E N D
Iesu'n cyrraedd Jerwsalem • Aeth Iesu i mewn i Jerwsalem ar gefn asyn i ddangos mai un o'r gwerin bobl ydoedd, nid brenin ar geffyl ond dyn cyffredin ar asyn. Anfonwyd ei ddisgyblion i ddod o hyd i'r asyn drosto a daethant o hyd iddo yn yr union fan lle dywedodd y byddai i'w gael.
Sul y Blodau • Wrth i Iesu farchogaeth heibio i'r bobl yn y dorf, chwifion nhw ganghennau palmwydd tuag ato a'u gosod o flaen ei draed. Mae hyn yn esbonio enw'r Saeson am y diwrnod hwn, sef “Palm Sunday” (Sul y Blodau yn Gymraeg).
Ogof Lladron • Aeth Iesu i mewn i'r deml a gwelodd bobl yn gwerthu nwyddau'n dwyllodrus. • Bwriodd y byrddau drosodd gan weiddi, “Tŷ Duw yw hwn ond rydych wedi'i droi'n ogof lladron.”
Geiriau Iesu • Eisteddodd Iesu gyda'i ddisgyblion mewn ystafell ar y llawr uchaf lle dathlodd ei bryd o fwyd olaf gyda nhw. • Dywedodd fod y bara'n cynrychioli “ei gorff” a'r gwin “ei waed”. • Dywedodd hefyd wrth y lleill y byddai un ohonynt yn ei wadu deirgwaith ac y byddai un ohonynt yn ei fradychu â chusan.
Gardd Gethsemane • Aeth Iesu i weddïo yng Ngardd Gethsemane. • Gofynnodd, “Pam rydych yn gwneud hyn i mi?” • Yna cusanodd Jwdas Iesu ac fe'i harestiwyd gan warchodlu Rhufeinig.
Ar Brawf • Daethpwyd ag Iesu gerbron Pontiws Pilat a ddywedodd ei fod wedi golchi'i ddwylo o'r mater ac yn gadael i'r bobl benderfynu pwy ddylai farw. Pleidleisiodd y dorf i adael i Barabbas - lleidr - fynd yn rhydd a chondemniodd Iesu i farwolaeth.
Iesu'n cario'r groes Gorfodwyd Iesu i gario ei groes ei hun i Galfaria. Cerddodd ar hyd y Via Dolorosa lle'r oedd angen iddo aros am seibiant sawl gwaith. Cynigiodd rhai pobl eu helpu ond fe'u hataliwyd gan y milwyr Rhufeinig. Roeddent am weld Iesu'n dioddef am ei fod wedi honni mai Brenin yr Iddewon ydoedd.
Ar y Groes • Hoeliwyd Iesu i groes trwy ei arddyrnau a'i draed. • Gwisgodd goron o ddrain ar ei ben a barodd iddo waedu. Ymgasglodd pobl o'i gwmpas. • Fe'i groeshoeliwyd gyda dau leidr.
Mae'r Diwedd yn Nesáu • Aeth milwr Rhufeinig at Iesu a'i drywanu yn ei ystlys, a phan ofynnodd Iesu am ddŵr rhoddwyd sbwng iddo wedi'i drochi mewn finegr. • Gwaethygodd hyn ei sychder ac roedd yn beth creulon i'w wneud.
Dydd Gwener y Groglith • Yn sydyn trodd yr awyr yn ddu ac roedd pawb yn gwybod bod Iesu wedi marw. • Trodd milwr Rhufeinig at ei ffrind gan ddweud, “Hwnnw oedd Mab Duw.” Erbyn hynny roedd yn credu. • Tynnwyd Iesu oddi ar y groes a'i gymryd i feddrod dyn cyfoethog a gredai fod Iesu'n fab Duw.
I'r Beddrod • Lapiwyd Iesu mewn amdo a rhoddwyd olewau pêr megis coed sandal drosto i'w berarogli. Yna rhoddwyd ei gorff mewn beddrod. • Cafodd mynedfa'r beddrod hwn ei chau gan faen mawr a oedd wedi cael ei rolio o flaen yr agoriad.
Atgyfodi • Ar y dydd Sul ar ôl i Iesu farw, aeth Mair Magdalen i lawr i'r beddrod ond roedd y maen wedi cael ei symud ac nid oedd y corff yno. • Aeth Mair ar ei phenliniau dan wylo. • Clywodd lais y tu ôl iddi'n gofyn beth oedd o'i le...
Mae Iesu yn Fyw • …Iesu ydoedd! • Roedd wedi cael ei adfywiocáu a dywedodd wrth Fair i fynd i roi gwybod am hyn i'r disgyblion. • Roedd Mair mewn sioc ond gwnaeth fel y gofynnodd Iesu iddi wneud. • Aeth hi i chwilio amdanynt.
Esgyniad • Siaradodd Iesu â'r disgyblion ac yna esgynnodd i'r nefoedd i eistedd ar ddeheulaw Duw, ei dad.