420 likes | 568 Views
Bylbiau ’ r Gwanwyn i Ysgolion Canlyniadau ’ r archwiliad 2006-2013. Yr archwiliad.
E N D
Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion Canlyniadau’r archwiliad 2006-2013
Yr archwiliad Ers Hydref 2005 mae gwyddonwyr ysgol o Gymru benbaladr wedi bod yn cadw cofnodion tywydd a nodi pryd mae eu blodau yn ymagor fel rhan o astudiaeth hirdymor sy’n edrych ar effeithiau tymheredd ar fylbiau’r gwanwyn.
Eleni, rydym yn parhau i weithio gydag Ymddiriedolaeth Edina sy'n ariannu'r potiau a’r bylbiau, a byddwn yn ymestyn y project i Loegr a'r Alban!Cymerodd 88 ysgol ran eleni!
Yr astudiaeth hirdymor Mae’n hinsawdd a’n tymhorau’n newid. Dros y degawd neu ddau nesaf (a mwy gobeithio) rydym am i’r gwyddonwyr ysgol ddangos sut mae’r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar amseroedd ymagor mewn bylbiau’r gwanwyn. Yn y tymor byr mae mwy na digon i’w astudio.
Diolch yn fawr! Mae Athro’r Ardd yn diolch yn fawr i’r holl wyddonwyr ysgol a anfonodd eu cofnodion atom ni eleni! Rydych chi i gyd yn Wyddonwyr Gwych!
Ysgolion fydd yn derbyn tystysgrifau: • Nether Kellet Primary School • Northbourne CE Primary School • Park Primary School • RAF Benson Primary School • Rishton Methodist Primary School • Sherwood Primary School • St John's Catholic Primary School • St Nicholas Primary School • Stepaside CP School • Tor View Community Special School • Weeton Primary School • Windale Primary School • Ysgol Capelulo • Ysgol Gymunedol Dolwyddelan • Ysgol Iau Hen Golwyn • Ysgol Morfa Rhianedd • Ysgol Pencae • Auchtertool Primary School • Cadoxton Primary School • Christchurch CP School • Duloch Primary School • Eyton Church in Wales • Primary School • Freckleton CE Primary School • Fulwood and Cadley Primary • Harwell Primary School • Holy Family RC Primary • Hywel Da Primary School • Ladybank Primary School • Ladygrove Park Primary • Lasswade Primary School • Lever House Primary School • Manor Primary School • Medlar with Wesham CE • Primary School Bydd pob un yn derbyn tystysgrifau a phensiliau Gwyddonwyr Gwych.
Cydnabyddiaeth arbennig: • Rhydypenau Primary School • Rogiet Primary School • St Mary's Catholic Primary School (Wales) • St Mary's RC Primary School (England) • Stepping Stones Short Stay School • Thorneyholme RC Primary School • Ysgol Bodafon • Ysgol Bryn Garth • Ysgol Clocaenog • Ysgol Deganwy • Ysgol Hiraddug • Ysgol Porth y Felin • Brynhyfryd Junior School • Bwlchgwyn CP School • Darran Park Primary • Gladestry CIW School • Greyfriars RC Primary School • Hawthornden Primary School • Kilmaron Special School • Lakeside Primary School • Llangan Primary School • Magor Church in Wales • Primary School • Milford Haven Junior School • Newburgh Primary School • Newport Primary School Gwobrau:Bydd pob un yn derbyn tystysgrifau, pensiliau a hadau blodau’r haul.
Cymeradwyaeth uchel: • Balmerino Primary School • Blaenycwm Primary School • Britannia Community Primary School • Coed-y-Lan Primary School • Coppull Parish Primary School • Dunbog Primary School • Freuchie Primary School • Glyncollen Primary School • Henllys CIW Primary School • Oakfield Primary School • St Athan Primary School • St Joseph's RC Primary School (Penarth) • St Roberts Roman Cathlic Primary School • Torbain Primary School • Tynewater Primary School • Westwood CP School • Ysgol Gynradd Talybont • Ysgol Nant y Coed • Ysgol y Ffridd Bydd pob un yn derbyn tystysgrifau, pensiliau, hadau blodau’r haul a hadau perlysiau.
Yn ail: • Ysgol Balcurvie yn yr Alban • Ysgol Sofrydd yng Nghymru • Ysgol Stanford in the Vale yn Lloegr Gwobrau: taleb £40 i wario ar offer garddio ar Amazon.
Enillwyr 2013 Ysgol Gynradd Williamstown yng Nghymru SS Philip and James Primary School yn LloegrYsgol Gynradd Wormit yn yr Alban Bydd pob un yn derbyn tystysgrifau, pensiliau a thaith dosbarth o weithgareddau llawn hwyl!
Crynodeb 2005-2012 • Dyma grynodeb o’n canlyniadau ni ers 2005. • Gallwch chi lawrlwytho’r canlyniadau i’w hastudio o www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/scan/bylbiau/
Ddata y DU a Cymru • Mae ysgolion Cymru wedi bod yn casglu data ers 2005. • Mae ysgolion Lloegr a’r Alban wedi bod yn casglu data ers 2011. • O ganlyniad, rydym wedi cynhyrchu dwy set o ddata, un ar gyfer Cymru 2005-2013 ac un arall ar gyfer y DU sy'n cymharu canlyniadau rhwng gwahanol wledydd.
Bydd blodau’n agor gynharaf mewn ardaloedd lle mae'n gynnes ac yn heulog.Yn enwedig yn ystod mis Chwefror.
O ganlyniad, agorodd y blodau’n gynharach yng Nghymru eleni.
Pethau i’w hastudio… • Gwnewch siartiau amlder a graffiau i ganfod y cymedrau. • A wnaeth blodau agor yn hwyr mewn ysgolion oedd yn cofnodi tywydd oer? • Sut wnaeth tymheredd, heulwen a glaw effeithio ar ddyddiadau blodeuo ar gyfartaledd? • Chwiliwch am dueddiadau mewn gwahanol lefydd yng Nghymru. Gwelwch: www.amgueddfacymru.ac.uk/scan/bylbiau
Mae ein cofnodion yn dangos fod gwanwyn 2013 ymhlith yr oeraf.
Rhwng mis Tachwedd ac Ionawr, fe oerodd hi fwy fyth. Yn ôl cofnodion y Swyddfa Dywydd, mis Mawrth 1962 oedd yr oeraf!
Roedd y tymheredd yn isel iawn yn 2013, ond nid dyma’r oeraf.
Cafwyd llai o heulwen yn 2013 nag unrhyw un o’r blynyddoedd eraill.
Oherwydd y tymheredd isel ac ychydig iawn o heulwen, 2013 oedd y flwyddyn hwyraf ar gyfer blodeuo hyd yn hyn!
Sut mae’r tywydd yn effeithio ar amseroedd blodeuo cennin pedr?
Oherwydd y tymheredd isel a dim llawer o oriau o heulwen, roedd y blodau’n hwyr iawn.
Mae’r patrwm yn dangos: Wrth i’r tymereddau ostwng, mae cennin pedr yn blodeuo’n hwyrach – ond ceir rhai eithriadau.
Pa flynyddoedd sydd ddim yn dilyn y patrwm?Atb: 2007 a 2012 Esboniad posibl: er i’r tymheredd gyrraedd ei uchaf yn 2007 a 2012, roedd y blodau’n eithaf hwyr yn agor. Y rheswm tebygol dros hyn oedd na chafwyd llawer o oriau o heulwen tan fis Mawrth.
Mae’r patrwm yn dangos: Wrth i’r oriau o heulwen leihau, mae cennin pedr yn agor yn hwyrach – ond ceir rhai eithriadau.
Pa flynyddoedd sydd ddim yn dilyn y patrwm?Atb: 2011 a 2012 Esboniad posibl: er nad oedd llawer o heulwen yn 2012, wnaeth y blodau ddim agor mor hwyr ag yn 2006 a 2010. Efallai bod hyn oherwydd bod y tymheredd yn uchel iawn.
Sut mae’r tywydd yn effeithio ar amseroedd blodeuo’r crocysau?
Oherwydd y tymheredd isel a dim llawer o oriau o heulwen, roedd y blodau’n hwyr iawn.
Mae’r patrwm yn dangos:Yn gyffredinol, fel mae’r tymheredd yn mynd yn is mae’r blodau crocws agor yn ddiweddarach - ond ceir rhai eithriadau.
Pa flynyddoedd sydd ddim yn dilyn y patrwm?Atb: 2012 Esboniad posibl: er bod 2012 yn gynnes iawn, wnaeth y blodau ddim agor tan fis Mawrth. Y rheswm tebygol dros hyn oedd bod yr oriau o heulwen yn y 60au isel tan fis Mawrth.
Mae'r patrwm yn dangos: Yn gyffredinol, pan fydd llai o heulwen mae’r blodau crocws yn agor yn hwyrach - ond ceir rhai eithriadau.
Pa flynyddoedd sydd ddim yn dilyn y patrwm?Atb: 2009, 2011 & 2013. Esboniad posibl: Roedd y tymheredd yn isel iawn yn 2011 a 2013. Roedd y tymheredd yn eithaf isel yn 2009.
Dod o hyd i patrwm yn anodd ond mae rhai pethau yn glir ... Mae'r bylbiau yn dibynnu ar y haul a gwres er mwyn blodeuo.Mae ein tymhorau yn dod yn fwy anodd eu rhagweld gan fod ein byd yn cynhesu.
Pethau i’w hastudio… • Gwnewch siartiau amlder a graffiau i ganfod y cymedrau. • A wnaeth blodau agor yn hwyr mewn ysgolion oedd yn cofnodi tywydd oer? • Sut wnaeth tymheredd, heulwen a glaw effeithio ar ddyddiadau blodeuo ar gyfartaledd? • Chwiliwch am dueddiadau mewn gwahanol lefydd yng Nghymru. Gwelwch: www.amgueddfacymru.ac.uk/scan/bylbiau