1 / 24

Santes Dwynwen Nawddsant cariadon Cymru

Santes Dwynwen Nawddsant cariadon Cymru. Roedd Dwynwen yn byw yng Nghymru amser maith yn ôl. Y Brenin Brychan Brycheiniog oedd ei thad. Cwympodd Dwynwen mewn cariad â Maelon Dafodrill. Roedd Maelon Dafodrill eisiau priodi Dwynwen. Ond doedd Brychan Brycheiniog ddim yn fodlon.

tahir
Download Presentation

Santes Dwynwen Nawddsant cariadon Cymru

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Santes Dwynwen Nawddsant cariadon Cymru

  2. Roedd Dwynwen yn byw yng Nghymru amser maith yn ôl.

  3. Y Brenin Brychan Brycheiniog oedd ei thad.

  4. Cwympodd Dwynwen mewn cariad â Maelon Dafodrill.

  5. Roedd Maelon Dafodrill eisiau priodi Dwynwen.

  6. Ond doedd Brychan Brycheiniog ddim yn fodlon. “Na!”

  7. Dwedodd Maelon wrth Dwynwen am beidio gwrando ar ei thad.

  8. Dwedodd Maelon wrthi am redeg i ffwrdd gydag ef. Gwrthododd Dwynwen.

  9. Roedd hi’n ferch ufudd, ac roedd yn caru ei thad.

  10. Gwylltiodd Maelon. Dwedodd bethau cas iawn wrth Dwynwen.

  11. Roedd Dwynwen yn torri ei chalon. Rhedodd i’r goedwig am dawelwch.

  12. Gweddïodd ar Dduw i roi cysur iddi. Yna cwympodd i gysgu yn nhawelwch y goedwig.

  13. Mewn breuddwyd gwelodd angel yn dod a diod melys iddi.

  14. Teimlodd Dwynwen yn well yn syth ar ôl ei yfed.

  15. Roedd hi eisiau i Maelon deimlo’n well hefyd. Ond trodd Maelon yn dalp o rew ar ôl yfed y ddiod felys.

  16. O na! Gweddïodd Dwynwen am help. Daeth angel a rhoi 3 dymuniad iddi.

  17. Yn gyntaf gofynnodd Dwynwen am ddadrewi Maelon.

  18. Am fod ei chalon bron â thorri gofynnodd na fyddai hi byth yn cwympo mewn cariad eto.

  19. Ac yn olaf gofynnodd y byddai pobl eraill yn gallu cwympo mewn cariad a chael hapusrwydd.

  20. Treuliodd Dwynwen weddill ei bywyd yn gwasanaethu Duw.

  21. Sefydlodd eglwys ar ynys fechan ger Sir Fôn, sy’n cael ei galw’n Ynys Llanddwyn ar ôl Dwynwen.

  22. Roedd Dwynwen eisiau helpu pobl oedd yn drist, a helpu pobl i brofi cariad yn eu bywydau.

  23. Roedd hi’n dweud wrthyn nhw am gariad Duw.

  24. “Ffrindiau annwyl, gadewch i ni garu'n gilydd, am fod cariad yn dod oddi wrth Dduw. Cariad ydy Duw.” (1 Ioan 4: 7, 8b)

More Related