• 90 likes • 254 Views
Cynllunio ar gyfer Pobl. Dydy cynllun adeilad da ddim o angenrhaid yn dechrau gyda lluniad. Helo. Fy enw ydy Bill. Heddiw rwyf yn mynd i ganfod mwy am ‘Gynllunio ar gyfer Pobl’. Dealltwriaeth o bobl yw’r man cychwyn. Dwi’n beiriannydd a dwi’n mynd i weithio heddiw. Pam?.
E N D
Dydy cynllun adeilad da ddim o angenrhaid yn dechrau gyda lluniad Helo. Fy enw ydy Bill. Heddiw rwyf yn mynd i ganfod mwy am ‘Gynllunio ar gyfer Pobl’. Dealltwriaeth o bobl yw’r man cychwyn.
Dwi’n beiriannydd a dwi’n mynd i weithio heddiw Pam? Mae gan bawb anghenion a phan fydd pobl yn comisiynu cynllunydd i wneud rhywbeth, gorau po fwyaf o’r anghenion hynny y gall cynllunydd eu bodloni. Felly bydd canfod mwy o wybodaeth am y cleient yn eich galluogi i’w deall yn well ac i gynllunio’n well ar eu cyfer
Yn y prosiect byddwch yn cynllunio adeilad ar eich cyfer eich hun - felly bydd angen i chi adnabod eich hun yn dda! Y pethau nodweddiadol y bydd angen i chi eu gwybod: • Pa fath o bethau rydych chi, fel cleient, yn eu hoffi? • Sut y byddwch yn bwriadu defnyddio’ch cynllun? • Sut y byddwch yn rhyngweithio ag ef? • Sut y bydd y cynllun yn adlewyrchu eich gwerthoedd chi? • Sut y bydd y cynllun yn adlewyrchu eich diddordebau?
Syml ac nid Symlrwydd Gwerth symlrwydd mewn cynllun a’r cais i ddod o hyd iddo.
Rhy gymhleth Rasel Ockham O orfod dewis rhwng dau ddyluniad sy’n gyfartal yn eu gallu i gyflawni pwrpas, yna dylid dewis y dyluniad symlaf. Mae Ockham yn dewis rasel Brawd Ffransisgaidd, Sais a rhesymegwr oedd yn byw yn y 14 Ganrif oedd William Ockham (neu Occam), a rhoddwyd ei enw ar yr egwyddor mai’r theori symlaf yw’r dewis gorau, fwy na thebyg, pan mae’n rhaid dewis rhwng nifer o theorïau sy’n cystadlu â’i gilydd. Gelwir yr egwyddor hon yn Rasel Ockham.
Cadwodd Google eu cynllun yn syml ac effeithiol er i wasanaethau peiriannau chwilio rhyngrwyd eraill fynd ati i gynnwys hysbysebion a swyddogaethau ychwanegol. O ganlyniad Google yw’r gwasanaeth chwilio ar y we sy’n perfformio orau, yr hawsaf i’w ddefnyddio a’r mwyaf poblogaidd.
Dim ond yr elfennau adeileddol a’r darnau gaiff eu cyffwrdd gan y chwaraewr sydd i’r dyluniad minimalaidd. Mae’r Stôl Stacio Taburet M yn gryf, yn gyfforddus a gellir ei stacio. Sawl cydran a ddefnyddiwyd yn ei gwneuthuriad?
“Ni ddylid lluosi endidau heb fod angen” – William o Ockham. “Mae natur yn gweithredu trwy gymryd y llwybr byrraf posibl” – Aristotle. “Dylid gwneud pob dim mor syml â phosibl, ond nid yn fwy syml” – Albert Einstein.