160 likes | 386 Views
Defnydd Tir. Mae’r tir sydd yn ein hardaloedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau. Sawl math gwahanol o ddefnydd tir y gallwch chi enwi?. Tir amaethyddol. Tir sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer cadw anifeiliaid neu ar gyfer tyfu bwyd. Tir Diwydiannol.
E N D
Defnydd Tir Mae’r tir sydd yn ein hardaloedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau. Sawl math gwahanol o ddefnydd tir y gallwch chi enwi?
Tir amaethyddol Tir sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer cadw anifeiliaid neu ar gyfer tyfu bwyd.
Tir Diwydiannol Tir sydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer safleoedd gwaith fel ffatrioedd neu swyddfeydd.
Tir Gwastraff Tir sydd wedi ei ddefnyddio yn y gorffennol ond sydd bellach wedi ei adael yn segur.
Tir hamdden a chymdeithasol Tir sy’n cael ei ddefnyddio gan bobol yn eu hamser hamdden neu ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol.
Aneddiadau Tir sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer cartrefi. Gall fod yn stadau tai neu dai unigol.
Cyfathrebu a Theithio Tir sy’n cael ei ddefnyddio fel bod unigolion yn gallu symud o un ardal i ardal arall
Adwerthu a Masnachu Tir sy’n cael ei ddefnyddio fel safleoedd gwerthu nwyddau a gwasanaeth i’r cyhoedd.
Felly ……. Amaethyddol Ffermio a thyfu bwyd Diwydiannol Ffatrioedd a man gwaith Gwastraff Tir sydd wedi ei adael yn segur Hamdden a Chymdeithasol Tir ar gyfer gweithgareddau hamdden Aneddiadau Cartrefi amrywiol Cyfathrebu Dulliau o deithio o fan i fan. Adwerthu Tir ble mae nwyddau ar gael.
Pa ddefnydd tir a welir yn y llun hwn ? Amaethyddol Diwydiannol Gwastraff Hamdden a Chymdeithasol Aneddiadau Cyfathrebu Adwerthu
Anghywir !!!! Ceisiwch eto.
Cywir Tir sydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau hamdden yw hwn. Mae cae rygbi a maes criced yma.
Beth am y tir yma? Amaethyddol Diwydiannol Gwastraff Hamdden a Chymdeithasol Aneddiadau Cyfathrebu Adwerthu
Anghywir !!!! Ceisiwch eto.
Cywir !!! Tir sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfathrebu yw hwn. Mae ffordd yn mynd drwy’r dref. Hefyd mae arosfan bws yma.
Pa ddefnydd tir sydd yna yn eich ardal chi? Beth am fynd allan i wneud ymchwiliad? Beth am wneud lluniau o’r tiroedd gwahanol neu gael llun gyda’r camera digidol? Gweithgaredd