190 likes | 385 Views
Trefn gwasanaeth. Wythnos Cymorth Cristnogol 9-15 Mai 2010. Ymatebion agoriadol. 2. Llais cefnogwyr: Rwy’n dod o gefndir cysurus, ac rwy wastad wedi teimlo’n gysurus. Ond bod yno, yn gweld, yn arogli, a theimlo’r gwres - rwy’n ofni’r tlodi y gallaf ei weld.
E N D
Trefn gwasanaeth • Wythnos Cymorth Cristnogol • 9-15 Mai 2010
Ymatebion agoriadol 2 Llais cefnogwyr: Rwy’n dod o gefndir cysurus, ac rwy wastad wedi teimlo’n gysurus. Ond bod yno, yn gweld, yn arogli, a theimlo’r gwres - rwy’n ofni’r tlodi y gallaf ei weld. Pawb:Arglwydd agor ein llygaid i weld realiti dy fyd heddiw.
3 Llais cefnogwyr: Straeon gwir yw'r rhain, dyma bobl go iawn sy’n dioddef. Pawb: Arglwydd agor ein clustiau i glywed lleisiau’r rhai na chant eu clywed. Llais cefnogwyr: Dydw i ddim eisiau mynd fel un sy’n gwylio yn unig, fel sbeciwr. Rydw i eisiau dianc rhag y syniad fy mod i’n rhoi, a hwythau’n derbyn. Rwyf am gydgerdded â hwy. Pawb: Arglwydd, agor ein calonnau i ymateb mewn tosturi. Helpa ni i gerdded wrth ochr y tlodion.
Gweddi o gyffes 4 Llais cefnogwyr: Mae’n hawdd, yn ein sefyllfa ni, i’n calonnau fynd yn galed ac yn debyg i asgwrn. O dro i dro mae angen i ni fod yn agored i fannau o ddolur a dioddefaint oherwydd pan fydd ein calonnau yn feddal fe all Duw ein defnyddio ni. Dyma gyfle i ddweud ‘Dduw, mae fy nghalon yn dy ddwylo di. Tynera fy nghalon, tynera fy nghalon tuag at bobl sydd o bwys i ti’.
5 Pawb: Dduw cariadus Rydym wedi pechu yn dy erbyn di ac yn erbyn y rhai sydd o bwys i ti. Troesom ein golwg ymaith oddi wrth y rhai sy’n dyheu am newid. Nid ydym wedi clywed y rhai sy’n siarad dros gariad. Weithiau bu’n calonnau yn oer. Arglwydd, maddau i ni a thrawsffurfia ni. Helpa ni i weld â’th lygaid di. Helpa ni i wrando fel taset ti’n llefaru.
6 Pawb: Dangos i ni sut mae byw fel rhai sy’n credu mewn yfory newydd. Trwy Iesu Grist ein Harglwydd a fu’n cydgerdded gyda ni. Amen. Arweinydd: Bydded i’n Duw sy’n gariad ac sy’n gwneud pob peth yn newydd faddau i ni a’n hadnewyddu, ein tynnu ni’n agos ato a chynhesu ein calonnau. Pawb: Amen.
Offrymu ein rhoddion a’n gweithredoedd 7 Arweinydd: Offrymwn ein rhoddion a’n gweithredoedd heddiw gan gredu y medrwn newid yfory. O’ch blaen fe welwch amlen a cherdyn gweithredu yn gofyn i’r prif weinidog weithredu ar frys i ddileu’r hyn sy’n achosi tlodi. Mewn ymateb i’r hyn yr ydych wedi ei weld a’i glywed heddiw llenwch y cerdyn ac ystyriwch faint y medrwch chi ei roi. Os ydych yn drethdalwr yn y DU llenwch y datganiad rhodd cymorth os gwelwch yn dda - bydd hyn yn cynyddu gwerth eich rhodd.
8 [Ysbaid o dawelwch cyn bod yr arweinydd yn gwahodd pobl i ddod ymlaen gyda’u rhoddion a’u cardiau] Arweinydd: Rydym wedi gweld grym gweithio mewn cymuned. Gweddïwn nawr dros bawb sy’n ymwneud ag Wythnos Cymorth Cristnogol, wrth iddynt fynd allan i’n cymuned ni ein hunain, er mwyn newid bywydau. [Yr arweinydd yn gwahodd pawb sy’n gwneud rhywbeth yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol i ddod ymlaen]
9 Llais o Kenya: Mae rhai ohonom yn meddwl yn wahanol. Credwn y gellir dianc o’r sefyllfa hon os daw pobl at ei gilydd... Llais cefnogwyr: Gall pobl gyflawni cymaint pan fyddan nhw’n dod at ei gilydd ac yn dweud, digon yw digon. Pawb: Dduw Dad, cawn ein herio gan nerth y gymuned a welsom yn Kenya. Gwna ein cymuned ninnau yn gryf, yw ein gweddi.
10 Pawb: Helpa ni i sefyll gyda’n gilydd a syllu i wyneb tlodi, a dechrau datgymalu’r strwythurau sy’n ei gynnal. Digon yw digon. Llais cefnogwyr: Ymladd tlodi yw’r sylweddoliad ein bod ni i gyd yn un. Llais o Kenya: Bydded i’r Arglwydd eich bendithio. Wrth ein helpu i oresgyn y problemau hyn, yr ydych yn helpu teulu Crist.
11 Pawb: Arglwydd bendithia’r rhai a wnaeth ddieithriaid yn aelodau o’r teulu, wrth iddynt, yn ystod yr Wythnos Cymorth Cristnogol hon, dywallt rhoddion costus i’r rhai sy’n byw mewn tlodi – rhodd o amser, cartrefi agored, doniau creadigol ac egni. Diolch i ti am iddynt feiddio credu mewn newid, ac am eu dewrder yn dal ati i sicrhau’r newid hwnnw. Llais o Kenya: Rwyf wedi llwyddo i godi fy hun o’r slym i le sy’n llawer, llawer gwell.
12 Llais cefnogwyr: Rydym am i’r deyrnas ddod. Ac os ceisiwn ni Deyrnas Dduw, fe gawn gipolwg ar y nefoedd. Rhai a gomisiynir: Arglwydd, wrth i ni geisio dyrchafu'r rhai yr wyt yn eu caru, gwna ni’n ymwybodol ein bod yn dy ddyrchafu di. Ac wrth i ni offrymu ein rhoddion yr wythnos hon, bydded i ni weld dy deyrnas yn torri trwodd. Yn enw Iesu dy Fab, a roddodd y cwbl oedd ganddo i’w roi. Amen.
Gweddi Wythnos Cymorth Cristnogol 13 Dduw Dad yn y nefoedd Diolchwn i ti am bobl Nairobi, Kenya a chymunedau tlawd ledled y byd. Diolch i ti am eu breuddwydion a’u dyheadau i wella eu bywydau a rhoi gwell dyfodol i’w plant. Diolch am ein herio i wneud eu breuddwydion hwy yn freuddwydion i ni, a dyfodol eu plant hwy, yn ddyfodol i ni.
14 Diolch i ti am weledigaeth Diolch am ffydd i gredu fod popeth yn bosibl. Diolch am ddewrder i droi syniadau yn weithredoedd, ac am obaith i ddyfalbarhau hyd nes eu gwireddir. Yn enw Iesu. Amen
Ymatebion terfynol 15 Llais cefnogwyr: Gall pobl ddweud, ‘O! nid yw’n bosibl. Ni ellir dileu tlodi.’ Ond fe’i gwelsom yn digwydd … Nid breuddwyd ydyw bellach i’r bobl hyn.’ Llais o Kenya: Rwy wedi dysgu fod newid yn bosibl. Nawr rwy’n gwybod bod gen i orwel ehangach. Pawb: Diolch i ti Dduw Dad am y rhai sydd eisoes wedi profi newid.
16 Llais o Kenya: Rwy’n gobeithio am ddyfodol mwy disglair, dyfodol da. Dyna sy’n rhoi nerth imi ddal ati i frwydro. Pawb: Gobeithiwn Arglwydd ar ran y rhai sy’n dal i ddisgwyl am newid. Llais cefnogwyr: Mae’n golygu wynebu holl ddioddefaint y byd a dyma’r daith y buom arni. Pawb: Gosod ni ar lwybr newydd, Arglwydd. Helpa ni i weld y ffordd ymlaen.
17 Arweinydd: Bydded i Dduw’r bywyd sy’n cydgerdded â ni, o obaith i newid, gerdded gyda ni yn awr ac am byth. Pawb: Amen
Trefn gwasanaeth • Wythnos Cymorth Cristnogol • 9-15 Mai 2010