mwyn i ni allu asesu'r Benthyciad Ffioedd Dysgu, Grant Dysgu Llywodraeth Cymru, y Grant Cymorth Arbennig, y Benthyciad Cynhaliaeth a, phan fo hynny'n berthnasol, y Lwfans Dysgu i Rieni neu'r Grant Oedolion Dibynnol y gallwch ei gael. Os bydd angen i chi wneud cais am unrhyw gymorth arall, fel y Lwfansau i Fyfyrwyr Anabl, neu am help i dalu costau Gofal Plant, dywedwch wrthym yn eich prif gais a byddwn yn anfon ffurflen gais ar wahân atoch ar gyfer y rhain. Yn ogystal, dylech sicrhau eich bod chi ac unrhyw riant neu bartner sy'n cefnogi’ch cais wedi ticio'r blychau i roi caniatâd i rannu gwybodaeth yn y ffurflen gais. Trwy wneud hyn, gallwn rannu manylion perthnasol gyda'ch prifysgol neu'ch coleg, sy'n gallu helpu wrth ymgeisio am nifer o fwrsariaethau/ysgoloriaethau. Cyngor defnyddiol ar gyfer ymgeisio • Dylech ymgeisio cyn gynted ag y bo modd er mwyn i ni gael amser i asesu'ch cais a sicrhau bod eich cyllid i fyfyrwyr yn barod ar eich cyfer ar ddechrau'ch cwrs. • Ar-lein ar www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk yw'r ffordd gyflymaf a hawsaf i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr ymgeisio, ac i'ch rhieni neu'ch partner gefnogi'ch cais. • Ni fydd angen eich bod wedi cael cynnig lle gan brifysgol neu goleg. Dylech ymgeisio am eich cyllid gan ddefnyddio'ch dewis cyntaf, er mwyn i ni allu cychwyn yr asesiad. • Os bydd eich cwrs, eich prifysgol/coleg neu'ch gwybodaeth bersonol yn newid cyn i chi gychwyn, gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif a diweddaru'ch cais. • Fel rhan o'ch cais, bydd angen i chi ddarparu'ch rhif Yswiriant Gwladol a manylion eich cyfrif banc, felly dylech sicrhau bod y rhain wrth law. Tystiolaeth o fanylion personol Bydd angen i ni weld tystiolaeth sy'n cadarnhau eich manylion personol. Os oes gennych basbort dilys y DU, yr unig beth fydd angen i chi ei wneud fydd darparu'r manylion yn eich ffurflen gais, ac ni fydd angen i chi anfon unrhyw beth arall atom oni bai y byddwn yn gofyn i chi wneud hynny. Tystiolaeth o incwm Os byddwch yn gwneud cais am gyllid i fyfyrwyr sy'n dibynnu ar incwm y cartref, bydd angen i'ch rhieni neu'ch partner ddarparu gwybodaeth am eu hincwm. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddant yn gwneud hyn trwy lenwi eu hadran nhw o'r ffurflen gais, gan ddarparu manylion incwm eu cartref a'u rhif Yswiriant Gwladol. Yna, gallwn gadarnhau’r wybodaeth hon gyda Chyllid a Thollau EM (HMRC) yn awtomatig. Os bydd angen, efallai y byddwn yn cysylltu â'ch rhieni neu'ch partner wedyn, gan ofyn iddynt ddarparu tystiolaeth ychwanegol o incwm eu cartref; gallai hyn gynnwys llungopïau o ffurflenni P60 neu slipiau cyflog. Mae'n bwysig ein bod yn cael yr wybodaeth hon yn brydlon! i Os nad oes gennych basbort dilys y DU, bydd angen darparu dogfennaeth wreiddiol fel tystysgrif geni neu basbort heb fod o'r DU
Rheoli eich arian Gall astudio cwrs addysg uwch (yn enwedig os byddwch yn byw oddi cartref) olygu nifer o gostau ychwanegol. Bydd rhai yn gostau unigol fel gliniadur neu beiriant argraffu, a bydd rhai yn gostau i'w talu bob tymor (rhent a llyfrau), bob mis (bil ffôn symudol) neu'n amlach na hynny fel bwyd, costau teithio, nosweithiau allan a gweithgareddau hamdden eraill. Pan fydd yr arian yn cyrraedd eich cyfrif, bydd temtasiwn i'w wario i gyd ar bethau fel dillad newydd, technoleg, tocynnau cyngherddau neu beth bynnag arall sy'n apelio atoch, ond cofiwch fod yn synhwyrol gyda'ch arian er mwyn sicrhau nad ydych heb geiniog i’ch enw fis i mewn i'ch tymor ac yn cael anhawster i dalu'r biliau ac i brynu'ch llyfrau neu fwyd! I osgoi unrhyw drafferthion, mae'n werth cynllunio rhyw fath o gyllideb ar sail yr hyn ydych yn disgwyl ei gael gan Gyllid Myfyrwyr Cymru, unrhyw fwrsariaethau/ysgoloriaethau ac unrhyw incwm rheolaidd arall (swydd, teulu ac ati) a rhoi'r rhain yn erbyn y costau y byddwch yn eu hwynebu. Nid yw pob un ohonom yn fyfyrwyr cyllid neu gyfrifeg, felly does dim angen creu mantolen fanwl iawn, ond bydd cael syniad o'r hanfodion yn helpu cryn dipyn a gallwch weld llawer o'r wybodaeth ar-lein neu trwy holi staff yn eich prifysgol neu'ch coleg. NUS extra Mae Extra yn gynllun a gynigir trwy Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, ac mae'n cynnig gostyngiadau i fyfyrwyr ar draws ystod eang o siopau, bwytai, gwefannau ac ar weithgareddau hamdden, ac am bris o £12, mae'n werth ei ystyried. www.nus.org.uk/en/nus-extra/ Cyfrifon banc myfyrwyr Mae nifer o fanciau'r stryd fawr yn cynnig cyfrifon i fyfyrwyr, ac maent yn awyddus i gael eich busnes. Bydd rhai yn ceisio'ch denu gydag eitemau amrywiol am ddim, ond dylech gadw golwg am y gorddrafft di-log gorau sydd ar gael, oherwydd os bydd eich cronfeydd yn isel a’ch bod angen help am ychydig, fyddwch chi ddim eisiau talu llog ar hyn. Gwnewch yn siŵr na fyddwch yn mynd tu hwnt i’r cyfyngiadau a gytunwyd ar eich cyfer, neu bydd y taliadau yn cychwyn, a dylech feddwl yn ofalus iawn cyn hyd yn oed ystyried cardiau credyd neu gardiau siopau. Ar ôl i chi benderfynu ar fanc ac ymrwymo, cofiwch ddiweddaru’ch cyfrif cyllid i fyfyrwyr ar-lein, er mwyn i ni wybod ble i dalu'ch cymorth! Gwaith rhan-amser neu yn ystod y gwyliau Wrth gwrs, cael y radd orau posibl fydd y brif ffordd fyddwch chi’n treulio’ch amser mewn addysg uwch, ond os bydd gennych chi ambell i brynhawn, noson neu benwythnos yn rhydd, efallai y gallech gael swydd rhan-amser i gael arian ychwanegol. Wrth gwrs, mae gweithio yn ystod y gwyliau yn ddewis hefyd os byddwch yn rhy brysur yn ystod y tymor. i Fel arfer, telir unrhyw gymorth cynhaliaeth a gewch gan CMC i chi mewn tri rhandaliad ar draws blwyddyn academaidd (un bob tymor), felly bydd angen i chi sicrhau ei fod yn para. i Bydd gan y rhan fwyaf o brifysgolion 'siop swyddi' ble’r hysbysebir swyddi gwag ar y campws ac oddi ar y campws, ond os bydd gennych chi swydd gyda chwmni mawr yn barod, dylech holi a oes ganddynt gangen yn y man lle byddwch yn astudio, y gallech drosglwyddo iddi
Rheoli eich arian – Tudalen gyllideb Defnyddiwch y dudalen hon i wneud cofnod o'r cyllid yr ydych yn disgwyl ei gael, edrychwch ar rai o'r costau y byddwch yn eu hwynebu a gallwch gael syniad o'ch cyllideb I mewn ! allan mynd Bydd faint fyddwch yn gwario ar gostau eraill yn dibynnu ar eich chwaeth bersonol, rhestrir rhai pethau isod ac mae lle ychwanegol ar gyfer eich awgrymiadau chi hefyd. Cofiwch na fydd eich incwm cyfan yn cyrraedd ar yr un pryd. Bydd rhywfaint ohono yn dod i mewn bob tymor, rhywfaint bob mis neu hyd yn oed bob wythnos. Fel arfer, gellir gweld costau llety ar wefannau prifysgolion. Mae gwefannau fel unistats a push.co.uk yn ddefnyddiol hefyd i ddarganfod eich costau posibl fod yn y dref neu'r ddinas ble byddwch yn astudio. i
Sut fyddwch yn ad-dalu benthyciad i fyfyrwyr? Os ydych wedi bod yn astudio cwrs addysg uwch amser llawn, byddwch yn 'dechrau ad-dalu' ym mis Ebrill ar ôl i chi adael neu raddio o'ch cwrs fel arfer. Ar ôl i chi ddechrau ad-dalu, bydd faint fyddwch yn ad-dalu yn dibynnu ar eich incwm, ac nid faint wnaethoch ei fenthyca. Os bydd eich incwm yn £21,000 y flwyddyn neu'n is, ni fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw ad-daliadau. Pan fydd eich incwm dros £21,000 gros (cyn treth), byddwch yn ad-dalu 9% o'r incwm a enillwyd dros y swm hwn. Mae'r tabl isod yn dangos ad-daliadau enghreifftiol. Caiff symiau ad-dalu eu talgrynnu i lawr i'r bunt agosaf, felly bydd £142.50 yn mynd yn £142 ac ati. Ffeithiau am ad-dalu • Os ydych yn gyflogedig, bydd eich cyflogwr yn cymryd eich ad-daliadau o'ch cyflog yn uniongyrchol, ynghyd â chyfraniadau treth ac Yswiriant Gwladol. • Os byddwch yn stopio gweithio, bydd eich ad-daliadau yn stopio, gan gychwyn unwaith eto pan fydd eich incwm yn uwch na'ch trothwy unwaith eto. • Bydd unrhyw fenthyciad sy'n weddill 30 o flynyddoedd wedi i chi ddechrau gwneud ad-daliadau yn cael ei ddileu, ond gallwch wneud ad-daliadau heb unrhyw gosb ar unrhyw adeg os byddwch yn dymuno clirio'ch benthyciad yn gynharach. • Os ydych yn bwriadu teithio neu weithio mewn gwlad dramor am dros dri mis ar ôl i chi orffen neu adael eich cwrs, bydd angen i chi lenwi ffurflen Asesu Incwm Tramor er mwyn i chi allu gwneud ad-daliadau. Llog ar eich benthyciad Codir llog o'r diwrnod pan fyddwch yn gwneud eich ad-daliad cyntaf nes bydd eich benthyciad yn cael ei ad-dalu'n llawn neu'n cael ei ddileu. Mae'r llog a godir yn gysylltiedig â'r Fynegai Prisiau Manwerthu (RPI) a bydd yn amrywio. Wrth i chi astudio a nes i chi ddechrau ad-dalu, ychwanegir llog yn ôl RPI + 3%, yna ar ôl dechrau ad-dalu, bydd yn gysylltiedig â'ch incwm. Am ragor o wybodaeth am ad-daliadau a llog, trowch at www.studentloanrepayment.co.uk Os yw'ch incwm yn £30,000 y flwyddyn, y swm a fyddai'n cael ei ddefnyddio er mwyn cyfrifo'ch ad-daliad benthyciad myfyriwr fyddai £9,000, gan roi ad-daliad misol i chi o £67
Eich Rhestr Gyfeirio Cychwyn • • Rydw i wedi darllen y canllaw hwn ac wedi troi at yr wybodaeth ychwanegol ar-lein ar www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk • • Rydw i wedi defnyddio'r Cyfleuster Cyfrifo Cyllid i Fyfyrwyr ac mae gennyf syniad o'r cyllid i fyfyrwyr y gallwn ei gael. • • Rydw i'n gwybod sut i wneud cais am gyllid i fyfyrwyr a phryd y mae'r dyddiad cau. • • Rydw i wedi cofrestru ar-lein ar www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk ac mae gennyf CRN (Cyfeirnod Cwsmer) nawr. • • Rydw i wedi gwneud cofnod o'm CRN a'r manylion diogelwch ar gyfer fy nghyfrif (cyfrinair ac ateb cyfrinachol) a byddaf yn cadw'r rhain yn ddiogel. • • Rydw i wedi darganfod a fydd angen i mi gael manylion ariannol gan fy rhieni neu fy mhartner er mwyn cefnogi fy nghais. • • Rydw i wedi mewngofnodi i'm cyfrif cyllid i fyfyrwyr a gwneud cais ar-lein cyn y dyddiad cau. • • Mae fy rhieni neu fy mhartner wedi cofrestru ar-lein ac wedi llenwi’r rhan berthnasol o'm cais cyn y dyddiad cau. • • Rydw i wedi anfon unrhyw dystiolaeth angenrheidiol neu wybodaeth bellach at CMC, gan gofio anfon llungopïau o dystiolaeth ariannol yn unig. • • Rydw i wedi mewngofnodi i'm cyfrif ar-lein er mwyn archwilio cynnydd fy nghais. • • Mae CMC wedi anfon llythyr ataf sy'n nodi fy Hawl i gael Cyllid i Fyfyrwyr, a chan ddweud wrthyf faint fyddaf yn ei gael. • • Rydw i wedi llofnodi a dychwelyd ffurflen y datganiad. • • Rydw i wedi dangos fy llythyr Hawl i gael Cyllid i Fyfyrwyr i'm prifysgol neu goleg ac wedi cofrestru gyda nhw. Gorffen