200 likes | 524 Views
Gloywi Iaith Siân Esmor, Canolfan Bedwyr. Cynhadledd Tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru 22 Hydref 2011. Nod y sesiwn . Cadarnhau ac atgyfnerthu’r hyn yr ydym eisoes yn ei wybod Edrych ar rai pwyntiau ieithyddol sy’n medru achosi poen meddwl i diwtoriaid
E N D
Gloywi IaithSiân Esmor, Canolfan Bedwyr Cynhadledd Tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru22 Hydref 2011
Nod y sesiwn • Cadarnhau ac atgyfnerthu’r hyn yr ydym eisoes yn ei wybod • Edrych ar rai pwyntiau ieithyddol sy’n medru achosi poen meddwl i diwtoriaid • Rhoi’r hyder i chi ymdrin â’r pwyntiau hynny • Mewn geiriau eraill, mynd i’r afael â’r bwgan hwnnw o’r enw….. • GRAMADEG!
Rhannau ymadrodd • Partner A + Partner A, Partner B + Partner B: Darllenwch y disgrifiadau o’r rhannau ymadrodd sydd gennych gan sicrhau eich bod yn deall yr esboniadau • Partner A + Partner B:Esboniwch y rhannau ymadrodd ar eich taflen chi i’ch partner newydd • Yna parwch y geiriau sydd wedi eu hamlygu yn y darn gyda’r rhannau ymadrodd ar yr ail daflen
Cwmni Seren Arian wedi’i atgyfodi(o wefan golwg360.com) • Maecwmni Seren Arian wedi’i atgyfodi fel Gwyliau Seren Arian Cyf ar ôl i ddyn busnes brynu’r cwmni aeth i ddwylo’r gweinyddwyr ddechrau’r mis. • Mae rheolwyr blaenorol Seren Arian wedi cyhoeddi heddiw eu bod wedi ail strwythuro ac ail agor cwmni newydd a fydd yn gweithredu fel Gwyliau Seren Arian. Mae’r staff i gyd – ac eithrio dau - wedi cael eu swyddi’n ôl, meddai’r rheolwr cyffredinol wrth Golwg360. • Fe aeth un o gwmnïau gwyliau enwoca’ Cymru i ddwylo’r gweinyddwyr ddechrau fis Hydref. Fe gollodd 12 o bobl eu gwaith gyda chwmni Seren Arian o Gaernarfon, sydd wedi bod yn trefnu gwyliau gartre’ athramor ers mwy nag 20 mlynedd. • Roedd y cwmni wedi cau ei swyddfa yn Wrecsam ynghynt eleni.
Dewch o hyd i’r rhain yn y darn • Enwgwrywaiddunigol • Enwbenywaiddunigol • Enwlluosog • Enwpriod • Rhagenw • Ansoddair • Cysylltair • Berfenw • Berfgryno • Berfgwmpasog • Goddrychberf • Gwrthrychberf • Adferf • Arddodiad • Y fannod
Atebion Enwgwrywaiddunigolcwmni Enwbenywaiddunigolswyddfa Enwlluosogrheolwyr EnwpriodGwyliauSeren Arian Cyf. Rhagenweu Ansoddairnewydd Cysylltair a Berfenwtrefnu Berfgrynoaeth BerfgwmpasogRoedd y cwmniwedicau Goddrychberf 12 o bobl Gwrthrychberfeugwaith Adferfheddiw Arddodiad o Y fannod (ddwylo)’r
Ateb cwestiynau dysgwyr – pam? • yn ddysgwr • yn dda ond • yn dysgu Cymraegac yn Ninbych • Pam? • Treiglad meddal mewn enw ac ansoddair ar ôl ‘yn’ traethiadol. Dim treiglad mewn berfenw. • Treiglad trwynol ar ôl yr arddodiad ‘yn’ (=in)
Pam? • y gath yr _ardd y faneg • y baned y faled • y delyn y ddiodONDy llyfrgell, y rhaw • Nidywll a rhyntreiglo’nfeddalarôl y fannodmewnenwbenywaiddunigol • Cofiwch: yn y morcyn un
Pam? • Rydw i’n ysgrifennu llythyr • Ysgrifennaf lythyr • Ysgrifennir llythyr • Mae gwrthrych berf gryno bersonol yn treiglo’n feddal. • Nid yw gwrthrych berf gwmpasog yn treiglo. • Nid yw gwrthrych berf amhersonol yn treiglo.
Pam? • Dydd Llun yw fy hoff ddiwrnod • Rydw i’n dysgu’r modiwl gloywi ar ddydd Llun • Byddaf yn y swyddfa ddydd Llun • Dydd Llun = y diwrnod • Ar ddydd Llun = ‘on a Monday’, h.y. yn arferol • Ddydd Llun = ‘on Monday’ • Yn y frawddeg olaf, mae ‘dydd Llun’ yn gweithredu fel adferf, ac felly’n treiglo’n feddal.
Pam? • Cefais glywed manylion y cyfarfod • Cyhoeddwyd dyddiad y cyfarfod nesaf • Cefais glywed rai dyddiau wedyn fanylion y cyfarfod • Cyhoeddwyd ar unwaith ddyddiad y cyfarfod nesaf • Treiglad meddal yn dilyn sangiad, sef ymadrodd sy’n torri ar draws rhediad y frawddeg
Pam? • Os bydd hi’n braf yfory, mi gaf fynd am dro ar fy meic newydd • Pe bawn i yn artist, mi dynnwn lun rhyfeddod y machlud dros Benrhyn Llŷn • Gofynnais iddo a gawn i ganiatâd i fynychu’r gynhadledd • Mae’n bosib’ cyfieithu’r tri i’r Saesneg fel ‘if’ – a dyna’r broblem i’r dysgwyr
Pam? • Os = amod pendant (‘if’)h.y. dim ondosbyddhi’nbraf y caffyndar y beic • Pe = amodagelfen o amheuaeth yn perthyniddoh.y. does dim sicrwydd o gwblfy mod i’n artist, nac yn debygol o fod yn un chwaith. • Mae’rdysgwyr yn adnabodhwnfelpatrwm ‘taswn’ (Pebuaswn>Petaswn>taswn) • Aholiadol = cyflwynocwestiwnanuniongyrchol. Mae elfen o gwestiwnyma (‘whether’)
Pam? • Penderfynu i fynd X OND • Mynd i nofio √ cytuno i chwarae √ • Paratoi i adael √ tueddu i gytuno √ • Nid oes angen ‘i’ o flaen berfenw yn y Gymraeg. Mae’n gyflawn heb yr arddodiad. Ond yn yr enghreifftiau isaf, mae’r arddodiad ‘i’ yn dod gyda’r berfenw o’i flaen ac felly mae’n gywir.
Llyfrau defnyddiol Gwallau gramadegol cyffredin • Llawlyfr Gloywi Canolfan Bedwyr • Canllawiau Iaith a Chymorth Sillafu
Llyfrau defnyddiol Treiglo • Llawlyfr Gloywi Canolfan Bedwyr • Y Treigladur • Taclo’r Treigladau
Llyfrau defnyddiol Berfau • Llawlyfr Gloywi Canolfan Bedwyr • Y Llyfr Berfau
Llyfrau defnyddiol Meddwl yn Saesneg • Llawlyfr Gloywi Canolfan Bedwyr • Pa Arddodiad?
Llyfrau defnyddiol Gramadeg gyffredinol • Gramadeg Cymraeg Cyfoes/Welsh Contemporary Grammar (CBAC) • Gramadeg y Gymraeg (Peter Wynn Thomas) • Cymraeg Da (Heini Gruffudd)
Manylion cyswllt • SiânEsmorCanolfanBedwyrPrifysgol BangorDyfrdwyFfordd y ColegBangor, GwyneddLL57 2DG • (01248) 383247 / 383293 • s.esmor@bangor.ac.uk