110 likes | 315 Views
Hyfforddeiaethau Rachel Searle Eiriolwr Darparwyr Rhanbarthol, De Cymru rachel.searle@ntfw.org. Trosolwg o’r Hyfforddeiaethau. Cychwyn ym mis Awst 2011 Rhaglen i ddilyn Skillbuild Swydd yw’r canlyniad allweddol, ac mae’r rhaglen yn cyfrannu at lwybrau clir ar gyfer symud ymlaen
E N D
Hyfforddeiaethau Rachel SearleEiriolwr Darparwyr Rhanbarthol, De Cymru rachel.searle@ntfw.org
Trosolwg o’r Hyfforddeiaethau Cychwyn ym mis Awst 2011 • Rhaglen i ddilyn Skillbuild • Swydd yw’r canlyniad allweddol, ac mae’r rhaglen yn cyfrannu at lwybrau clir ar gyfer symud ymlaen • Anelir at bobl ifanc 16-17 oed ond gall pobl gymwys 18 oed gymryd rhan hefyd • Tair haen – Mynediad, lefel 1 a lefel 2 Ymgysylltu â Dysgwyr trwy Ddysgu Seiliedig ar Waith www.ntfw.org
Yr Haen Ymgysylltu • Ar gyfer dysgwyr nad ydynt yn anelu at swydd neilltuol neu rai y mae rhwystrau’n eu hatal rhag mynd yn syth i ddysgu galwedigaethol neu fath arall o ddysgu yn Lefelau 1-3 • Presenoldeb 12-21 awr • Nifer o wahanol amgylcheddau dysgu i baratoi’r dysgwr ar gyfer gwaith neu ragor o ddysgu • Anelir at bobl ifanc a fyddai’n debygol o ddod yn NEET. • Er mai haen ‘lefel mynediad’ ydyw, gallai’r gynulleidfa darged gynnwys amrediad eang o lefelau gallu ymhlith pobl nad ydynt yn anelu at swydd neilltuol Ymgysylltu â Dysgwyr trwy Ddysgu Seiliedig ar Waith www.ntfw.org
Haen Lefel 1 • Ar gyfer dysgwyr sy’n anelu at alwedigaeth neilltuol ac a all ddilyn rhaglen ar Lefel 1, neu gyfwerth • Gallai fod yn fynediad uniongyrchol i haen lefel 1, neu gallai fod wedi symund ymlaen o’r haen ymgysylltu • Mae’n canolbwyntio ar ddarparu cymwysterau sy’n asesu cymhwysedd galwedigaethol ar Lefel 1 ond • Gall hefyd gynnwys elfennau o’r rhaglen i fynd i’r afael â rhwystrau a fyddai’n atal y person rhag symud ymlaen i waith, dysgu galwedigaethol neu ddysgu arall ar Lefel 2 neu uwch Ymysylltu â Dysgwyr trwy Ddysgu Seiliedig ar Waith www.ntfw.org
Haen Lefel 2 • Dim mynediad uniongyrchol ar y lefel hon • Mae’n agored i ddysgwyr sydd wedi symud ymlaen o Haen Lefel 1, sy’n dal mewn Grŵp Gwarant i Bobl Ifanc ac yn barod ar gyfer gwaith • Bydd yr arlwy’n cynnwys dysgu wedi’i alinio wrth fframwaith prentisiaeth yn y maes gwaith y mae’r dysgwyr wedi’i ddewis • Bydd disgwyl i ddarparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith ganfod cyflogwyr sy’n recriwtio. Caiff y rheiny eu hannog i gynnig gwaith pan fydd y dysgwr wedi cwblhau cyfnod byr (hyd at 10 wythnos) o hyfforddiant pwrpasol Ymgysylltu â Dysgwyr trwy Ddysgu Seiliedig ar Waith www.ntfw.org
Crynodeb Symud ymlaen Llwybr mynediad Ymgysylltu Dysgu pellach ar lefelau 1-3 mewn 6ed dosbarth neu Sefydliad Addysg Bellach ac ati; Prentisiaeth; Cyflogaeth neu brentisiaeth Yn uniongyrchol trwy atgyfeiriad gan y gwasanaeth gyrfaoedd Lefel 1 Lefel 2 Cyflogaeth neu brentisiaeth Ymgysylltu â Dysgwyr trwy Ddysgu Seiliedig ar Waith www.ntfw.org
Ffeithiau i ddysgwyr • Mynediad i’r rhaglen trwy atgyfeiriad gan Gyrfa Cymru • Mae Dysgwyr ar yr haen Ymgysylltu’n cael ‘Lwfans Cynhaliaeth Hyfforddiant’ heb brawf modd sy’n cyfateb i Lwfans Cynhaliaeth Addysg o £30 yr wythnos, gyda phrawf modd, pe byddai’r dysgwr yn yr ysgol/coleg • Mae Dysgwyr ar Lefel 1 neu 2 yn cael lwfans hyfforddiant o £50 heb brawf modd am waith datblygu dysgwyr o 30 awr yr wythnos o leiaf. Caiff ei ostwng pro rata i rai sy’n mynychu rhan amser • Mae gan y Dysgwyr hawl i ddau ddiwrnod o wyliau ym mhob mis calendr a’r gwyliau statudol Ymgysylltu â Dysgwr trwy Ddysgu Seiliedig ar Waith www.ntfw.org
Sut y mae’r Hyfforddeiaethau yn well na Skillbuild? Mae pob haen yn yr hyfforddeiaethau wedi’i diffinio’n glir • Mae’r Haen Ymgysylltu’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â rhwystrau i gyflogaeth/ddysgu ar lefel uwch • Mae gan y Dysgwyr lwybr clir ar gyfer symud ymlaen • Ceir aliniad â dewisiadau eraill yn y llwybr 14-19 trwy oriau a lefel Lwfans Cynhaliaeth Hyfforddiant • Mae’r contract yn rhwymo’r Darparwr Dysgu i ddarparu cymorth ac arweiniad gan anogwr dysgu, yn unol â Llwybrau Dysgu 14-19 i bob rhaglen ieuenctid Ymgysylltu â’r Dysgwr trwy Ddysgu Seiliedig ar Waith www.ntfw.org
Camau i Gyflogaeth 18+ • Yn achos oedolion 18+ sydd heb fod mewn cyflogaeth ac sydd â chadarnhad eu bod yn gymwys ar gyfer Canolfan Byd Gwaith, ceir dau ddewis pendant:- • Hyfforddiant sy’n Canolbwyntio ar Waith mewn nifer o amgylcheddau dysgu: • hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar alwedigaeth ar lefelau 1, 2 a 3; • mynd i’r afael â rhwystrau rhag dysgu; • ennill y sgiliau eang sy’n angenrheidiol i gael gwaith, dysgu pellach neu symud ymlaen at Llwybrau i Gyflogaeth • Llwybrau i Gyflogaeth • Mae’n cysylltu dysgwyr â chyflogwyr neu’n hyfforddi dysgwyr i gwrdd ag angen penodol yn y farchnad lafur leol • Gall dysgwyr gymryd rhan mewn dysgu pwrpasol am hyd at 8 wythnos Learner Engagement through Work Based Learning www.ntfw.org
Newidiadau Allweddol Eraill • Ymestyn y ‘Gwarant i Bobl Ifanc’ i olygu lleoli unrhyw berson ifanc cymwys mewn unrhyw ddewisiadau dysgu ôl-16 yn hytrach na dim ond dysgu seiliedig ar waith fel ar hyn o bryd. • Dim mynediad uniongyrchol i L2 mewn rhaglen ieuenctid • Fel a welwyd gyda Skillbuild o’r blaen a rhaglenni eraill dysgu seiliedig ar waith, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn pennu targedau perfformiad ar gyfer y contract, gyda symud ymlaen i swydd neu ddysgu pellach yn ganlyniad allweddol. Ymgysylltu â Dysgwr trwy Ddysgu Seiliedig ar Waith www.ntfw.org
Materion allweddol ar gyfer darparwyr a rhwydweithiau dysgu • Mae’r haen fynediad ‘Ymgysylltu’ yn yr Hyfforddeiaethau yn rhan o ddewisiadau’r Llwybrau 14-19 fel rhan o’r ddewislen 16-19. Mae’n ceisio ymgysylltu â dysgwyr na fyddai mewn addysg, gwaith na hyfforddiant fel arall • Sut y gellir gwella’r cyfathrebu rhwng ysgolion, rhwydweithiau, gyrfaoedd a darparwyr DSW er mwyn sicrhau ymdrech i gynllunio’r rhwydwaith a symud ymlaen yn amserol at y dewis lwybr, yn cynnwys sicrhau lleoliadau a swyddi addas? • Mae rhwymedigaeth ar ddarparwyr DSW o dan y contract (fel gyda llwybrau eraill 14-19) i ddarparu cymorth anogwyr dysgu. A fydd y rhwydweithiau’n cynnig cymorth i ddarparwyr Hyfforddeiaethau i hyfforddi anogwyr dysgu? Sut y gellir cynnwys anogwyr dysgu darparwyr Hyfforddeiaethau mewn digwyddiadau dysgu a gydgysylltir gan y rhwydweithiau? Ymgysylltu â Dysgwr trwy Ddysgu Seiliedig ar Waith www.ntfw.org