1 / 67

Uned TGCh 1 Y Defnydd o TGCh

Uned TGCh 1 Y Defnydd o TGCh.

star
Download Presentation

Uned TGCh 1 Y Defnydd o TGCh

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Uned TGCh 1 Y Defnydd o TGCh

  2. Dysgu drwy gymorth cyfrifiadur (CAL)TiwtorialauDisgyblion ag anghenion arbennigRhaglenni sillafu ag elfen ryngweithiol sy’n profi disgyblion gyda gemau, cwisiau a phrofion. Mae system sgorio yn galluogi myfyrwyr i asesu eu cynnydd. Yn aml bydd yr ateb neu gliwiau yn cael eu rhoi ar ôl 3 chynnig. Defnyddir lluniau a sain i ehangu’r profiad.Rhaglenni adolygu TGAU TG mewn Addysg

  3. Hyfforddiant wedi ei seilio ar gyfrifiaduron DYSGU O BELL Ni fydd myfyrwyr wastad yn yr un lle â’r athro.. Cwrs dysgu o bellter lle mae’r tiwtor yng Ngogledd Cymru. Mae’r myfyrwyr yn cael llyfrynnau’r cwrs a gwaith ymarferol. Defnyddir fideogynadledda i drafod problemau sy’n codi. Mae’r gwaith yn cael ei farcio’n electronig. Cyrsiau ar-lein e.e. y Brifysgol Agored Gall y rhain gael eu seilio ar fewnrwydi prifysgolion neu ar y we. Mae rhai modiwlau prifysgol yn hollol gyfrifiadurol, gydag adrannau gwybodaeth a thasgau. Mae’r meddalwedd yn cofnodi faint o’r cwrs yr ydych wedi ei gwblhau; os nad ydych yn cwblhau’r cwrs byddwch ym methu’r modiwl. Mae Gwefannau e-ddysgu ar gael erbyn hyn. Gall danysgrifwyr wneud lefel-A ar-lein sydd wedi ei gymeradwyo gan gyrff arholi megis OCR. Rhoddir credydau e-ddysgu i ysgolion yn Lloegr; defnyddir y rhain i brynu cyrsiau ar-lein. Siopau siarad i drafod cyrsiau a phroblemau gyda’r tiwtor.

  4. Manteision defnyddio TG ar gyfer DYSGU AC ADDYSGU • Mae mwy o ryngweithio yn cadw sylw disgyblion. • Adborth cyflymach ar brofion ar-lein • Yn cynnig amrywiaeth o ffyrdd gwahanol i ddysgu ac amrediad o ffynonellau gwybodaeth. • Yn galluogi’r defnyddiwr i ddysgu ar ei g/chyflymder ei hun pan mae’n gyfleus iddo/iddi. • Yn galluogi defnyddiwr i ‘adolygu’ gwaith cynharach eto, rhag ofn eu bod heb ddeall, h.y. ailadrodd adrannau y cawsant drafferth â hwy yn flaenorol. • Mae hyfforddiant wedi ei seilio ar gyfrifiadur yn lleihau costau’r cyflogwyr yn sylweddol; gall hefyd fod yn fwy diogel os oes perygl. Manteision defnyddio TG ar gyfer GWEINYDDU • Mynediad cyflymach at ddata - chwiliadau cyflymach e.e. chwilio am yr holl fyfyrwyr mewn blwyddyn arbennig, a didolidadu cyflymach e.e. rhestru myfyrwyr yn ôl eu cyfenwau yn nhrefn yr wyddor. • Amrywiaeth o fformatau allbwn e.e. adroddiadau printiedig, dogfennau wedi eu postgyfuno, a.y.y.b. • Mae trosglwyddo data yn gyflymach ac yn symlach, e.e. cofnodion arholiad • Yn arbed amser wrth atgynhyrchu llythyrau safonol e.e. llythyrau i rieni am nosweithiau rhieni, diwrnodau mabolgampau a.y.y.b. Dim ond man-newidiadau fydd angen ar y rhain bob blwyddyn. • Mwy o ddiogelwch • Yn arbed ar le i storio’r wybodaeth mewn storfa/swyddfa.

  5. Problemau wrth ddefnyddio TG mewn addysg Mae TG yn gostus ac mae angen buddsoddiad ariannol mawr; rhaid cynnal a diweddaru hyn yn gyson. Gall gytundebau cynnal a chadw gostio hyd at filoedd o bunnoedd, sy’n tynnu arian i ffwrdd o adnoddau dysgu traddodiadol megis llyfrau. Darpariaeth anheg o adnoddau TG, a, felly, anwastadrwydd mewn cyfleoedd dysgu. Bydd gan ysgolion cyfoethocach gwell adnoddau. Yn cwtogi ar sgiliau cymdeithasol Mae rhai addysgwyr yn dadlau nad oes gan ddisgyblion iau yr un cyfle ar gyfer dysgu mewn grwpiau. Mae Tecstio yn cael ei y bai am ostyngiad mewn sgiliau sillafu oherwydd y defnydd cynyddol o fyrfoddau. Diffyg cymorth personol. Nid yw dysgu o bellter yn cynnig y cymorth personol sydd ei angen ar y rhan fwyaf o fyfyrwyr pryd a ble y mae ei angen arnynt; mae hyn yn hollbwysig os yw’r myfyriwr yn isel ei hyder neu yn methu deall y cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Gorddibyniaeth e.e. os oes methiant ar y pwer nid oes modd ei ddefnyddio.

  6. Nodwedd Diffiniad Mantais Lliniogi neu rendro Gellir arddangos gorffeniadau neu ddefnyddiau gwahanol Gellir gwneud ymchwiliadau ‘beth os’ i ganfod y gorffeniad gorau Chwyddo Chwyddo darnau o ddarlun i’w wneud yn fwy Cynhyrchu gwaith manylach neu ychwanegu dyluniad manwl Cylchdroi Cylchdroi mewn 3D ar draws echelinau X,Y a Z Gweld dyluniad o bob ongl allanol Archwiliad rhaglen Ymweld ag ystafelloedd a.y.y.b. mewn 2D Yn rhoi ymwybyddiaeth ofodol o berthynas ymddangosiad dyluniad â nodweddion eraill Costiadau Cynhyrchu amcangyfrif o gost y defnyddiau adeiladu Rhoddir amcangyfrifiadau awtomatig; gall ddylunydd archwilio opsiynau gwahanol neu weithio o fewn cyllid. Diriant a straen Gweithio allan y pwysau gall ddeundyddiau ymdopi â hwy Yn osgoi trychinebau yn hwyrach wrth adeiladu; dylai’r dylunydd adeiladu o fewn y gofyniadau diogelwch Lluniadau gwifren Gweld y dyluniad heb orffeniadau na ffurf solet Yn helpu gyda phersbectif a chanfod adrannau dan ddiriant a straen CAD Cynllunio Drwy Gymorth Cyfrifiadur

  7. C.A.M. Gweithgynhyrchu drwy gymorth cyfrfiadur • Dylunio gyda CAD • Cynhyrchu gyda CAM e.e. turniau mewn D&T

  8. TG mewn Ysbytai Manteision • Chwiliadau cyflymach • Llythyrau atgoffa ar gyfer apwyntiadau • Cadw ffeiliau yn gyfredol Cronfa ddata o gofnodion cleifion

  9. Rheolaeth gyfrifiadurol mewn ysbytai Synwyryddion • Tymheredd • Cyfradd curiad y galon/pyls • Pwysedd gwaed • Nwyon yr anadl • Patrymau tonnau yr ymennydd • Electrocardiograffau (ECG)

  10. Rheolaeth gyfrifiadurol mewn ysbytai Manteision • Monitro 24 awr • Larymau neu ymateb sydyn os oes problem yn codi • Dadansoddi tueddiadau ar gyfer gwaith ymchwil • Anfanteision • Gor-ddibyniaeth • Costus i’w prynu • Angen staff arbenigol i gynnal y cyfarpar

  11. Sganwyr • Delwedd cyseiniant magnetig (MRI) • Tynnu delweddau tryloyw trwy’r corff • Tomograffeg Echelinol Gyfrifiadurol (CAT) • Manteision • Galluogi meddygon i weld y tu mewn i’r corff heb lawdriniaeth • Llai o debygolrwydd o heintiadau ar ôl llawdriniaeth • Diagnosis manylach • Anfanteision • Costus iawn • Bydd gor-ddibyniaeth yn arwain at golli sgiliau diagnostig traddodiadol

  12. Cynnal bywyd Angen unedau gofal dwys • Cyflenwad pŵer wrth gefn • Cyfrifiadur wrth gefn

  13. Datblygiadau newydd • Bar-godio gwaed a systemau llwybro • Egadw cofnodion cleifion yn electronig • Dosbarthu cronfeydd data meddygol • Defnyddio’r we, e-bost a fideo ar gyfer diagnosis meddygol • Cofnodolion meddygol ar-lein

  14. Systemau arbenigo • System gyfrifiadurol sydd yn efelychu gallu arbenigydd dynol i wneud penderfyniadau yw system arbenigo. • Mae system wedi ei seilio ar wybodaeth yn ceisio cymryd lle ‘arbenigydd’ dynol mewn maes arbennig. • Mae’n rhoi diagnosis ar broblemau ac yn cynnig cyngor ar yr hyn gallai fod wedi achosi’r problemau hynny. Gall hefyd roi cymorth ar ddatrysiadau.

  15. Diagnosis meddygol Nid yw cyfrifiadur cyn cymryd lle meddyg; ond mae’n cael ei ddefnyddio i helpu’r meddyg i wneud penderfyniadau. Byddai gan system arbenigo wybodaeth am afiechydon a’u symptomau, y cyffuriau a ddefnyddir i’w trin a.y.y.b. Bydd meddyg yn holi claf am symptomau; bydd yr atebion yn cael ei bwydo i’r system arbenigo. Mae’r cyfrifiadur yn chwilio’r gronfa ddata, yn defnyddio ei reolau ac yn gwneud awgrymiadau am yr afiechyd a’r ffyrdd o’i drin. Ambell waith bydd tebygolrwyddau yn cael eu rhoi i ddiagnosis.

  16. Manteision. • Gall gyfrifiadur storio llawer mwy o wybodaeth na pherson. Gall ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau megis gwybodaeth o lyfrau ac astudiaethau achos i helpu gyda’r diagnosis a’r cyngor. • Nid yw cyfrifiadur yn ‘anghofio’ nac yn gwneud camgymeriadau. • Gellir cadw data yn gyfoes. • Gellir defnyddio system arbenigo 24 awr y dydd; ni fydd byth yn ‘ymddeol’. • Gellir defnyddio’r system o bellter ar draws rhwydwaith. Gall ardaloedd gwledig neu hyd yn oed gwledydd yn y trydydd byd gael at arbenigwyr. • Ceir rhagdybiadau manwl gyda thebygolrwyddau pob problem posib gyda chyngor mwy cywir a manwl. • Mae’n well gan rai pobl breifatrwydd sgwrsio gyda chyfrifiadur. Cyfyngiadau/ anfanteision systemau arbenigo • Gorddibyniaeth ar gyfrifiaduron • Gallai rhai ‘arbenigwyr’ goll eu swyddi; ni fydd eraill yn derbyn hyfforddiant os oes yna gyfrifiaduron ar gael i wneud yr un swydd. • Nid oes ‘cyffyrddiad dynol’ - diffyg cyswllt dynol. • Yn ddibynol ar gael y wybodaeth gywir. Os yw’r data neu’r rheolau yn anghywir, bydd y cyngor anghywir yn cael ei roi. • Nid oes gan systemau arbenigo ‘synnwyr cyffredin’. Nid oes ganddynt ddealltwriaeth o’u sywddogaeth na’u cyfyngiadau a’u defnyddioldeb, na sut mae eu hargymhellion yn perthyn i gyd-destyn ehangach. Pe byddai MYCIN yn ymayeb i glaf sy’n gwaedu i farwolaeth ar ôl cael ei saethu, byddai’r rhaglen yn rhoi diagnosis o achos bacteriol i symptomau’r claf. • Gall systemau arbenigo wneud gwallau abswrd, megis darnodi dogn sydd yn amlwg yn anghywir i glaf am fod y clerc wedi mewnosod oed a phwysau’r claf yn y mannau lle y dylai’r llall fod.

  17. Cyfrifiaduron ar gyfer adloniant yn y cartref • Teledu rhyngweithiol • Gemau cyfrifiadurol • Ffotograffiaeth ddigidol • Lawrlwytho cerddoriaeth a chreu ffeiliau sain

  18. PC â gemau Defnyddio PC Gallwch brynu gêm ar ddisg. • Mae yna nifer o wefannau gemau; mae rhai am ddim ond mae rhaid talu tanysgrifiad i eraill. • Mae cyflymder y prosesydd yn bwysig iawn. Mae nifer o ddefnyddwyr PC yn prynu • Prosesyddion cyflym • Cardiau graffeg • Cardiau sain a seinyddion • Ffyn rheoli, bysellfyrddau gemau, olwynion gyrru/llywiau a.y.y.b. Defnyddio teledu digidol rhyngweithiol • Mae gan Sky sianelau gemau

  19. Problemau • Ymddygiad gwrth-gymdeithasol (diffyg cymdeithasu ag eraill). • Diffyg ffitrwydd drwy eistedd am oriau ar y tro. • Mae chwarae gemau ar sianeli Sky yn costio 75 ceiniog am bob munud ar y ffôn.

  20. Teledu rhyngweithiol • Talu i wylio ffilmiau/chwaraeon • Siopa • Betio • Chwilio am bartner • Archebu gwyliau/sinema • E-bost

  21. Systemau archebu ar-lein Archebu tocynau i’r sinema, theatr, gwyliau a.y.y.b. • Gellir archebu tocynau theatr, sinema, cyngherddau, gwyliau a hediadau ar deledu rhyngweithio a’r we. Gall y defnyddiwr cartref ddefnyddio cronfeydd data ar-lein pell ar gyfer eu system holi ac archebu. • Gall bobl chwilio am wyliau a.y.y.b. sy’n ateb eu gofynion a gwneud archebion amodol neu derfynol. Manteision i’r archebwr ar-lein • Gwasanaethau ar gael 24 awr y dydd • Gellir archebu o adref • Gellir cynnig dewisiadau eraill os nad yw’r dewis cyntaf ar gael. • Data ar gael ar gyfer amrywiaeth eang o wyliau, gan gynnwys cynigion arbennig. • Mae archebiadau yn ebrwydd felly nid oes peryg archebu gormod, oherwydd unwaith bydd sedd neu wyliau wedi archebu bydd y manylion hyn yn ymddangos yn y gronfa ddata.

  22. Tele-siopa / E-fasnach Mae hyn yn golygu gwerthu nwyddau a gwasanaethau dros y we neu drwy deledu rhyngweithiol. Ar y we • Mae busnesau yn creu gwefannau ar y we er mwyn... • ...hysbysebu. Gall bobl weld beth maent yn ei wneud a beth maent yn ei werthu. • ...y gall bobl e-bostio ymholiadau, gofyniadau, ac archebiadau atynt. • ...iddynt gyrraedd cynulleidfa ryngwladol. Trwy deledu rhyngweithiol • Mae yna sianeli siopa arbenigol Manteision • Gellir prynu 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn • Ni oes angen trafod arian parod; gwneir pob trafod gyda chardiau • Mae angen llai o staff

  23. Ffonau symudol I nifer o bobl mae ffonau symudol yn gyfrwng adloniant yn ogystal â chyfrwng cyfathrebu • Manteision ffonau symudol • Gellir eu defnyddio pa le bynnag mae yna signal • Tecstio • Negeseuon llais • Cloc larwm/amser • Negeseuon atgoffa/ rhestri cyfeirio • Newid tôn y caniad • Recordio neges gyfarch • Dangos lluniau/lluniau ar sgrin • Radio • Gall rhai dderbyn y we Anfanteision defnyddio ffonau symudol • Dim gwasanaeth • Dim batri/diffyg credyd • Dirwyo os y’u defnyddir wrth yrru • Biliau costus • Peryg mygio

  24. Bancio ar-lein EFTPOS • Gall fanciau symud arian rhwng un cyfrif ac un arall yn electronig ar draws rhwydweithiau cyfrifiadurol. Gelwir hyn yn Drosglwyddo Cyfalaf yn Electronig, neu Electronic Funds Transfer (EFT). Bancio ar-lein neu o gartref • Gellir cael mynediad at gyfrif banc o gartreftrwy gyfrwng y we.

  25. Manteision bancio ar-lein o gartref • Gellir prynu 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. • Nid oes rhaid i gwsmeriaid adael y tŷ er mwyn talu biliau a.y.y.b. gan arbed ar gostiau teithio neu bostio. • Nid oes angen trafod arian parod; defnyddir cardiau - llai o beryg mygio. • Mae’r trafodion yn awtomatig; mae hyn yn arbed costau staff. • Gall gwsmer argraffu derbynneb oddi ar y sgrin • Gellir olrhain y broses gludo ar-lein. • Yn aml ceir disgowntiau oherwydd costau adwerthol is.

  26. Problemau • Hacio manylion cardiau credyd/debyd - pobl allai gamddefnyddio’r data. • Gorfod talu costiau ffôn tra’n defnyddio’r we. Diogelwch • Atal defnydd heb ganiatâd trwy GYFRINEIRIAU neu RIFAU PIN • Crëir awdurdodiad a chod awdurdodiad os oes digon o arian yng nghyfrif y siopwr i dalu am y nwyddau. Crëir cofnod i setlo rhwng banciau’r siopwr a’r gwerthwr 2 neu 3 diwrnod yn ddiweddarach. Fel arall, efallai gwrthodir yr awdurdodiad oherwydd diffyg arian yn y cyfrif; bydd hyn yn arwain at broblemau peidio talu biliau ar amser. • Peryg twyll cyfrifiadurol e.e. gwefannau ‘ysbrydol’ (ghost sites)

  27. Troseddau cardiau ac ataliad • Dwyn cardiau o ATMs/ Dwyn cardiau debyd/credyd • Peidiwch ag ysgrifennu rhifau PIN • Peidiwch a gadael i neb eich gweld yn teipio eich rhif PIN. • Lluniau ar gardiau • Lleihewch y swm y gellir ei wario cyn ceisio awdurdodiad • Rhoddir manylion cardiau coll ar derfynellau POS • ‘Chip and PIN’ Twyll cardiau credyd ar y we a’u camddefnydd • Defnyddiwch hai geiriau cytûn ar rai gwefannau • Defnyddiwch wasanaeth diogel/ESCROW Copïo cardiau • Cardiau ‘smart’ rhaglenadwy sy’n gwneud data yn anoddach i’w gopïo • Defnyddio hologramau i wneud cardiau’n anoddach i’w copïo • Rhowch god diogelwch 3 digid ar gefn cardiau

  28. Ffotograffiaeth ddigidol • Camerâu digidol • Cof fflach • Argraffyddion lluniau un pwrpas Manteision • Prosesu sydyn • Effeithiau arbennig • Argraffu dim ond yr syn sydd ei angen/ albymau electronig Anfanteision • Cost papur ffotograffiaeth ac inc

  29. Cerddoriaeth a sain Lawr lwytho cerddoriaeth o’r we - Mae yna nifer o wefannau y gellir gwrando ar y gerddoriaeth ddiweddaraf, neu gerddoriaeth hen, arnynt wrth ‘brofi cyn prynu’. Problemau Mae deddfau hawlfraint yn gwahardd copïo cerddoriaeth yn angyfreithlon, gan gynnwys lawr lwytho o wefannau angyfreithlon. Creu cerddoriaeth eich hungan ddefnyddio offerynnau megis allweddellau electronig â ryngwynebau Midi • Mae Technoleg Sain Ddigidol yn eich galluogi i greu, golygu a chlywed eich cerddoriaeth eich hun. Rhaid bod gan y PC gerdyn sain o safon • Gall fewnbynnau ddod o feicroffonau, allweddellau electronig, drymiau a.y.y.b. ag iddynt rhyngwynebau Midi. • Mae MIDI (Musical Instrument Digital Interface) yw fformat safonol y diwydiant wedi ei gymhwyso i offerynnau. Mae’n fformat cryno iawn: mae munud o gerddoriaeth midi wedi’i syntheseiddio yn defnyddio 30kb o le ar ddisg o’i gymharu â 600kb o recordiad sain safon isel.

  30. Meddalwedd cerddoriaeth Mae yna dri gwahanol math o feddalwedd cerddoriaeth Dilynianwyr Stiwdio recordio amldrac yw hwn; mae’n adeiladu ffeiliau cymhleth wrth eu haenu gyda ffeiliau symlach. Mae gan ‘Magix Music Maker’ dros 1000 ffeil cerddoriaeth sampl a synau gall berson angherddorol eu defnyddio. Nodianyddion (Notators) Meddalwedd cyfansoddi cerddorol yw hon. Mae cerddorion yn cyfansoddi cerddoriaeth yn y ffordd draddodiadol ac mae’r cyfrifiadur yn ei chwarae. Yna gellir ei olygu, newid y tempo, ychwanegu geiriau neu ddethol rhannau offerynau unigol a.y.y.b. Golygyddion Seindonnau Mae’r trydydd math o feddalwedd yn eich galluogi i olygu seindonnau. H.Y. mae’n galluogi golygu patrwm seindonnau digidedig. Fe’i defnyddir yn aml i gael gwared ar ‘sŵn’. Gellir ei ddefnyddio hefyd i newid y geiriau mae pobl wedi eu recordio. Mae meddalwedd fel hyn wedi arwain at anghredu tystiolaeth recordwyr mewn rhai achosion llys.

  31. TG a siopa Mewn archfarchnadoedd Dyfeisiau mewnbwn POS A DDELIR YN Y LLAW Sganwyr cod bar Cyfrifiaduron ymyl y silff (SEC) Sganwyr cardiau, Cloriannau Bysellfryddau Dyfeisiadau allbwn Argraffyddion LCD Seinyddion Dyfeisiadau storio Storio ffeiliau’r gangen a’r pencadlys

  32. Lan a Wan • Mae’r archfarchnad yn defnyddio sawl cyfrifiadur; fe’u lleolir yn swyddfa’r system ac maent yn ffurfio LAN (Local Area Network) yr archfarchnad. Defnyddir y cyfrifiaduron hyn i reoli stoc; maent wedi eu cysylltu â’r terfynellau. Rhain yw ‘cyfrifiaduron y gangen’. Mae’r cyfrifiaduron yn amlbwrpas; gall bob un gael at ddata, sy’n galluogi rheolwyr i gael at wybodaeth o sawl man gwahanol. • Mae cyfrifiaduron y gangen wedi eu cysylltu â WAN (Wide Area Network) wrth eu cysylltu â phrif gyfrifiadur y Pencadlys, sydd wedi ei gysylltu yn ei dro â chyfrifiaduron y canolfannau dosbarthu.

  33. Dyfeisiadau mewnbwn Ymhob desg dalu mae yna dil PWYNT TALU ELECTRONIG /ELECTRONIC POINT OF SALE ( EPOS ). Mae gan y til EPOS: fysellfwrdd, sganiwr cod bar cloriannau, darllennydd cerdyn credyd/debyd argraffydd, dangosydd digidol Cyfrifiaduron ymyl y silff /SEC (Shelf Edge Computers). Defnyddir rhain am newidiadau pris, creu darlun o’r stoc (gwybodaeth ar gyfansymau stoc) ac er mwyn rhagweld nwyddau yn cyrraedd yr archfarchnad.

  34. Codau bar Rhif Erthygl Ewropeaidd /European Article Number (EAN). Mae hyn yn rif 13-digid a ddefnyddir i adnabod cynnyrch unigryw. Rhaid bod gan pob nwydd sydd i’w werthu rif cod sy’n wahanol i bob nwydd arall. Mae angen rhif gwahanol ar bob nwydd o whanol faint. a) Mae’r 2 digid cyntaf yn cynrychioli gwlad y cwmni’r cynhyrchu. 50 ydi y D.U. b) Mae’r pum digid nesaf yn cynrychioli’r cwmni sy’n cynhyrchu’r nwydd. 00208 - Lyons Tetley Cyf. c) Mae’r pum digid nesaf yn cynrychioli’r nwydd ei hun 02100 - 80 Cwdyn tê. d) Digid wirio yw’r digid olaf. Fe’i defnyddir i sicrhau bod y cod wedi ei ddarllen yn gywir. Felly 5000208021000 yw rhif EAN bocs o 80 cwdyn tê Tetley.

  35. Darllenyddion cardiau • Nid yw pob cwsmer yn talu gydag arian parod. Mae nifer yn dewis defnyddio cerdyn debyd megis Switch neu Delta. Yn yr achosion hyn mae cerdyn y cwsmer yn cael ei roi trwy’r darllennydd cardiau; mae hwn yn darllen y wybodaeth (megis rhif y cyfrif a’r dyddiad dibennu) ar y stribed magnetig ar gefn y cerdyn. Y datblygiad diweddaraf yw darllenyddion cardiau smart wrth yr EPOS. Rhoddir cerdyn debyd ag iddo sglodyn smart (smart chip) yn y darllennydd ac, yna, mae’r cwsmer yn rhoi ei r/rhif PIN i awdurdodi tynnu arian o’i g/chyfrif. Mae hyn lawer mwy diogel nag arwyddo tocyn cynnwys oherwydd ni ellir ei ffugio.

  36. Pris a disgrifiad y nwyddau Cyfrifiadur y gangen Data cod bar Canfod y pris Mae cyfrifiadur y gangen yn chwilio yn ei ffeil stoc am y rhif sy’n cydfynd â’r rhif EAN. Pan leolir y cofnod hwn, mae’r pris a disgrifiad o’r cynnyrch yn cael ei dynnu a’i ddanfon yn ôl i’r til EPOS wrth y ddesg dalu; bydd hwn yna yn dangos yr eitem a’r pris ar y dangosydd digidol, yn ei argraffu ar ddefbyneb, ac ychwanegu’r pris i’r cyfanswm. Ar yr un pryd, mae’r cyfrifiadur yn cofnodi bod un eitem wedi ei werthu. Mae’r cloriannau wrth y til EPOS wedi eu cysylltu â chyfrifiadur y gangen. Yn ogystal â rhoi’r disgrifiad a’r pris, mae pris y cynnyrch hefyd yn cael ei dynnu o’r ffeil stoc.

More Related