110 likes | 248 Views
Pobl Ifanc nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant – NEET. Rhai 16-18 oed nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant: Cymru. 14.0. 12.0. 10.0. 8.0. y cant. 6.0. 4.0. 2.0. 0.0. 1998. 1999. 2000. 2001. 2002. 2003. 2004. 2005. Diwedd blwyddyn.
E N D
Pobl Ifanc nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant – NEET
Rhai 16-18 oed nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant: Cymru 14.0 12.0 10.0 8.0 y cant 6.0 4.0 2.0 0.0 1998 1999 2000 2001 2002 2003 2004 2005 Diwedd blwyddyn Faint o bobl ifanc sydd yn NEET yng Nghymru? • O 1997 i 2005 mae canran y bobl ifanc NEET wedi amrywio rhwng 10-12% • How many young people are NEET in Wales?
Rhai 16 i 18 oed nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant: Cymru1 16 14 12 10 y cant 8 6 4 2 0 Gwryw 16-18 Gwryw 16-18 16 17 18 Oed a rhyw Ffynhonnell: Arolwg Gweithlu Lleol Cymru , ¹ Wedi ei gyfartalu dros y tair blynedd 2004-2007 Arolwg Poblogaeth Blynyddol Rhyw ac oed pobl ifanc NEET Mae’r siart yn dangos bod mwy o ddynion ifanc NEET na merched ifanc a bod y nifer o rai NEET 17 ac 18 oed yn uwch na nifer y rhai 16 oed.
Ymddygiad, ‘nodweddion’ ac amgylchiadau pobl ifanc NEET Nid oes gan 32% o bobl ifanc yn y grŵp NEET unrhyw gymwysterau o’i gymharu â dim ond 7% o’r boblogaeth heb fod yn NEET
Pobl ifanc NEET yn ôl statws gweithgaredd Mae 7 allan o 10 yn chwilio am waith tra bod bron i hanner o’r rhai anweithredol naill ai yn sâl neu yn anabl neu â chyfrifoldebau teuluol/gofalu.
Deall cyfradd ‘corddi’ NEET O’r rhai oedd yn NEET yn 2006, roedd 51% yn parhau yn NEET yn 2007 ac roedd 49% wedi symud i waith neu addysg amser llawn. O blith y rhai hynny oedd yn parhau yn NEET mae rhaniad gweddol gyfartal rhwng diweithdra ac anweithgaredd.
Ymddygiad, ‘nodweddion’ ac amgylchiadau pobl ifanc NEET • Mae pobl ifanc NEET yn debygol o fod â hanes o beidio â mynd i’r ysgol a bod â chyfraddau uwch o driwantiaeth yn ystod Blynyddoedd 10 ac 11 (15.4%) na phobl ifanc yn gyffredinol (3.3%). • Mae pobl ifanc NEET dros dair gwaith yn fwy tebygol o fod wedi eu hallgau o’r ysgol na phobl ifanc yn gyffredinol. • Mae pobl ifanc NEET hyd at wyth gwaith yn fwy tebygol o fod â datganiad o anghenion addysgol arbennig (AAA) a hyd at 14 gwaith yn fwy tebygol o fod â statws Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy. • Mae pobl ifanc NEET yn fwy tebygol o fod â dim cymwysterau neu lefelau isel o gymwysterau. Nid oes gan 32% o bobl ifanc yn y grŵp NEET unrhyw gymwysterau o’i gymharu â dim ond 7% o’r boblogaeth heb fod yn NEET.
Ymddygiad, ‘nodweddion’ ac amgylchiadau pobl ifanc NEET parhad ... … • Mae pobl ifanc NEET yn debygol o ddod o gefndiroedd lle nad oes gan eu teuluoedd waith. Mae tua 1 o bob 4 o’r holl bobl ifanc yn dod o gartrefi lle nad yw’r aelodau yn gweithio o’i gymharu â dros hanner y bobl ifanc yn y grŵp NEET. • Mae’n bosib nodi mannau lle mae NEET ar ei waethaf ar lefel awdurdodau unedol yng Nghymru ac mae’r rhain wedi eu cysylltu’n agos ag ardaloedd sy’n dioddef o lefelau uchel o anweithgaredd a diweithdra ymysg y boblogaeth o oedolion hŷn.
Dosbarthu NEET ar lefel uchel • NEET craidd - y rhai hynny gyda phroblemau cymdeithasol ac ymddygiadol neu anghenion mwy cymhleth eraill gan gynnwys y rhai hynny sy’n dod o deuluoedd lle mae peidio â bod yn gweithio a diweithdra yn cael eu derbyn fel yr hyn sy’n arferol. • NEET amrywiol neu ‘mewn perygl’ – pobl ifanc sy’n brin o gyfeiriad ac ysgogiad ac sy’n tueddu o fod â chyfnodau o fod yn NEET rhwng mynychu ysgol neu gyrsiau addysg bellach neu rai sydd ar gyflogau isel, neu mewn gwaith sgiliau isel neu gydag ychydig neu ddim cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant. • NEET trawsnewidiol /blwyddyn i ffwrdd – y bobl ifanc hynny sydd wedi dewis cymryd amser i ffwrdd cyn symud ymlaen i addysg bellach neu addysg uwch ac sy’n debygol o ddychwelyd i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, ond nid yw bob amser yn glir pryd y bydd hyn yn digwydd.
Cyflenwi Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru – Cwtogi ar Gyfran y Bobl Ifanc NEET • Y Wlad sy’n Dysgu: Targed Gweledigaeth ar Waith i gwtogi ar y gyfran o rai 16 -18 NEET i 7% erbyn 2010. • Mae dogfen ymgynghori NEET: • Yn canolbwyntio yn bennaf ar bobl ifanc 16 -18 oed • Yn canolbwyntio ar waith APADGOS gyda rhywfaint o weithredu trawsadrannol • Yn cyflenwi mesur drafft Llwybrau Dysgu 14-19 a’r Strategaeth Sgiliau a Chyflogaeth • Yn helpu i gyfarwyddo adnoddau oddi wrth y rhaglenni cyllido Ewropeaidd newydd
Cyflenwi Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru – Cwtogi ar Gyfran y Bobl Ifanc NEET • Beth sydd mewn enw? - Dadansoddiad o bobl ifanc NEET yng Nghymru. • Cael y systemau yn iawn – Prosesau Cadw mewn Cysylltiad ar gyfer adnabod, ymgysylltu, asesu ac atgyfeirio cynnar. Gwella’r modd y cesglir data yn lleol. • Cael y ddarpariaeth yn iawn – Llwybrau Dysgu 14-19 i bawb, edrych o’r newydd ar ddarpariaeth o fath Adeiladu Sgiliau, hyfforddiant i bobl ifanc mewn gwaith. • Cael y cymorth yn iawn – Hyfforddwyr dysgu a chymorth personol. Cyngor a chanllawiau gyrfa, rhwystrau ac ysgogiadau ariannol.