130 likes | 322 Views
Croeso!. Dyma ragflas byr o’r E-lyfr newydd am Y Gyfraith…. a ddatblygwyd gan CBAC i gydfynd â’r fanyleb U/UG newydd ac i gefnogi ei haddysgu. Cefndir. Ysgrifennwyd yr E-lyfr gan athrawon gweithredol Mae’n rhoi cyflwyniadau cyffredinol i bob rhan o’r fanyleb
E N D
Croeso! Dyma ragflas byr o’r E-lyfr newydd am Y Gyfraith… a ddatblygwyd gan CBAC i gydfynd â’r fanyleb U/UG newydd ac i gefnogi ei haddysgu.
Cefndir • Ysgrifennwyd yr E-lyfr gan athrawon gweithredol • Mae’n rhoi cyflwyniadau cyffredinol i bob rhan o’r fanyleb • Mae’n cynnig awgrymiadau o gynlluniau gwersi ynghyd â chyflwyniadau PowerPoint i gynorthwyo â’r addysgu, yn ogystal ag adnoddau eraill • Gellir ei ddefnyddio gyda’r holl dechnoleg bwrdd gwyn rhyngweithiol sydd ar gael • Bydd y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei hychwanegu ato’n gyson i’w gadw’n gyfoes
Sut mae’n edrych? Mae diwyg yr E-lyfr yn debyg i lyfr go iawn, ac yn cynnwys tudalennau mewn penodau.
Tabiau tudalen Tabiau Pennod Tabiau pennod a thudalen Mae’n rhwydd iawn gweithio’ch ffordd trwy’r E-lyfr gan ddefnyddio’r tabiau pennod a thudalen. Mae lliwiau’r tabiau tudalen yr un peth â lliw tab y bennod benodol er mwyn sicrhau bod y defnyddiwr yn gwybod pa ran o’r E-lyfr sy’n cael ei defnyddio.
Gellir cynyddu/lleihau maint y ffont yn ôl yr angen. Gellir newid lliw’r testun a/neu’r cefndir. Hygyrchedd Mae cyfleuster chwilio eang ar gael er mwyn i chi gyrraedd y wybodaeth rydych ei hangen.
Tudalennau rhagarweiniol Gallwch sgrolio trwy’r wybodaeth ar bob tudalen sy’n amlinellu’r cwrs i chi. Gallwch gysylltu ag adnoddau penodol megis y copïau diweddaraf o’r fanyleb, deunyddiau asesu enghreifftiol a’r canllawiau i athrawon a fydd o gymorth i chi wrth fynd i’r afael â’r cwrs.
Tudalennau mewn pennod Mae pob tudalen yn y penodau’n cyfeirio at y fanyleb. Rhoddir gwybodaeth gefndirol ar bob testun. Gallwch lwytho i lawr gynlluniau gwersi a ffeiliau Word defnyddiol eraill a’u teilwra i’ch hanghenion chi. Mae cyflwyniadau Power Point ar gael hefyd i’ch helpu chi wrth addysgu’r cwrs.
Enghraifft o gynllun gwers Mae pob cynllun gwers yn cyfeirio at y fanyleb, ac yn amcangyfrif faint o amser y bydd yn ei gymryd i addysgu’r testun. Rhoddir nodau ac amcanion, ac mae’r geiriau allweddol wedi’u haroleuo. Rhoddir gweithgareddau athro a disgybl ar ffurf strwythuredig.
Yn ogystal â’r cynllun gwers... I’r rhai ohonoch sy’n newydd i’r pwnc, neu sy’n dysgu’r Gyfraith ond heb arbenigo yn y maes, mae setiau o gwestiynau wedi’u cynnwys hefyd i’w gofyn i’r myfyrwyr, ynghyd â’r atebion sy’n cael eu disgwyl.
Mae lliwiau’r PowerPoint yr un peth â lliw tab y bennod, er mwyn eich helpu chi wrth addysgu.
Gellir cyrchu’r holl gynlluniau gwersi a chyflwyniadau’n rhwydd o’r bennod adnoddau hefyd.
Pen sy’n Siarad Ar rai o dudalennau’r llyfr, ceir ‘Pen sy’n Siarad’ wedi’i animeiddio a fydd, wrth glicio ar y llygoden, yn cyflwyno testun trafod wedi’i seilio ar y rhan honno o’r llyfr.
Ydych chi eisiau gwybod mwy? I gael mwy o fanylion, a chopi o’r E-lyfr, cysylltwch â Swyddog Cefnogaeth Pwnc Y Gyfraith CBAC… Christopher Barfoot 029 2026 5094 christopher.barfoot@wjec.co.uk gyda rhif ac enw eich canolfan. Diolch am eich amser.