160 likes | 430 Views
Iesu a Sacheus. Luc 19:1-10. Roedd y bobl wedi clywed bod Iesu ar ei ffordd. Roedd pawb eisiau gweld Iesu. Doedd neb yn hoffi Sacheus. . Roedd e yn casglu arian ac weithiau yn cymryd gormod o arian oddi wrth y bobl. Doedd neb yn hoffi Sacheus!.
E N D
Iesu aSacheus Luc 19:1-10
Roedd y bobl wedi clywed bod Iesu ar ei ffordd. Roedd pawb eisiau gweld Iesu.
Doedd neb yn hoffi Sacheus. Roedd e yn casglu arian ac weithiau yn cymryd gormod o arian oddi wrth y bobl.
Roedd arno eisiau gweld Iesu..... ond roedd yn ddyn byr ac yn methu ei weld am fod gormod o dyrfa o'i gwmpas. Doedd neb am adael iddo fynd heibio.
Roedd pawb wedi cynhyrfu! ‘ Mae Iesu ar ei ffordd’. Roedd pawb eisiau gweld Iesu.
Rhedodd Sacheus ymlaen a dringo coeden oedd i lawr y ffordd lle roedd Iesu'n mynd, er mwyn gallu gweld.
Cafodd bawb sioc! Bu bron i Sacheus syrthio o’r goeden. Roedd Iesu’n siarad ag ef fel ffrind.
“Mae'n rhaid i mi ddod i dy dŷ di heddiw,“ meddai Iesu. Rhoddodd Sacheus groeso brwd i Iesu yn ei dŷ.
Doedd y bobl welodd hyn ddim yn hapus o gwbl! Roedden nhw'n cwyno a mwmblan...... “Mae wedi mynd i aros i dŷ 'pechadur' - dyn ofnadwy!”
“.....dw i'n mynd i roi hanner popeth sydd gen i i'r tlodion. Ac os ydw i wedi twyllo pobl a chymryd mwy o drethi nag y dylwn i, tala i bedair gwaith cymaint yn ôl iddyn nhw."
Mae pob un ohonon ni yn gallu troi at Iesu Grist a chael ffrind am byth. GJenkins