260 likes | 532 Views
Symud Creadigol yn y Cyfnod Sylfaen. Dyddiad Lleoliad. Erbyn diwedd y cwrs hwn bydd gan ymarferwyr wybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o’r canlynol:. beth yw Symud Creadigol y cyfnodau graddol ar gyfer datblygu Symud Creadigol a Dawns gwaith cynllunio a chyflwyno effeithiol
E N D
SymudCreadigolyn y CyfnodSylfaen Dyddiad Lleoliad
Erbyn diwedd y cwrs hwn bydd gan ymarferwyr wybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o’r canlynol: • beth yw Symud Creadigol • y cyfnodau graddol ar gyfer datblygu Symud Creadigol a Dawns • gwaith cynllunio a chyflwyno effeithiol • gan ddefnyddio ystod o gyd-destunau a symbyliadau • er mwyn cyflwyno cyfleoedd ar gyfer Symud Creadigol mewn darpariaeth barhaus a darpariaeth â ffocws • er mwyn cyflwyno ystod o gyfleoedd symbylol ar gyfer unigolion, grwpiau bach a dosbarthiadau cyfan, dan do ac yn yr awyr agored • y CD-ROM a’r adnoddau Symud Creadigol
Erbyn diwedd y cwrs hwn bydd ymarferwyr yn gallu gwneud y canlynol: • gwella sgiliau Symud Creadigol plant • nodi sut y mae Symud Creadigol yn cyfrannu at ofynion y Cyfnod Sylfaen • dechrau nodi sut y gall y dull gweithredu hwn gyfoethogi arferion cyfredol • dechrau llunio cynllun gweithredu ar gyfer Symud Creadigol
Trosolwgo’rcwrs • Cyflwyniad • Agweddau ar Symud Creadigol • beth, ble, gyda, sut ac i beth • Llunio dawnsiau • Dysgu ac addysgu o ansawdd • Mapiau dilyniant • Cynllunio gan ddefnyddio Cardiau Thema a Mapiau Dilyniant • Defnyddio’r dull chwe cham • Gwerthuso, gosod targedau a holi • Cynllunio gweithredu • Gwybodaeth bellach • Dilyniant a pharhad • Trosolwg o’r adnodd • Sesiwn lawn
Cyflwyniad • Y Darlun Mawr • Cysylltiadau â ‘Chwarae i Ddysgu’ • Symud Creadigol yn y Cyfnod Sylfaen • Gorchmynion Symud Creadigol • Beth yw Symud Creadigol? • Gall Symud Creadigol gyflawni’r canlynol…
Y Darlun Mawr • Y Cyfnod Sylfaen: • mae’n gyfannol ei natur, ac yn seiliedig ar gyfnod datblygiad plentyn, nid ei oedran; • mae’r plant yn ganolbwynt iddo; • rhaid iddo sicrhau cydbwysedd rhwng dysgu strwythuredig drwy weithgareddau a gychwynnir gan y plant, a gweithgareddau sydd dan gyfarwyddyd yr ymarferwr; • rhaid iddo ddatblygu hunanddelwedd y plant a’u teimladau o hunan-barch, gan fod y rhain wrth wraidd y cyfnod hwn; • mae’n rhoi mwy o bwyslais ar yr amgylchedd awyr agored fel adnodd; • dylai ddarparu cwricwlwm eang, cytbwys, sydd wedi’i wahaniaethu; • rhaid i’r ‘Meysydd Dysgu’ ategu’i gilydd a gweithio gyda’i gilydd i ddarparu dull gweithredu trawsgwricwlaidd. Ni ddylid ymdrin â nhw ar eu pen eu hunain; dylid rhoi pwyslais ar ddatblygu sgiliau’r plant ar draws y ‘Meysydd Dysgu’; • rhaid iddo ddefnyddio Asesu ar gyfer Dysgu; • rhaid iddo adlewyrchu’r Fframwaith Sgiliau; • rhaid i ymarferwyr ddeall, ysbrydoli a herio potensial plant ar gyfer dysgu.
Cysylltiadau â ‘ChwaraeiDdysgu’ • Mae’r adnodd yn cynorthwyo ymarferwyr i ddarparu cyfleoedd i blant ddatblygu, defnyddio, mireinio ac addasu’r sgiliau technegol a gyflwynwyd yn ‘Chwarae i Ddysgu’; • Mae’n defnyddio lluniau i symbylu syniadau ar gyfer Symud Creadigol; • Gellir defnyddio llawer o’r Cardiau Gweithgareddau a’r Straeon yn ‘Chwarae i Ddysgu’ fel symbyliad ar gyfer Symud Creadigol; • Mae’n defnyddio terminoleg a chysyniadau cyson; • Gellir defnyddio cryno-ddisgiau sain ‘Chwarae i Ddysgu’ fel symbyliad ar gyfer Symud Creadigol neu fel cyfeiliant; • Nid yw’r adnoddau’n gynlluniau gwersi neu’n gynlluniau uned, ond gellir eu defnyddio fel man cychwyn i symbylu syniadau pellach y gellir eu datblygu’n hawdd i ddarparu profiadau dysgu wedi’u gwahaniaethu; • Mae’r ddau adnodd yn ymdrin â dilyniant yn yr un modd: ‘Wrth iddynt ddatblygu’, ‘Wrth iddynt wneud cynnydd’ ac ‘Wrth iddynt ddod yn fwy medrus’.
Symud Creadigol yn y Cyfnod Sylfaen • Ceir 7 ‘Maes Dysgu’ yn y Cyfnod Sylfaen • Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol • Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu • Datblygiad Mathemategol • Datblygu’r Gymraeg • Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd • Datblygiad Corfforol • Datblygiad Creadigol. • Mae symud creadigol yn rhan o Ddatblygiad Creadigol, ynghyd â chelf, crefft a dylunio, a cherddoriaeth.
Gorchmynion Symud Creadigol Dylai sgiliau plant ym maes symud creadigol gael eu meithrin a’u hybu wrth iddynt ddefnyddio eu synhwyrau, eu dychymyg a’u profiad. Dylai gweithgareddau symud creadigol a gynigir yn y Cyfnod Sylfaen alluogi plant i wneud cynnydd o safbwynt eu gallu i: • archwilio a mynegi ystod o hwyliau a theimladau trwy gyfrwng amrywiaeth o symudiadau; • datblygu eu hymatebion i wahanol symbyliadau megis cerddoriaeth, lluniau, geiriau a syniadau; • datblygu eu rheolaeth trwy gysylltu symudiadau er mwyn creu cyfres o wahanol lwybrau a siapiau â’u cyrff; • gweithio ar eu pen eu hunain a gydag eraill i esgus, ymateb yn fyrfyfyr a meddwl yn ddychmygus; • gweithio ar eu pen eu hunain, gyda phartner neu mewn grŵp bach i ddatblygu eu syniadau eu hunain a syniadau pobl eraill a’u helpu i fyfyrio ynghylch y syniadau hynny; • perfformio symudiadau neu batrymau, gan gynnwys rhai sy’n perthyn i ddawnsiau gwerin Cymreig a dawnsiau o ddiwylliannau eraill.
Ystod Dylid rhoi cyfleoedd i blant: • archwilio’r amgylcheddau dysgu a geir dan do ac yn yr awyr agored, ymchwilio iddynt a’u defnyddio; • cymryd rhan mewn gwahanol fathau o weithgareddau chwarae ac ystod o weithgareddau a gaiff eu cynllunio, gan gynnwys y rheiny a gychwynnir gan y plant; • cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n caniatáu iddynt weithio fel unigolion ac mewn grwpiau; • defnyddio ystod eang o adnoddau a symbyliadau; • profi traddodiadau a dathliadau o wahanol ddiwylliannau; • cael profiad o gelf, crefft, gwaith dylunio, cerddoriaeth a dawnsiau o Gymru a diwylliannau eraill.
Beth yw Symud Creadigol?Pam y dylid rhoi’r cyfle i blant ddatblygu eu sgiliau Symud Creadigol?
AgweddauarSymudCreadigol • Beth? • Ble? • Gyda? • Sut? • I beth?
Beth? Gweithrediadau Dawns Sylfaenol • Teithio • Troi • Neidio • Ystumio • Llonyddwch
Ble? • Cyfeiriad • Lefel • Llwybrau • Ymwybyddiaeth ofodol
Gyda? • Gyda phwy? • ymarferwr • partner • grŵp bach • dosbarth cyfan • Gyda beth? • propiau
Sut? • Dynameg • Egni • Llif • Maint y symudiad • Cyflymder • Ansawdd • Dyfeisiau coreograffig
I beth? • cyfeiliant • byrfyfyr
Symbyliadau • Cyffyrddol – defnyddio prop • Syniadaethol – defnyddio cysyniadau neu bynciau trafod • Cinesthetig – defnyddio patrymau symud • Clywedol – defnyddio cerddoriaeth, geiriau, cerddi • Gweledol – defnyddio lluniau, darluniau, dyluniadau, clipiau fideo • Defnyddio symbyliadau yn yr amgylchedd dysgu a’u cysylltu â’r ddarpariaeth barhaus
Cynllunio Cynorthwyo taith ddysgu plentyn Tasg â ffocws Arsylwi ac asesu Cyfoethogi’r ddarpariaeth Cynllunio Darpariaeth barhaus Rôl yr ymarferwr
Llunio dawnsiau • Datblygu syniadau Symud Creadigol dros sawl sesiwn • Dawnsiau i unigolion, parau, grwpiau bach a’r dosbarth cyfan • Strwythur dawns – dull creu stori – dechrau, canol a diwedd • Defnyddio’r dull chwe cham
Sut – dyfeisiaucoreograffig • Symudiadau unffurf – yr un gweithrediadau ar yr un pryd • Canon – yr un gweithrediadau ond gan ddechrau ar adegau gwahanol, fel tonau crynion mewn cerddoriaeth • Ailadrodd – perfformio gweithred, sawl gweithred neu gymal cyfan unwaith eto fel bod yr ail berfformiad yn union yr un fath â’r perfformiad cyntaf. O.N. Nid yw Arwain a Dilyn yn ddyfais goreograffig ynddo’i hun - mae naill ai’n Symudiad Unffurf neu’n Ganon gan ddefnyddio Trefniant Gofodol penodol, h.y. Un o flaen y llall / un y tu ôl i’r llall
Dysgu ac addysgu o ansawdd • Mapiau Dilyniant • Cynllunio • Defnyddio Mapiau Thema • Holi • Gwerthuso a gosod targedau
Cynllunio Gweithredu Nodwch: - y camau gweithredu i’w cymryd yn y tymor byr a chanolig o ganlyniad i fynychu’r cwrs Symud Creadigol; - y meini prawf ar gyfer llwyddo y byddwch yn eu defnyddio i fesur effaith y cwrs ar safonau dysgu ac addysgu; - y dystiolaeth y byddwch yn ei chasglu i gadarnhau bod yr effaith honno wedi’i chael; - sut y byddwch yn adrodd ynghylch cynnydd/arfer da, ac i bwy y byddwch yn adrodd yn ei gylch.
Gwybodaethbellach • Dilyniant a pharhad • CD-ROM ac adnoddau
Dilyniant a Pharhad • Chwarae i Ddysgu • Plymio i’r Pwll – Nofio yn y Cyfnod Sylfaen • Modiwl 1, 2, 3 Gweithgareddau Gymnasteg • Dawns CA2 • Iechyd, ffitrwydd a lles • Rôl yr arweinydd pwnc
Sesiwn lawn • Ailystyried canlyniadau’r cwrs • Ailystyried y cynllun gweithredu • Cwblhau’r gwaith gwerthuso