140 likes | 387 Views
Mabwysiadu a gofalu am eich bylbiau. Helo Gyfeillion!. Llythyr oddi wrth Athro’r Ardd. Diolch am gytuno i’m helpu! Rwyf wedi anfon bylbiau Cennin Pedr, Crocws a photyn planhigyn i bob un ohonoch. Cyn i chi fedru plannu eich bylbiau bach, rhaid i chi: Ddysgu sut i ofalu am eich bylb.
E N D
Helo Gyfeillion! Llythyr oddi wrth Athro’r Ardd • Diolch am gytuno i’m helpu! Rwyf wedi anfon bylbiau Cennin Pedr, Crocws a photyn planhigyn i bob un ohonoch. • Cyn i chi fedru plannu eich bylbiau bach, rhaid i chi: • Ddysgu sut i ofalu am eich bylb. • Ei fabwysiadu. • a gwneud label ar gyfer eich potyn.
Mabwysiadu eich bylbiau bach • Mae bwlb fel baban planhigyn. Mae angen eich cymorth chi arno fe i dyfu. • Os na fyddwch chi’n edrych ar ôl y bwlb, mae’n bosibl na fydd e’n tyfu nac yn blodeuo yn y gwanwyn. • Cyn mabwysiadu eich bylbiau bach, rhaid i chi ddysgu sut i ofalu am eich bwlb…
Eich cenhinen Bedr • Cenhinen Bedr yw’r mwyaf o’ch bylbiau. • Dyma’r ail genhinen Bedr gynhenid i Ynysoedd Prydain. • Mae’n brin iawn heddiw. • Mae ganddi liw melyn euraidd ac mae ei ffurf yn berffaith. • Uchder: 30-40cm. • Yn ei blodau: Chwe/Mawrth/Ebrill. ‘Tenby’ Daffodil(narcissus obvallaris) Roedd cenhinen Bedr Dinbych-y-pysgod yn gyffredin iawn yn y caeau o gwmpas y dref. Mae’n brin iawn heddiw achos mae’r caeau gwledig yn diflannu i greu lle ar gyfer tai a ffyrdd newydd. Bu bron i bobl Oes Fictoria achosi iddynt ddiflannu’n llwyr o Gymru. Roedden nhw mor hoff ohonynt eu bod yn eu casglu a’u hanfon ar drenau i’w gwerthu yn Llundain.
Eich Crocws • Y bwlb lleiaf yw’r crocws. • Dyma un o’r crocysau sy’n blodeuo’n gyntaf bob blwyddyn. • Daw’n wreiddiol o ddwyrain Ewrop. • Lliw: porffor gydag anther a stigma oren. • Taldra: hyd at 10 cm. • Blodeuo: Ionawr/Chwefror. Crocws Crocus tommasinianus Enwyd y planhigyn ar ôl y botanegydd enwog Muzio G. Spirito de Tommasini (1794-1879)
Bylbiau, bylbiau sbâr a bylbiau dirgel Rhoddir i bob ysgol: • 1 bwlb daffodil, bwlb crocws a phot / i bob disgybl • 4 bwlb daffodil, bwlb crocws a phot sbâr • 5 bwlb dirgel ac 1 pot
Sut i ddefnyddio eich potiau sbâr Defnyddiwch un o'r potiau sbâr ar gyfer y bylbiau dirgel a'i labelu gyda gofynnod. Pan fydd eich bylbiau dirgel yn blodeuo rhowch wybod i'r blog-blodau gan ddweud beth ydynt yn eich barn chi www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/1714/ Defnyddiwch weddill potiau'r bylbiau sbâr fel mynnwch chi. Ewch i'r adran dogfennau a lawrlwythiadau ar wefan Bylbiau'r Gwanwyn i weld syniadau ac arbrofion ar gyfer eich bylbiau sbâr. Anfonwch eich straeon a’ch lluniau i’n blog bylbiau a dilynwch Athro’r Ardd ar Twitter! www.twitter.com/Professor_Plant
Sut i ofalu am eich bylbiau Allwch chi enwi rhai pethau sydd eu hangen ar fwlb neu blanhigyn?
Y pethau sydd eu hangen ar blanhigion • Lle i dyfu • Golau • Dwr • Gwres • Maeth • Aer • Amser i dyfu
Rhowch ddwr i’r bylbiau • Mae angen dwr ar blanhigion i fyw! Mae dwr yn mynd â maetholion i wahanol rannau’r planhigyn. Bydd y planhigyn yn marw os caiff gormod neu rhy ychydig o ddwr. • Rhowch ddwr iddo bob dydd Llun, Mercher a Gwener. • Dylai’r pridd fod yn llaith ond nid yn rhy wylb. • Trafodwch: Sut fyddwch chi’n dyfrhau eich planhigion?
Trafodwch ble i roi eich planhigion yn eich ysgol… Dewiswch ardal sydd: Yn yr awyr agored Yn heulog Yn hawdd i’w ddyfrhau Yn ddiogel rhag fandaliaid a phlant yn chwarae.
Mabwysiadwch eich bylb bach. Enwch eich bylbiau bach a llofnodwch eich tystysgrif mabwysiadu! Gallwch gael tystysgrif gwag oddi ar y wefan: www.amgueddfacymru.ac.uk/scan/bylbiau
Gwnewch label ar gyfer eich bylbiau. • Defnyddiwch yr enghraifft oddi ar y wefan neu gwnewch un eich hun!
Llongyfarchiadau ar gyflawni’r dasg hon! Rydych bellach yn barod i blannu eich bylbiau! Hwyl Gyfeillion!