370 likes | 550 Views
Modiwl 5: Rheoli eich arian – cyllidebu. Amcanion y modiwl Rhoi cyfle i edrych ar y deilliannau dysgu yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) i weld ble mae cyllidebu yn bodoli yn y cwricwlwm yng Nghymru.
E N D
Amcanion y modiwl • Rhoi cyfle i edrych ar y deilliannau dysgu yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) i weld ble mae cyllidebu yn bodoli yn y cwricwlwm yng Nghymru. • Tynnu sylw at yr adnoddau a’r gweithgareddau y gellir eu defnyddio yng Nghyfnodau Allweddol 2, 3 a 4 i ddatblygu sgiliau rhifedd dysgwyr yng nghyd-destun rheoli eu harian drwy gyllidebu.
Nodau’r dysgwyr Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno’r broses o gyllidebu. Mae’n gweithio ar draws cyfnodau allweddol a bydd rhai dysgwyr yn: • gwerthfawrogi’r penderfyniadau y mae angen eu gwneud mewn perthynas ag ‘eitemau hanfodol a ddim yn hanfodol i'w prynu’ • adnabod y gwahaniaeth rhwng angen (rhywbeth na allwch fyw hebddo) ac eisiau (rhywbeth y gallwch fyw hebddo) • adnabod sut mae arian yn dod i mewn ac yn gadael eu bywydau • deall y gwahaniaeth rhwng incwm a gwariant • gallu esbonio pam mae angen mantoli’r gweddill ar gyfer cyllideb.
Y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) • Mae’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) yn canolbwyntio ar bedwar llinyn rhifedd: • Llinyn 1: Datblygu ymresymu rhifyddol • Llinyn 2: Defnyddio sgiliau rhif • Llinyn 3: Defnyddio sgiliau mesur • Llinyn 4: Defnyddio sgiliau data.
Cydran rhifedd y FfLlRh • Llinyn: Defnyddio sgiliau rhif • Elfennau: • Defnyddio ffeithiau rhif a’r berthynas rhwng rhifau • Ffracsiynau, degolion, canrannau a chymhareb • Cyfrifo gan ddefnyddio dulliau meddwl ac ysgrifenedig • Amcangyfrif a gwirio • Rheoli arian
Deilliannau dysgu’r FfLlRh Mae’r tablau canlynol yn dangos y deilliannau dysgu fel y’u nodir yng nghydran rhifedd y FfLlRh. Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar gyllidebu a thynnir sylw ato mewn teip trwm yn y tablau.
Mae’r Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth o gyllidebu.Tynnir sylw at y rhain mewn teip trwmar y sleid nesaf.
Allwn ni ei fforddio? Gweithgaredd cychwynnol: Sut ydym ni’n gwybod a allwn ni fforddio rhywbeth?
Beth yw ystyr y termau hyn? eisiau angen Gweler Taflen weithgaredd rheoli arian: Angen ac eisiau (gweithgaredd Cyfnod Allweddol 2/3). Gan ddefnyddio delweddau a geiriau, gall dysgwyr benderfynu pa eitemau na allan nhw fyw hebddyn nhw (angen) a’r eitemau hynny y maen nhw eisiau eu cael.
Angen yn erbyn eisiau Gwnewch y gweithgaredd ar-lein yn https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/2009-10/maths/financial-literacy//cym/needs_v_wants.swf
Eitemau hanfodol a ddim yn hanfodol Senario: Rydych chi wedi dechrau gweithio, mae gennych chi eich fflat eich hun ac rydych chi newydd gael benthyciad i brynu car newydd. Argraffwch Adnodd 1: Eitemau hanfodol a ddim yn hanfodol, sy’n weithgaredd Cyfnod Allweddol 3/4. Mae’r gweithgaredd hwn yn gofyn i ddysgwyr drefnu’r cardiau yn ddau grŵp – taliadau/pryniadau misol ‘hanfodol’ a ‘ddim yn hanfodol’. Dangosir enghreifftiau ar y sleid nesaf.
Eitemau hanfodol a ddim yn hanfodol Lawrlwytho cerddoriaeth Tocynnau bws Ad-daliad benthyciad car Bwyd/ nwyddau ymolchi Pryd o fwyd gyda ffrindiau Trwydded deledu Trydan Tocyn cyngerdd Dillad gwaith Bil ffôn symudol Pitsa i fynd Petrol Yswiriant tŷ Trenyrs newydd Yswiriant car Dŵr Morgais/ rhent Nwy Y dreth gyngor £10 o gynilion
Gweithgaredd trafod: Sut mae arian yn dod i mewn ac allan o’ch bywyd bob dydd, bob wythnos neu bob mis?
Byrbrydau Lwfans Cynhaliaeth Addysg Talu am waith tŷ Rhoddion Ffôn symudol Nwyddau ymolchi Sinema/ cyngherddau Arian poced Gwaith rhan-amser Prynu cerddoriaeth Prynu dillad Tocynnau bws
Incwm a gwariant Gweithgareddau Cyfnod Allweddol 2: Gweithgaredd 1: Allwn ni ei fforddio? (gweler Taflen weithgaredd rheoli arian: Allwn ni ei fforddio?) Gweithgaredd 2: Yn gall gydag arian: gêm cerdyn cyllidebu misol (gweler Taflen weithgaredd rheoli arian: Yn gall gydag arian – gêm cerdyn cyllidebu misol) Gweithgaredd 3: Cyllidebu faint o drydan i’w defnyddio – ‘Mae’n bryd inni wario llai’. Ewch ar-lein i weld y gweithgaredd yn www.hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/2009-10/maths/financial-literacy//cym/lets-cut-back/index.html Mae gweithgareddau wedi cael eu gwahaniaethu yn gyfnodau allweddol yn seiliedig ar y cyd-destun. Mae’r cyfnodau allweddol yn rhoi arweiniad yn unig a dylai athrawon ddewis gweithgareddau sy’n cyfateb â gallu’r dysgwyr. Dolenni/esboniadau ar gyfer gweithgareddau ar y sleidiau canlynol.
Incwm a gwariant Gweithgaredd 1: Allwn ni ei fforddio? Gweler Taflen weithgaredd rheoli arian: Allwn ni ei fforddio? Mae’r dysgwyr yn cael bwrdd stori i’w gwblhau. Mae’r bwrdd stori yn adrodd hanes teulu wrth iddyn nhw geisio penderfynu a allan nhw fforddio prynu beic fel anrheg pen-blwydd. Mae’r bwrdd stori yn codi pwyntiau trafod.
Incwm a gwariant Gweithgaredd 2: Yn gall gydag arian – gêm cerdyn cyllidebu misol Gweler Taflen weithgaredd rheoli arian: Yn gall gydag arian – gem cerdyn cyllidebu misol. Mae’r dysgwyr yn torri allan y cardiau sy’n dangos sut y maen nhw wedi ennill a gwario arian, ac yn eu troi nhw wyneb i waered. Maen nhw’n troi un cerdyn drosodd ar y tro, ac yn penderfynu ble i’w roi yn eu tabl cyllideb fisol. Eu her yw sicrhau eu bod nhw: • heb fynd i ddyled mewn unrhyw fis • wedi talu’u costau ar ddiwedd y tri mis. Mae hyn yn golygu efallai y bydd rhaid iddyn nhw symud eu cardiau i sicrhau nad yw eu gwariant yn fwy na’u henillion! Pan fyddan nhw’n hapus gyda’u cyllidebu, gall y dysgwyr gofnodi eu syniadau drwy lynu eu cardiau yn eu lle.
Gweithgaredd 3: Cyllidebu faint o drydan i’w defnyddio Gweithgaredd Cyfnod Allweddol 2: Cyllidebu faint o drydan i’w defnyddio Ewch ar-lein i weld y gweithgaredd hwn ar Hwb yn www.hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/2009-10/maths/financial-literacy//cym/lets-cut-back/index.html
Incwm a gwariant Gweithgareddau Cyfnod Allweddol 3/4: Gweithgaredd 1: Allwch chi helpu Carrie a Mo i gyllidebu? (Adnodd: Rheoli Arian) Gweithgaredd 2: Senarios ‘Rheoli arian’ (Adnodd: Pecyn Cymorth Cyllid Personol Llywodraeth Cymru) Gweithgaredd 3: Cadw gweddill cyfredol ar gyfer y cartref (gweler Adnodd 2 o’r modiwl hwn) Mae gweithgareddau wedi cael eu gwahaniaethu yn gyfnodau allweddol yn seiliedig ar y cyd-destun. Mae’r cyfnodau allweddol i roi arweiniad yn unig a dylai athrawon ddewis gweithgareddau sy’n cyfateb â gallu’r dysgwyr. Dolenni/esboniadau ar gyfer gweithgareddau ar y sleidiau canlynol.
Gweithgaredd 1 Allwch chi helpu Carrie a Mo i reoli eu cyllideb? Adnodd: Rheoli Arian, Gweithgaredd 5 – Carrie a Mo (tudalennau 39–47) Lawrlwytho’r adnodd ynhttps://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/_layouts/NGFLSolution/MaterialDescription.aspx?LearningMaterialId=44957&lang=cy
Incwm a gwariant Gweithgaredd 1Cyfnod Allweddol 3/4: Allwch chi helpu Carrie a Mo i gyllidebu? Mae’r gweithgaredd hwn yn codi’r broblem o orwario ar gyllideb dynn. Disgrifir ffyrdd o fyw dau berson ifanc, Carrie a Mo. Mae cyllideb gan bob un ohonyn nhw yn dangos incwm a gwariant misol arferol. Y dasg i’r dysgwyr yw trafod eu ffyrdd o fyw a’u harferion gwario i weld ble y gallen nhw dorri i lawr er mwyn mantoli eu cyllideb. Mae’r sleidiau canlynol yn dangos brasluniau o’r gweithgaredd hwn.
Gweithgaredd 2 Senarios rheoli eich arian Adnodd:Pecyn Cymorth Cyllid Personol Llywodraeth Cymru Gweler Testun 3 ‘Rheoli eich arian’ (tudalennau 29–33) ynghyd â’r taflenni adnoddau ategol o fewn Testun 3 o’r enw ‘Rheoli fy arian’ (tudalennau 31–34). Lawrlwytho’r adnodd yn http://wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/publications/resources/?skip=1&lang=cy Mae’r gweithgaredd (a ddisgrifir ar dudalen 32) yn cynnig pedwar senario sy’n disgrifio sefyllfaoedd ariannol pobl ifanc. Mae’r dysgwyr yn awgrymu sut y gallen nhw reoli eu harian yn fwy llwyddiannus. Rhoddir enghreifftiau o’r senarios ar y sleidiau nesaf.
Gweithgaredd 3 Cadw gweddill cyfredol ar gyfer y cartref Adnodd: Cadw gweddill cyfredol (gweler Adnodd 2 o’r modiwl hwn) Mae’r gweithgaredd hwn ar ddull dyddiadur yn dangos y trafodion sy’n digwydd o fewn mis o safbwynt oedolyn sy’n gweithio gyda thri o blant. Mae’n rhaid i’r dysgwyr ddarllen yr wybodaeth a chadw gweddill cyfredol ar ffurf tabl drwy gyfrifo’r arian sy’n cael ei dalu i mewn ac sy’n cael ei dalu allan o gyfrif banc.
Cadw gweddill cyfredol Mae Mrs Jones yn rhiant prysur iawn ac mae’r wybodaeth a roddir yn adlewyrchu un mis o’i bywyd (argraffwch Adnodd 2 ‘Cadw gweddill cyfredol’). Mae’r wybodaeth yn dangos faint sy’n cael ei dalu i mewn (incwm) a’i dalu allan (gwariant) o’i chyfrif banc. Edrychwch yn ofalus ar bob un o’r diwrnodau a roddir a meddyliwch am y trafodion sy’n digwydd. Gan ddefnyddio’r tabl, paratowch weddill cyfredol i’w helpu i gadw golwg ar ei harian. Rhoddir enghreifftiau o’r wythnos gyntaf ar y sleid nesaf.
1 Awst Mae’r ddau ohonoch chi wedi cael eich talu. £3012 Siopa bwyd. £112 Talu gyda cherdyn debyd. 3 Awst Angen talu’r dreth gyngor. £142 Talu drwy ddebyd uniongyrchol. 4 Awst Taliadau morgais yn mynd allan. £1215 7 Awst Budd-dal plant. Mae tri o blant gennych chi. £20.30 am y plentyn cyntaf yr wythnos. £13.40 am y plant eraill. Sylwch: mae budd-dal plant yn cael ei dalu bob 4 wythnos. 5 Awst Diwrnod talu am wasanaethau! Nwy: £72 Trydan: £59 Dŵr: £45.10 Pob un yn cael ei dalu’n fisol drwy ddebyd uniongyrchol.
Adding up to a lifetime Adnodd ar-lein rhad ac am ddim yw hwn sy’n dilyn pedwar cymeriad a sut maen nhw’n delio â sefyllfaoedd ariannol. Mae’n addas ar gyfer Cyfnodau Allweddol 3 i 5. Mae’r pecyn yn cynnwys tua 25 awr o weithgareddau dysgu y gall dysgwyr eu cwblhau ar-lein. Caiff ei gyflwyno fel pum modiwl: • Bywyd fel myfyriwr (14 oed a hŷn) • Bywyd gwaith • Perthnasoedd • Bywyd newydd • Ymddeoliad egnïol. Mae’r modiwlau yn cynnig amrywiaeth o bynciau rheoli arian, gan gynnwys cyllidebu. Ewch i www.addinguptoalifetime.org.uk Mae tiwtorial sain gyda phob modiwl y gallwch wrando arno yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Gwefannau ac adnoddau • www.pfeg.org Mae pfeg (Grŵp Addysg Ariannol Bersonol) yn elusen annibynnol sy’n darparu cyfoeth o adnoddau i gefnogi addysg ariannol mewn ysgolion. • www.barclaysmoneyskills.com/en/Information/resource-centre.aspx Pecynnau Adnoddau Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 Sgiliau Arian Barclays (lawrlwytho) – gweithgareddau angen/eisiau a hanfodol/ddim yn hanfodol ar gael o fewn y pecynnau hyn. • www.nationwideeducation.co.uk Sgiliau Arian: gemau, taflenni ffeithiau* a thaflenni gwaith* i ddysgwyr 4 i 18 ac yn fwy (adnoddau argraffadwy a gemau ar-lein). Ar gyfer gweithgareddau cyllidebu gweler Money Maths – Balancing Budgets (12–14) a Family Budget Factsheet (7–11). * Fersiynau Cymraeg ar gael. • www.Addinguptoalifetime.org.ukMae’r modiwlau yn cynnig yr ystod gyfan o bynciau rheoli arian gan gynnwys cyllidebu. • www.hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/shared%20Documents/vtc/2009-10/maths/financial-literacy//lets-cut-back/index.htmlGweithgaredd Gwyddoniaeth Cyfnod Allweddol 2: Edrych ar gyllidebu drwy’r defnydd o drydan yn y cartref. • www.moneyadviceservice.org.uk/en/categories/young-people-and-moneyGwybodaeth am reoli eich arian fel myfyriwr. • http://rbsmoneysense.co.uk/schools/resources/Rhaglen ar-lein ryngweithiol yn darparu adnoddau i helpu dysgwyr i reoli eu harian.