110 likes | 310 Views
Comisiynydd Plant Cymru. Comisiynydd Plant Cymru. Crëwyd swydd Comisiynydd Plant Cymru yn 2001 er mwyn diogelu a hyrwyddo lles a hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru - mewn geiriau eraill, i sefyll i fyny dros blant a phobl ifanc.
E N D
Comisiynydd Plant Cymru • Crëwyd swydd Comisiynydd Plant Cymru yn 2001 er mwyn diogelu a hyrwyddo lles a hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru - mewn geiriau eraill, i sefyll i fyny dros blant a phobl ifanc. • Mae rhaid i Gomisiynydd Plant Cymru hefyd rhoi ystyriaeth i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) neu’r United Nations Convention on the Rights of a Child (UNCRC) wrth ymwneud a’i waith. • Awgrymwyd y syniad o gael Comisiynydd Plant Cymru am y tro cyntaf yn y flwyddyn 2000 gan Syr Ronald Waterhouse. • Fe ymchwiliodd i mewn i achosion o gam-drin plant a phobl ifanc mewn cartrefi plant yng ngogledd Cymru.
Comisiynydd Plant Cymru • Dangosodd ei adroddiad nad oedd llais plant a phobl ifanc wedi cael ei glywed pan roeddynt yn cwyno. • Fe ddwedodd bod angen rhywun oedd yn annibynnol i’r llywodraeth, yr heddlu a chynghorau lleol er mwyn sefyll i fyny dros hawliau plant. • Sefydlwyd Comisiynydd Plant Cymru yn 2001 fel sefydliad hawliau plant annibynnol. • Golygai hyn nad oedd y swydd yn rhan o’r llywodraeth neu unrhyw asiantaeth swyddogol arall.
Comisiynydd Plant Cymru • Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gael Comisiynydd Plant - mae’r Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr wedi eu cyflwyno erbyn hyn. • Comisiynydd Plant cyntaf Cymru oedd Peter Clarke. Y Comisiynydd presennol yw Keith Towler. • Ceir Comisiynwyr plant ar draws Ewrop a’r byd - mae pob un yn amrywio rhywfaint.
Comisiynydd Plant Cymru • Mae Comisiynydd Plant Cymru’n cael ei apwyntio gan Brif Weinidog Cymru • Mae’r Comisiynydd yn aros yn y swydd am 7 mlynedd ac nid oes modd iddo geisio eto am y swydd. • Mae gan y Comisiynydd 2 swyddfa. 1 yn Abertawe ac 1 ym Mae Colwyn • Mae ganddo tua 25 aelod o staff sy’n ei gefnogi.
Comisiynydd Plant Cymru • Mae’r Comisiynydd Plant yn gweithio ar ran pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. • Mae hyn yn golygu pob plentyn a pherson ifanc sydd dan 18 ac yn byw yng Nghymru. • Mae gan y Comisiynydd y gallu i weithredu ar ran pobl ifanc rhwng 18 a 25 os ydynt yn cael eu cefnogi gan wasanaethau cymdeithasol.
Comisiynydd Plant Cymru • Rôl y Comisiynydd yw: • Cefnogi plant a phobl ifanc i gael gwybod am hawliau plant; • Gwrando ar blant a phobl ifanc i ddarganfod beth sy'n bwysig iddyn nhw; • Cynghori plant, pobl ifanc a'r rhai sy'n gofalu amdanyn nhw os byddan nhw'n teimlo eu bod nhw'n methu mynd â'r problemau at neb arall • Dylanwadu ar y llywodraeth a chyrff eraill sy'n dweud eu bod nhw'n mynd i wneud gwahaniaeth i fywydau plant, gan wneud yn siŵr eu bod nhw'n cadw eu haddewidion i blant a phobl ifanc; • Codi llais dros blant a phobl ifanc yn genedlaethol ar faterion pwysig – bod yn bencampwr i blant Cymru.
Comisiynydd Plant Cymru • Y ddeddfwriaeth: Yr hyn mae’r ddeddfwriaeth yn ei ddweud. • Mae rhaid i’r Comisiynydd: • Gwneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc yn ymwybodol ble mae ei swyddfeydd a sut mae modd cysylltu gydag ef a’i tîm. • • Galluogi plant a phobl ifanc i gyfrannu at waith y Comisiynydd • • Cyhoeddi adroddiad blynyddol • Gall Comisiynydd Plant Cymru ‘mond defnyddio’r pwerau sydd gan y Comisiynydd mewn meysydd sydd yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru a lle mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau.
Comisiynydd Plant Cymru • Beth gall y Comisiynydd ei wneud pe bai’n dymuno? • Gall y Comisiynydd adolygu trefniadau sydd mewn lle ar gyda chwynion, eiriolaeth a chwythu’r chwiban. • Eiriolaeth - Mae eiriolaeth yn ymwneud â siarad dros blant a phobl ifanc. Mae eiriolaeth yn ymwneud â galluogi plant a phobl ifanc i sicrhau bod eu hawliau yn cael eu parchu a bod eu barn a'u dymuniadau yn cael eu clywed bob amser. Mae eiriolaeth yn ymwneud â chyflwyno barn, dymuniadau ac anghenion plant a phobl ifanc i lunwyr penderfyniadau, a'u helpu i fynd drwy 'r system '. (Safonau Cenedlaethol ar gyfer Darparu Gwasanaethau Eiriolaeth Plant 2003) • Chwythu'r Chwiban - un sy'n datgelu camweddau o fewn sefydliad yn y gobaith o roi'r gorau iddo.
Comisiynydd Plant Cymru • Be na all y Comisiynydd eu wneud • Ni all y Comisiynydd rhoi cymorth mewn achosion cyfreithiol. • Ni all y Comisiynydd adolygu gwasanaethau sydd heb eu datganoli e.e. heddlu, cyfiawnder ieuenctid, carchardai, mewnfudo, taliadau budd, y farnwriaeth neu wasanaethau’r llysoedd. • Os nad yw’n bosib’ i’r Comisiynydd i weithredu ei bwerau eraill, mae gan y Comisiynydd y pŵer i fynegi barn/wneud cynrychiolaeth i Weinidogion Llywodraeth Cymru ar unrhyw fater sydd yn effeithio ar hawliau neu les plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Comisiynydd Plant Cymru Comisiynydd Plant Cymru Tŷ Ystumllwynarth Ffordd Phoenix Llansamlet Abertawe SA7 9FS Ffon: 01792 765600 Fax: 01792 765601 Comisiynydd Plant Cymru Maenor Penrhos Oak Drive Bae Colwyn Conwy LL29 7YW Ffon: 01492 523333 Fax: 01492 523336 Post@complantcymru.org.uk Rhif ffon rhad ac am ddim i blant a phobl ifanc 0808 801 1000 TEXT 80 800 Cychwyn y neges gyda COM