400 likes | 565 Views
Modiwl 3: Ydych chi’n ddefnyddiwr doeth?. Amcanion y modiwl
E N D
Amcanion y modiwl • Rhoi cyfle i edrych ar y deilliannau dysgu yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) i weld ble mae ymwybyddiaeth defnyddwyr yn bodoli yn y cwricwlwm yng Nghymru. • Tynnu sylw at yr adnoddau a’r gweithgareddau y gellir eu defnyddio yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3 i ddatblygu sgiliau rhifedd dysgwyr yng nghyd-destun ‘cynigion arbennig, disgowntiau a gwerth am arian’. • Adnabod gweithgareddau defnyddwyr a chwestiynau y gellir eu defnyddio mewn addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) a mathemateg yng Nghyfnodau Allweddol 2, 3 a 4. • Darparu rhestr o wefannau defnyddiol sy’n gysylltiedig â chyfrifo cynigion arbennig, gemau ar-lein a gweithgareddau Masnach Deg. • Sylwch: Bydd gwahaniaethu, syniadau ymestyn a chwestiynu effeithiol yn cael eu hawgrymu’n aml yn y nodiadau o fewn y PowerPoint i athrawon/hyfforddwyr eu defnyddio yn ôl yr angen.
Nodau’r dysgwyr • Gellir defnyddio’r modiwl hwn ar draws cyfnodau allweddol a bydd y nodau yn wahanol ym mhob cyfnod allweddol. Mae’r nodau hyn yn cynnwys cael dysgwyr i: • werthfawrogi’r eirfa a ddefnyddir wrth ddelio â chynigion arbennig a disgowntiau • adnabod y ‘cynnig gorau’ a ‘gwerth gorau’ gan ddefnyddio cyfrifiadau priodol • ystyried ystod o eitemau y byddan nhw efallai yn eu prynu a rhai opsiynau o ran ble i brynu’r eitemau • adnabod rhai atebion i’r prif broblemau sy’n debygol o godi i bobl ifanc sy’n prynu eitemau ar-lein • bod yn ymwybodol o siopa moesegol a gweithgareddau Masnach Deg.
Cyfle i edrych ar y deilliannau dysgu yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y FfLlRh a gweld ble mae ymwybyddiaeth defnyddwyryn bodoli yn y cwricwlwm yng Nghymru.Mae hyn wedi’i amlygu mewn teip trwmar y sleidiau canlynol.
Mae’r Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth defnyddwyr.Mae’r rhain mewn wedi’u hamlygu mewn teip trwmar y sleid nesaf.
Y pris rydym yn ei dalu • Gweithgaredd cychwynnol: Dyfalu’r pris • Dangoswch eitem i’r dysgwyr a gofynnwch iddyn nhw ddyfalu’r pris. (Gall yr eitemau amrywio o fewn y gwerthoedd a ddisgwylir i’r deilliannau dysgu ar gyfer grŵp blwyddyn – gweler cydran rhifedd y FfLlRh). • Mae’r dysgwyr yn ysgrifennu eu hymatebion ar fyrddau gwyn bach neu’n eu dangos i’r athro/athrawes drwy ddefnyddio cardiau gwerth lle arian. • Pwy yw’r agosaf? • Gall y gweithgaredd hwn arwain at drafodaethau ynghylch a oedd digon o wybodaeth ganddyn nhw i ddyfalu’r pris. Er enghraifft: • Oes angen iddyn nhw wybod o ble y cafodd yr eitem ei brynu? • Oedd e’n aml-becyn? • Oedd e’n gynnig arbennig (e.e. prynu 1 cael 1 am ddim)? • Oedd e’n newydd sbon neu’n cael ei werthu fel eitem a ddefnyddiwyd?
Sut ydym ni’n gwybod beth yw gwerth da? • Darganfyddwch pa wybodaeth sydd gan ddysgwyr am gynigion arbennig. • Pa eirfa ydyn nhw’n ei chysylltu â chynigion arbennig? • Ble maen nhw’n gweld cynigion arbennig? • Pam mae archfarchnadoedd a siopau yn cyflwyno cynigion arbennig? • Gweler Taflen weithgaredd rheoli arian: Sut ydw i’n gwybod beth sy’n werth da?
Dylunio hysbyseb Tasg: Gofynnwch i’r dysgwyr ddylunio hysbyseb ar gyfer siop neu gynnyrch gyda chynigion arbennig. Ewch i wefan Hwb er mwyn i’r dysgwyr allu datblygu eu sgiliau TGCh tra eu bod nhw’n cwblhau’r dasg hon. https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/2009-10/maths/financial-literacy//cym/design-an-advert/index.html Mae cipluniau o’r gweithgaredd i’w gweld ar y tair sleid nesaf.
Mae’r gweithgaredd hwn yn darparu dysgwyr gyda geirfa a ddefnyddir yn aml wrth gyflwyno cynigion arbennig. Gellir ei ddefnyddio i archwilio eu dealltwriaeth o gynnig fel ‘50% yn fwy am ddim’, ac i godi cwestiynau gyda dysgwyr iau, er enghraifft ‘Pam na fyddai hyn yn cynnig arbennig priodol gyda chôt ond byddai’n addas wrth hysbysebu bar o siocled?’.
Ymchwilio gwerth am arian • Ar gyfer gweithgaredd ar-lein ewch i • https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/2009-10/maths/financial-literacy//cym/supermarket-sweep/index.html • Gwybodaeth: • Gallwch chwarae’r gêm mewn parau (neu fel gweithgaredd dosbarth gan ddefnyddio bwrdd gwyn) ac mae’n addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 i fyny. • Mae’r chwaraewyr yn cael cynnig hyd at 24 o fargeinion gwahanol wrth chwarae’r gêm sawl gwaith. Mae’r cynigion yn cyfeirio at: • gynigion gorau yn seiliedig ar bwysau (e.e. gramau, cilogramau) • cynigion gorau yn ymwneud â chyfaint (e.e. mililitrau, litrau) • cynigion gorau yn dibynnu ar ‘brynu un cael un am ddim’, ‘prynu un cael un hanner pris’ a ‘% yn fwy am ddim’. • Mae’r sleidiau canlynol yn dangos rhai cipluniau o’r gêm.
Mae amryw o gemau arian ar-lein ar gael ar Hwb fel y dangosir yma. https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/_layouts/NGFLSolution/MaterialDescription.aspx?LearningMaterialId=39431&lang=cy
Enghraifft o ‘gynnig arbennig’ o bapurau sampl y Profion Cenedlaethol Rhifedd
Barod i rolio I ymarfer cwestiynau ‘cynnig arbennig’ ymhellach gweler Taflen weithgaredd rheoli arian: Barod i rolio. Gweithgaredd: Mae dysgwyr yn cael 16 dewis o ‘gynigion arbennig’ i brynu eitemau sydd ar werth yn yr archfarchnad. Cwestiynau: 1. Beth yw’r tri chynnig gorau? 2. Pa dri chynnig yw’r gwerth gwaethaf am arian? 3. Nodwch dri chynnig tebyg. 4. Pa gynnig yw’r un mwyaf anodd i weithio allan a pham?
Mae archfarchnad yn gwerthu’r un brand o hylif golchi llestri mewn dwy botel maint gwahanol. Potel fawr 800ml am £1.28 Potel fach 300ml am 45c Drwy ddangos eich cyfrifiadau, esboniwch pa botel o hylif golchi llestri sy’n cynnig y gwerth gorau am arian.
Pecyn o cola £4.50 PRIS CYNNIG ARBENNIG 2 becyn am £7.45 Sudd oren £1.45 PRIS CYNNIG ARBENNIG 4 carton am £4.20 • Mae Mrs Jones yn trefnu disgo’r ysgol ac yn gwneud defnydd llawn o’r cynnig arbennig. Mae’n prynu 6 phecyn o cola a 12 carton o sudd oren. • Cyfrifwch faint mae hi’n ei dalu am yr eitemau. • Cyfrifwch faint yn rhagor y byddai hi wedi talu am yr eitemau hyn heb y cynigion arbennig.
Bydd un rhan o dair o’r holl fwydydd rydym yn eu prynu yn mynd i’r bin. www.creditaction.org.uk(Arolwg Ionawr 2009)
Mae’r sleidiau canlynol yn cyflwyno enghreifftiau o gynigion arbennig a disgowntiau sy’n rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio eu sgiliau rhifedd.
Esboniwch pa gynnig sy’n rhoi’r gwerth gorau am arian i’r cwsmer. Crysau chwys hwdi 25% oddi ar y pris gwreiddiol (£45) Hwdis ⅕ oddi ar bob pris (pris gwreiddiol £45) Cynnig B Cynnig A
Mae dwy sinema yn cynnig bargeinion gwahanol. Bargeinion dydd Mercher Prynu un cael un am ddim (pris arferol £7.50) Cynnig arbennig dydd Mawrth Prynu un tocyn cael 40% oddi ar yr ail (pris arferol £5.50) Mae dau ffrind am fynd i weld y ffilm ddiweddaraf ond dydyn nhw ddim yn gallu penderfynu pa noson i fynd. Esboniwch (gyda chyfrifiadau) pa noson sy’n cynnig y fargen orau. Os yw’r tri ffrind am fynd i weld y ffilm pa gynnig sy’n rhoi’r fargen orau?
Mae siop yn hysbysebu’r cynnig canlynol ar gel cawod: 3 am bris 2 Faint fyddech chi’n ei arbed drwy brynu 12 potel yr un fath o gel cawod 99c yr un?
Mae archfarchnad yn hysbysebu’r cynnig canlynol. Gostyngiad 20% os ydych yn gwario £25 neu fwy Mae gennych chi £25 i’w wario. Sawl bocs o siocled £3.50 allech chi fforddio ei brynu? Faint ydych chi wedi’i arbed?
Pa gynnig sy’n rhoi’r gwerth gorau am arian i’r cwsmer? Mae tair siop wahanol ar y stryd fawr yn dangos yr hysbysiadau canlynol yn eu ffenestri: 20% ODDI AR BRIS POB CRYS PRISIAU CRYSAU WEDI’U GOSTWNG GAN ¼ 3 CHRYS AM BRIS 2 Siop A Siop B Siop C Gweler nodiadau trafod isod i gael syniadau am y cwestiwn hwn.
Hoffai ysgol brynu rhai cyfrifianellau newydd. Pris y cyfrifianellau yw £5 yr un mewn tair siop ar-lein. Mae cynigion gwahanol gan bob siop. Cydrannau Jones a’i Feibion Cyfrifianellau Prynu 3 cael yr un nesaf am ddim Offer ystafell ddosbarth Cyfrifianellau 30% i ffwrdd Siop Nwyddau Ysgol a Swyddfa Cyfrifianellau 3 am bris 2 Hoffai’r ysgol brynu 20 o gyfrifianellau. Esboniwch (gyda chyfrifiadau) pa siop sy’n cynnig y fargen orau.
Mae Mr Evans am brynu carped ar gyfer ei ystafell betryal sy’n mesur 4.5 metr wrth 4 metr. Mae wedi dewis carped streipiog sy’n cael ei werthu am £7.99m2. Mae’r siop yn cynnig disgownt o 10% a dosbarthu a ffitio am ddim am gyfnod cyfyngedig o 2 ddiwrnod. Cyfrifwch gyfanswm cost carpedu’r ystafell. 4.5m 4m Gweler nodiadau trafod isod i gael syniadau am y cwestiwn hwn.
Mae garddwr am greu lawnt. Mae siâp y lawnt i’w weld isod ac mae’r onglau yn onglau sgwâr. 7m • Mae’n rhaid iddo benderfynu p’un ai i ddefnyddio hadau porfa neu dyweirch. • Pris blwch o hadau porfa yw £5.99 a bydd yn gorchuddio 12m2. • Pris tyweirch yw £1.45 y metr sgwâr. 3m 9m 4m Ar hyn o bryd mae disgownt o 50% oddi ar roliau o dyweirch. P’un yw’r opsiwn rhataf a gan faint? Gweler nodiadau trafod isod i gael syniadau am y cwestiwn hwn.
Diogelwch defnyddwyr Hyd yma mae’r modiwl hwn wedi edrych ar fod yn ddefnyddiwr doeth o ran prynu’r bargeinion gorau ac ystyried cynigion arbennig. Mae’r gweithgareddau nesaf yn ymwneud â bod yn ddefnyddiwr diogel. Maen nhw’n edrych ar y risgiau a’r manteision o brynu o amryw o leoedd, gan gynnwys siopa ar-lein.
Y lle gorau i brynu Yn y gweithgaredd hwn bydd dysgwyr yn ystyried amryw o bethau y gallen nhw eu prynu a rhai dewisiadau o leoedd i brynu’r eitemau. Maen nhw’n ystyried y risgiau a’r manteision o brynu o bob lle ac yn penderfynu ar y lle gorau i brynu’r eitem. Adnodd: Pecyn Cymorth Cyllid Personol Llywodraeth Cymru Dylid defnyddio’r gweithgaredd Testun 1 ‘Gwario’n gall (tudalennau 15–20) gyda’r thaflenni adnoddau cysylltiedig (tudalennau 5–7). Lawrlwytho’r pecyn cymorth a’r adnoddau cysylltiedig yn www.wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/publications/resources/?lang=cy
Rhybudd i’r prynwr Gall mesurau diogelu i ddefnyddwyr sy’n prynu ar y rhyngrwyd neu’n syth o’r siop fod yn eithaf cymhleth. Mae’r gweithgaredd a gyflwynir yn y ddolen adnoddau isod yn weithgaredd paru cardiau ‘ymarferol’. Pwrpas yr ymarfer yn syml yw canfod rhai atebion i’r prif broblemau y mae pobl ifanc sy’n prynu ar-lein yn debygol o’u hwynebu. Adnodd: Rheoli Arian, Gweithgaredd 2 ‘Rhybudd i brynwyr’ (tudalennau 17–25). Lawrlwytho’r adnodd yn https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/atebol/maths/cym/index.html
Masnach Deg Mae’r gweithgareddau nesaf yn tynnu sylw at gyfleoedd i ddysgwyr ystyried bod yn ddefnyddiwr moesegol.
Gêm y banana split Gweithgaredd ystafell ddosbarth yw hwn ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 i gyflwyno’r gadwyn banana a thrafod ‘pwy sy’n cael beth’ o werthu bananas. Mae’r dysgwyr yn darllen gwybodaeth am 5 o bobl sy’n rhan o’r gadwyn banana a’u disgrifiadau swyddi, sef: • gweithiwr banana • perchennog planhigfa • cludwr • siopau ac archfarchnadoedd • mewnfudwr ac aeddfedwr. I lawrlwytho’r adnodd Banana split ynghyd â deunyddiau gwahaniaethu ategol eraill sy’n addas ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 i 4, ewch i http://fairtradewales.com/resources/resources-for-school Gweithgaredd grŵp: Gan ddefnyddio’r wybodaeth, penderfynwch faint o’r 30c y dylai pob person/lle ei gael am y gwaith/swydd yn y gadwyn banana.
Eich dewis Mae’r gweithgaredd newydd yn tynnu sylw at gyfleoedd i ddysgwyr ystyried bod yn ddefnyddiwr moesegol. Gweler Rheoli Arian, Gweithgaredd 6 o’r enw ‘Eich Dewis Chi’ (tudalennau 49–51). https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/atebol/maths/cym/index.html Mae’r gweithgaredd yn rhoi cyfle i ddysgwyr ystyried y ffactorau sy’n gysylltiedig â phrynu eitemau Masnach Deg a heb fod yn Fasnach Deg. Gall y gweithgaredd gael ei ategu drwy ddefnyddio map y byd i ystyried milltiroedd bwyd. Gweler y gêm milltiroedd bwyd ar-lein yn https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/2009-10/maths/financial-literacy//cym/food-miles/index.html
Gwefannau ac adnoddau cysylltiedig â defnyddwyr • www.creditaction.org.uk Elusen Addysg Arian Genedlaethol – mae’n darparu ystadegau diddorol sy’n gysylltiedig â chyllid cenedlaethol, gwybodaeth ac adnoddau. • www.nationwideeducation.co.uk Sgiliau Arian: gemau, taflenni ffeithiau a thaflenni gwaith i ddysgwyr 4 i 18 oed a hŷn (adnoddau argraffadwy a gemau ar-lein – gweler o dan Sgiliau Arian > Cyllid Personol > Disgyblion/Myfyrwyr). Taflenni gwaith dwyieithog ar gynigion arbennig a disgowntiau 12–14 oed: ‘MoneyMaths – CorrectChange’ a ‘Money Maths – PerfectPercentages’. • www.pfeg.org pfeg (Grŵp Addysg Cyllid Personol) – elusen annibynnol sy’n darparu cyfoeth o wybodaeth i gefnogi addysg ariannol mewn ysgolion. • https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/_layouts/NGFLSolution/MaterialDescription.aspx?LearningMaterialId=39431&lang=cy Gemau seiliedig ar arian dwyieithog ar-lein: Ar ras i’r archfarchnad a Dyluniwch Hysbyseb.
Gwefannau ac adnoddau Masnach Deg/moesegol • https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/_layouts/NGFLSolution/MaterialDescription.aspx?LearningMaterialId=39431&lang=cy Gemau ddwyieithog ar-lein ryngweithiol: Milltiroedd Bwyd a Coffi Masnach Deg. • http://fairtradewales.com/we/ • Syniadau dwyieithog (gweithgareddau, gemau a syniadau ar gyfer gwasanaeth) ar gyfer y Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 4. • www.traidcraftschools.co.ukAdnoddau trawsgwricwlaidd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen i ôl-16. • www.ethicalsuperstore.comSyniadau siopa Masnach Deg, ecogyfeillgar ac organig i ddysgwyr eu hymchwilio.