50 likes | 342 Views
AI GWIR Y GAIR FOD ELW I MI Yn aberth Crist a'i werthfawr loes? A gollodd ef ei waed yn lli Dros un a'i gyrrodd Ef i'w groes? Ei gariad tra rhyfeddol yw, Fy Nuw yn marw i mi gael byw. Mor rhyfedd fu rhoi Duw mewn bedd, Pwy all amgyffred byth ei ffyrdd? Y pennaf seraff dawn ni fedd
E N D
AI GWIR Y GAIR FOD ELW I MI Yn aberth Crist a'i werthfawr loes? A gollodd ef ei waed yn lli Dros un a'i gyrrodd Ef i'w groes? Ei gariad tra rhyfeddol yw, Fy Nuw yn marw i mi gael byw.
Mor rhyfedd fu rhoi Duw mewn bedd, Pwy all amgyffred byth ei ffyrdd? Y pennaf seraff dawn ni fedd I blymio'n ddwfn feddyliau fyrdd. Trugaredd oll! Addoled byd, Ac aed angylion nef yn fud.
Gadawodd orsedd nefoedd fry, Gan ymwacáu drwy fwriad hael O bopeth ond ei gariad cu, A gwaedodd dros bechadur gwael. Trugaredd oll, diderfyn, rhad, A ddaeth o hyd i mi, O Dad.
Bu f'ysbryd caeth dan orthrwm hir Gan bechod cryf yn nos y byd; O'th lygad daeth fflam fywiol glir - Deffrois a'm cell yn olau'i gyd; Hualau'n rhydd, a chalon lân Mi godais, do, a'th ddilyn 'mlaen.
Dim damnedigaeth ofnaf 'nawr; Cans Crist yw f'oll yn oll byth mwy: Yng Nghrist rwy'n byw, Fy Mrenin mawr, Yng nghwisg cyfiawnder dwyfol glwy. I'r orsedd af a hawlio'n hy, Trwy haeddiant Crist, y goron fry. Charles Wesley cyf. E.H.Griffiths