E N D
CANTRE’R GWAELOD Y CHWEDL
Os ewch chi ryw fin nos o haf ar hyd y ffordd sy’n arwain allan o bentref Aberarth i gyfeiriad Llanon, cofiwch aros ar ben y rhiw i edrych i lawr ar Fae Aberteifi. Mae’n werth ei weld, yn enwedig pan fo’r haul yn machlud yn goch yn y Gorllewin. Fe welwch ddarn mawr o fôr gwastad, a thir Cymru a’i ddwy fraich amdano. Ac yn y pellter fel cefn llwyd rhyw hen gawr mawr yn codi o’r môr, fe welwch Ynys Enlli.
Ganrifoedd maith yn ôl, nid môr oedd rhwng Aberarth ac Enlli, ond tir glas a dolydd ffrwythlon. Tai a gerddi hefyd, a phentrefi tawel a gwartheg a defaid yn pori, gwyr a gwragedd wrth eu gwaith a phlant yn chwarae. Cantre’r Gwaelod oedd enw’r wlad hyfryd honno sy’ bellach o dan y môr. Beth a ddigwyddodd iddi? Wel, fel hyn y bu hi.
Er bod Cantre’r Gwaelod yn lle braf iawn i fyw ynddo, roedd yna un bai mawr yn perthyn i’r wlad. Roedd y tir yn is na’r môr. Ac felly fe fu’n rhaid adeiladu muriau cryfion i rwystro’r môr rhag llifo i mewn dros y tir. Ar ben y muriau hyn, pan fyddai’r llanw’n dod i mewn, cerddai gwylwyr i ofalu nad oedd y môr yn tyllu trwy’r muriau. Ac os llwydda’r môr i dorri trwy’r mur ar ambell noson stormus, roedd yna gloch fawr mewn tŵr uchel yn cael ei chanu fel rhybudd i’r bobl ddod ar frys i gau’r twll yn y mur cyn i’r môr foddi’r wlad.
O do, fe lwyddodd y môr i dorri twll droeon, yn enwedig pan fyddai llanw uchel, a gwynt mawr yn chwythu o’r Gorllewin. Ond bob tro y digwyddai hyn roedd y gwylwyr yn ddigon effro, a’r bobl yn ddigon cyflym yn rhedeg i gau’r twll â cherrig trymion fel na ddaeth dim niwed i’r wlad a’r tai a’r pentrefi.
Gan fod gofalu am y muriau mawr yn waith mor bwysig, roedd yn rhaid cael un o ddynion pwysica’r wlad i fod yn gyfrifol am y gwaith. Dewisodd brenin y wlad, sef Gwyddno Garan Hir, y tywysog Seithennyn fel meistr y muriau. Aeth blynyddoedd heibio ac ni wnaeth y môr unrhyw niwed i’r muriau. Gweithiau pobl yn ddiwyd ar y tir, ac roedd pawb yn hapus yng Nghantre’r Gwaelod.
Ond, un noson dywyll yn y gaeaf, roedd gwledd bwysig iawn ym mhlas y brenin Gwyddno. Roedd merch y brenin yn cael ei phen-blwydd y diwrnod hwnnw, ac roedd Gwyddno wedi gwahodd gŵyr a gwragedd bonheddig Cantre’r Gwaelod i gyd i’r wledd. Dechreuodd y gwledda yn gynnar yn y prynhawn ac aeth ymlaen tan yn hwyr y nos. Roedd y tywysog Seithennyn, wrth gwrs, yn y wledd, ac erbyn iddi dywyllu'r noson honno roedd e wedi yfed llawer gormod o win, ac wedi meddwi.
Y noson yna cododd y gwynt yn gynnar, gan chwythu’n gryf iawn o’r Gorllewin. Y noson honno hefyd, cerddai dau o ŵyr ifanc ar ben y mur mawr gan edrych allan i’r môr. Fe fuon nhw yno am amser hir yn disgwyl gwylwyr eraill i gymryd eu lle, ond ddaeth neb. Roedd y gwylwyr eraill, fel eu meistr, y Tywysog Seithennyn, yn y wledd yn y plas, ac wedi meddwi.
Ond roedd y gwynt yn codi’n storm, a’r llanw’n uchel, ac fe ddylai fod mwy o wylwyr nag arfer ar y mur ar noson mor ofnadwy. Cerddodd y ddau’n ôl tuag at y twr uchel oedd ar ganol y mur. Yno y crogai’r gloch fawr a fyddai’n cael ei chanu pan lwyddai’r môr i dyllu’r mur. Doedd dim angen canu honno eto, ond sut byddai hi pan ddeuai’r penllanw? Cytunodd y ddau fod un ohonyn nhw i fynd ar unwaith i’r plas i geisio cael rhagor o wylwyr i ddod i’w helpu. O dan y tŵr roedd stablau ceffylau’r gwylwyr, a chyn bo hir roedd un o’r ddau wyliwr unig yn carlamu drwy’r tywyllwch i gyfeiriad y plas.
Arhosodd y llall, bachgen o’r enw Gwyn ap Llywarch yn y twr. Roedd yn nosi’n gyflym. Erbyn hyn roedd y môr yn berwi wrth waelod y mur a’r ewyn gwyn yn llenwi’r awyr. Gallai’r bachgen glywed y tonnau’n curo’n drwm ar y mur ac fe godai eu sŵn ofn yn ei galon. Ond meddyliodd wedyn am y wledd fawr yn y plas, ac am ferch hardd y brenin. Byddai hi’n siŵr o fod yn edrych yn harddach nag erioed y noson honno, meddyliodd. Er nad oedd ef yn ddim ond mab i fonheddwr digon tlawd yng Nghantre’r Gwaelod, roedd e’n caru Mererid, merch y brenin, yn fawr iawn. Ac O! Fe hoffai fod yn y plas y funud honno, yn dawnsio gyda hi!
Yna fe ddaeth y penllanw. Roedd y tonnau’n awr yn gynddeiriog. Fflachiodd mellten ar draws yr awyr gan oleuo’r nos. Roedd y dynion yn hir yn dod, meddyliodd. Aeth i lawr o’r twr ac i’r stablau i weld a oedd ceffylau wedi gwylltio. Pan gyrhaeddodd waelod y mur fflachiodd mellten arall, ac yn ei golau gwelodd rywbeth a gododd arswyd arno. Roedd y môr wedi tyllu’r mur, ac yn awr llifai dwr gwyn yn ffrwd fain rhwng y cerrig.
Tra safai yno clywodd sŵn, sŵn cerrig mur yn cael eu symud gan nerth y tonnau. Yna clywodd sŵn y dŵr yn rhuthro’n gynt. Roedd y mur wedi torri! Rhedodd yn ôl i ben y mur ac i mewn i’r twr. Tynnodd raff y gloch fawr, ac aeth ei ‘Ding! Dong! Ding! Dong!’ dros y lle i gyd. Ond y noson honno ni ddaeth neb i achub y mur. Rhedodd Gwyn ap Llywarch wedyn i lawr i’r stablau. Neidiodd ar gefn un o’r ceffylau a charlamu trwy’r tywyllwch i gyfeiriad y plas.
Fe gyrhaeddodd lys y brenin yn ddiogel. Clywodd sŵn chwerthin a chanu wrth nesáu at y porth. Aeth i mewn. Gwelodd olygfa ryfedd. Roedd y brenin, y gwŷr bonheddig a’r milwyr i gyd yn feddw, at Tywysog Seithennyn, ceidwad y mur, yn fwy meddw na neb. Roedd llawer o’r dynion mor feddw nes eu bod wedi syrthio i gysgu. Gwaeddodd nerth ei geg, ‘Mae’r môr wedi torri’r mur!’ Edrychodd rhai’n syn arno, chwarddodd y lleill am ei ben. Ble roedd y Dywysoges Mererid? Aeth i gyfeiriad ystafelloedd y merched, a gwelodd hi! Roedd hi yn ei gwisg fwyaf hardd ac fe edrychai’n hapus dros ben.
Rhedodd ati. ‘Rhaid i chi ddod gyda fi,’ meddai. ‘Mae’r môr wedi torri’r mur ac mae e’n llifo dros y tir. Rhaid i ni gilio ar unwaith i’r bryniau, i’r tir uchel!’ ‘Ond...’ Roedd y wen ar wyneb y dywysoges wedi diflannu. Edrychai’n ddryslyd ar Gwyn ap Llywarch. Cododd hwnnw hi yw freichiau a mynd trwy’r neuadd fawr tua phorth y llys. Wrth fynd, gwaeddai nerth ei geg. “Ffowch i’r bryniau! Mae’r môr yn llifo dros y tir! Mae’r tir wedi torri!”
Yna roedd e allan o’r llys ac yn y cyntedd, lle safai ei geffyl. Cyn bo hir roedd ef a’r dywysoges ar gefn y ceffyl yn carlamu trwy’r glaw ar gwynt a'r tywyllwch. Erbyn hynny, hefyd, roedd rhai o leiaf o wŷr a gwragedd y llys wedi deall beth oedd wedi digwydd ac roedd y rhieni hefyd yn ceisio ffoi o afael y môr, a oedd yn prysur lifo dros y tir.
Pan ddaeth y bore safai Gwyn ap Llywarch a’r dywysoges ar ben craig uchel uwchlaw Aberarth yng Ngheredigion, yn edrych allan tua’r gorllewin. Yn eu hymyl porai’r ceffyl blinedig a oedd wedi ei gludo i’r fan honno. Gwelodd y ddwy olygfa drist iawn o ben y graig. Doedd dim sôn am y mur mawr, na hyd yn oed y tŵr uchel a oedd yn ei ganol. Doedd dim sôn chwaith am lys y brenin nac am bentrefi na thai, na choed na thir gwyrddlas. Llifai tonnau llwyd y môr dros y cyfan i gyd!
Fe fuon nhw’n yno’n hir ar ddagrau’n llifo dros eu gruddiau. Ac meddai Gwyn ap Llywarch o’r diwedd, “Dywysoges, mae pawb a phopeth a oedd yn annwyl i mi wedi mynd. Mae’r môr creulon wedi dwyn y cyfan. Wn i ddim a fu tristwch mwy yn y byd erioed. Ond… gawn ni fynd gyda’n gilydd i geisio cartref newydd yn y bryniau hyn?” “Fe wnawn ni hynny, Gwyn,” meddai hi. Cydiodd y bachgen yn ei llaw a throdd y ddau eu cefnau am byth ar Gantre’r Gwaelod.