60 likes | 206 Views
Gwaith Disgybl Cam 2. Edrychodd y disgybl hwn yn fanwl ar chwilen gorniog er mwyn deall sut mae wedi’i greu, cyn mynd ati i dynnu llun.
E N D
Gwaith Disgybl Cam 2 Edrychodd y disgybl hwn yn fanwl ar chwilen gorniog er mwyn deall sut mae wedi’i greu, cyn mynd ati i dynnu llun. Mae hefyd wedi cynnwys llun o gynrhon yn ei gasgliad o syniadau ac mae eisiau gwneud defnydd amlwg ohonynt yn ei gynllun. Edrychwch ar y sleid nesaf a cheisiwch weld sut mae wedi defnyddio’r ddau syniad dylanwadol yn ei waith dylunio diweddarach? Ceisiwch feddwl hefyd am rai geiriau allai gyd-fynd â’r gwaith. ?
Gwead Cyflym Gwyn Arlliw Garw Cyrliog Bach Pysgota Rheibiwr Miniog Cylchrannog Dŵr Meddal Cyfrwys Sgorpion Pryf Creulon Du Cragen Crafangog Gargoel Llawer Marwol Crafangau Gwinglyd Coch Newid Aflonydd Gwaed Gwenwynig Hyll Pryfed
Enghreifftiau o waith cartref: Mae’r daflen adnoddau isod yn canolbwyntio ar anifeiliaid sydd yn bod go iawn. Roedd gan yr un a’i creodd ddiddordeb mewn dreigiau, madfallod, cen garw a llyfn, pryfaid cregyn caled, esgyrn cefn a theimlyddion, creaduriaid yn eu cwman, y lliw gwyrdd a llygaid mawr brawychus. Pa un o’r rhain gafodd y dylanwad mwyaf arno yn eich barn chi?
Pryfed cregyn caled a meddal? Esgyrn cafn a theimlyddion Creaduriaid yn eu cwman Y lliw gwyrdd Cen garw a llyfn Llygaid mawr brawychus
Heddiw, rydym yn mynd i edrych ar artist neu ddiwylliant gwahanol. Bydd y gwaith hwn yn cael dylanwad ar eich syniadau ac yn gwneud i chi feddwl am rai pethau mewn modd gwahanol.