100 likes | 319 Views
Gandhi 1869 – 1948 Mae Gandhi’n cael ei gynnwys yn yr uned hon am Hanes y Bobol Dduon oherwydd ei brofiadau yn Ne Affrica a’r rhan allweddol y chwaraeodd mewn datblygu’r syniad o newid heddychlon. (Delweddau o ‘Wikimedia Commons’).
E N D
Gandhi 1869 – 1948Mae Gandhi’n cael ei gynnwys yn yr uned hon am Hanes y Bobol Dduon oherwydd ei brofiadau yn Ne Affrica a’r rhan allweddol y chwaraeodd mewn datblygu’r syniad o newid heddychlon. (Delweddau o ‘Wikimedia Commons’)
Ganwyd Gandhi, oedd yn cael ei alw’n Mahatma Gandhi, yn yr India ar Hydref 2il, 1869, ond aeth i ‘r ysgol yn Llundain. Yn 1891 aeth Gandhi yn ôl i ‘r India gan geisio gweithio fel cyfreithiwr yn Bombay. Roedd Gandhi yn dlawd iawn o achos ei fod yn methu cael swydd. Felly yn 1893 symudodd i Dde Affrica a chafodd swydd fel cyfreithiwr yn ninas Durban. Pan gyrhaeddodd Durban fe gafodd ei gam-drin yn wael o herwydd ei liw. Roedd yr heddlu yn gas iawn wrth bobl oedd ddim yn wyn ac roedd Gandhi’n flin oherwydd hyn.
Arhosodd Gandhi yn Ne Affrica am 20 mlynedd a chafodd ei garcharu nifer o weithiau am gynhyrfu’r heddlu gwyn. Yn 1896 fe ymosodwyd ar Gandhi gan heddlu gwyn De Affrica. Yn 1896 dywedodd wrth y bobl dduon am beidio ymladd yn ôl os oedd y milwyr gwyn neu’r heddlu yn eu brifo. Yn 1914 dychwelodd Gandhi i India a daeth yn arweinydd yn yr ymgyrch i ryddhau India o reolaeth Prydain. Roedd yn credu y byddai Prydain yn gadael India pe bai pobl India yn dechrau eu hanwybyddu. Galwodd Gandhi am “Anufudd-dod Heddychlon”.
Pasiodd Llywodraeth Brydain y ddeddf Rowlatt Act oedd yn caniatáu i filwyr saethu ‘anufudd’. Yn 1920 saethwyd nifer o bobl mewn cyflafan yn ninas Amritsar am anwybyddu milwyr Prydeinig. Gwnaeth Prydain ddim ymddiheuro ac felly trefnodd Gandhi streiciau. Stopiodd gweithwyr Indiaidd weithio ac eisteddodd nifer yn y strydoedd gan ddod â’r wlad i stop Erbyn 1921 roedd Gandhi ar glawr cylchgronau a phapurau newydd ar draws y byd. Fo oedd wyneb yr India ‘Rydd’. Roedd yn byw bywyd o weddïo ac ymprydio. Roedd yn gwrthod holl anrhegion a chyfraniadau ariannol. Gwisgai ddim byd ond gwregys o gwmpas ei lw ynau a siôl, a dim ond ffrwythau a llysiau oedd yn eu bwyta. Roedd pobl India yn meddwl amdano fel sant a gwnaethant ddechrau ei alw’n Mahatma, sy’n golygu ‘enaid mawr’: teitl sydd yn cael ei roi yn unig i bobl fwyaf doeth.
Ond roedd Prydain yn casáu ei ‘Anufudd-dod Heddychlon’ a’i streiciau ac felly cafodd ei garcharu unwaith eto yn 1922 (a’i rhyddhau yn 1924). Yn 1930 dywedodd Gandhi wrth bobol am wrthod talu treth ar halen. Roedd Prydain yn gwneud llawer o elw o’r dreth hon. Gorymdeithiodd Gandhi i Fôr Arabia, lle roedden nhw’n gwneud halen drwy anweddu dŵr y môr. Cafodd ei ddilyn gan filoedd o bobol ond pan gyrhaeddodd o, cafodd ei roi yn y carchar (a’i ryddhau ar ôl peth amser).
Yn 1935 rhoddodd Prydain ychydig o bwerau i India i reoli ei hun (Hunan Lywodraeth) ond doedd hyn ddim yn ddigon o bŵer. Roedd Gandhi’n dal yn anhapus. Felly pan gychwynnodd yr 2il Ryfel Byd yn 1939, dadleuodd Gandhi na fyddai India’n helpu Prydain heb roi Hunan Lywodraeth lawn iddyn nhw. Am ddadlau dros y safbwynt yma aeth yn ôl i’r carchar a chafodd India ei gorfodi i gefnogi Prydain. Cafodd Gandhi ei ryddhau yn 1944 a daeth yr 2il Ryfel Byd i ben yn 1945. Allai Prydain ddim fforddio aros yn India achos fod y Rhyfel Byd wedi costio cymaint iddyn nhw. Rhoddodd Prydain ganiatâd i India gael Hunan Lywodraeth lawn yn 1947 ond y funud y gadawodd Prydain o India, dechreuodd terfysg rhwng yr Hindwiaid a’r Mwslemiaid.
Plediodd Gandhi gyda’r Hindwiaid a’r Mwslemiaid i fyw mewn heddwch gyda’i gilydd ond doedd y bobol ddim yn fodlon gwrando. Ar 30ain o Ionawr, 1948, tra roedd o ar ei ffordd i gyfarfod gweddi hwyrol, cafodd ei lofruddio gan Hindŵ penboeth. Roedd marwolaeth Gandhi’n cael ei ystyried fel trychineb rhyngwladol. Daeth trais crefyddol i ben yn India a Pacistan, a bu bywyd Gandhi’n ysbrydoliaeth i brif bobol mewn llefydd eraill, yn arbennig Martin Luther King Ieuaf a Nelson Mandela.
Gandhi (1869 - 1948) Nod: Sganio testun a chofnodi gwybodaeth. Gweithgaredd: Darllen drwy’r testun ac amlygu pwyntiau allweddol. Rhoi trefn ar y wybodaeth. Cofnodi’r syniadau ar y ffrâm. Trefniadaeth: Edrych ar ddwy ran bywyd Gandhi ar wahân. Gwaith unigol neu bâr.
Gandhi: Rhan I (1869 - 1948)
Gandhi: RhanII (1869 - 1948)