230 likes | 459 Views
Wythnos Cymorth Cristnogol: 13–19 Mai 2012. TREFN GWASANAETH. Galwad i Addoli. Rhoddodd Iesu ei fywyd i ni; Haleliwia, canwn am ei gariad. Galwodd Iesu ni’n gyfeillion iddo; Haleliwia, rhannwn yn ei alwad. Dangosodd Iesu beth yw ewyllys Duw; Haleliwia, cerddwn ar hyd ei ffordd.
E N D
Wythnos Cymorth Cristnogol: 13–19 Mai 2012 • TREFN GWASANAETH
Galwad i Addoli • Rhoddodd Iesu ei fywyd i ni; • Haleliwia, canwn am ei gariad. • Galwodd Iesu ni’n gyfeillion iddo; • Haleliwia, rhannwn yn ei alwad. • Dangosodd Iesu beth yw ewyllys Duw; • Haleliwia, cerddwn ar hyd ei ffordd.
Dewisodd Iesu ni i ddwyn ffrwyth; • Haleliwia, fe rannwn ein hadnoddau. • Mae Iesu yn ein plith mewn llawenydd; • Haleliwia, carwn ein gilydd.
Gweddi o Gyffes • Dduw cyfiawnder, diolchwn i ti am y • cyfle i weddïo ac i weithredu dros newid. • Diolchwn i ti am wneud dy iachawdwriaeth • yn hysbys, ac am ddangos dy gyfiawnder • i’r byd trwy dy Fab, ein Gwaredwr, Iesu Grist. • (Tawelwch)
Cyffeswn i ni fethu yn ein perthynas ag eraill. • Cuddiwyd dy gyfiawnder a’th degwch yn ein • hunanoldeb a’n trachwant. Nid ydym wedi • caru ein gilydd. Nid ydym wedi aros yn dy • gariad. Rhaid i bob un ohonom newid. • Gofynnwn am dy faddeuant. • (Kyrie neu Arglwydd trugarha)
Arglwydd, mae dy gariad a’th ffyddlondeb yn ymestyn allan at bawb. Fel rhai sy’n gwybod • am dy iachawdwriaeth, rhyddha ni i fyw mewn cyfiawnder a thegwch, ac felly dangos dy gyfiawnder i’r byd. • Amen, diolch a fo i Dduw.
Gweddïau Eiriolaeth • Duw trosom ni, a greodd fyd o gyfleoedd; • Dyro i ni’r hyder i ymateb iddynt. • Duw gyda ni, sy’n dangos y ffordd i ni fyw • gyda’n gilydd mewn undod; • Helpa ni i rannu’n hadnoddau a’n • gwybodaeth gyda phobl sydd eu hangen.
Duw yn ein plith, sy’n ein hysbrydoli i ddal • ati, ac sy’n troi ein dechreuadau bach yn • ganlyniadau mawr; • Cadw ni’n ffyddlon i’r posibiliadau sy’n • ein hwynebu.
Duw bywyd, dathlwn bopeth sy’n dda ac • sy’n rhoi bywyd yn dy greadigaeth. • Cyflwynwn i ti, wlad a phobl Sierra Leone, • gwlad brydferth a ffrwythlon sy’n gyfoethog • o adnoddau naturiol, a phobl urddasol a gwydn.
Mor aml fe welwn ni’r problemau’n unig; • ond mae pobl Sierra Leone yn gweld y • posibiliadau. Gall dy fyd ddarparu bwyd • a bywyd da i bawb, pe byddem ond yn • rhannu’r adnoddau a’n sgiliau; • Oherwydd diwedd newyn yw dechrau codi • llais dros newid.
Weithiau cawn ein llethu gan faint y gwaith. • Ond rwyt yn gofyn i ni roi’r hyn a allwn - offer • a hadau. • Gall ein gweithredoedd bach ni ynghyd â • gwaith caled y partneriaid yn Gbap (yngenir • Bap), greu newidiadau mawr; • Oherwydd diwedd newyn yw dechrau • codi llais dros newid
Diolchwn fod technoleg syml a dulliau • amgen yn helpu pobl Gbap i fod yn fwy • cynhyrchiol a chreu incwm. • Helpa ni i beidio cymryd yn ganiataol ein • bwyd na’r rhai sy’n ei gynhyrchu; • Oherwydd diwedd newyn yw dechrau • codi llais dros newid.
Rhown ddiolch am ferched fel Mary • Samuels, yn darganfod ei hyder a’i llais, • yn siarad dros yr hawl i gael addysg ac yn • sicrhau gwrandawiad. • Gweddïwn dros bobl ar draws y byd… Boed • i ni rannu eu dewrder a gwneud yr un peth; • Oherwydd diwedd newyn yw dechrau codi • llais dros newid.
Molwn di am dy addewid o iachawdwriaeth, • ac am fyd lle mae digon i bawb… Wrth i ni • glywed y lleisiau sy’n sôn am newyn, boed i • ni newynu am newid; • Oherwydd diwedd newyn yw dechrau codi • llais dros newid.
Diolchwn i ti am bob cyfrwng sy’n galluogi • newid i ddigwydd… Galluoga ni i godi llais • fel unigolion, eglwysi a chymunedau; • Oherwydd diwedd newyn yw dechrau • codi llais dros newid.
Wrth i ni ddathlu pob peth fydd yn digwydd yn • ystod Wythnos Cymorth Cristnogol eleni, • diolchwn… • Down â’n gweddïau ynghyd trwy gyd-adrodd • Gweddi’r Arglwydd. Defnyddiwn ein hiaith ein • hunain, yn sefyll ochr yn ochr â phobl Sierra • Leone wrth iddynt weddïo yn eu hiaith hwythau.
Gweddi’r Arglwydd yn iaith Krio(iaith pobl Sierra Leone) • Papa God we de na evin • Na yu wan gren na God, • mek all man pre to • Wi de pre mek yu rul wi • Mek wetin yu wan, bi na dis wol, • leke aw i de bi na evin
Gi wi wetin wi fo it tideh • Padin wi fo di bad tin den we wi don du, • leke aw wisef de padin den pipul weh de • du wi bad • Mek wi no lef for biliv pan yu enitem we • setan tray wi, • no mek setan ebul wi. • Na yu de rul de wol, na yu get pawa, • en na yu get prez en honor, sote go. • Le i be so.
Gweddi ar gyfer Wythnos Cymorth Cristnogol • Pobl yn cydweithio, • plant yn mynd i’r ysgol, • merched yn codi llais, • offer sy’n trawsnewid, • cymunedau’n ffynnu ac nid yn unig yn goroesi, • a dim mwy o newyn - • dyma’r ffrwythau fydd yn parhau. • Iesu, sy’n ein galw yn gyfeillion, • bydded i ni garu ein gilydd ac aros yn dy • gariad di.
Gweddi ar ffurf tecst • Gall unigolion decstio gair neu weddi i Cymorth • Cristnogol ar 70788. Gall gweddïau fod o unrhyw • hyd, o 1-10 gair. • Yn dilyn y gwasanaeth fe gewch tecst yn cadarnhau • bod eich gweddi wedi ei dderbyn. • Fe fydd y neges yn cynnwys linc i dudalen ar y wefan lle • gellir darllen gweddïau gan bobl o bob ran o’r DG ac Iwerddon. • Bydd pob gweddi’n ddi-enw a chost pob tecst yn ôl graddfa arferol y rhwydwaith.
Gweddi Comisiwn a Bendith • Bendithia’r rhoddion a gyflwynwn, • bendithia’r gwaith a wnawn, • a bendithia bawb fydd yn dwyn tystiolaeth • i’n cefnogaeth ar y cyd i bobl Sierra Leone. • Bendithia bob ymdrech a phob rhodd fach, • a thrawsnewidia hwy i fod yn ffrwythau fydd yn parhau.
Ac yn awr, bydded i Dduw’r Creawdwr, • a greodd fyd haelionus, y Gwaredwr, sy’n • ein gorchymyn i garu ein gilydd, a’r Cynhaliwr, • sy’n dangos i ni’r pethau rhyfeddol a ellir eu • cyflawni, ein bendithio i gyd. • Amen
13–19 Mai 2012 caweek.org WYTHNOS CYMORTH CRISTNOGOL