1 / 33

Catrin o Ferain "Mam Cymru"

Catrin o Ferain "Mam Cymru". 1568. Gweithgaredd Ysgrifennu Creadigol. Fy stori. Gweithgaredd Celf. Archwilio'r llun. Gweithgaredd Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol. Adriaen van Cronenburgh (1520-1604). Cysylltau eraill. Manylion eraill. Fy Stori.

vita
Download Presentation

Catrin o Ferain "Mam Cymru"

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Catrin o Ferain "Mam Cymru" 1568 Gweithgaredd Ysgrifennu Creadigol Fy stori Gweithgaredd Celf Archwilio'r llun Gweithgaredd Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol Adriaen van Cronenburgh (1520-1604) Cysylltau eraill Manylion eraill

  2. Fy Stori Cefais fy ngeni i deulu cyfoethog iawn yng Ngogledd Cymru ym 1534. Mae gennyf gysylltiadau brenhinol â Harri VII a’r Frenhines Elisabeth I. Pan fu farw fy rhieni, etifeddais holl eiddo’r teulu yn Sir Fôn a deuthum yn dra chyfoethog yn ifanc iawn. Yn ystod fy mywyd, bûm yn briod 4 o weithiau; roedd pob un o’m gwŷr yn ddynion dylanwadol ym materion Cymru. Drwy fy chwe phlentyn, sefydlwyd sawl llinach fonheddig yng Nghymru. John Salisbury o Leweni, Sir Ddinbych oedd fy ngŵr cyntaf. Buom yn briod am naw mlynedd a chawsom ddau fab – Thomas a John. Bu farw John Salisbury ym 1566. Syr Richard Clough, masnachwr cyfoethog o Sir Ddinbych oedd fy ail ŵr. Paentiwyd y llun hwn ohonof i iddo ef. Yn ystod ein bywyd priodasol, buom yn byw dramor yn bennaf, yn Antwerp, Gwlad Belg, ac yma y paentiwyd y portread hwn ohonof ym 1568. Ganwyd fy merch Anne yn y flwyddyn honno hefyd. Ac eithrio un ymweliad byr â Sbaen, arhosom yn Antwerp hyd 1569 pan aeth fy ngŵr ar ymweliad â Hambwrg yn yr Almaen, lle bu farw ym 1570.

  3. Nôl i’r Dasg Ysgrifennu Creadigol Morris Wynn o Wydir oedd fy nhrydydd gŵr. Ym 1580, bu farw Morris Wynn ac roeddwn innau bellach yn weddw, am y trydydd tro. Erbyn hyn, roeddwn yn fam i chwech o blant – dau Salisbury, dau Clough a dau Wynn. Daeth Edward Thelwell, un o ddisgynyddion y Tiwtoniaid a’r Normaniaid a dderbyniodd ranbarth Dyffryn Clwyd yn rhodd gan y Brenin Edward I, yn bedwerydd gŵr i mi. Digwyddodd cryn dipyn yn fy mywyd yn y flwyddyn 1586. Ganwyd fy ŵyr cyntaf i gael byw drwy gyfnod plentyndod. Dienyddiwyd fy mab hynaf, Thomas Salisbury ynghyd ag eraill am fradwriaeth honedig a phriodwyd fy ail fab, John Salisbury hefyd. Bu farw Catrin ar 27ain Awst 1591. Roedd yn 56 mlwydd oed. Cafodd ei chladdu yn Eglwys Llanefydd, ond er hynny, nid oes unrhyw gofgolofn yno i nodi ei bedd. Daethpwyd i’w hadnabod flynyddoedd wedyn fel “Mam Cymru”, a hynny oherwydd y nifer helaeth o blant, llysblant ac wyrion oedd ganddi. Ceir hanesion dirif sy’n sôn am fywyd Catrin o Ferain. Adroddir chwedlau am y llu cariadon fu ganddi, yn ychwanegol at ei phedwar gŵr. Dywedir iddi arllwys plwm tawdd i glustiau un o’i chariadon yr oedd hi wedi blino arno ac yna ei gladdu ym Mherllan Berain. Pwy ŵyr? I ymweld â gwefan i gael gwybod mwy am fywyd Catrin, cliciwch yma.

  4. Catrin o Ferain - "Mam Cymru" 1568 Adriaen van Cronenburgh Nesaf Dyma bortread hyd ¾ ffurfiol iawn. Cafodd ei baentio ar gyfer ail ŵr Catrin, Syr Richard Clough.

  5. Catrin o Ferain ~ "Mam Cymru" Adriaen van Cronenburgh Nesaf Dyma bortread hyd ¾ ffurfiol iawn. Cafodd ei baentio ar gyfer ail ŵr Catrin, Syr Richard Clough Prif bwrpas portread o’r fath oedd dangos pwysigrwydd neu gyfoeth teulu.

  6. Nesaf Sut mae Catrin yn sefyll?

  7. Nesaf Sut mae Catrin yn sefyll? Ydych chi’n meddwl ei bod hi’n gyfforddus?

  8. Nesaf Sut mae Catrin yn sefyll? Ydych chi’n meddwl ei bod hi’n gyfforddus? Ydych chi’n meddwl ei bod hi’n hapus?

  9. Nesaf Sut mae Catrin yn sefyll? Ydych chi’n meddwl ei bod hi’n gyfforddus? Ydych chi’n meddwl ei bod hi’n hapus? Sut, dybiwch chi, yr hoffai Catrin gael ei phortreadu?

  10. Cliciwch ar wahanol rannau’r llun i wybod mwy.

  11. Nesaf Sut fyddech chi’n disgrifio mynegiant wyneb Catrin? Ei hwyneb.

  12. Nesaf Sut fyddech chi’n disgrifio mynegiant wyneb Catrin? Ei hwyneb. Am beth mae hi’n meddwl, dybiwch chi?

  13. Nesaf Sut fyddech chi’n disgrifio mynegiant wyneb Catrin? Ei hwyneb. Pam ydych chi’n meddwl fod golwg mor llwyd arni? Am beth mae hi’n meddwl, dybiwch chi?

  14. Sut fyddech chi’n disgrifio mynegiant wyneb Catrin? Ei hwyneb. Pam ydych chi’n meddwl fod golwg mor llwyd arni? Mae gan Catrin dalcen uchel, aeliau tenau a chroen gwelw, lliw ifori – roedd pob un o’r rhain yn cael eu hystyried yn arwyddion harddwch. Credir fod gwragedd yn ystod cyfnod y Tuduriaid yn plicio rhimyn blaen eu gwallt er mwyn dangos talcen uchel, ffasiynol yr olwg. Câi lliw haul ei gysylltu â gwerinwyr oedd yn gweithio yn y caeau, felly byddent yn creu prydliw gwelw drwy ddefnyddio powdr wyneb. Dechreuwyd gwisgo colur yn Lloegr tuag adeg teyrnasiad y Frenhines Elisabeth I. Gwnaed powdr wyneb yn aml o blwm gwyn; roedd hwn yn wenwynig ac yn gwneud i’r sawl fyddai’n ei wisgo fynd yn sâl. Cedwid y colur drwy ei orchuddio â haen denau o wydredd gwyn wy. Am beth mae hi’n meddwl, dybiwch chi?

  15. Nesaf Ei dillad. Ydych chi’n meddwl fod dillad Catrin yn rhai cyfforddus?

  16. Nesaf Ei dillad. Ydych chi’n meddwl fod dillad Catrin yn rhai cyfforddus? Mae’n bosib iawn fod Catrin yn gwisgo’i dillad gorau. Mae ei ffrog yn dywyll a prudd yr olwg, ac mae brodwaith addurnol iawn ar ei llewysau a’i choler.

  17. Torch yw’r enw am goler ei ffrog. Roedd y torch yn arwydd o fraint bendefigaidd. Wrth i’r ganrif fynd rhagddi, aeth y torchau’n fwy ac yn fwy o faint, nes ei bod yn anodd deall sut y gallai’r rhai fyddai’n eu gwisgo symud o gwbl. Ei dillad. Ydych chi’n meddwl fod dillad Catrin yn rhai cyfforddus? Mae’n bosib iawn fod Catrin yn gwisgo’i dillad gorau. Mae ei ffrog yn dywyll a prudd yr olwg, ac mae brodwaith addurnol iawn ar ei llewysau a’i choler. I wybod mwy am wisgoedd yr 16eg ganrif, cliciwch yma.

  18. Nesaf Y benglog. Pam ydych chi’n meddwl fod llaw chwith Catrin yn gorffwys ar benglog?

  19. Pam ydych chi’n meddwl fod llaw chwith Catrin yn gorffwys ar benglog? Y benglog. Arwydd o farwoldeb yw’r benglog. Mae iddi ystyr cudd ac mae’n gwneud i ni feddwl am farwolaeth. Mae’n symbol o angau – momento mori – i’n hatgoffa fod angau yn dod i ran pob un ohonom ac i beri i ni feddwl am yr amser byr rydym yn ei dreulio yma ar y ddaear.

  20. Nesaf Ei gemwaith. Pa gliwiau mae gemwaith Catrin yn eu rhoi i ni amdani?

  21. Gallai’r loced sydd o amgylch ei gwddf fod yn cynnwys rhywbeth mae hi’n ei drysori – er enghraifft, darn o wallt Syr Richard Clough. Nesaf Ei gemwaith. Pa gliwiau mae gemwaith Catrin yn eu rhoi i ni amdani?

  22. Mae ei phenwisg yn addurnedig iawn ac mae’n cynnwys gemau. Ei gemwaith. Pa gliwiau mae gemwaith Catrin yn eu rhoi i ni amdani? Gallai’r loced sydd o amgylch ei gwddf fod yn cynnwys rhywbeth mae hi’n ei drysori – er enghraifft, darn o wallt Syr Richard Clough.

  23. Nesaf Ei llyfr. Mae Catrin yn dal llyfr bychan yn ei llaw dde ac mae’n bosibl fod clo ar hwn. Gall fod yn feibl, yn llyfr gweddi neu’n ddyddiadur o bosibl, lle byddai’n cofnodi ei meddyliau personol.

  24. Ei llyfr. Mae Catrin yn dal llyfr bychan yn ei llaw dde ac mae’n bosibl fod clo ar hwn. Gall hwn fod yn feibl, yn llyfr gweddi neu’n ddyddiadur o bosibl, lle byddai’n cofnodi ei meddyliau personol. Beth fyddai Catrin wedi ei ysgrifennu yn y llyfr hwn, dybiwch chi?

  25. Nesaf Beth sy’n hongian ar waelod gwregys gadwyn Catrin, dybiwch chi? Ei gwregys o gadwyn.

  26. Beth sy’n hongian ar waelod gwregys gadwyn Catrin, dybiwch chi? Ei gwregys o gadwyn. Mae’n bosibl mai pelen bêr yw’r tlws crog sy’n hongian oddi ar waelod gwregys Catrin. Byddai peraroglau, e.e. petalau persawrus a pherlysiau yn cael eu gosod mewn peli pêr. Credai pobl fod y rhain yn puro’r awyr ac yn amddiffyn eu perchnogion rhag afiechydon fel y Pla. I ymweld â gwefan i gael gweld sut i wneud pelen bêr, cliciwch yma.

  27. Gweithgaredd Ysgrifennu Creadigol Pe bawn i’n gallu siarad, pa hanesion fyddai gennyf i’w hadrodd? Fy nyddiadur i yw’r llyfr bach clo. Beth sydd wedi’i ysgrifennu yno, dybiwch chi? Ysgrifennwch dudalen yn fy nyddiadur. Am fwy o fanylion am ysgrifennu dyddiadur, cliciwch yma.

  28. Gweithgaredd Celf Gallwch weld o’r llun hwn ohonof fy mod yn hoff iawn o emwaith. Ewch ati i gynllunio ac i wneud darn o emwaith i mi. Rwy’n falch iawn o’m treftadaeth Gymreig ac fe hoffwn i’r gemwaith gynnwys rhai symbolau o Gymru – daffodil, dreigiau, cennin ac ati. I ymweld â gwefan i gael gwybod mwy am emwaith yr 16eg ganrif, cliciwch yma.

  29. Gweithgaredd Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol Darllenwch Fy Stori i gael gwybod mwy am fy mywyd ac aelodau fy nheulu. Yna, agorwch y ffeil Smart Notebook Coeden Deulu (familytree.xbk) a rhowch gynnig ar gwblhau fy nghoeden deulu drwy osod yr enwau cywir yn y mannau cywir. Pob hwyl! I ddarllen Fy Stori, cliciwch yma Gweithgaredd Coeden Deulu

  30. Cysylltau eraill • Bywyd Catrin o Ferain • Mwy o wybodaeth • www.bbc.co.uk/legacies/myths_legends/wales/w_ne/article_5.shtml • www.bbc.co.uk/wales/northeast/guides/halloffame/historical/katheryn_berain.shtml • http://www.museumwales.ac.uk/en/art/online/?action=show_item&item=429

  31. Manylion eraill Am y llun – Dyddiad paentio: 1568 Cyfrwng: olew ar banel derw Maint: 97.2 x 68.6 cm Cafwyd yn: 1957; Prynwyd. Mae’n bur debyg i’r portread hwn gael ei baentio yng Ngogledd yr Iseldiroedd gan yr arlunydd o Ffresia, Adriaen van Cronenburgh.

  32. Nôl i’r Dasg Ysgrifennu Creadigol Ysgrifennu Dyddiadur Cofiwch fod dyddiadur nid yn unig yn cofnodi digwyddiadau a chyfnodau mewn hanes, ond mae hefyd yn gronicl o deimladau personol. • Bydd cofnod trawiadol mewn dyddiadur - • wedi ei ysgrifennu yn y person cyntaf (fi). • yn yr amser gorffennol gan mwyaf. • yn disgrifio digwyddiadau yn ôl eu trefn hanesyddol. • yn defnyddio paragraffau i ddynodi newidiadau mewn amser, digwyddiad a gweithredoedd. I ddarllen stori Catrin, cliciwch yma. Defnyddiwch wybodaeth ffeithiol o’ch ymchwil a’ch teimladau personol am Catrin i ysgrifennu detholiad o’i dyddiadur.

  33. Y Diwedd

More Related