1 / 17

Fframwaith Dillad Gwaith Corfforaethol a Dillad Gwaith Iechyd a Diogelwch

Fframwaith Dillad Gwaith Corfforaethol a Dillad Gwaith Iechyd a Diogelwch. Sian Griffiths Pen Swyddog Caffael (Contractio a Chomisiynu). Rhagarweiniad. Bydd y cyflwyniad yn cynnwys: Gwybodaeth am y gofyniad, y gwerth amcangyfrifedig a threfniant y fframwaith

marisa
Download Presentation

Fframwaith Dillad Gwaith Corfforaethol a Dillad Gwaith Iechyd a Diogelwch

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Fframwaith Dillad Gwaith Corfforaethol a Dillad Gwaith Iechyd a Diogelwch Sian Griffiths Pen Swyddog Caffael (Contractio a Chomisiynu)

  2. Rhagarweiniad • Bydd y cyflwyniad yn cynnwys: • Gwybodaeth am y gofyniad, y gwerth amcangyfrifedig a threfniant y fframwaith • Manylion cychwynnol am y gofyniad • Manylion am y broses gaffael, y meini prawf gwerthuso a rheolaeth y contract • Casgliad • Cyfle i ofyn cwestiynau yn ystod yr apwyntiadau gyda swyddogion perthnasol yr Awdurdod

  3. Beth yw Fframwaith? • Fframwaith yw cytundeb gyda darparwyr sy’n nodi’r telerau a’r amodau ar gyfer pryniannau penodol (yn ôl y gofyn) yn ystod cyfnod y Fframwaith. • Mae contractau yn cael eu ffurfio pan mae nwyddau yn cael eu prynu yn ôl y gofyn dan y Cytundeb yn unig. • Mae Awdurdod yn rhydd i ddefnyddio Fframwaith pan mae’n cynnig gwerth am arian ond gall fynd i rywle arall os na ellir sicrhau gwerth am arian drwy’r Fframwaith.

  4. Gwybodaeth am y Fframwaith • Byddwn yn ceisio cwmpasu holl ofynion yr Awdurdod am Ddillad Gwaith Corfforaethol / Dillad Gwaith Iechyd a Diogelwch • Bydd hefyd yn cwmpasu ein gofynion ar gyfer ein cwsmeriaid allanol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat • Bydd yn safoni ac yn cynnal ein gofynion am Ddillad Gwaith Corfforaethol / Dillad Gwaith Iechyd a Diogelwch – h.y. lliw, dyluniad, ansawdd, pris, danfoniad, ac ati. • Bydd y Fframwaith yn cael ei hysbysebu drwy GwerthwchiGymru. • Dyddiad dechrau disgwyliedig y fframwaith - Ebrill 2011.

  5. Beth yw gwerth y Fframwaith hwn? • Mae’r gwerth disgwyliedig dros Drothwy Cyfarwyddeb Caffael yr UE ar gyfer cyflenwadau – h.y. £156,442 y flwyddyn • Mae wedi’i ddosbarthu’n Fframwaith cyflenwadau sy’n cydymffurfio’n llawn â Chyfarwyddeb Caffael yr UE. • Egwyddorion y Gyfarwyddeb yw Cystadleuaeth Agored, Tryloywder, Tegwch a Chymesuredd.

  6. Pa fath o drefniant fyddwn ni’n ei roi yn ei le? • Cytundeb Fframwaith – am hyd at uchafswm o 4 blynedde.e. 3 blynedd a darpariaeth i’w ymestyn am 1 flwyddyn • Wedi’i rannu’n 6 Chyfran: • Bydd un cyflenwr fesul Cyfran, fodd bynnag gellir dyfarnu mwy nag un Gyfran i gyflenwr • Ni fydd unrhyw gystadlaethau bychain o fewn unrhyw un o’r Cyfrannau

  7. Beth yw’r Gofynion / Manyleb fesul Cyfran? • Rhoddir gwybod am y niferoedd a’r gofynion o ran logo yn y dogfennau tendro

  8. Gofynion Pecynnu

  9. Gofynion Danfon ac Anfonebu

  10. Beth yw’r Gofynion Ansawdd? • Cynhwysir manylion am Safonau Ansawdd a Safonau Prydeinig (EN) yn y dogfennau tendro. • Lle bo’n briodol, darperir copïau o dystysgrifau cydymffurfio gyda’r uchod. • Samplau – lle byddwn yn gofyn am sampl, rhaid i ddanfoniadau yn y dyfodol gadw at yr un ansawdd. • Rhaid datrys materion ansawdd, h.y. dychweliadau, eitemau diffygiol, maint anghywir, ac ati, ar frys.

  11. Pa Feini Prawf Gwerthuso fyddwn ni’n eu defnyddio? • Ansawdd/Cost. Mae’r gymhareb i’w phennu. • Cymerir y Meini Prawf Ansawdd o’r fanyleb (gofynion allweddol) e.e. amserau danfon, amserau arweiniol, samplau, dulliau rheoli ansawdd, datrys anghydfodau ynghylch anfonebau, ac ati. • Bydd angen i chi gwblhau Datganiad o Ddull i esbonio sut rydych chi’n bwriadu cyflenwi. • Cynhwysir y Meini Prawf Cost ar restr costau sydd i’w chwblhau gan y tendrwr e.e. rhestru cynnyrch a’r symiau. • Bydd y Dogfennau Tendro yn cynnwys manylion am y meini prawf gwerthuso a’r pwysiadau a bennwyd ar gyfer pob un o’r meini prawf hynny.

  12. A oes angen i ni sicrhau Effeithlonrwydd/Arbedion o ganlyniad i’r ymarfer Caffael hwn? • Fel Sefydliad yn y Sector Cyhoeddus, mae’n rhaid i ni adrodd ynghylch effeithlonrwydd/arbedion i Lywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) yn rheolaidd. • Mae gennym System Dosbarthu Effeithlonrwydd Corfforaethol (yn unol â dull LlCC). • Y canlynol yw’r dosbarthiadau – gostwng prisiau, osgoi costau, sicrhau gwerth ychwanegol a lleihau costau prosesu.

  13. Sut ydym ni’n bwriadu rheoli’r Fframwaith? • Yn ystod Proses Rheoli Contract • Sicrhau cydymffurfiaeth â’r Fframwaith a pherfformiad o safon uchel • Dod o hyd i ddulliau cost-effeithiol o gyflawni’r Fframwaith i sicrhau effeithlonrwydd. • Cytuno ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol i fonitro’r Fframwaith. • Cynhwysir enghreifftiau o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol yn y dogfennau tendro.

  14. Gweithdrefn Gyfyngedig Hysbysebu’r Contract drwy GwerthwchiGymru ac OJEU Cyflenwyr yn cyflwyno datganiad o ddiddordeb/ Gofyn am Holiadur Cyn Cymhwyso (HCC) Cyflenwyr yn cyflwyno HCC. Panel gwerthuso yn llunio rhestr fer gan ddefnyddio’r Broses Ddethol Anfonir gwahoddiadau i dendro at gyflenwyr dethol Y cyflenwr yn cyflwyno tendr. Y panel gwerthuso yn gwerthuso’r tendrau. Hysbysiad ynghylch y Penderfyniad i Ddyfarnu’r Contract. Cyfnod segur o 10 diwrnod Dyfarnu’r Contract

  15. Beth ddylwn i ei ystyried ar ôl heddiw? • Sicrhewch fod eich cofrestriad ar GwerthwchiGymru (www.gwerthwchigymru.co.uk) wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu unrhyw newidiadau o fewn eich sefydliad. • Trowch at ein Pecyn Gwybodaeth am Gaffael a’n Canllaw ynghylch Sut mae Tendro sydd ar gael ar ein gwefan: www.carmarthenshire.gov.uk/procurementsupportforbusiness • Rhowch wybod i ni am unrhyw bryderon neu ymholiadau a allai fod gennych ynghylch y gofynion, y broses gaffael, ac ati. • Nodwch eich sylwadau a’ch awgrymiadau ynghylch y Fframwaith yn yr holiadur adborth am y digwyddiad

  16. Diolch • Diolch am ddod i’r digwyddiad heddiw. • Gobeithiwn y cawsoch y wybodaeth yn ddefnyddiol. • Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y cyflwyniad neu’r broses gaffael, siaradwch â mi, Stuart John neu Kim Baker. • Bydd y cyflwyniad ar gael i’w lawrlwytho drwy’r ddolen gyswllt ganlynol am y pythefnos nesaf: www.carmarthenshire.gov.uk/procurementsupportforbusiness

  17. Manylion Cyswllt

More Related